Canlyniadau 241–260 o 2000 ar gyfer speaker:Andrew RT Davies

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 1 Chw 2022)

Andrew RT Davies: Wel, nid oes angen brathu yn ôl, Prif Weinidog. Chi sydd 'r cyfrifoldeb. Chi sydd â'r cyfrifoldeb, roedd yr arian gennych chi ac fe gawsoch chi'r dewis i'w wneud. Pam nad ydych chi wedi ei wneud?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 1 Chw 2022)

Andrew RT Davies: Wel, mae llawer iawn o wleidyddiaeth yn cael ei chwarae gan eich Llywodraeth yn enwedig pan ddaw i ariannu a diogelwch tomenni glo, Prif Weinidog, ond mae'r cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli. Eich plaid chi wnaeth ddatganoli'r cyfrifoldeb hwn yn y setliad datganoli gwreiddiol mewn gwirionedd, er fy mod i'n derbyn bod materion yn ymwneud ag etifeddiaeth. Serch hynny, gellid fod wedi ariannu a...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 1 Chw 2022)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, y mis diwethaf, adroddodd nifer o gwmnïau cyfryngau am ddarganfyddiad dogfen ddamniol yr ymgyrchydd tomen lo o 2014, a oedd yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru ar y pryd yn blaenoriaethu'r economi dros ddiogelwch lle byddai ariannu gwaith yn gwneud gwahaniaeth mawr i domenni glo yn y Cymoedd. Mae'r ddogfen hon yn dweud bod y cyllid i adfer tomenni glo yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (18 Ion 2022)

Andrew RT Davies: Mae'n ffaith, Prif Weinidog, na fydd llawer o fusnesau ledled Cymru yn gallu adennill lefel y colledion y maen nhw wedi eu dioddef oherwydd y cyfyngiadau yr ydych chi a'ch Llywodraeth chi wedi eu rhoi ar waith. Ddoe, dywedodd eich prif swyddog meddygol, Dr Frank Atherton, ei fod yn bwyllog ond gobeithiol bod diwedd y pandemig i'w weld. Mae hynny yn newyddion gwych, a diolch i'r Ceidwadwyr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (18 Ion 2022)

Andrew RT Davies: Wel, yn anffodus, Prif Weinidog, mae'n ffaith bod gennych chi ddewisiadau o ran y math o gyfyngiadau y gallech chi fod wedi eu cyflwyno, yn union fel y mae gennych chi'r dewis i gomisiynu ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru i'r penderfyniadau hynny yr holl ffordd drwy'r pandemig, nad ydych chi wedi ei gomisiynu hyd yma yn anffodus. Os cymerwn ni gam yn ôl i'r byd go iawn, dangosodd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (18 Ion 2022)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi honni yr wythnos diwethaf nad camau eich Llywodraeth chi oedd yn gyfrifol am effaith y cyfyngiadau ar fusnesau Cymru dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd. A allwch chi ddweud wrthyf pwy oedd yn gyfrifol am y cyfyngiadau hyn, oherwydd y tro diwethaf i mi edrych, chi oedd y Prif Weinidog? Neu ai rhyw rym allfydol nad yw'r un ohonom ni'n ymwybodol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (11 Ion 2022)

Andrew RT Davies: Prif Weinidog, gosodwyd cyfyngiadau yng Nghymru yn seiliedig ar y modelu ac felly dylech fod yn seilio'r broses o lacio ymhellach ar y modelu. Nid oes gennych unrhyw esgusodion i beidio â darparu cynllun o'r fath, Prif Weinidog. Mae'n hanfodol i fusnesau sy'n teimlo'r boen gyda chyfyngiadau ar letygarwch ac iechyd meddwl yn dioddef yn sgil llai o chwaraeon, bod cynllun i ddod allan o'r...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (11 Ion 2022)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Hoffwn ddymuno blwyddyn newydd dda iawn i chi a'r Prif Weinidog a chyd-Aelodau ac iechyd da i bawb hefyd. Prif Weinidog, dros gyfnod y Nadolig, gwelsom y golygfeydd chwerthinllyd yng nghlwb rygbi Caerffili lle yr oedd dim ond 50 o bobl yn cael gwylio'r gêm y tu allan, tra bod cannoedd yn ymgynnull dan do i'w gwylio ar y teledu. Yn anffodus, mae eich cyfyngiadau diweddaraf...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (11 Ion 2022)

Andrew RT Davies: Rwy'n siomedig, Prif Weinidog, i weld eich bod yn benderfynol o barhau ar y trywydd hwn, yn enwedig pan yr oedd yn ymddangos eich bod yn eithriad o ran y mater penodol hwn. Mae parkrun yn mynd yn ei flaen ar draws y Deyrnas Unedig. Yn Lloegr, nid oes cyfyngiadau ar niferoedd yn y dorf, yng Ngogledd Iwerddon, mae capiau ar dorfeydd yn 50 y cant o'r capasiti neu 5,000 o bobl, tra bod newidiadau...

