Lynne Neagle: Yn bwysicaf oll, rydym ni hefyd yn gwybod bod hwn wedi bod yn brofiad sydd wedi ynysu rhai plant a phobl ifanc yn wirioneddol. Bu ganddyn nhw hiraeth ar ôl eu ffrindiau, hiraeth ar ôl eu teuluoedd, ac maen nhw wedi methu cerrig milltir hanfodol megis arholiadau, dathliadau gadael yr ysgol, proms, i enwi dim ond rhai. Nodwyd ein siom na ellid cytuno gydag undebau llafur ar yr opsiwn a...
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. 'Mae plant wedi dioddef niwed cyfochrog yn ystod y pandemig.' Dyna eiriau Dr David Tuthill o'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant pan roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ddiweddar. Fel pwyllgor, rydym ni'n cydnabod ei bod hi'n ymddangos ar hyn o bryd bod plant a phobl ifanc yn llai agored i'r feirws nag oedolion, ond nid oes...
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro, am y cyfle i wneud cyfraniad byr yn y ddadl bwysig hon a groesewir yn fawr. Rwy'n credu ei fod yn fenter ardderchog, un yr wyf i'n gobeithio y gallwn barhau â hi, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando'n astud ac yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i sylwadau'r Aelodau. Rwy'n cydnabod y bu'r pandemig yn gyfnod heriol iawn i Lywodraeth Cymru wneud...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Gweinidog. Roeddwn i'n falch iawn o glywed y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog ddydd Llun y bydd gorchuddion wyneb yn dod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus o ddiwedd mis Gorffennaf ymlaen. Yn bersonol, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n ymestyn hynny i weithwyr mewn siopau cyn gynted ag sy'n bosib. Roedd hwn yn gyhoeddiad a oedd i'w groesawu'n fawr, roedd yn rhywbeth yr oeddwn i...
Lynne Neagle: Gweinidog, rwy'n cysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaeth Alun Davies yn gynharach. Yr wythnos diwethaf, cafodd £470 miliwn o ddyledion byrddau iechyd eu dileu mewn cynhadledd i'r wasg ac, fel Aelod Cynulliad sy'n cynrychioli bwrdd iechyd sydd bob amser wedi gweithredu mewn elw yn un o rannau tlotaf Cymru, byddwn i wedi hoffi cael y cyfle i graffu ar hynny. Fodd bynnag, fy mhrif reswm dros...
Lynne Neagle: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch staff ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ55465
Lynne Neagle: Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar drafnidiaeth bws, oherwydd ar gyfer Torfaen, fel llawer o gymunedau difreintiedig yng Nghymru, y rhain yw'r cysylltiadau trafnidiaeth pwysicaf. Heb yr ateb cywir i weithredwyr, gyrwyr a theithwyr, rydym mewn perygl o ddioddef y canlyniad gwaethaf posibl yn y tymor hir yn sgil y pandemig hwn, ac o weld yr anfantais sydd eisoes yn bodoli yn gwreiddio'n...
Lynne Neagle: A allwch chi fy nghlywed i nawr?
Lynne Neagle: Diolch, a diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae'r pwyllgor wedi gwneud llawer o waith yn y Senedd hon yn craffu ar hynt y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm hyd yma, ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld y pwyllgor yn craffu ar y Bil hwn yng Nghyfnod 1. Rwyf am roi croeso cynnes iawn i'r canllawiau ar ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a gyhoeddwyd heddiw. Fel y...
Lynne Neagle: Weinidog, ni all staff y GIG fynd i’r afael ag ôl-groniad o waith mawr ei angen oni bai eu bod yn gallu gweithio dros yr haf, ac i staff y GIG sydd ag aelodau teuluol yn unig y bydd swigod cymorth yn ddefnyddiol. Nawr, cafwyd cyhoeddiad i'w groesawu'n fawr am gyllid ychwanegol ar gyfer gofal plant dros yr haf yn gynharach yn yr wythnos, ond ni chyhoeddwyd unrhyw ganllawiau i awdurdodau...
Lynne Neagle: Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau diogelwch gweithleoedd yn ystod y pandemig?
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n croesawu unrhyw gyllid ar gyfer goblygiadau'r pandemig o ran iechyd meddwl. Ond credaf ei bod yn hanfodol i'r rhain fod yn ddyraniadau ychwanegol, ac roeddwn i'n bryderus iawn o weld bod £7 miliwn wedi cael ei dynnu o'r gronfa gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn y gyllideb atodol. Nawr, rwy'n siŵr bod pob aelod yn cydnabod bod ffordd bell iawn i'w throedio...
Lynne Neagle: Mae Jenny Rathbone yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â hawl plant i gael addysg, sydd wedi'i hymgorffori nid yn unig yn CCUHP, ond yn ein Mesur hawliau plant ni ein hunain. Rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod chi wedi cwrdd â grŵp monitro CCUHP yn ystod y pandemig, ac un o'r pryderon yr wyf i wedi'i gael yw, pan wyf wedi cyflwyno cwestiynau yn gofyn sut mae hawliau plant yn cael eu...
Lynne Neagle: 3. Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod goblygiadau iechyd meddwl y pandemig COVID-19 yn cael eu cydnabod yn nyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru? OQ55385
Lynne Neagle: Weinidog, hoffwn gofnodi fy niolch personol i chi am yr ymdrech gwbl ardderchog rydych wedi'i gwneud i sicrhau cymaint o amser â phosibl i blant yn yr ysgol yr haf hwn ac yn hollbwysig, am roi plant yn gyntaf drwy hyn i gyd. Mae ysgol Garnteg yn fy etholaeth wedi bod yn wirioneddol rhagorol yn ystod y cyfyngiadau symud, ond gwyddom fod yr amrywiaeth yn yr hyn y mae plant wedi bod yn ei gael...
Lynne Neagle: Weinidog, rwyf wedi dweud wrthych o'r blaen fy mod yn credu bod awdurdodau lleol wedi bod yn rhagorol yn eu hymateb i argyfwng COVID, ac rwy'n ddiolchgar iawn i gyngor Torfaen am bopeth y maent wedi'i wneud. Ond rwy’n glir iawn eu bod o dan bwysau ariannol aruthrol nawr, ac yn enwedig mewn gofal cymdeithasol. Rwy’n croesawu’n fawr y £40 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd i awdurdodau lleol...
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Mae'n dda gwybod bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Wrth i'r economi ddechrau agor, mae nifer gynyddol o fenywod sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant wedi cysylltu â mi am fod pwysau'n cael ei roi arnynt i ddychwelyd i'r gwaith. Wrth gwrs, mae hynny'n heriol iawn, gan nad ydym yn debygol o weld plant yn ôl mewn ysgolion ar sail normal am gryn amser. Beth y gall y...
Lynne Neagle: 3. Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o effaith y pandemig Covid-19 ar gydraddoldeb i fenywod yn y gweithle? OQ55316
Lynne Neagle: 7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r pwysau ariannol ychwanegol sy'n wynebu llywodraeth leol oherwydd y pandemig Covid-19? OQ55328
Lynne Neagle: Weinidog, rwyf wedi bod yn cynnal cystadleuaeth traethawd i blant yn yr etholaeth yn ystod y cyfyngiadau, gyda'r pennawd, 'Fy arwr COVID yw...'. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn fodd o godi calon, ond mae hefyd wedi bod yn ffordd bwerus iawn i mi glywed lleisiau plant yn fy etholaeth. Mae wedi cael cefnogaeth dda iawn gan Ysgol Gyfun Gwynllyw, ac rwy'n eu cefnogi am hynny, ond hoffwn...