Canlyniadau 241–260 o 2000 ar gyfer speaker:Mick Antoniw

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, tra oeddech yn Wrecsam yn gorymdeithio, roeddwn mewn cynhadledd yng Nghaerdydd yn sôn am ddiwygio'r Senedd, a fydd yn amlwg yn rhywbeth a fydd yn cymryd cryn dipyn o fy amser yn y dyfodol gweddol agos. Credaf fod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ar ddyfodol Cymru—. Un o'r rhesymau dros sefydlu comisiwn annibynnol yw ymgysylltu â phobl Cymru a ffurfio...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Diolch am eich cwestiwn. Mae penderfyniadau ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru yn fater i bobl Cymru benderfynu arnynt drwy'r Senedd hon a etholwyd yn ddemocrataidd. Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru ac i ystyried opsiynau ar gyfer llywodraethu Cymru yn y dyfodol.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Wel, gwrandewch, rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau a wnaethoch. Ac rwyf am wneud y pwynt hwn hefyd: mae llawer o'r ddeddfwriaeth sydd wedi dod i rym, sy'n ymwneud ag amser cyfleuster, yn ddeddfwriaeth y cytunir ar draws y pleidiau gwleidyddol ei bod yn gadarn ac yn bwrpasol. Mae llawer o lefarwyr Ceidwadol wedi dweud eu bod wedi cydnabod pwysigrwydd hynny. Ac os meddyliwch am hynny gyda...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn, ac rwy'n sicr yn cytuno â rhan ohono. Wrth gwrs, fe aeth y ddeddfwriaeth a basiwyd gennym—Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017—drwy'r holl brosesau cywir yn y Siambr hon. Ac wrth gwrs, ar ôl i ddeddfwriaeth gael ei phasio yma, rhaid ei chymeradwyo, neu fe fydd cyfnod o amser lle y gall Llywodraeth y DU herio ei chymhwysedd. Nawr, Llywodraeth y DU, cawsom lythyr gan...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ei bwriad i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn enghraifft arall eto o'i dirmyg tuag at y setliad datganoli, ei amarch tuag at y Senedd hon a etholwyd yn ddemocrataidd, a'i diystyrwch amlwg o hawliau gweithwyr yng Nghymru.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Wel, diolch ichi am y cwestiwn difrïol iawn hwnnw, a rhoddaf ateb sydd efallai'n llai difrïol iddo. Y pwyntiau a wnewch am Brexit, nid wyf yn credu bod unrhyw anghydweld gwirioneddol ymhlith pobl resymol a diduedd nad yw Brexit wedi bod yn dda i Gymru, nad yw wedi bod yn dda i'r Deyrnas Unedig, ac nad yw wedi bod yn dda i Ewrop. Y cwestiwn cyfansoddiadol yw sut yr awn ati i ddatblygu...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Wel, y peth cyntaf, mae llawer o'r newidiadau hynny'n dibynnu ar newid Llywodraeth. Mae'n debyg y gallaf ddweud bod hynny'n edrych yn fwyfwy tebygol yn ddyddiol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Llywodraeth Lafur nesaf yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach—efallai'n fuan iawn hyd yn oed—i drafod diwygio cyfansoddiadol. Mewn perthynas ag arweinydd y Blaid Lafur, wel, wrth gwrs, mae wedi...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Wrth gwrs, cyfarfûm yn ddiweddar â'r Gweinidog Jacob Rees-Mogg er mwyn siarad am gyfreithiau'r UE a ddargedwir, y credaf fod eich cwestiwn yn dechrau ei nodi. Ac wrth gwrs, y Gweinidog cyfleoedd Brexit, a phe bai llyfr yn cael ei ysgrifennu am hynny, byddai'n sicr yn llyfr byr iawn yn wir—. Credaf fod nifer o'r pwyntiau a godwyd gennych yn ymwneud â phortffolios eraill, ond maent yn...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Wel, y darn cyntaf o gyngor y byddwn yn ei roi yw y dylid cynnal pwysigrwydd cyfraith ryngwladol a rheolaeth y gyfraith. Yr ail ddarn o gyngor y byddwn yn ei roi yw gwrthwynebu a pheidio â chefnogi unrhyw ddeddfwriaeth sy'n tanseilio'r egwyddorion hynny, ac un ohonynt, yn amlwg, fyddai gwrthwynebu cyfeiriad y bil hawliau, sydd, mewn gwirionedd, yn trosglwyddo hawliau cyfreithiol i...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Wel, diolch am y cwestiwn. Rydych yn codi pwynt difrifol a phwysig iawn, ac unwaith eto rwyf am ymateb yn adeiladol iawn. Ymdriniwyd â rhai o'r materion sy'n codi o ddiwygio tribiwnlysoedd yn ein papur 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' wrth gwrs. Rhoddir ystyriaeth ar hyn o bryd i'r hyn y gallai strwythur Bil tribiwnlysoedd fod, yr hyn y gallai'r ddeddfwriaeth fod, sut y gallem weithredu...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Refferendwm Newydd ar Annibyniaeth i'r Alban ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Wel, gallaf helpu'r Aelod drwy ddweud bod refferendwm ar annibyniaeth yn fater sy'n amlwg yn bwysig i Lywodraeth yr Alban a'i fod wedi'i godi ganddynt yn ystod etholiadau diwethaf Senedd yr Alban. Cafodd y cyfeiriad gan yr Arglwydd Adfocad ei gyflwyno i mi fel cyd-swyddog y gyfraith ar 28 Mehefin 2022. Cyhoeddodd y Goruchaf Lys orchymyn ar 29 Mehefin, yn rhoi manylion ynglŷn â pha bryd y...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Mynediad at Gyfiawnder yng Nghymru ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y pwyntiau a'r cwestiwn atodol. Ein barn ni yw bod y system gyfiawnder gyfan, a chymorth cyfreithiol yn arbennig, wedi'i thanariannu'n ddifrifol ers peth amser, ac mae Cymru'n dioddef yn anghymesur mewn gwirionedd. Cawsom adolygiad Bellamy wrth gwrs. Cyfarfûm â'r Arglwydd Bellamy, a thrafodasom y gwelliannau y mae'n eu hargymell mewn perthynas â chymorth cyfreithiol troseddol....

