Canlyniadau 241–260 o 500 ar gyfer speaker:Mabon ap Gwynfor

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Llwyddiant Cwmni Egino (15 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: 3. A wnaiff y Gweinidog esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur llwyddiant Cwmni Egino? OQ58178

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar gostau byw (14 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Dwi a Phlaid Cymru wedi codi'r cyswllt rhwng yr argyfwng costau byw a chostau tai nifer o weithiau ar lawr y Senedd yma, ac mae'r cyswllt yn amlwg. Rydyn ni wedi gweld rhentu yn cynyddu'n aruthrol yma yng Nghymru—cynnydd o tua 12, 13 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, a hyn ar adeg pan nad ydy'r ddeddfwriaeth ar gyfer rhentu tai yn weithredol er mwyn gwarchod tenantiaid rhag cael eu...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad a wnaeth y Prif Weinidog rhyw awr yn ôl, yn dweud y dylem ni ddisgwyl datganiad ynglŷn â diogelwch adeiladau cyn diwedd y mis—mae angen rhywfaint o eglurder arnom ni ynghylch pryd yn union y bydd hynny'n digwydd. Mae hi'n siomedig fod cyhoeddiad heddiw wedi cael ei dynnu yn ôl. Mae hi'n bum mlynedd ers trychineb Grenfell....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Inswleiddio Tai (14 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone am y cwestiwn. Dŷn ni wedi clywed Llywodraethau yn sôn droeon am annog perchnogion i retroffitio, neu yn hyrwyddo dulliau adnewyddadwy i gynhyrchu ynni, fel paneli solar ar eu tai. Ond i nifer fawr o fy etholwyr i yn Nwyfor Meirionnydd, dydy'r un o'r opsiynau yma yn realistig, gan eu bod nhw'n byw mewn adeiladau sydd wedi cael eu cofrestru. Meddyliwch am...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (14 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar bolisi caffael tir y Llywodraeth?

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 8 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Ond rwy'n drist i ddweud, yn ogystal â'r holl broblemau unigol y mae pawb ohonom yn ymwybodol ohonynt, rwy'n siŵr, ychydig iawn o ffydd sydd gennyf hefyd yn yr ystadegau a'r data a'r wybodaeth a ddarperir gan y bwrdd iechyd. Er enghraifft, rhoddodd y bwrdd iechyd wybod i'r ombwdsmon fod llenni â chlymiadau wedi'u tynnu yn 2010, ond gwyddom am gleifion a geisiodd dagu eu hunain yno wedi'r...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 8 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl yma gerbron, dadl sy'n hynod o bwysig. Nôl yn 2013, fe wnes i, Mark Jones ac ymgyrchwyr o Flaenau Ffestiniog, Prestatyn, Llangollen a Fflint sefydlu cynghrair iechyd gogledd Cymru er mwyn gwrthwynebu'r newidiadau oedd yn cael eu gorfodi ar bobl y gogledd yn erbyn ein hewyllys. Roedd y cyfan yn cael ei gyflwyno bryd hynny o dan y pennawd, 'Mae Gofal...

