Darren Millar: Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n croesawu hwn fel cam mawr i'r cyfeiriad cywir. Byddwch yn ymwybodol bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo yn ein maniffesto ar gyfer etholiadau'r Senedd i gyfradd cyflog o £10 yr awr, sydd dim ond 10c yn fwy nag eich un chi, ac roeddwn yn gobeithio y byddech wedi gallu ymestyn at hynny, ond yn amlwg rwy'n sylweddoli bod hyn yn rhywbeth yr...
Darren Millar: Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i alw am ddau ddatganiad yr wythnos hon? Daw'r cyntaf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â chynllun cydnabyddiaeth ariannol gofal cymdeithasol, yn amlwg, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei groesawu'n fawr i'r bobl hynny sydd wedi gweithio ar y rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru, yn enwedig yn ystod y pandemig....
Darren Millar: Trefnydd, dros y penwythnos roedd tafarndai ledled Cymru gyfan yn llawn pobl yn gwylio'r rygbi. Nid oedd yn brofiad pleserus, rwy'n gwybod, i lawer ohonom ni'r penwythnos hwn, ond dyna yr oedd llawer o bobl yn ei wneud. Yn anffodus, y diwrnod canlynol, ar y Sul, roedd pobl a oedd mewn eglwysi yn dal i orfod gwisgo eu masgiau yn yr eglwys er mwyn cymryd rhan mewn gweithredoedd addoli. Nid wyf...
Darren Millar: Mae’n werth nodi, fodd bynnag, fod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chyflwyno datganiad na dadl ar y garreg filltir bwysig hon yn nheyrnasiad Ei Mawrhydi. Gwnaethant hynny ar y trigeinmlwyddiant, ar gyfer y Jiwbilî Ddiemwnt. Cyflwynodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ddadl gan y Llywodraeth, ac roedd hynny i’w groesawu’n fawr iawn, ond yn anffodus, nid oes unrhyw beth...
Darren Millar: Diolch, Lywydd. Rwy’n falch iawn o gyflwyno'r cynnig ar y papur trefn y prynhawn yma i argymell y dylai’r Senedd ymestyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i’w Mawrhydi y Frenhines wrth nodi deng mlynedd a thrigain ers ei hesgyniad i’r orsedd, achlysur y byddwn yn ei ddathlu, wrth gwrs, y penwythnos yma. Mae'n frenhines sydd wedi torri record; ei theyrnasiad hi yw'r hwyaf yn hanes Prydain....
Darren Millar: Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Darren Millar: Diolch. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae'n ymwneud â'r hyb profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yr wyf yn falch iawn ei fod yn bodoli yng Nghymru, ac mae'n dda ein bod yn gwybod ei fod yn bwrw ymlaen â'r gwaith o rannu arferion da. Ond nid yw'n mesur y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn y boblogaeth gyfan nac yn olrhain a ydynt yn lleihau neu'n cynyddu....
Darren Millar: Pam y mae'n cymryd saith mlynedd, saith mlynedd i'w ddatrys?
Darren Millar: Chwe blynedd, cynnydd araf ac mae angen inni ei gael yn ôl ar y llwybr iawn, os esgusodwch y chwarae ar eiriau. Un o'r pethau eraill sydd wedi bod yn methu ers amser maith yng ngogledd Cymru, wrth gwrs, yw gwasanaethau iechyd meddwl. Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig oherwydd methiannau yn ei wasanaethau iechyd meddwl yn ôl yn 2015. Saith mlynedd yn...
Darren Millar: Weinidog, croesawodd llawer o bobl yng ngogledd Cymru newyddion y byddai metro yn cael ei adeiladu. Wrth gwrs, roedd yn eich maniffesto yn 2016, mae bellach yn 2022, ac nid oes llawer o gynnydd wedi'i wneud o hyd yng ngogledd Cymru. Clustnodwyd £750 miliwn ar gyfer de Cymru, o gymharu â dim ond £50 miliwn yn y gogledd. Nawr, fel Gweinidog gogledd Cymru, bydd pobl yn y rhanbarth yn disgwyl...