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Mynediad at Gyfiawnder yng Nghymru ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Mae cau llysoedd yng Nghymru, cyfyngiadau ar y dyddiau y maent yn weithredol, cyflenwad sy'n lleihau o fargyfreithwyr sy'n barod i fynd i mewn neu barhau i weithio mewn proffesiwn sy'n cael ei danariannu'n ddifrifol, ynghyd ag ôl-groniadau llysoedd, i gyd yn cyfrannu at y ffaith bod y system cyfiawnder troseddol yn beryglus o agos at fethu gweithredu'n effeithiol o gwbl.

QNR: Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: The Welsh Government is committed to tackling rural crime and last year appointed the first all-Wales wildlife and rural crime co-ordinator to underline this commitment. The Welsh Government works very closely with the co-ordinator and with police services in Wales on all aspects of rural crime.

QNR: Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: I raised our concerns about the closure of Cardiff’s Support Through Court office with the new Parliamentary Under-Secretary of State for Justice, Lord Bellamy, in June and highlighted that the closure of services that support litigants in person would undermine access to justice in Wales.

QNR: Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ( 6 Gor 2022)

Mick Antoniw: The Foreign Secretary, the Rt Hon Liz Truss MP, introduced the Northern Ireland Protocol Bill in the House of Commons on 13 June, without any prior meaningful engagement by the UK Government with the Welsh Government. We are giving the Bill due consideration to understand the implications for Wales.

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ( 5 Gor 2022)

Mick Antoniw: A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau cefnogol iawn hynny? Rwy'n sicr yn cytuno â'r holl sylwadau hynny am y cyffro. Yn wir, roeddwn yn gallu gweld y cyffro'n tonni drwy'r Siambr wrth imi sefyll i siarad ac i'r Aelodau adael yr ystafell. Yn natur rhai o'r prosesau deddfwriaethol hyn, nid ydyn nhw ynddynt eu hunain yn creu cyffro naturiol, ond yr hyn a wnânt yw creu cyffro gwirioneddol am...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ( 5 Gor 2022)

Mick Antoniw: Diolch i'r Aelod am y sylwadau hynny, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r holl Aelodau, ac yn enwedig gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a fydd yn craffu ar y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. Wrth gwrs, bydd amryw wedi sylwi nad yw hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n cael ei ddiwygio yn y ffordd arferol. Hynny yw, y prif waith fydd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ( 5 Gor 2022)

Mick Antoniw: Mae'r cydgrynhoi'n cyflwyno sawl darn o ddeddfwriaeth sy'n mynd yn ôl ymhell cyn datganoli, ond fel y gwelwch chi o adran 1 o'r Bil, sy'n rhoi trosolwg, mae'n nodi, mewn gwirionedd, beth yw'r ddeddfwriaeth, ond hefyd beth yw'r amcan a beth yw diben y cydgrynhoi a sut y bydd hynny'n gweithredu. Felly, y Rheolau Sefydlog yr ydym ni'n gweithio gyda nhw i ganiatáu inni ailddatgan y gyfraith;...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.