Rhys ab Owen: Mae democratiaeth dda yn adlewyrchu dewisiadau ei phleidleiswyr, nid 40 y cant ohonynt yn unig, ond cymaint ohonynt â phosibl. Os ydym am frwydro yn erbyn difaterwch gwleidyddol, mae angen inni helpu pobl i wneud y gorau o'u pleidleisiau a'u lleisiau.
Rhys ab Owen: Dywedodd John Stuart Mill—.
Rhys ab Owen: Dywedodd John Stuart Mill, yn ôl ym 1861, mai egwyddor gyntaf democratiaeth yw hyn: cynrychiolaeth yn gyfrannol â’r niferoedd. Heddiw, gadewch i ni, yn y Senedd hon, beidio â chaniatáu syniadau hen ffasiwn, peidio â chaniatáu rhagfarnau, peidio â chaniatáu i’r uchelgais am bŵer rwystro’r egwyddor ddemocrataidd sylfaenol hon. Diolch yn fawr.
Rhys ab Owen: Rydym ni'n aml yn clywed yn y lle hwn am y diffyg sy’n pleidleisio, ac mae apathi gwleidyddol yn amlwg yn ein gwlad. Mae Sam Rowlands yn aml yn sôn am y diffyg pobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd. Ond un ffordd o ddelio â hynny yw sicrhau bod democratiaeth Cymru yn cael ei hadlewyrchu llawer yn well yn ein llefydd grym ni.
Rhys ab Owen: Ac mae cydweithrediad, fel rwy’n falch o weld, wedi bod yn ganolog i'r Senedd hon o’r dechrau. Ni fu mwyafrif yn y Senedd hon erioed, gyda chlymbleidiau a chydweithredu yn rhan o'r patrwm arferol. Ac rwy’n falch o weld mai cytundeb cydweithio Plaid Cymru a Llafur yw’r ymgorfforiad diweddaraf o hynny. Yn ystod yr etholiad yn 2021, gwn fod llawer o sylwebwyr a llawer o wleidyddion yn...
Rhys ab Owen: A dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniad fy nghyfaill Heledd Fychan mewn ychydig, o'i phrofiad hithau yng Ngweriniaeth Iwerddon. Pam does neb wedi symud yn ôl i'r system cyntaf i'r felin? Wel, oherwydd dyw'r system yna ddim yn ffit i ddemocratiaeth fodern. Mae'n rhaid inni symud o'r syniad bod gwleidyddiaeth yn frwydr, bod gan wleidyddiaeth enillwyr a chollwyr. Yn y teyrngedau hyfryd i Aled...
Rhys ab Owen: Mae pleidleisio cyntaf i'r felin yn arwain at bleidleisio tactegol, ac mae hynny yn ei hanian yn beth gwael, yn beth niweidiol i ddemocratiaeth. Pleidleisio i gadw rhywun mas, yn hytrach na phleidleisio dros bwy maen nhw wirioneddol ei eisiau. Pleidleisio dros blaid sy'n fwy yn aml, yn hytrach na phleidleisio dros blaid maen nhw'n wirioneddol eisiau ei chefnogi, fel y Gwyrddion er enghraifft.
Rhys ab Owen: Rydym yn cyfyngu ar ryddid pobl i ddewis drwy gadw system hynafol y cyntaf i’r felin, sydd bellach bron yn 150 mlwydd oed. Nid yn unig fod dadl foesol dros gyflwyno system gyfrannol, ceir rhesymau ymarferol cryf dros wneud hynny hefyd. Mewn llawer o gynghorau yng Nghymru a Lloegr, mae un blaid yn llenwi dros 75 y cant o'r seddi. Gall hyn roi rhwydd hynt i gynghorau a gweinyddiaethau mewn...
Rhys ab Owen: Rwy'n falch eich bod eisoes yn darllen eich holl ymyriadau a baratowyd ymlaen llaw. Gadewch imi ateb: mae'r syniad hwn fod y ganran sy'n pleidleisio yn is mewn system gynrychiolaeth gyfrannol yn gwbl chwerthinllyd. Yn Awstralia, mae bron yn 100 y cant; yn Wcrain, mae dros 90 y cant; ym Malta, mae dros 90 y cant. Nid yw'r ganran sy'n pleidleisio yn gostwng ar ôl cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol.