Darren Millar: Yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog gogledd Cymru, a allwch ddweud wrthym pam y mae gogledd Cymru yn cael cyn lleied o fuddsoddiad yn eu metro o'i gymharu â de Cymru?
Darren Millar: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad. Rwyf i yn croesawu'r ffaith eich bod yn edrych ar y flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol, ac rwy'n credu, yn amlwg, gydag unrhyw system sydd wedi para am 150 o flynyddoedd, fod rheswm da iawn weithiau dros ei gadw, ac weithiau efallai y bydd rheswm da dros gael gwared arno. Rwy'n sylwi bod gennych chi dreial 10 wythnos a fydd yn...
Darren Millar: Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i alw am ddatganiad ar yr wybodaeth ddiweddaraf am system pasys COVID y GIG, os gwelwch yn dda? Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n siŵr bod etholwyr aelodau eraill ar draws y Siambr hon wedi gwneud hefyd, a gafodd drydydd brechiad, yn hytrach na'r brechiadau atgyfnerthu, ar gyfer y rhai agored iawn i...
Darren Millar: Prif Weinidog, rwyf innau hefyd eisiau gweld mwy o fuddsoddiad gan Lywodraethau'r DU a Chymru yn y gogledd yn y seilwaith rheilffyrdd. Un o'r pethau yr hoffwn ei weld yn fawr yn fy etholaeth i yw arhosfa drenau newydd yn ardal Tywyn a Bae Cinmel. Byddwch yn ymwybodol pa mor boblogaidd yw ardal Tywyn a Bae Cinmel fel cyrchfan: 50,000 o leoedd gwely mewn carafanau gwyliau, ac mae'n rhaid i...
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad, Gwnsler Cyffredinol. A allwch chi ddweud wrthym—? Mae llawer o bobl wedi cyhuddo'r Blaid Lafur o geisio troi'r fantol i'w mantais ei hun mewn perthynas â'r system etholiadol yng Nghymru ar sail rhai o'r cynlluniau peilot rydych yn gobeithio eu rhoi ar waith yn yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf, ac mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf ohonynt yn...
Darren Millar: Diolch. Diolch, Heledd, am dderbyn yr ymyriad. Bydd y lluniau adnabod y bydd pobl yn gallu eu cael os nad oes ganddynt basbort neu drwydded yrru yn rhad ac am ddim. Felly, nid wyf yn siŵr pam eich bod yn honni y bydd baich ariannol ar unigolion nad oes ganddynt lun adnabod eisoes. Fe'u darperir yn rhad ac am ddim yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'r Bil yn nodi'n benodol nad oes rhaid i unigolion...
Darren Millar: Felly, dulliau adnabod pleidleiswyr—fe wnaf ymateb i'r ddwy ohonynt, oherwydd yr un pwynt ydyw i bob pwrpas—nid yw dulliau adnabod pleidleiswyr yn fygythiad. Mae gan 98 y cant o'r etholwyr ddulliau adnabod ffotograffig addas eisoes y byddent yn gallu eu defnyddio er mwyn pleidleisio, a bydd y rhai nad oes ganddynt ddulliau adnabod ffotograffig o'r fath ar hyn o bryd yn gallu cael cardiau...
Darren Millar: O'r gorau, fe dderbyniaf y ddau ymyriad.
Darren Millar: Fe dderbyniaf un mewn munud, os caf, Lywydd.
Darren Millar: A'r realiti yw ei bod yn drosedd y byddwn i gyd yn dioddef yn ei sgil dro ar ôl tro os na fydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater. Fe gyfeirioch chi, Rhys ab Owen, at y nifer gymharol ychydig o achosion o dwyll pleidleisio a nodwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond nid yw'r ffaith nad oes mwy wedi'u nodi yn golygu nad yw'n digwydd, oherwydd...