Sam Rowlands: Diolch am y cyfraniad, Mike Hedges. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydych chi'n cyfeirio ato yn amlwg yn awydd i drethu rhai ardaloedd yn llawer mwy sylweddol nag eraill. Wrth gwrs, yr hyn y mae angen i ni ei weld yw setliad teg er budd trigolion ledled Cymru. Mae'r gwahaniaeth hwnnw i mi yn gyfle nad ymdriniwyd ag ef. Rwyf i hefyd yn siomedig o weld nad oes unrhyw sôn o hyd gan Lywodraeth Cymru...
Sam Rowlands: Gweinidog, fel y gwyddoch chi'n iawn, mae cynghorau, wrth gwrs, wedi croesawu'r setliad llywodraeth leol yn gyffredinol ar gynnydd o 9.4 y cant ar gyfartaledd ar draws y cynghorau hynny. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod hynny ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd o danariannu i gynghorau ledled Cymru. Mae'n bwysig nodi hefyd bod rhai heriau o ran y ffordd y cafodd yr arian hwn ei ddyrannu, ac...
Sam Rowlands: Diolch i Lywodraeth Cymru a'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw ar gyllideb ddrafft 2022-23, cyllideb ddrafft yr wyf fi, ac rwy'n siŵr y mae llawer o bobl ledled Cymru wedi bod yn aros yn eiddgar amdani. Rwy'n siŵr y gall pob Aelod ar draws y Siambr gytuno bod y gyllideb hon wedi dod ar adeg anodd, wrth i ni barhau i symud allan o bandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'n hochr ni...
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw, sydd, wrth gwrs, yn amserol iawn. Hoffwn, yn gyntaf oll, ymuno ag Aelodau ar draws y Siambr i gydnabod yr anawsterau sy'n deillio o'r cynnydd i'r costau ynni hyn, a fydd yn taro llawer o deuluoedd sy'n gweithio'n galed ar hyd a lled y wlad. Fel rydych chi wedi tynnu sylw ato yn eich datganiad, Gweinidog, ceir problemau hirdymor, fodd bynnag,...
Sam Rowlands: Yn bendant. Ac mae Mr Sargeant yn gwneud pwynt pwysig iawn, yn enwedig mewn perthynas â'i chariad at addysg yn ogystal â gweld eraill yn meithrin uchelgais ac yn gwneud yn dda mewn bywyd. Mae’r gwaith gwych y mae hi wedi’i wneud yn gweithio gyda, a chafodd ei grybwyll yn gynharach, gydag oddeutu 14 o Brif Weinidogion gwahanol y DU—rwy’n siŵr ei bod hi’n ddigon anodd gweithio...
Sam Rowlands: A gaf fi ddweud diolch wrth fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno’r ddadl hynod bwysig hon y prynhawn yma? Fel y gŵyr pob Aelod, mae Ei Mawrhydi’r Frenhines yn cyrraedd deng mlynedd a thrigain ers iddi gael esgyn i’r orsedd ar 6 Chwefror, ac fel y dywed ein cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig, yn sicr, fe hoffwn innau hefyd gyfrannu at estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf i’w...
Sam Rowlands: Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw, ac fel y gwyddom, codwyd y mater gyda'r Prif Weinidog ddoe hefyd fel rhan o gwestiynau'r Prif Weinidog, ac mae pryder trawsbleidiol yn ei gylch yn y Siambr. Yn ei ymateb ddoe, amlinellodd y Prif Weinidog na fyddai'n cefnogi ymchwiliad cyhoeddus, oherwydd yr amser y gallai ei gymryd, a byddai'n ystyried na fyddai hynny er budd gorau...
Sam Rowlands: Diolch, Weinidog. Mae'n debyg mai'r risg rwy'n cyfeirio ati yw ein bod yn sôn am ddiwygio, ac yn sôn, yn fy marn i, am newid mwy cyffredinol, ac efallai nad diwygio yw rhai o'r pethau rydych newydd eu crybwyll ond mân newidiadau ar yr ymylon. Ac nid yw ailbrisio, gan ychwanegu ychydig o fandiau ychwanegol, o bosibl, at y dreth gyngor, yn ddiwygio go iawn. Ac wrth gwrs, y tro diwethaf i...
Sam Rowlands: Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Weinidog, sut y byddech yn diffinio’r gair 'diwygio’?
Sam Rowlands: Hyfryd, a diolch, Weinidog—rydych wedi dyfalu mai cyfres o gwestiynau ar ddiwygio’r dreth gyngor sydd gennyf; roeddwn wedi gobeithio bod hynny'n weddol amlwg. Fel pob Aelod ar draws y Siambr, rwy'n siŵr, mae gennyf gryn dipyn o ddiddordeb yn nogfen y cytundeb cydweithio rydych wedi ymrwymo iddo gyda Phlaid Cymru, ac ynddo, fel y nodoch chi, ar fater diwygio’r dreth gyngor, mae gennych...