4. Cwestiynau Amserol: Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ( 8 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Mae'n llawer rhy amlwg fod senario wedi'i chreu lle y ceir bwlch yn y diogelwch rhag troi allan heb fai rhwng y rheoliadau brys COVID a'r amddiffyniad a gynigir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, sydd bellach wedi'i gohirio, fel y clywsom, tan ddiwedd 2022, gan gynnig hyd yn oed mwy o amser i landlordiaid preifat diegwyddor droi tenantiaid allan cyn iddynt gael eu clymu i gontractau...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Gofal Bugeiliol ( 8 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Llywydd am yr ateb hwnnw. Fel rydych chi'n gwybod, mae'r wlad yn wynebu cyfnod anodd iawn, wrth i gostau byw wasgu ar bobl, gan wthio pobl mewn i dlodi, ac, yn wir, tlodi enbyd. Bydd yna bwysau cynyddol ar staff i ymateb i nifer fawr o achosion, rhai yn achosion dirdynnol, gan ddod â phwysau emosiynol yn ei sgil. Ydy'r Comisiwn wedi paratoi am y senario yma, ac oes...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Araith y Frenhines ( 8 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. Mae Araith y Frenhines yn sôn am ddeddfwriaeth am faterion sydd yn dod o dan gymhwysedd ein Senedd, megis y Bil addasu genetaidd, er enghraifft. Bydd hyn yn sicr yn golygu y gwelwn ni ragor o LCMs yma, ond fel yr ydym yn ei wybod o brofiad, mae trefn yr LCMs yn gwbl annigonol. Does gennym ni ddim amser i graffu, heb sôn am ymgynghori, a phob yn damaid, wrth...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Aelodau Seneddol Cymru yn Senedd y DU ( 8 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. Mae gen i ryw syniad y bydd elfennau o'r drafodaeth yma yn cael eu gwyntyllu eto maes o law yn y Siambr yma, ond wrth ein bod ni'n gweld cwymp sylweddol yn y nifer o'n cynrychiolwyr ni yn San Steffan a, diolch byth, mwy o gyfrifoldebau yn dod drosodd i'r ddeddfwrfa hon, ydy'r Gweinidog yn cytuno felly bod angen mwy o Aelodau etholedig yma er mwyn craffu a...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi Tanwydd ( 8 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae'n dda clywed am y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i rai pobl. Mae'r cynnydd yn y cap ar brisiau ynni, wrth gwrs, yn mynd i fod yn heriol i bawb. Yn ôl yr elusen National Energy Action, fe allwn ni weld hyd at 45 y cant o bob aelwyd yng Nghymru yn dioddef tlodi tanwydd oherwydd codi'r cap. Mae hyn yn ffigur brawychus. Rydyn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi Tanwydd ( 8 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: 8. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael a thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd? OQ58128

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Aelodau Seneddol Cymru yn Senedd y DU ( 8 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: 6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd torri niferoedd Aelodau Seneddol Cymru yn Senedd y DU yn ei chael ar y broses o graffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru? OQ58131

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Araith y Frenhines ( 8 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: 8. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Araith y Frenhines ar faterion sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd? OQ58129

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Gofal Bugeiliol ( 8 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: 4. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gofal bugeiliol y mae'n ei gynnig i'w weithlu? OQ58130

7. Dadl Plaid Cymru: Cyllid ar ôl Brexit (25 Mai 2022)

Mabon ap Gwynfor: Felly, fel mae Plaid Cymru wedi egluro yn y ddadl hon, mae agenda ariannu San Steffan ar ôl Brexit wedi golygu hyd yma fwy o bwerau i San Steffan, mwy o arian i seddi'r Torïaid, a llai o ddemocratiaeth i Gymru, a llai o gyllid a chynrychiolaeth i Gymru hefyd. Rydyn ni'n haeddu gwell na'r ymgais amlwg hon i brynu teyrngarwch i undeb rhanedig a methedig, anghyfartal a blinedig. Diolch.

7. Dadl Plaid Cymru: Cyllid ar ôl Brexit (25 Mai 2022)

Mabon ap Gwynfor: Nawr, os edrychwn ar agwedd arall, wrth edrych ar gyllid ar gyfer COVID-19 ac ymdrin â'r pandemig, ymhell o brofi cryfder yr undeb, ymateb y DU i'r pandemig mewn gwirionedd oedd un cymhorthdal enfawr i dde Lloegr. Mae'r Ganolfan Polisi Blaengar wedi cyfrifo bod Llywodraeth y DU wedi gwario £1,000 yn fwy y pen ar drigolion Llundain nag ar drigolion Cymru, a £6.9 biliwn yn fwy ar Lundain na...

7. Dadl Plaid Cymru: Cyllid ar ôl Brexit (25 Mai 2022)

Mabon ap Gwynfor: Yn union fel y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, dylai'r cyllid a ddyrennir i Gymru gael ei wario gan Lywodraeth Cymru. Mae honno'n egwyddor sylfaenol. Gadewch inni gofio ddwy flynedd yn ôl fod Llywodraeth Llundain wedi cyhoeddi'r gronfa lefelu i fyny a oedd yn werth bron i £5 biliwn o bunnoedd ar gyfer Lloegr yn unig. Dim ond blwyddyn yn ddiweddarach ddaru nhw...

3. Cwestiynau Amserol: Llety Hunanarlwyo (25 Mai 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn. Sori—roeddwn i wedi rhoi cais munud olaf i gymryd rhan, ac yn ddiolchgar iawn am eich parodrwydd chi i fi gyfrannu. Diolch am y cwestiwn, wrth gwrs. Wrth gwrs, mae rhywun yn croesawu unrhyw gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng tai yma ac yn croesawu'r hyn rydych chi wedi dweud rŵan, sef eich bod chi yn edrych ar eithriadau ar gyfer...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.