Canlyniadau 241–260 o 600 ar gyfer speaker:Jack Sargeant

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cefnogi’r bwriad i greu Banc Cymunedol ar gyfer Cymru (14 Rha 2021)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fe wyddoch chi, yn amlwg, y bûm i'n ceisio gweithio'n galed iawn i ddod â changen banc cymunedol i Fwcle yn fy etholaeth i, ac rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi bod ymrwymo i ddechrau banc cymunedol cyntaf Cymru ac agor cangen yn un beiddgar ac yn un i'w groesawu. Felly, rwyf yn ddiolchgar iawn i chi a'ch swyddogion, ond hefyd yn ddiolchgar iawn...

5. Dadl ar ddeiseb P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth ( 8 Rha 2021)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Craig Shuttleworth a holl lofnodwyr y ddeiseb hon am roi'r pwnc hwn ar yr agenda heddiw. Credaf ei bod yn glir o'r cyfraniadau a wnaed gan yr holl Aelodau, ac o ymateb y Gweinidog, fod consensws trawsbleidiol clir, nid yn unig ar y rheswm pam y mae angen inni weithredu i ddiogelu gwiwerod coch, ond hefyd ar y camau sydd angen eu rhoi ar waith....

5. Dadl ar ddeiseb P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth ( 8 Rha 2021)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon.

5. Dadl ar ddeiseb P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth ( 8 Rha 2021)

Jack Sargeant: Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Craig Shuttleworth ym mis Mehefin ac fe gafodd 10,000 o lofnodion cyn diwedd mis Gorffennaf. Lywydd, mae hynny'n dweud wrthyf fod llawer o bobl yng Nghymru, ac ar draws y byd, yn hoff iawn o wiwerod coch. Ac er nad yw'n ganolbwynt i'r ddadl heddiw, hoffwn sôn am ddeiseb P-06-1225, 'Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jack Sargeant: Ar gyfer y cofnod, yn 2018 deuthum yn llysgennad balch y Rhuban Gwyn, ac rwy'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw gan y Gweinidog. Ond, rwyf eisiau dechrau gyda datganiad a neges syml na ellir ei dweud digon: dynion sy'n gorfod newid os ydym ni am fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a chasineb yn erbyn menywod. Dirprwy Lywydd, rydym wedi clywed heddiw gan y Gweinidog a'r Aelodau ar...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymdeithasau Budd Cymunedol ( 7 Rha 2021)

Jack Sargeant: Rwy'n cofio'r ymweliad gyda'r Prif Weinidog â Bwcle yn fy etholaeth i yn annwyl iawn. Roedd yn ymweliad ardderchog rai misoedd yn ôl. Roedd hi'n Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ddydd Sadwrn diwethaf, fel y gwyddom ni, a'r busnesau bach hynny, fel y cigyddion ar stryd fawr Bwcle, y trinwyr gwallt ar stryd fawr Bwcle a'r llu o fusnesau eraill, sy'n cadw mwy o arian yn ein cymunedau bob un diwrnod...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Sectorau â Chyflogau Uwch ( 1 Rha 2021)

Jack Sargeant: Weinidog, mae'r diwydiant awyrofod yn ffynhonnell cyflogaeth â chyflog da yn fy etholaeth i, yn enwedig Airbus a'i gadwyn gyflenwi gyfagos, ond mae'r manteision yn mynd yn llawer pellach nag Alun a Glannau Dyfrdwy yn unig—maent yn ymestyn ar draws pob rhan o Gymru. Bydd y setiau sgiliau hyn yn y diwydiant o fantais i ni ar gyfer y dyfodol, a chredaf ein bod wedi gweld y gorau o'r set...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Yr Argyfwng Hinsawdd (30 Tach 2021)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y mater hwn wrth arwain y ffordd. Yn fy etholaeth i, mae Ysgol Golftyn yn enghraifft wych o arwain y ffordd ar y mater penodol hwn. Gwnaeth pob disgybl blwyddyn 2 o'r ysgol ysgrifennu ataf i'n ddiweddar, a chefais wahoddiad i'r ysgol i ateb cwestiynau heriol am newid hinsawdd. Cododd y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Yr Argyfwng Hinsawdd (30 Tach 2021)

Jack Sargeant: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o ddifrifoldeb yr argyfwng hinsawdd? OQ57283

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyngor ar Gyfraith Gyhoeddus (24 Tach 2021)

