Hannah Blythyn: Diolch. Rydych yn amlwg yn cyfeirio at y rôl y mae pobl ifanc yn ei chwarae, yn enwedig mewn ysgolion, yn sbarduno'r newid hwn, a grym plagio, gan na chredaf fod teyrngarwch i oedolion nac i rieni, mae'n debyg, pan nad ydynt yn gwneud hyn. Rwy'n cofio mewn un ysgol, roeddem yn sôn am yr hyn rydych yn ei ailgylchu a pham, ac i ble mae'n mynd, a rhoddodd un ferch fach ei llaw i fyny a dweud,...
Hannah Blythyn: Credaf mai'r ateb byr yw 'yn sicr'. Rwy'n hynod falch o'n rôl a'n cyflawniad fel arweinydd byd-eang a'r gydnabyddiaeth rydym eisoes wedi'i chael i hynny mewn lleoedd mor bell i ffwrdd ag Awstralia. Ond rydym wedi amlinellu ein huchelgais i wneud mwy ac i fynd â hynny ymhellach, a sbarduno newid yn y dyfodol. Ac fe sonioch chi am rai o'r unigolion a'r sefydliadau sy'n mynd i'r afael â hyn...
Hannah Blythyn: Yn ddiweddar, lansiais ein strategaeth economi gylchol, 'Mwy Nag Ailgylchu', sy'n cynnwys cael gwared ar blastig untro yn raddol fel un o'r prif gamau gweithredu. Ynghyd â hyn, rydym yn gweithio ar ddiwygiadau arloesol fel cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio, cynllun dychwelyd ernes a gwaharddiad ar rai mathau o blastig untro.
Hannah Blythyn: Diolch. Fel y mae'r ddau ohonom—. Rwy'n credu y bydd pawb yma yn cytuno ar y rôl y mae swyddfeydd post yn ei chwarae yn ein cymunedau ac yng nghalonnau ein trefi ledled y wlad yn ogystal, gan gyflawni swyddogaeth a rôl ymarferol yn ogystal â swyddogaeth gymdeithasol hefyd. Er nad yw materion yn ymwneud â swyddfeydd post wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru, mae'n amlwg fod gennym rôl...
Hannah Blythyn: Rwy'n cydnabod y gwasanaethau gwerthfawr y mae swyddfeydd post lleol yn eu darparu i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n rheolaidd â Swyddfa'r Post Cyf er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o unrhyw faterion sy'n effeithio ar gymunedau yng Nghymru a'n bod yn gallu dwyn unrhyw broblemau i'w sylw.
Hannah Blythyn: Diolch Vikki am eich cyfraniadau a'ch cwestiynau. Egwyddor canol y dref yn gyntaf—rydych chi'n gywir, mewn gwirionedd; gallwch chi weld, mewn egwyddor, fod y syniad y tu ôl iddo yn synnwyr cyffredin, mewn gwirionedd. Gallwch chi weld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud, gan gynnwys ar y safle ym Mae Colwyn hefyd—y gwahaniaeth y maen nhw wedi'i weld yno. Wrth greu adeiladau'r Cyngor, un o'r...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Gan weithio ar y dybiaeth—ynghylch eich sylw olaf o ran yr anhawster i ganfod perchnogion—eich bod yn cyfeirio efallai at adeiladau neu eiddo a adawyd yn wag efallai, neu nad ydynt wedi cael eu gosod ar rent ers tro, dyma'r hyn yr ydym ni'n gobeithio y bydd y gronfa orfodi hon, ynghyd â'r sawl fydd yn gweithio gyda ni sy'n arbenigwr yn y diwydiant, a...
Hannah Blythyn: Diolch am y cwestiwn.
Hannah Blythyn: Ydw, rwy'n credu, i wneud penderfyniad ynglŷn ag ariannu neu—[Anhyglyw.]—os nad wyf yn gwneud penderfyniad sydd efallai yn uwch na fy ngraddfa gyflog i'w wneud beth bynnag. Ond, y sylw yr ydych chi'n ei wneud ynglŷn â sut yr ydym ni'n defnyddio'r safleoedd hynny—. Gan fod natur canol ein trefi wedi newid ac nad yw'r manwerthwyr mawr hynny yno; nid oes ganddyn nhw'r presenoldeb yr...
