Vaughan Gething: Bydd angen i'r gofynion ar gyfer porthladdoedd rhydd fod wedi'u cefnogi gan yr awdurdod lleol sy'n eu cynnal ac yn wir eu rhanbarth economaidd. Mae hynny'n rhan o'r amod ar gyfer y cynigion i gael eu cyflwyno. Fe fyddan nhw wedyn yn cael eu hasesu gan y ddwy Lywodraeth, ac, fel rwyf wedi dweud, ac rwy'n fwy na pharod i ailadrodd eto, mae'n rhaid bod ag ymrwymiad i bob agwedd ar hynny. Mae...
Vaughan Gething: Rwy'n glir iawn y dylem ni barhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Pe bai gennym y gallu i wneud hynny, yna, yn wahanol iawn i'r hyn sy'n debygol o ddigwydd, rwy'n credu y byddem yn gweld manteision uniongyrchol i'r sector preifat. Mae nifer y bobl, ansawdd yr addysg y mae pobl yn ei chael, ac ansawdd gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r holl bethau hynny....
Vaughan Gething: Rwy'n galonnog iawn o ran Cynghrair Mersi Dyfrdwy yn dilyn sgyrsiau a gefais â nhw o'r blaen, ond â'r bwrdd uchelgais ledled gogledd Cymru hefyd, eto, rwy'n siŵr eich bod chi'n gyfarwydd ag ef oherwydd eich swydd flaenorol cyn dod i'r fan hon. Ond, mewn gwirionedd, mae'r cynllun sy'n bodoli yno, a gwneud yn siŵr bod Cynghrair Mersi Dyfrdwy yn ategu hwnnw heb fod mewn cystadleuaeth ag ef...
Vaughan Gething: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Yn fy natganiad i, pan oeddwn i'n cyfeirio at y newid yn nhelerau busnes, dyma'r union beth yr ydym ni'n siarad amdano—telerau busnes ar gyfer mewnforwyr ac allforwyr. Gyda'r cwymp diweddar yn y bunt ac yna'r adferiad rhannol, mae'r cyfraddau llog yn parhau i fod ynghlo, ac mae'r pigyn yn wahanol iawn yn y DU i'r hyn a geir mewn rhannau eraill...
Vaughan Gething: Rwy'n credu bod dau gwestiwn bras yma. O ran cronfeydd arloesi, rwy'n awyddus, fel dywedais i, i weld llawer mwy o allbynnau o ran cyllid ymchwil yn cael ei ddyfarnu, a chanlyniadau wedyn o ran yr hyn y bydd yr arian hynny'n caniatáu i ni ei wneud. Mae gennym ni enghreifftiau da iawn o ymchwil gymhwysol a'r gwahaniaeth y gall honno ei wneud. Mae'r partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth sydd...
Vaughan Gething: Diolch i chi. Rwyf i am ymdrin â'r pwynt ynglŷn â phorthladdoedd rhydd yn gyntaf, a dweud cyn dechrau fy mod i am osgoi rhoi ateb uniongyrchol i chi, oherwydd y fi fydd y Gweinidog sy'n gwneud y penderfyniadau, felly nid wyf i'n gallu dweud wrthych chi'n bendant nad wyf i am dderbyn cais gan unrhyw un, oherwydd fe fydd yn rhaid i mi ystyried hynny'n wrthrychol. Fe glywais i'r hyn a...
Vaughan Gething: Diolch i chi am y cwestiynau. O ran prosiectau ynni, rwy'n credu y byddwch chi'n canfod cynigion am brosiectau ynni gwyrdd ym mhob un o'r pedwar rhanbarth. Nid y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth yn unig sydd i'w gweld yn y canolbarth; fe fydd yna fwy yn cael ei wneud yn y fan honno. Ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau yn ddiweddar bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiynau, ac rwyf i am geisio ymdrin â chymaint ohonyn nhw ag y gallaf i yn yr amser, Dirprwy Lywydd. O ran parthau menter, rwyf i wedi cyhoeddi datganiad ar adnewyddu parthau menter eisoes, mae rhai ohonyn nhw wedi dod i ben, a rhai ohonyn nhw'n parhau. Felly, nid wyf i am fynd drwy hynny eto. O ran seilwaith a'r pwynt a wna'r Aelod, mae gan y Llywodraeth hon allu i fuddsoddi...
Vaughan Gething: Ledled ein rhanbarthau ni i gyd, mae ein gwasanaeth Busnes Cymru yn helpu i ysbrydoli unigolion i ymgymryd â mentrau a sicrhau bod microfusnesau a busnesau bach a chanolig yn gallu cael gafael ar gefnogaeth. Rwyf i wedi ymrwymo i ddarparu £20.9 miliwn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2025, gan ymestyn asgwrn cefn gwasanaeth Busnes Cymru y tu hwnt i ddiwedd nawdd gan yr UE yn 2023. Mae hyn yn...
Vaughan Gething: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o'r cyfle hwn i roi diweddariad ar y cynnydd yr ydym yn ei wneud i gefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol sy'n fwy cadarn mewn amgylchiadau sy'n hynod heriol. Dirprwy Lywydd, ein gweledigaeth ni ar gyfer buddsoddi yn rhanbarthol yw rhoi cefnogaeth i swyddi a thwf mewn cymunedau ledled Cymru. Fe wyddom ni fod y twf cynhwysol a chynaliadwy sy'n...
