Canlyniadau 241–260 o 9000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles OR speaker:Jeremy Miles OR speaker:Jeremy Miles OR speaker:Jeremy Miles

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Taith — Darparu rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu (18 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Bwriad y llwybr hwn yw darparu hyd yn oed mwy o gefnogaeth i brosiectau sydd â phwyslais mwy strategol. Er enghraifft, y themâu ar gyfer yr alwad eleni yw: datblygiadau ym myd addysg; amrywiaeth a chynhwysiant; a newid hinsawdd. Mae ceisiadau'n cau ar 1 Rhagfyr, felly mae amser o hyd i ddatblygu a chyflwyno ceisiadau. Mae 2 filiwn o bunnau ar gael ar gyfer y prosiectau hyn yn y sectorau...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Taith — Darparu rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu (18 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Cyn gwneud hynny, rwyf eisiau cydnabod gwaith tîm Taith, o gyflawni'r rhaglen yn gyflym iawn; mae bod â dysgwyr sy'n cael budd o Taith eisoes yn glod i'w hymrwymiad diflino. Bydd llawer o ddysgwyr a staff yn elwa o Taith eleni, a dros £13 miliwn ar gael i'r holl sectorau ar gyfer prosiectau eleni. Cafodd Llwybr 1, sy'n canolbwyntio ar symudedd unigolion, ei lansio ym mis Chwefror eleni ac...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Taith — Darparu rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu (18 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu rhoi diweddariad i'r Senedd heddiw ar y cynnydd wrth sefydlu ein rhaglen gyfnewid ryngwladol addysgol arloesol ni, sef Taith.

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Taith — Darparu rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu (18 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n creu rhaglen newydd gwerth £65 milliwn i gymryd lle Erasmus+, a daeth yr ymrwymiad hwnnw'n rhan o'n rhaglen lywodraethu. Rwy'n falch o roi gwybod i'r Siambr heddiw fod yr addewid hwnnw'n prysur ddwyn ffrwyth, a'r dysgwyr cyntaf eisoes yn dechrau teimlo'r manteision. Yn haeddiannol, roedd gyda ni yma yng Nghymru feddwl mawr o...

9. Dadl Fer: Lwfans cynhaliaeth addysg: Rhaff achub yn yr argyfwng presennol (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Yn sgil y cynnydd cyflym mewn chwyddiant, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwybod, ar y cyfan, y bydd ein cyllideb yn werth tua £4 biliwn yn llai dros y cyfnod hwn o dair blynedd nag a dybiwyd o'r blaen. I bob pwrpas, mae hyn yn doriad i'n cyllideb. Heb unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU na thoriadau i ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu bresennol a'r cytundeb cydweithio, bydd rhaid i'n...

9. Dadl Fer: Lwfans cynhaliaeth addysg: Rhaff achub yn yr argyfwng presennol (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Llywodraeth, rŷn ni'n cydnabod yr effaith bositif y mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gallu ei gael ar bobl ifanc. Dyna pam rydym ni, yn ystod y blynyddoedd o gyni a orfodwyd ar Gymru gan y Llywodraeth glymblaid, wedi ceisio diogelu'r lwfans, yn wahanol i Loegr, lle gwnaed i ffwrdd ag ef yn 2011. A ninnau nawr, unwaith eto, yn wynebu cyfnod ariannol anhygoel o...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Uniondeb Canlyniadau TGAU a Safon Uwch (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Nid wyf yn credu bod un yn dilyn y llall. Mae Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar rôl arholiadau yn y dyfodol a sut y caiff cymwysterau eu hasesu. O ystyried y ddwy neu dair blynedd diwethaf, pan fo llawer o newid wedi bod yn ein system ysgolion o ran sut yr awn ati i addysgu ac asesu, rwy'n credu y byddai'n anghywir i ni roi hynny i un ochr heb edrych a oes achos dros addasu'r cydbwysedd yn...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Uniondeb Canlyniadau TGAU a Safon Uwch (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Rydym yn gweithio'n barhaus gyda Cymwysterau Cymru a CBAC i sicrhau uniondeb ein holl ganlyniadau. Mae hyn yn cynnwys asesiadau safonedig diogel, prosesau manwl o ansawdd, a phrosesau marcio dienw sy'n cael eu monitro ac sy'n cael eu cymhwyso'n gyson ledled Cymru. Yn ogystal, caiff tryloywder ei gynnal drwy gydol y broses drwy ymgysylltu rheolaidd â rhanddeiliaid.