Sam Rowlands: Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ynghylch uwchraddio stoc reilffyrdd a moderneiddio trenau yng Nghymru. Fel yr ydym ni wedi ei glywed eisoes heddiw, mae llawer o bobl ledled Cymru yn ceisio ystyried symud tuag at ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy i gefnogi ein hamgylchedd a lleihau allyriadau carbon. Wrth gwrs, mae hon yn rhan bwysig o raglen...
Sam Rowlands: Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw. Sylwaf hefyd bod gan gyd-Aelod gwestiwn ar y pwnc hwn yfory, felly mae'n amlwg yn fater pwysig i drigolion y gogledd. Prif Weinidog, fel yr amlinellwyd eisoes yma, cafwyd y newid sylweddol hwnnw i'r gwasanaethau fasgwlaidd yn y gogledd. Mae Mr ap Gwynfor wedi tynnu sylw at lawer o'r problemau y mae'n ymwybodol ohonyn nhw, ac rwy'n...
Sam Rowlands: Yn sicr, nid yw sylwadau a wnaeth fy nghyd-Aelodau yn destun embaras i mi, ac rydych yn llygad eich lle, dylem fod yn gweld cyfyngiadau'n cael eu dileu cyn gynted â phosibl, ac wrth gwrs, mae gan wyddoniaeth a gwybodaeth rôl allweddol i'w chwarae yn y broses o wneud y penderfyniadau hynny. Ar yr eitemau adeiladol y credaf fod yr Aelodau wedi'u nodi heddiw y gallwn, gobeithio, barhau i...
Sam Rowlands: Ydw, o'r gorau.
Sam Rowlands: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau o bob rhan o'r Siambr rithwir y prynhawn yma a gyfrannodd at y ddadl bwysig hon, ac wrth gwrs i'r Gweinidog hefyd am eich ymateb. Hoffwn ymuno â chi, Weinidog, i ddiolch i'n hathrawon, staff ysgolion a staff awdurdodau addysg lleol, pawb sy'n cymryd rhan drwy'r cyfnod anodd hwn, i sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu ac...
Sam Rowlands: Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o broblem y B5605 yn Wrecsam, a godwyd yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe. Fodd bynnag, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn gyfarwydd â'r problemau yno. Fe'i codwyd hefyd yng nghwestiynau Prif Weinidog y DU y prynhawn yma gan fy nghyd-bleidiwr, Simon Baynes AS. Ac mae cau'r ffordd hon ers mwy na blwyddyn bellach wedi cael effaith enfawr...
Sam Rowlands: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Ers i mi ddod yn Aelod o'r Senedd, un o'r pethau cyntaf a wnes i oedd cwrdd ac ymweld â Thŷ Gobaith yn fy rhanbarth i, gogledd Cymru, sydd, ynghyd â Thŷ Hafan, yn gwneud gwaith eithriadol, ac mae'r cyfan wedi cael ei gydnabod yma heddiw, wrth gefnogi cleifion ifanc a'u hanwyliaid. Rwyf i wedi cael fy synnu gan y...
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Fel roeddech chi'n ei amlinellu ar y dechrau, mae caffael yn un o'r ysgogiadau sylweddol hynny y gellir eu defnyddio wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ac roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed chi'n cyfeirio at allu cefnogi datgarboneiddio drwy bolisi caffael clir, deallus ac effeithiol—dyna roeddech chi'n ei ddweud. Wythnos...
Sam Rowlands: Diolch i’r Aelod am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn hefyd. Weinidog, oherwydd y cyfyngiadau pellach dros y Nadolig ac i mewn i’r flwyddyn newydd, mae’r cyhoeddiad am ragor o gymorth ariannol o’r gronfa cadernid economaidd i’w groesawu ar gyfer y busnesau hynny wrth gwrs. Fodd bynnag, oherwydd lefel a hyd y cyfyngiadau diweddaraf hyn, nid yw'n ddigon i lawer ohonynt. Enghraifft o...
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw. Roeddech chi'n sôn am 11 mlynedd o briodas. Rwyf i wedi bod yn briod am 13, ac rwy'n siŵr nad yw arwyddocâd y rhif hwnnw mor anlwcus ag y mae rhai'n ei awgrymu. Ond, i fynd yn ôl at eich datganiad chi, roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed chi'n cyfeirio at Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy. Ni fu amser gwell erioed, yn fy marn i, i Lywodraeth...