Canlyniadau 241–260 o 400 ar gyfer speaker:Sioned Williams

8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU (26 Ion 2022)

Sioned Williams: Canfu ymchwil gan Stonewall fod 34 y cant o bobl draws ac anneuaidd y cafodd eu dulliau adnabod eu hamau neu eu gwrthod yn y gorffennol yn nodi mai'r broblem oedd gwahaniaeth rhwng lluniau ac ymddangosiad. Dywedodd 32 y cant nad oedd eu dulliau adnabod yn cyd-fynd â'u henwau a roddwyd. Dywedodd 20 y cant nad oedd y dynodwr rhywedd yn cyfateb i'w hymddangosiad. Nododd 16 y cant elyniaeth a...

8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU (26 Ion 2022)

Sioned Williams: Allwn ni ddim ar un llaw ddweud ein bod ni'n cefnogi hawliau grwpiau fel pobl draws ac anneuaidd mewn meysydd polisi fel iechyd ac addysg, ond yna ganiatáu amharu ar eu gallu sylfaenol i fynegi eu barn ddemocrataidd. Bydd y Bil hwn hefyd yn effeithio'n anghymesur ar bobl ifanc, fel dŷn ni wedi clywed yn barod. Mae ein holl ymdrechion yma i sicrhau bod pobl ifanc yn ymgysylltu â'r broses...

8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU (26 Ion 2022)

Sioned Williams: Yn eu cyfraniadau i'r ddadl prynhawn yma, mae fy nghyd-Aelodau o Blaid Cymru wedi tynnu sylw at bryderon sy'n cael eu rhannu gan nifer o fudiadau, elusennau a sefydliadau eraill. Y bobl sydd mewn mwyaf o risg o golli eu llais democrataidd yn sgil y Bil hwn yw'r rheiny o grwpiau sydd eisoes wedi'u difreinio. Ddoe, fe soniais i mewn perthynas â Diwrnod Cofio'r Holocost mor wyliadwrus sydd...

4. Datganiadau 90 Eiliad (26 Ion 2022)

Sioned Williams: Diolch, Llywydd. Ddydd Llun yr wythnos hon oedd Diwrnod Rhyngwladol Addysg, diwrnod sy’n dathlu rôl addysg o ran hyrwyddo heddwch a datblygu ar draws y byd. Mae Diwrnod Rhyngwladol Addysg eleni unwaith eto'n disgyn yng nghanol pandemig COVID-19 ac, fel llefarydd Plaid Cymru ar addysg ôl-16, hoffwn gymryd y cyfle i longyfarch y sector yng Nghymru am barhau i gydweithio ar lefel ryngwladol...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Cofio'r Holocost (25 Ion 2022)

Sioned Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn ei lyfr arobryn Yr Erlid, mae Heini Gruffudd o Abertawe yn olrhain hanes ei fam, y llenor a'r ysgolhaig, Käthe Bosse-Griffiths, ac effaith erchyll twf Natsïaeth yr Holocost arni hi a'i theulu yn yr Almaen. Cawson nhw, fel miliynau o deuluoedd eraill nad oedd yn cael eu hystyried yn bobl gan y Natsïaid a'u cynghreiriaid, eu herlid, a rhai fel ei fam yn gorfod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Stelcio (25 Ion 2022)

Sioned Williams: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu eich ateb. Yn 2012, yn dilyn ymgyrch dan arweiniad cyn-AS Plaid Cymru Elfyn Llwyd, daeth deddfau newydd i rym a oedd, am y tro cyntaf, yn cydnabod stelcio fel trosedd benodol. Chwaraeodd fy nghyd-Aelod Plaid Cymru Delyth Jewell ran ganolog yn yr ymgyrch hon hefyd. Gan ei bod hi'n Fis Ymwybyddiaeth Stelcio Cenedlaethol, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Stelcio (25 Ion 2022)

Sioned Williams: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o stelcio? OQ57529

7. Dadl Plaid Cymru: Costau byw (19 Ion 2022)

Sioned Williams: Wrth drafod mynd i'r afael â'r pandemig, mae'r Llywodraeth wedi sôn yn aml am bwysigrwydd gweithredu'n gynnar ac yn galed. Dyna'r union agwedd sydd ei hangen gyda'r argyfwng yma. Rhaid darparu cysgod, oes, ond mae hefyd angen ceisio atal y storm rhag cyrraedd ei hanterth ddinistriol. Nid sioc economaidd fer yw hon. Fel y pandemig, bydd ei heffeithiau yn para am flynyddoedd. Rhaid dangos...

7. Dadl Plaid Cymru: Costau byw (19 Ion 2022)

Sioned Williams: Rhaid inni wrando a gweithredu ar frys ar y dystiolaeth a'r awgrymiadau a argymhellir ar gyfer ffyrdd y gallwn ni yng Nghymru wneud mwy i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Byddai uwchgynhadledd frys, fel y dywedais, yn gam cyntaf a allai helpu i lywio cynllun gweithredu costau byw brys. Mae angen mentrau i gefnogi rhentwyr, er enghraifft, sydd wedi bod ymhlith y rhai a gafodd eu taro galetaf...