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Bwlch Tlodi (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r Aelod. Enw ein strategaeth yw 'Safonau ac Uchelgeisiau Uchel i Bawb', a hynny i gydnabod bod gan bob dysgwr, ni waeth beth fo'u cefndir, hawl i gael system ysgol sy'n annog eu dyheadau ac sy'n rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt gyflawni eu potensial. Mae'r ystod o fesurau a nodais, ym mis Mawrth a mis Mehefin, yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu eu harferion i gefnogi...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Bwlch Tlodi (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Gwnaf. Roedd fy natganiad i'r Siambr ym mis Mawrth a'r araith a roddais i Sefydliad Bevan ym mis Mehefin yn nodi fy mwriad i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac rwyf wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i wireddu'r amcan hwn, o gyflwyno hyrwyddwyr cyrhaeddiad i archwilio ffyrdd o gymell athrawon i weithio yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau TGAU a Safon Uwch Haf 2022 (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Yn sicr. Rydym yn falch o weld pobl ifanc yn ymgymryd â phynciau STEM a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i barhau i wneud hynny. Mae her wedi bod o ran y bwlch rhwng y rhywiau ymhlith pobl ifanc sy'n gwneud pynciau STEM, ond mae'r gwaith y buom yn ei wneud drwy ein partneriaid wedi helpu i fynd i'r afael â hynny i ryw raddau. Darparodd adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau TGAU a Safon Uwch Haf 2022 (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Mae'n gwestiwn da, ac rwyf wedi parhau i drafod gyda Cymwysterau Cymru a CBAC mewn perthynas â rhai o'r materion a gododd yn ystod y gyfres o arholiadau'r haf. Bydd yn cofio, wrth gwrs, i Cymwysterau Cymru a CBAC ysgrifennu at ganolfannau cyn y dyddiau canlyniadau i esbonio'r hyn a ddigwyddodd, yr hyn yr oedd eu hadolygiadau wedi'i ddatgelu a'r camau yr oeddent yn eu cymryd i ymateb i'r...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau TGAU a Safon Uwch Haf 2022 (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Gan adlewyrchu trawsnewid yn ôl i safonau arholiadau sefydledig, dyfarnwyd canlyniadau ar oddeutu'r pwynt hanner ffordd rhwng 2021 a 2019. Dangosodd ein dysgwyr ddycnwch aruthrol yn eu perfformiadau ac yn dystiolaeth o hynny, bydd y nifer uchaf erioed o bobl ifanc o Gymru yn mynd i'r brifysgol eleni.

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Mae iechyd, diogelwch a llesiant dysgwyr a staff a chymuned yr ysgol gyfan yn amlwg o'r pwys mwyaf. Mae cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am iechyd a diogelwch mewn ysgolion ac mae dyletswydd arnynt i sicrhau diogelwch dysgwyr a staff bob amser. Mae'r Aelod wedi ysgrifennu ataf ar ddau achlysur mewn perthynas â hyn, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Yn ôl yr awdurdod lleol mae contractiwr wedi cael ei benodi ac mae gwaith wedi dechrau ar y safle yn ystod gwyliau'r haf. [Torri ar draws.] Mae disgwyl i'r gwaith barhau i mewn i 2023.

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Mae camddisgrifio'r cwricwlwm er mantais wleidyddol yn anhygoel o amharchus. Ef yw'r ail Aelod o'i feinciau i ddefnyddio'r cyfle hwn—

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: —i bardduo'r gwaith y mae athrawon yn ei wneud ar draws ysgolion i sicrhau bod ein pobl ifanc yn ddiogel ac yn iach. Rwy'n ymroddedig i hynny ac rwy'n siomedig o glywed nad ydyw ef.

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Wel, mae e eisoes yn digwydd. Rŷn ni mewn proses barhaus o ddarparu adnoddau cynyddol yn y maes hwn ac mewn rhannau eraill o'r cwricwlwm hefyd. Mae'r adnoddau sydd eisoes ar gael wedi'u cyhoeddi ar Hwb, sydd ar gael i bob ysgol. Dyw pob ysgol, dwi ddim yn credu, ddim yn dewis cael mynediad ato fe, ond mae'r adnoddau yno ar-lein i bawb. Ond beth efallai fyddai'n ddefnyddiol byddai i mi...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Her Ysgolion Cynaliadwy (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Gwelais y digwyddiad ym Maenorbŷr, ac rwy'n talu teyrnged i waith arweinwyr a staff yr ysgol yn diogelu'r bobl ifanc a sicrhau bod y trefniadau priodol ar waith. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud i’w cefnogi lle ceir enghreifftiau penodol yn codi sy'n ychwanegol at y trefniadau cyfalaf sydd eisoes ar gael i...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (12 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Rŷn ni’n parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd a gyda chonsortiwm GwE i sicrhau bod ysgolion yn Arfon yn cael eu cefnogi’n llawn i weithredu’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, gan gynnwys cyfleoedd dysgu proffesiynol ac adnoddau. Rŷn ni wedi cyhoeddi pecyn adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb ar Hwb i gefnogi ysgolion i drafod y mater sensitif hwn gyda rhieni a gofalwyr.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.