Steffan Lewis: Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gyflwyno’r cynnig a gynigiwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Mae mater gwarged cynllun pensiwn y glowyr yn ffurfio rhan o drindod ddieflig o anghyfiawnderau glowyr, ynghyd â chreulondeb y wladwriaeth yn y gorffennol a dad-ddiwydiannu bwriadol eu cymunedau. Ond rwy’n gobeithio y gall yr holl Aelodau ar bob ochr gytuno nad yw’r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn...
Steffan Lewis: Pan gafwyd y cytundeb i rannu gwarged prisiad y gronfa 50/50 rhwng y gronfa a Llywodraeth y DU, nid oedd unrhyw un yn disgwyl i’r gronfa berfformio cystal ag y gwnaeth—nid oedd neb yn rhagweld y buasai Llywodraeth y DU wedi elwa o dros £3.5 biliwn, a lyncwyd yn rhan o wariant cyffredinol y Llywodraeth. Yn wir, ar droad y mileniwm, dywedodd Ymgyrch Cymunedau’r Meysydd Glo: Cafodd y...
Steffan Lewis: Mae'r system carchardai mewn argyfwng ac mae miloedd o swyddogion carchar yn protestio yn erbyn eu hamodau gwaith peryglus. Pryd fydd y Prif Weinidog yn ystyried ei bod yn hanfodol i garchardai Cymru a lles carcharorion a staff carchardai Cymru ddod o dan awdurdodaeth Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol?
Steffan Lewis: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan?
Steffan Lewis: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac am ei ymyriad yn y mater pwysig hwn. Hoffwn hefyd gysylltu Plaid Cymru â'r teimladau a fynegwyd ganddo ynghylch rheolaeth y gyfraith ac annibyniaeth y farnwriaeth. Yn sicr, mae canlyniadau pellgyrhaeddol i’r dyfarniad hwn, a byddant yn parhau, ac mae penderfyniad terfynol y Goruchaf Lys y tu hwnt i unrhyw amheuaeth. Mae'n...
Steffan Lewis: A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar yr ymrwymiad i gynlluniau prentisiaeth y sector cyhoeddus? Mae cyngor Caerffili wedi tynnu arian yn ôl o gynllun a oedd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaeth i bobl ifanc, i'w helpu i mewn i waith. Roedd y cynllun wedi llwyddo i greu 18 o swyddi parhaol, ond tynnodd y cyngor y cyllid yn ôl yn 2015-16, ac nid...
Steffan Lewis: Diolch, Lywydd, rwy’n meddwl. [Chwerthin.] Mae'r trefniadau cyfansoddiadol presennol yn codi amheuon ynghylch gallu'r Cynulliad i amddiffyn ei feysydd cymhwysedd yng nghyd-destun Brexit, ond pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ymgorfforiad presennol Bil Cymru o ran gallu'r Cynulliad i amddiffyn ei feysydd cymhwysedd? Ac a wnaiff y Prif Weinidog, yng ngoleuni ymgorfforiad...
Steffan Lewis: Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog o ran cyfansoddiad Cymru?
Steffan Lewis: Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad byd-eang wrth gwrs, ac yn galw am ymateb byd-eang. Bydd cydweithrediad rhyngwladol, gyda phob cenedl yn gwneud ei rhan, yn hanfodol er mwyn lliniaru’r bygythiad y mae newid yn yr hinsawdd yn ei greu, ac i ymateb i effeithiau cynhesu ar ein byd. Bydd cytundeb Paris, fel y crybwyllwyd, yn dod i rym ymhen deuddydd, ar 4 Tachwedd. Ar ôl cael ei gytuno ym...
Steffan Lewis: Hoffwn innau hefyd ymestyn fy nghydymdeimladau i’r gweithwyr a’u teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan y datganiad yma. Mae hyn yn ergyd i’r gymuned—cymuned sydd eisoes yn wynebu digon o sialensiau economaidd a chymdeithasol. Rwy’n derbyn eu bod yn ddyddiau cynnar, ond a ydyw’n glir eto pam bod y cwmni wedi penderfynu ail-leoli’r swyddi yma yng Nghernyw? Rwy’n derbyn beth...