Hannah Blythyn: Diolch i Jack Sargeant am ei gyfraniad a'i gwestiynau. Mae Bwcle yn dref rwy'n gyfarwydd â hi, nid oherwydd imi dreulio llawer o'm blynyddoedd iau yn mynd i'r clwb nos Tivoli yno, ond oherwydd ei fod ar ffin fy etholaeth fy hun, ac mae gennyf lawer o ffrindiau a theulu sy'n byw yno hefyd. Fel nifer o drefi ledled Cymru, mae Bwcle wedi newid dros y blynyddoedd, mae'r ffordd yr ydym ni'n siopa...
Hannah Blythyn: Rwy'n credu bod yr Aelod wedi plesio Jack Sargeant pan wnaethoch chi grybwyll Cei Connah yn eich araith gynnau. O ran y sylwadau am yr heriau sy'n wynebu ein strydoedd mawr, mae llawer o heriau tebyg, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Rydych chi yn llygad eich lle bod angen i ni weithio fel Llywodraeth gyfan gyda'r Gweinidog Cyllid a Gweinidog yr economi, oherwydd nid yw hynny'n...
Hannah Blythyn: I ddechrau lle gwnaethoch chi orffen, y ffordd rwy'n ymdrin â hyn a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â hyn yw: nid yw'n ymwneud â'r prosiectau yn unig, mae'n ymwneud â'r lleoedd a'r bobl sy'n ffurfio'r lleoedd hynny. Fel y dywedwn ni, fe wnaethoch chi sôn am roi hwb i economi'r lle unigol, mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â'r ymdeimlad o'r lle hefyd, a'r ymdeimlad hwnnw fod...
Hannah Blythyn: Diolch. Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Yn gyntaf oll ac yn bennaf, rwy'n ategu eich llongyfarchiadau i Dreorci ar ei buddugoliaeth wych a'r gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r sylw hwnnw a wnaethoch chi fod tua 60 y cant o'r siopau annibynnol yn cael eu rhedeg gan fenywod, sy'n wych. Mewn gwirionedd, pan fyddaf yn meddwl am y trefi yn fy nghymuned fy hun, mae...
Hannah Blythyn: Os cymeraf y cwestiwn am y pecyn arian £90 miliwn ac amserlenni hwn yn gyntaf, wel, mae'n rhaid ei ddadelfennu, gan fod y £90 miliwn yn cwmpasu sawl elfen wahanol, a'r rhan fwyaf ohonynt yw'r gronfa buddsoddi adfywio wedi'i thargedu, estyniad tan 2022 o £57.6 miliwn, a fydd ar gael i awdurdodau lleol ganfod prosiectau mewn trefi blaenoriaeth. Mae hefyd yn cynnwys y gronfa seilwaith gwyrdd...
Hannah Blythyn: Llywydd, rwy'n hapus i gyhoeddi pecyn arall o gymorth ar gyfer canol trefi gwerth bron i £90 miliwn yn rhan o'n hagenda trawsnewid trefi. Mae hyn yn adeiladu ar y buddsoddiad £800 miliwn rhagamcanol yn ein trefi o ganlyniad i'n rhaglenni adfywio ers 2014. Mae'r pecyn trawsnewid trefi yn cynnwys cymorth i orfodi'r gyfraith mewn cysylltiad ag eiddo gwag a dadfeiliedig yng nghanol ein trefi,...
Hannah Blythyn: Diolch, Llywydd. Dwi'n hapus iawn i siarad efo chi heddiw am drefi Cymru, a dwi'n hapus iawn i siarad am fwy o gefnogaeth i'n trefi ni. Dwi eisiau trawsnewid trefi Cymru.
Hannah Blythyn: Hapus i symud ymlaen.
Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch heddiw o gael dod â chynnig gerbron i gymeradwyo Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020. Mae'r canfasiad blynyddol presennol ar gyfer etholwyr yn hen ffasiwn ac yn feichus, mae'n ddrud ac yn gymhleth i'r swyddog cofrestru etholiadol ei weinyddu a gall arwain at ddryswch i'n dinasyddion. O gofio hyn, rydym wedi...
Hannah Blythyn: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw yn lle'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Rydym yn gwybod bod dadansoddiad a wnaed ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn amcangyfrif y bydd tlodi cymharol plant yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd i ddod, gan wthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi o bosibl erbyn...
Hannah Blythyn: Yn ffurfiol.