7. Dadl Plaid Cymru: Costau byw (19 Ion 2022)

Sioned Williams: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae ein cynnig y prynhawn yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu brys i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw sy'n bwrw teuluoedd Cymru. Mae'n argyfwng sy'n pwyso ar aelwydydd ar draws y Deyrnas Gyfunol ond Cymru fydd, a sydd, yn cael ei bwrw waethaf gan y storm economaidd a'r niwed cymdeithasol enbyd fydd yn deillio ohoni yn sgil...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lefelau Trosglwyddo COVID-19 (19 Ion 2022)

Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r camau rŷch chi wedi'u hamlinellu yn eich ateb. Mae'r pandemig wedi datgelu'n glir yr anghydraddoldebau sosio-economaidd sy'n bodoli yn ein cymdeithas, ac yn wir wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau hyn. Mae'r anghydraddoldebau hyn hefyd yn rhai iechyd, gyda pherthynas glir yn bodoli rhwng sefyllfa sosio-economaidd rhywun ac effaith COVID arnynt. Mae ffigurau...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lefelau Trosglwyddo COVID-19 (19 Ion 2022)

Sioned Williams: 5. Pa gamau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â lefelau trosglwyddo COVID-19? OQ57467

9. & 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 1 a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 2 (18 Ion 2022)

Sioned Williams: Gallwn fynd ymlaen i fanylu ar ein gwrthwynebiad i nifer o gymalau eraill y Bil maith hwn, sy'n mynd i effeithio'n andwyol ac yn anghymesur ar leiafrifoedd, ar fenywod, ar blant, ar ein hawliau sifil, ac a fydd yn sicr o waethygu'r anghydraddoldebau presennol yn ein system cyfiawnder troseddol. Ond fe wnaf i gloi drwy ddatgan bod y Bil yn enghraifft arall o pam mae angen i ni ddatganoli...

9. & 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 1 a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 2 (18 Ion 2022)

Sioned Williams: Fe hoffwn i droi'n awr at y ffordd y mae Rhan 4 o'r Bil yn targedu pobl Roma, Sipsiwn a Theithwyr yn fwriadol. Mae darpariaeth yn y Bil sy'n troi tresmasu o fod yn drosedd sifil i fod yn drosedd, gan ganiatáu i'r heddlu arestio pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac atafaelu eu cartrefi, eu cerbydau, os ydynt yn stopio mewn mannau nad ydynt wedi'u dynodi ar eu cyfer. O ystyried na all safleoedd...

9. & 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 1 a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 2 (18 Ion 2022)

Sioned Williams: Am gynnig 1, mae Plaid Cymru unwaith eto am nodi ar y cofnod ein safbwynt mai Senedd Cymru ddylai ddeddfu mewn meysydd polisïau datganoledig, yn enwedig yn wyneb awydd digynsail Llywodraeth San Steffan i danseilio ein hawdurdod datganoledig, ein hunaniaeth fel cenedl, a'n hawl democrataidd i benderfynu yr hyn sydd o fudd i'n cymunedau ein hunain. Ni ddylwn gydsynio i hynny ar unrhyw...

9. & 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 1 a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 2 (18 Ion 2022)

Sioned Williams: Mae eithafiaeth beryglus Llywodraeth bresennol y Torïaid yn San Steffan yn amlwg pan fydd yn annog Tŷ'r Arglwyddi i weithredu gyda'r penderfyniad a ddangosodd neithiwr, yn trafod hyd oriau mân y bore gan drechu cymal ar ôl cymal o'r hyn a ystyriwyd yn gynigion gormesol a chywilyddus y Llywodraeth, sy'n bygwth tanseilio hawliau sifil cyffredinol a hawliau sylfaenol. Llywydd, mae'n rhaid...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig (12 Ion 2022)

Sioned Williams: Rwy'n dod i ben—brawddeg olaf. Mae'n rhaid inni ofyn ein hunain am faint yn rhagor y gallwn fforddio derbyn y cyfyngiadau sydd wedi eu gorfodi arnom fel cenedl gan undeb anghytbwys, Llywodraeth San Steffan sy'n hidio dim am Gymru, a fformiwla ariannu hollol annigonol ac anghyfiawn? Sawl adroddiad arall fel hwn, â'i rhybuddion clir fod rhywbeth mawr o'i le, y bydd angen inni eu darllen cyn...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig (12 Ion 2022)

Sioned Williams: Mae pawb ohonom yn y Siambr yn darllen adroddiadau a dogfennau briffio niferus am y problemau y mae angen inni fynd i'r afael â nhw, ond hoffwn nodi, fel Aelod newydd o'r Senedd, mai ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddyled a'r pandemig oedd fy ymchwiliad pwyllgor cyntaf, a bod clywed tystiolaeth uniongyrchol am sut mae angen gwneud mwy i gynorthwyo teuluoedd i...

5. Datganiadau 90 Eiliad (12 Ion 2022)

Sioned Williams: Yr wythnos hon, bu farw'r arlunydd Mike Jones o Bontardawe, sy'n adnabyddus am ei bortreadau o gymunedau gwerinol diwydiannol y de, yn enwedig ei gwm Tawe genedigol. Magwyd Mike yng Nghilmaengwyn a Godre'r Graig, ger Ystalyfera, pan oedd y diwydiannau trwm yn eu bri. Glöwr oedd ei dad, a chadwai ei rieni dafarn hefyd—lle delfrydol i arsylwi ar gymeriadau ei fro. Ac roedd Mike yn un o'r llu...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (12 Ion 2022)

Sioned Williams: Diolch. Mae’r un adroddiad, sef adroddiad y pwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd yn cyflymu ei rhaglen Cartrefi Clyd fel ffordd o fynd i’r afael â thlodi tanwydd, gan fod yn rhaid ei chyflymu o ystyried yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, sydd wedi’i waethygu gan y cynnydd aruthrol ym mhrisiau tanwydd,...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.