Steffan Lewis: Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol efallai o ddeiseb yn galw am gyfiawnder ynglŷn â'r gwarged yng nghynllun pensiwn y glowyr. Mae dros 7,000 o lofnodion ar y ddeiseb ac mae’r gwarged yn y cynllun pensiwn wedi cyfrannu biliynau i'r Trysorlys. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar frys er mwyn sicrhau adolygiad o'r gwarged yng nghynllun pensiwn y glowyr fel nad yw mwyach yn ffynhonnell...
Steffan Lewis: Diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad heddiw. Bydd ef a minnau, wrth gwrs, yn anghytuno a bydd gennym safbwyntiau gwahanol o ran yr angen am safbwynt mwy brys a mwy clir ar ran Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’n hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd. Ond hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau iddo ar yr hyn sydd wedi ei sicrhau yng nghyfarfod llawn diweddar Cydbwyllgor y Gweinidogion. Yn...
Steffan Lewis: Beth oedd canlyniad trafodaethau yn ystod cyfarfod diweddar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion?
Steffan Lewis: Yn ychwanegol at ragolygon y Trysorlys a gafodd eu datgelu’n answyddogol ynglŷn â’r diffyg ariannol ac effaith gadael yr UE ar hynny, cafwyd nifer o adroddiadau hefyd ar effaith gadael yr undeb tollau Ewropeaidd a’r farchnad sengl hefyd—sydd oll yn faterion y disgwyliaf y byddant yn cael eu trafod yn y Cydbwyllgor Gweinidogion ar Adael yr UE sy’n digwydd ddydd Llun yn ôl yr hyn a...
Steffan Lewis: Rwy’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd am yr ateb hwnnw. Fel mae hi’n ei ddweud, mae amrywiaeth ymhlith yr awdurdodau lleol o ran eu perfformiad gydag ailgylchu. Yn sgil datganiadau’r Llywodraeth ynglŷn â dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru, gyda chydweithio a hyd yn oed rhanbartholi, efallai, yn digwydd, a yw hi’n rhagweld yn y dyfodol agos y bydd prosiectau ailgylchu yn digwydd ar...
Steffan Lewis: 12. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiectau ailgylchu yn Nwyrain De Cymru? OAQ(5)0036(ERA)
Steffan Lewis: Cyhoeddwyd heddiw y bydd Newcastle-Gateshead yn cynnal Arddangosfa Fawr gyntaf Gogledd Lloegr, ac rydym ni hefyd yn gwybod bod Manceinion yn paratoi cais am y World Expo yn 2025. A allwn ni gael datganiad gan y Llywodraeth ar ei chynlluniau i gefnogi cais gan ddinas yng Nghymru i gynnal digwyddiad mawr er mwyn arddangos arloesedd yng Nghymru? A fyddai arweinydd y tŷ yn cytuno â mi na...
Steffan Lewis: Diolch. Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Wrth gwrs, dyma’r gerddoriaeth gefndir ynghylch cyflwyno’r syniad o Fil diddymu Ewropeaidd sydd efallai’n rhan anochel o sefyllfa Brexit caled ac sydd â chanlyniadau dyfnach a phellgyrhaeddol. Rwy'n pryderu braidd am natur y ffordd y gwnaeth Prif Weinidog y DU ei chyhoeddiad ac, yn wir, y ffordd yr hysbyswyd Prif Weinidog y wlad hon...
Steffan Lewis: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil argymhelliad Prif Weinidog y DU o ran y Bil diddymu cyfraith yr UE? EAQ(5)0189(FM)
Steffan Lewis: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Fe fydd hi’n gwybod, rwy’n siŵr, am farwolaeth drychinebus Glyn Summers, a fu farw tra roedd ar daith coleg i Barcelona yn 2011. Ac er y byddai pawb yma, rwy’n siŵr, yn cytuno y dylem roi pob cyfle i ddisgyblion a myfyrwyr deithio dramor gyda’u hysgolion a’u colegau, rwy’n siŵr y byddem i gyd hefyd yn cytuno bod rhaid i ddiogelwch...