Vaughan Gething: Bydd y Bil Amaethyddiaeth yn helpu ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy gan fynd i'r afael hefyd â'r heriau a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn pennu mai Rheoli Tir yn Gynaliadwy fydd y fframwaith ar gyfer cymorth amaethyddol yn y dyfodol a bydd yn fodd i sicrhau canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Vaughan Gething: Diolch am y pwyntiau a'r sylwadau. Edrychwch, nid ydym yn gyfrifol am ddewisiadau FIFA o ran y ffordd y mae'n gweithredu fel sefydliad ar nifer o lefelau. Rydym ni yn gyfrifol am weithio ochr yn ochr â'r gêm, y bobl sy'n ei rhedeg, a'r bobl sy'n ei chwarae a'i chefnogi. Dyna pam yr ydym ni wedi gosod y cydbwysedd yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i sicrhau diogelwch pobl sy'n teithio, yr hyn...
Vaughan Gething: Wel, mae yna lawer o feichiau mewn bywyd gweinidogol, ond fe wnaf fi gymryd un dros y tîm, yn llythrennol. Edrychwch, o ran y gwaddol creadigol, rwy'n credu mewn gwirionedd, gyda'r rhaglen yr ydym ni wedi'i chyhoeddi, o fewn y gwaddol creadigol hwnnw, bydd nid yn unig y prosiectau nad ydym wedi gallu eu hariannu, ond hefyd llawer o sefydliadau a grwpiau, yn rhedeg eu gweithgareddau eu hunain...
Vaughan Gething: Diolch am y gyfres o gwestiynau. O ran y metrigau y byddwn ni’n eu defnyddio, byddaf yn rhannu rhywfaint o'r wybodaeth yr ydym ni’n mynd i fod yn ei defnyddio i farnu, ond hefyd rydym ni'n mynd i gael gwerthusiad ar yr effaith hefyd, a byddaf yn awyddus iawn i rannu hynny— nid yn unig yn y Senedd; efallai mai dyma'r math o beth y byddwn i'n disgwyl y byddai gan y pwyllgor pwnc...
Vaughan Gething: I gefnogi ein nod i hyrwyddo Cymru ac ymgysylltu mewn diplomyddiaeth, bydd y Prif Weinidog, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Phrif Chwip a minnau yn mynychu amryw o ddigwyddiadau, yn ogystal â phob un o gemau grŵp Cymru yn erbyn UDA, Iran a Lloegr. Ac rwy’n gobeithio ychwanegu mwy, yn dibynnu ar gynnydd yn y twrnamaint. Nod craidd yr ymweliadau hyn fydd cefnogi mentrau a...
Vaughan Gething: Diolch yn fawr. Gyda 55 diwrnod i fynd nes bod Cymru'n chwarae ei gêm gyntaf yn nhwrnamaint Cwpan y Byd FIFA i ddynion, yn erbyn yr UDA ar 21 Tachwedd, mae modd teimlo'r cyffro a'r disgwyliad o weld tîm cenedlaethol ein dynion yn cystadlu yn ein cwpan byd cyntaf ers 64 mlynedd ar hyd a lled y genedl. Gyda'n gobaith a'n huchelgeisiau ar ysgwyddau'r chwaraewyr, rydym ni’n cael un o'r...
Vaughan Gething: Rwy'n meddwl bod dau gwestiwn gwahanol yno. Yn gyntaf, mae'n bwynt sy'n werth ei ystyried bod gweithwyr asiantaeth, oni bai eu bod wedi ennill hawliau cyflogaeth—. Ac mae yna broses; rwy'n cofio gwneud hyn pan oeddwn yn gyfreithiwr cyflogaeth. Os ydych chi wedi bod yno'n ddigon hir, gallwch hawlio statws parhaol. Fel arall, ni fydd ganddynt ddiogelwch diswyddo ac ni fydd ganddynt hawl i...
Vaughan Gething: Diolch. Fe geisiaf ymdrin â phob un o'r pwyntiau hynny. Ein dealltwriaeth yw bod 89 o bobl yn gyflogedig ar y safle, ac o ystyried mai ein dealltwriaeth ni yw eu bod wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a'i bod yn debygol y bydd y safle'n cau, maent i gyd mewn perygl o golli swyddi. Fy nealltwriaeth i yw bod nifer cyfyngedig o weithwyr wedi'u cadw am gyfnod o wythnosau i gynorthwyo gyda chau'r...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Deallwn fod Bearmach Cyf wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae cynghorwyr Cymru'n Gweithio wedi rhoi cymorth ar y safle i weithwyr Bearmach dros gyfnod o dair wythnos, a byddwn yn parhau i weithio gyda staff yr effeithiwyd arnynt, i roi cyngor a chymorth. Rwy'n deall y bydd hyd at 89 o bobl yn cael eu heffeithio yn sgil cau'r cwmni hwn ac yn wynebu colli eu swyddi.
Vaughan Gething: Rydym yn ceisio mynd ati mewn modd cyflawn o ran ein ffordd o hyrwyddo a chefnogi busnesau Cymru fel allforwyr, ac fel mewnforwyr hefyd. Mae'n rhan o'r rheswm pam ein bod wedi bod yn pryderu am effaith rhai o'r cytundebau masnach y cytunwyd arnynt eisoes, er enghraifft eu heffaith ar yr economi wledig yma. Fe fyddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud mai un o'r heriau fyddai mewnlifiad...