Jack Sargeant: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ail ateb. [Chwerthin.] Gwnsler Cyffredinol, ceir corff cynyddol o gyfraith sy'n benodol i Gymru ac mae llawer ohono wedi'i gynllunio i rymuso trigolion yng Nghymru i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif. Nawr, nid yw'r cyngor sydd ar gael ar gyfraith gyhoeddus yng Nghymru wedi dal i fyny'n ddigon cyflym. Deallaf nad oes unrhyw gwmnïau cyfraith gyhoeddus yng...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Incwm Sylfaenol Cyffredinol (24 Tach 2021)

Jack Sargeant: Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun peilot ar yr incwm sylfaenol cyffredinol, syniad yr ysgogwyd diddordeb ynddo yn sgil y ddadl a arweiniais yn llwyddiannus yn y Senedd ddiwethaf. Ond mae'n bwysig inni gael treial llwyddiannus yma yng Nghymru, oherwydd gallai hynny ychwanegu at yr achos y sonioch...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Incwm Sylfaenol Cyffredinol (24 Tach 2021)

Jack Sargeant: 1. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol? OQ57245

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyngor ar Gyfraith Gyhoeddus (24 Tach 2021)

Jack Sargeant: 2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am fynediad at gyngor ar gyfraith gyhoeddus yng Nghymru? OQ57230

3. Cwestiynau Amserol: Gyrwyr Bysiau Arriva Cymru (17 Tach 2021)

Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar am eich ateb, Weinidog. Lywydd, rwyf am ddechrau drwy ddweud fy mod, fel y gyrwyr hyn, yn aelod balch o undeb Unite. Mae'r gyrwyr hyn yn byw yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a'r peth olaf y maent yn dymuno'i wneud yw bod ar streic, ond maent yn y sefyllfa hon am fod Arriva'n talu cyfraddau gwahanol am yr un swydd, yr un swydd yn union, dafliad carreg i ffwrdd dros y...

3. Cwestiynau Amserol: Gyrwyr Bysiau Arriva Cymru (17 Tach 2021)

Jack Sargeant: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gyrwyr bysiau Arriva Cymru sy'n ceisio cyflog teg? TQ580

8. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Gwarant i Bobl Ifanc (16 Tach 2021)

Jack Sargeant: Gweinidog, rwyf yn croesawu'n fawr y datganiad heddiw, yn enwedig y warant ei hun. Wedi'r cyfan, Llywodraeth Lafur Cymru a gefnogodd fy llwybr drwy fy mhrentisiaeth mewn menter fach a chanolig leol yng Nglannau Dyfrdwy. A byddwch chi'n ymwybodol iawn bod Airbus UK yn fy etholaeth i yn gyflogwr enfawr i brentisiaid a hyfforddeion graddedig, ac mae ymrwymiad Airbus a'i hyblygrwydd dros y...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Manteision Addysgol Prentisiaethau (10 Tach 2021)

Jack Sargeant: Diolch i Mr Rowlands am godi'r cwestiwn pwysig hwn heddiw. Weinidog, dysgais bethau wrth fy ngwaith yn fy mhrentisiaeth beirianneg nad oeddent yn cael eu dysgu yn yr ysgol na'r coleg, nac yn fy ngradd ran-amser pan astudiais ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae'r rhain yn sgiliau sydd o fudd i unrhyw un am weddill eu hoes. Ac yng ngeiriau Michael Halliday, fy nghydweithiwr y cwblheais fy mhrentisiaeth...

8. Dadl: Cofio a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ( 9 Tach 2021)

Jack Sargeant: Rwyf i hefyd yn ddiolchgar iawn am gael siarad yn y ddadl heddiw mewn ymdeimlad o ysbryd trawsbleidiol, yr wyf i o'r farn y dylai hi fod. Ac fel Huw Irranca-Davies, un o adegau mwyaf balch fy nghyfnod i fel Aelod o'r Senedd oedd pan ddes i'n aelod anrhydeddus o gangen Shotton a Glannau Dyfrdwy y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Mae'r ddadl heno yn gyfle i fyfyrio ac i dynnu sylw at bwysigrwydd y...

9. Dadl Fer: 'Gwrandewch arnom ni. Cefnogwch ni.': Yr angen i sicrhau mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc ( 3 Tach 2021)

Jack Sargeant: Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Rhun am roi'r cyfle hwn imi siarad heno, ond yn bwysicach, credaf y dylem ddiolch i Gareth, yr unigolyn ifanc sydd wedi rhannu hyn gyda chi, oherwydd yn sicr mae angen canmol dewrder Gareth am gyflwyno'r pwnc hwn i chi ac i’n Senedd. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod gennyf bryderon nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol yn cyrraedd y safon y...

6. Dadl ar ddeiseb P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl ( 3 Tach 2021)

Jack Sargeant: Ar ran y pwyllgor, hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog a'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Diolch yn fawr iawn. 


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.