Rhys ab Owen: Yr Alban—ac rwy’n dod at eich pwynt cyn bo hir, Gareth—cyflwynodd yr Alban system y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn 2007 ar draws pob awdurdod lleol, ac mae’r newid wedi bod yn ddramatig. Mae consensws wedi dod yn rhywbeth arferol, gyda chynghorwyr yn gweithio ar y cyd er budd eu hetholwyr. Yn ogystal â hynny, mae democratiaeth leol wedi’i chryfhau. Yn 2003, yn yr Alban, roedd 61...
Rhys ab Owen: Un enghraifft arall o etholiadau lleol 2017: yn ward yr Eglwys Newydd a Thongwynlais yng ngogledd Caerdydd, enillodd y Blaid Geidwadol y pedair sedd, er na phleidleisiodd 60 y cant o’r pleidleiswyr dros y Ceidwadwyr. Pob un sedd, 40 y cant yn unig o'r bleidlais, cafodd 4,092 o bleidleisiau yn yr un ward honno eu gwastraffu. Ni ddylai hyn ymwneud â gwleidyddiaeth bleidiol, ni ddylai hyn...
Rhys ab Owen: Dwi'n falch bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn galluogi system fwy cyfrannog i gael ei defnyddio mewn etholiadau lleol o fis Mai yma ymlaen. Ond mae angen arweiniad cenedlaethol arnom ni neu fe ddaw yr hen cliché diflas Saesneg, turkeys voting for Christmas i'r meddwl.
Rhys ab Owen: Fel dywed yr hen ddihareb Cymraeg, cymuned o gymunedau yw Cymru, ond er mwyn i ddemocratiaeth fod yn gadarn yn ein gwlad ni, mae'n rhaid i gymunedau deimlo eu bod nhw'n cael eu cynrychioli a bod eu lleisiau yn cael eu clywed a'u gwrando.
Rhys ab Owen: Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad.
Rhys ab Owen: Os gwrandewch am ychydig eto, Gareth Davies, fe gewch wybod—rwyf ar fin dod at hynny.
Rhys ab Owen: Fel dywed yr hen ddihareb, cymuned o gymunedau, ond mae'n rhaid bod eu lleisiau nhw yn cael eu gwrando.
Rhys ab Owen: Fe fyddwch yn clywed pobl ddi-Gymraeg, wrth siarad Saesneg, yn defnyddio'r term 'chwarae teg'. Yn sicr, nid oes chwarae teg yn y system bresennol. Mae gennym bleidiau yng Nghymru heddiw sy’n ennill llai o lawer na hanner y bleidlais, ond sy’n ennill rheolaeth ar 100 y cant o’r weithrediaeth. Rwy’n hyderus fod pob Aelod o’r Senedd hon yn llawer mwy o ddemocrat nag unrhyw deyrngarwch...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr ichi, Llywydd. Fel y gwyddoch chi, bawb yn y Siambr hon, gair Groegaidd yw 'democratiaeth'. Gwraidd y gair yw'r geiriau 'demos' a 'kratia' sy'n golygu 'rheolaeth gan y bobl'. Ond meddylfryd 'winner takes all' sy'n dra arglwyddiaethu yng Nghymru ac yn enwedig yn Lloegr ar hyn o bryd—system lle mae un blaid yn dueddol o ennill popeth, a'r lleill yn dueddol o golli'r cwbl. Mae...
Rhys ab Owen: Gweinidog, cyn i fi holi fy nghwestiwn i, welais i'r bore yma ar Politico ei bod hi'n ben-blwydd arnoch chi a Peter Hain, felly pen-blwydd hapus iawn i chi. Pa ffordd well i ddathlu nag ateb cwestiynau fan hyn yn y Senedd? Gweinidog, un o gonglfeini gofal meddygol yn ein cymunedau yw meddygon teulu, a dwi'n gwybod bod chi'n ymwybodol iawn o gonsérn nifer o gymunedau fel Pentyrch yng...
Rhys ab Owen: A wnewch chi gymryd ymyriad?