1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar COVID-19 (22 Rha 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i chi am adalw'r Senedd heddiw i roi cyfle i'r Aelodau holi'r Prif Weinidog am y cyfyngiadau y mae'r Llywodraeth wedi'u cyhoeddi? A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i'r Prif Weinidog am hwyluso sesiwn friffio y bore yma i Weinidog iechyd yr wrthblaid a minnau gydag Aelodau o dîm y gell cyngor technegol sy'n cynghori Llywodraeth Cymru? Brif Weinidog, a fydd y...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru (15 Rha 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Nid ydym yn ymddiheuro am ddod â'r ddadl hon gerbron y Senedd eto, gan fod Russell George wedi dweud yn gwbl glir yn ei sylwadau agoriadol fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn hyrwyddo'r achos hwn dros y 18 mis diwethaf. Mae'n hanfodol fod Cymru'n cael ei hymchwiliad annibynnol ei hun, ac os caf...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Rha 2021)

Andrew RT Davies: Rydym ni wedi cael y canlyniadau rhagarweiniol hyn y bore yma, Prif Weinidog, o'r arolwg yn Ne Affrica. Mae gennym ni'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu hefyd, yr wyf i newydd eich holi amdani, a chyflwyniad yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu honno, ond hefyd, yn y gynhadledd i'r wasg a gynhaliodd y Gweinidog iechyd y bore yma, tynnodd sylw at yr effaith ar wasanaethau—gwasanaethau iechyd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Rha 2021)

Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac roedd hi'n dda cael rhywfaint o optimistiaeth o'r adroddiad hwnnw a gyhoeddwyd y bore yma. Yn amlwg, elfen arall o waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw cyflwyno'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu, ac mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn cynnal cynhadledd i'r wasg y bore yma, gan sôn y bydd pawb wedi cael cynnig erbyn diwedd mis Rhagfyr, nid o...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Rha 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Heddiw, Prif Weinidog, mae'r astudiaeth gyntaf yn y byd go iawn ar frechlynnau yn erbyn haint omicron wedi cael ei chyhoeddi. Mae'n bwysig nodi bod y data hwn yn deillio o dair wythnos gyntaf yr achosion, felly gallai newid, ond dyma'r astudiaeth ddifrifol gyntaf o'i math. Mae'r canfyddiadau yn dangos bod amrywiolyn y feirws 29 y cant yn ysgafnach, bod dau ddos o frechlyn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Trawsnewid Canol Trefi ( 8 Rha 2021)

Andrew RT Davies: Ddirprwy Weinidog, pa gymorth rydych yn ei roi i bartneriaid i geisio cael mannau gwefru ynni yng nghanol trefi? Oherwydd os ewch i ganolfannau siopa y tu allan i'r dref, mae llawer o'r cwmnïau preifat sy'n meddiannu'r canolfannau siopa hynny yn gosod mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan. Gwyddom fod Cymru ar ei hôl hi, yn anffodus, mewn perthynas â gosod y mannau gwefru hyn o gymharu â...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu — Diweddariad ( 7 Rha 2021)

Andrew RT Davies: A gaf i ofyn hefyd am y mecanweithiau ar gyfer craffu ar y rhaglen lywodraethu gan y bydd Aelodau dynodedig yn dod o Blaid Cymru yn awr i gefnogi'r gwaith o ddatblygu polisi a gweithio o fewn y Llywodraeth? Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith i graffu ar Aelodau dynodedig, oherwydd tymor newydd yw hwn, mae hi'n sefyllfa newydd. Rwy'n llongyfarch Siân Gwenllian, sef y gyntaf i'w phenodi...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu — Diweddariad ( 7 Rha 2021)

Andrew RT Davies: Prif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ac a gaf i gytuno â chi o ran eich pwynt olaf chi yn y fan yna am yr heriau sydd o'n blaenau ni, a'r angen i bobl ddod ymlaen a chael y brechlyn atgyfnerthu, a threchu'r feirws ofnadwy hwn, a'r pwysau y mae'n eu rhoi ar ein GIG ni hefyd? Felly, peth da bob amser yw dechrau datganiad ar bwynt y ceir cytundeb cyffredin arno, ond lle'r ydym ni'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 7 Rha 2021)

Andrew RT Davies: Diolch am hynna, Prif Weinidog. Edrychaf ymlaen at y cyhoeddiad hwnnw yn fuan, gobeithio. Ond fe wnaethoch chi sôn am jig-so, ac mae patrwm gofal iechyd yn ymwneud â jig-so ac mae'n bwysig bod gan y Llywodraeth strategaethau gyda'i phartneriaid. Nawr, yr wythnos diwethaf, i'r pwyllgor iechyd, tynnodd Ymchwil Canser sylw at sut mai Cymru, cyn bo hir, fydd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig heb...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 7 Rha 2021)

Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n bwysig ein bod ni'n deall pa wasanaethau allai gael eu tynnu yn ôl; fe wnaethoch chi gyfeirio at archwiliadau iechyd, er enghraifft. Pryd gallem ni wybod canlyniad y trafodaethau hyn, oherwydd mae pobl yn wirioneddol bryderus? Bu pwysau dealladwy ar feddygfeydd teulu a chael apwyntiadau ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall yr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 7 Rha 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr am y croeso cynnes iawn a gyda'ch goddefgarwch, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon a thu hwnt sydd wedi anfon dymuniadau gorau ataf i, yn enwedig y nodyn personol a ysgrifennodd y Prif Weinidog ataf i—fe wnes i ei werthfawrogi yn fawr—ynghyd â Gweinidogion eraill hefyd. Gallwn ni beidio ag ildio'r un fodfedd yn y Siambr hon, ond pan...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.