Vikki Howells: Weinidog, gwn y byddwch yn ymwybodol o'r pwysau enfawr sydd ar CAMHS, y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Mae wedi bod fel hyn ers sawl blwyddyn, cyn y pwysau ychwanegol a roddwyd ar ein pobl ifanc yn ystod y pandemig. Mae llawer o hyn oherwydd bod pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio at y system pan fo'u hanghenion iechyd meddwl yn ysgafn neu'n gymedrol, sef yr adeg fwyaf synhwyrol...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Tachwedd 2020 yw canmlwyddiant geni Elaine Morgan. Cyflawnodd Elaine, a aned i deulu glofaol, ryfeddodau yn ystod gyrfa hir, amrywiol a disglair. Enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen, llwyddiant aruthrol i ferch glöwr yn y 1930au. Ar ôl graddio, gweithiodd Elaine i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, ac yna priododd â Morien, a oedd wedi ymladd yn erbyn y...
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â ColegauCymru i drafod pwysigrwydd y gronfa ffyniant gyffredin i ariannu sgiliau a phrentisiaethau yn y dyfodol, gan fod cyllid Ewropeaidd, fel y gwyddoch, wedi bod yn ysgogwr allweddol i'r agenda sgiliau. Ceir pryder gwirioneddol yn y sector y bydd yn fwyfwy anodd i golegau gefnogi economïau lleol a chymdeithas ehangach heb yr un faint o...
Vikki Howells: 5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig yn y dyfodol? OQ55821
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Ddoe, rhoddodd Andrew Goodall rybudd llwm fod disgwyl i’r galw am welyau gofal critigol i bobl â'r coronafeirws gynyddu dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer y sefyllfa hon, ac yn hollbwysig, pa effaith ganlyniadol y gallai hyn ei chael ar feysydd gwasanaeth eraill yn ein hysbytai yng Nghymru?
Vikki Howells: 4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y bobl â COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru? OQ55796
Vikki Howells: Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer gwella'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru?
Vikki Howells: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y bobl â COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru?
Vikki Howells: Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn. Hoffwn ddweud ychydig eiriau i dalu teyrnged i ddyfalbarhad fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone yn ymdrechu i sicrhau y gallwn drafod y pwnc hwn heddiw. Mae'n fater mor bwysig. Fel y dywedwyd, mae endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu bod y cyflwr creulon hwn yn effeithio ar 160,000 o fenywod yng Nghymru. Bydd meinwe'n...
Vikki Howells: Diolch, Weinidog, ac roedd yn dda gweld y cyhoeddiad a wnaethoch ym mis Awst ynglŷn â chyllid ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd. Hoffwn dynnu sylw at un fenter heddiw gan Rhondda Cynon Taf, sef yr asiantaeth gosod tai cymdeithasol a grëwyd gan yr awdurdod i reoli eiddo rhent preifat a fyddai’n cael eu hisrannu yn llety un person i bobl a fyddai fel arall mewn perygl o fod yn...
Vikki Howells: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i ddileu digartrefedd yng Nghymru? OQ55676
Vikki Howells: Mae llawer o ganfyddiadau gwirioneddol gadarnhaol yn adroddiad cynnydd eich panel bod gwasanaethau mamolaeth wedi ymdopi â'r elfennau gwaethaf o COVID-19 a bod uwch dîm yn y bwrdd iechyd prifysgol yn cynnal ei lefel uchel o ymrwymiad. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu hynny yn fawr iawn ar ran fy etholwyr i. O ran edrych i'r dyfodol a sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth o'r safon uchaf bosibl i'n...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Croesawaf waith y tasglu parcio ar y palmant ac rwy'n cydnabod yr effaith y mae parcio ar y palmant yn ei gael ar gerddwyr, yn enwedig y rheini sydd â phroblemau symudedd, cadeiriau gwthio, a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Ond yn cynrychioli'r Cymoedd, â'u strydoedd teras hardd ond cul, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu o glywed fy mod hefyd yn...
Vikki Howells: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl yng Nghymru y mae clefyd Parkinson's yn effeithio arnynt?
Vikki Howells: Rwy'n derbyn adroddiad y pwyllgor a'i argymhellion. Nid oeddwn erioed yn bwriadu torri'r canllawiau sydd ar waith. Rwy'n falch bod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad wrthi'n adolygu amryw o faterion, gan gynnwys y canllawiau a ddarperir i Aelodau. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn sicrhau bod y rheolau'n glir, yn rhesymol ac yn ddealladwy yn y dyfodol, fel nad oes Aelodau eraill yn canfod eu hunain yn...
Vikki Howells: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad—[Anghlywadwy.]—mae Llywodraeth Cymru—[Anghlywadwy.]—i'ch canmol am ehangder a dyfnder—[Anghlywadwy.] Mae llawer o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn amdano, ond, oherwydd cyfyngiadau amser, gofynnaf dri yn unig. Yn gyntaf, trydydd cam y gronfa cadernid economaidd—sylwaf fod y ddogfen yn datgan y bydd arian wedi'i neilltuo ar gyfer busnesau sydd wedi...
Vikki Howells: Weinidog, diolch am eich atebion i'r cwestiynau ar hyn eisoes. Credaf y byddwch yn cytuno â mi mai un o'r prif bethau sydd wedi bod o gymorth i bobl wrth iddynt gael eu gwarchod yw'r slotiau dosbarthu siopa blaenoriaethol y mae archfarchnadoedd wedi'u cynnig iddynt. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, o siarad ag etholwyr, mae llawer o archfarchnadoedd bellach yn rhoi’r gorau i ddarparu slotiau...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae gen i ddiddordeb arbennig ym manylion yr agwedd eiddo gwag. Hoffwn gael rhagor o fanylion am hynny. Gwn fod awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am hynny, ond a wnewch chi roi ychydig mwy o wybodaeth inni am unrhyw feini prawf sy'n gysylltiedig â hynny? Felly, er enghraifft, ai ar gyfer manwerthu yn unig y mae neu a allai fod ar gyfer...
Vikki Howells: Diolch am eich datganiad heddiw, Weinidog, ac am yr holl gamau sy'n cael eu cymryd i geisio diogelu lles trigolion Rhondda Cynon Taf. Fel y gallwch ddychmygu, rwyf wedi cael llawer o gwestiynau mewn amser byr gan drigolion Cwm Cynon, felly rwy'n croesawu'r cyfle hwn i ofyn rhai o'r rheini'n uniongyrchol i chi. Yn gyntaf, mewn perthynas â gwyliau wedi'u harchebu, gwn na fydd trigolion...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw, ac rwyf wedi'i ddarllen gyda diddordeb mawr. Un rhan allweddol o sicrhau bod ein hysbytai'n gallu ymdopi â'r galw drwy aeafau arferol, heb sôn am yr un sy'n dod, yw'r gallu i ryddhau cleifion mewn modd diogel ac amserol er mwyn osgoi llenwi gwelyau yn ddiangen. Gwn fod cyngor Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm...