Canlyniadau 241–260 o 800 ar gyfer speaker:Bethan Sayed

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Blaenoriaethau Cychwynnol ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol Cymru (30 Ion 2019)

Bethan Sayed: Dwi yn croesawu'r ffaith bod y rôl yma'n bodoli, yn enwedig gan ei bod hi'n bwysig bod Cymru'n cael barn ar bethau sydd yn digwydd ar lefel ryngwladol. Yn y cyd destun hynny, tybed a fedrwch chi esbonio i ni pa fathau o drafodaethau y byddwch chi'n gallu dod gerbron y Senedd yma i ni allu cael dadleuon ynglŷn â'r hyn sydd yn digwydd ar lefel rhyngwladol. Er enghraifft, dwi wedi bod yn...

4. Cwestiynau Amserol: Ymdriniaeth Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg â Honiadau ynghylch Ymosodiadau Rhyw (30 Ion 2019)

Bethan Sayed: 1. A wnaiff y Gweinidog ymateb i adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ymdriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg â honiadau a wnaeth cleifion ag anawsterau dysgu ynghylch ymosodiadau rhyw yn erbyn gweithiwr gofal? 272

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Ion 2019)

Bethan Sayed: A gaf i ofyn, yn sgil cyhoeddi heddiw adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i sut y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ymdrin â'r ymchwiliad a'r adolygiad yn achos Kris Wade, bod y Gweinidog iechyd yn cynnal dadl yn amser y Llywodraeth ar y mater hwn, ac nid dim ond datganiad ysgrifenedig, a roddwyd inni heddiw? Wedi'r cyfan, dywedwyd wrthym y byddai'n barod ym mis...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Capasiti Ffyrdd a Rheilffyrdd Pencoed (29 Ion 2019)

Bethan Sayed: Wel, bydd yn rhaid i mi wirio fy e-bost oherwydd nid wyf i'n meddwl fy mod i wedi cael fy ngwahodd i'r cyfarfod hwnnw fel Aelod Cynulliad rhanbarthol. Rydym ni i gyd yn gwybod bod diffyg buddsoddiad enbyd yn rheilffyrdd y de-orllewin. Nododd adroddiad a dderbyniwyd gan Bwyllgor yr Economi a Seilwaith, gan Rowland Pittard, bod, a dyfynnaf, hanes maith o addewidion o wasanaeth bob hanner awr o...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Pensiynau Allied Steel and Wire (23 Ion 2019)

Bethan Sayed: Felly, mae'r ddadl hon wedi bod yn mynd rhagddi ers blynyddoedd lawer. Canfu gweithwyr Allied Steel and Wire yng Nghaerdydd eu bod yn wynebu colli eu pensiynau yn 2002. Roedd ASW yn gyflogwr mawr yng Nghaerdydd, ac mae'n hawdd anghofio yn awr, gyda'r newidiadau sydd wedi digwydd yn y ddinas hon, sut roeddem yn denu'r cyflogwyr diwydiannol mawr hynny. Gweithiodd rhai o'r gweithwyr sydd yma...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Pensiynau Allied Steel and Wire (23 Ion 2019)

Bethan Sayed: Diolch. Hoffwn yn gyntaf ddiolch i'r ymgyrchwyr, yn enwedig John Benson, sydd, er gwaethaf blynyddoedd o ymladd dros eu hawliau a thegwch a chyfiawnder sylfaenol, heb roi'r gorau i obeithio a heb ildio i Lywodraethau yn San Steffan sydd naill ai wedi eu trin â dirmyg neu ag anwybodaeth sylfaenol a distawrwydd dros y blynyddoedd. Nid ydym eisiau cyflwyno'r ddadl hon i'r Cynulliad eto. Pan...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Lles Anifeiliaid Anwes (23 Ion 2019)

Bethan Sayed: Ym mis Gorffennaf y llynedd, fe ddywedoch chi nad oeddech yn bwriadu rhoi'r cysyniad o gofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru ar waith. Mae hynny'n siom enfawr i mi, ond dyna ni, fe geisiaf symud ymlaen. Ond yn y datganiad hwnnw, fe ddywedoch y byddech yn edrych ar fesurau amgen—yr RSPCA a arweiniodd y tasglu hwnnw—fe ddywedoch chi bethau a oedd yn ymwneud â rhannu gwybodaeth yn...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Ion 2019)

Bethan Sayed: Roeddwn i’n bwriadu gofyn am ddatganiad ynglŷn â safbwynt y Llywodraeth ar gyfiawnder troseddol. Fe glywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach mewn cysylltiad â’r tri maes blaenoriaeth, ac, er fy mod i'n croesawu hynny, rwyf yn bryderus bod hynny wedi achub y blaen braidd ar swyddogaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sy’n edrych ar hyn o bryd ar yr holl...

6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru) (16 Ion 2019)

Bethan Sayed: Fyddech chi’n cymryd—? Fyddech chi’n cytuno gyda fi fod rhai pobl yn ein rhanbarth ni wedi gorfod teithio i lefydd fel Norwich er mwyn cael cymorth preifat oherwydd eu bod nhw’n aros mor hir am asesiadau? Petasai yna Fil o’r fath sy’n cael ei gyflwyno yma heddiw, byddai modd i sicrhau eu bod nhw’n cael y driniaeth yn gynharach a’u bod nhw’n cael asesiad yn gynharach, a bod...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Gwasanaethau Bysiau Lleol i Gwm Afan (16 Ion 2019)

Bethan Sayed: Mae'r system wedi torri ar hyn o bryd yn fy marn i. Mae gennym sefyllfa anffodus lle y mae cynghorau'n cwtogi gwasanaethau allweddol fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol yng nghwm Afan, gyda phedwar arall ar y gweill ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, a disgwyl i bobl o gwm Afan, wedyn, deithio ymhellach i gael y gwasanaethau hynny, ond ni allant gyrraedd y gwasanaethau hynny am nad oes...

QNR: Cwestiynau i Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (16 Ion 2019)

Bethan Sayed: Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut y bydd y newidiadau arfaethedig i reolau mewnfudo a amlinellir yn y cytundeb arfaethedig ar ymadael â'r UE yn effeithio ar Gymru?

QNR: Cwestiynau i Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (16 Ion 2019)

Bethan Sayed: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y bydd Brexit yn effeithio ar reolau cymorth gwladwriaethol presennol?

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Ion 2019)

Bethan Sayed: Diolch am eich ateb, wrth gwrs, ond credaf y byddai llawer o'r prifysgolion yn ateb hynny drwy ddweud bod angen cymorth brys arnynt gan eu bod yn gwneud y toriadau hynny ar hyn o bryd, ac y byddai unrhyw ymyriad y gallwch ei wneud fel Gweinidog yn cael croeso. Hoffwn droi, yn olaf, at Brifysgol Abertawe a phroblemau llywodraethu ym maes addysg uwch. Ddoe, gofynnodd fy nghyd-Aelod Helen Mary...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Ion 2019)

Bethan Sayed: Diolch am eich ateb. Rwy'n derbyn bod elfennau o hyn yn newydd, ond yn amlwg, nid yw addysg uwch yn newydd. Rydym wedi gweld pwysau sylweddol yn y sector colegau, gyda streiciau'n cael eu hosgoi ar y funud olaf, ond nid yw hynny'n tynnu dim oddi wrth y ffaith bod pwysau llwyth gwaith yn dal i fodoli. Mae angen inni weld cynnydd ar Hazelkorn ac ar ddeddfwriaeth addysg bellach. Lle mae hynny yn...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Ion 2019)

Bethan Sayed: Er bod Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol i rai o'r newidiadau rydych wedi'u gwneud mewn perthynas ag ysgolion, o ran addysg ôl-16, mae rhai o'r bobl rwyf wedi siarad â hwy wedi dweud eu bod yn credu bod y Llywodraeth wedi bod yn esgeulus. Mae hyd yn oed y cyn-Weinidog—nid wyf yn siŵr o'r teitl ar y pryd—wedi dweud na roddwyd blaenoriaeth i addysg bellach. A ydych yn cytuno gyda'r...

4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cyflwyno Asesiadau Personol ( 8 Ion 2019)

Bethan Sayed: Diolch i chi am y datganiad. Rwy'n siarad ar ran Siân Gwenllian am nad yw hi yma heddiw, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n dymuno mynd ar drywydd unrhyw gynnydd gyda chi pan ddaw hi yn ei hôl. O wrando ar y ddadl hyd yma a darllen y datganiad, mae'n amlwg ein bod yn fras yn cefnogi gwerthusiadau personol pe byddai hynny'n golygu ysgafnhau'r baich ar bobl ifanc o ran y profion dwys sy'n digwydd...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Ion 2019)

Bethan Sayed: Fe wnes i gwrdd heddiw â chynrychiolwyr y gymuned Gwrdaidd yn ne Cymru. Ac rwyf yn croesawu’r ffaith bod gennym Weinidog penodol bellach dros faterion rhyngwladol yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Felly, hoffwn ofyn am ddadl a gofyn iddi amlinellu beth yw ei blaenoriaethau mewn cysylltiad â materion rhyngwladol, a hefyd hoffwn ofyn bod helyntion y bobl Gwrdaidd yn rhan o un o'r...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer Economi Cymru ( 8 Ion 2019)

Bethan Sayed: Wel, dim ond i symud o Lynebwy am funud—[Chwerthin.]—roeddwn i eisiau mynd â chi ymhellach i lawr i Bort Talbot yng Ngorllewin De Cymru. Gwn y gall blaenoriaethau a chyfleoedd economaidd newid yn annisgwyl dros nos weithiau, a byddwch yn gwybod ein bod wedi cael ein bendithio ym Mhort Talbot—ond nid o safbwynt y perchennog, Ian—drwy ddarn celf newydd gan Banksy, y cyntaf o'i fath yma...

10. Dadl Fer: Cyfraith Lucy: Yr ymgyrch i wella lles anifeiliaid drwy wahardd gwerthu a bridio cŵn bach a chathod bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r holl werthwyr trydydd parti masnachol (12 Rha 2018)

Bethan Sayed: Diolch i Andrew R.T. Davies am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ac am bwysigrwydd cyfraith Lucy, sy'n un o'r prif resymau pam y gelwais am gofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru, oherwydd gwyddom ein bod am geisio sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu hamddiffyn, a chredaf y byddai hon wedi bod yn ffordd glir ymlaen, ond nid oedd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau datblygu'r syniad hwnnw. Rwyf wedi...

Enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8 (12 Rha 2018)

Bethan Sayed: Adam Price.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.