Canlyniadau 241–260 o 7000 ar gyfer speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Dwi'n falch eich bod chi'n cadw'r sefyllfa o dan adolygiad parhaus. Mae hynny'n hollbwysig, onid ydy?  I droi at fater arall, i orffen, ym mis Gorffennaf fe gyhoeddwyd y byddai 600 o athrawon ychwanegol yn cael eu recriwtio i ysgolion a 300 o gynorthwywyr dysgu ar gyfer y flwyddyn ysgol bresennol. Byddwn i'n hoffi cael diweddariad am hyn, a does yna, efallai, ddim digon o amser prynhawn yma...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Dwi'n croesawu eich penderfyniad i ymestyn eich cynllun cinio am ddim i gynnwys y gwyliau ysgol tan wanwyn y flwyddyn nesaf, a hefyd eich penderfyniad i ymestyn y cinio am ddim i gynnwys mwy o ddisgyblion, yn enwedig y rhai o deuluoedd incwm isel. A wnewch chi ystyried ei ymestyn ymhellach i gynnwys teuluoedd sy'n derbyn credyd cyffredinol sylfaenol, neu, yn well fyth, i bob plentyn yng...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd. Gaf i ddechrau gyda sefyllfa ariannol ein prifysgolion yn sgil yr argyfwng iechyd? Dwi'n ymwybodol bod yna gymorth yn cael ei ddarparu drwy'r gronfa buddsoddi ac adfer addysg uwch. Mae'n debyg bod y ceisiadau angen bod i mewn erbyn diwrnod olaf y mis yma, sydd wrth gwrs reit yng nghanol y cyfnod clo byr. Ac, wrth gwrs, mi fydd gan y prifysgolion anghenion ychwanegol yn sgil y...

12. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20 (20 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Diolch, Cadeirydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i drafod yr adroddiad yma ac am y gwaith mae'r comisiynydd plant yn ei wneud i geisio gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Does dim dwywaith fod argyfwng COVID-19 wedi newid bywydau plant Cymru mewn ffordd hollol ddramatig, gydag ysgolion a lleoliadau gofal plant ar gau am gyfnodau hir, darlithoedd a gwersi yn cael eu haddysgu...

7. & 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 (20 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Mi fydd Plaid Cymru yn atal pleidlais ar y rheoliadau yn ymwneud â Bangor, yn fy etholaeth i. Doedden ni ddim yn gwrthwynebu eu cyflwyno nhw, ond mi oedden ni'n anfodlon efo'r materion cyfathrebu a'r diffyg cyfathrebu lleol o gwmpas y broses o'u cyflwyno nhw. Mae angen cyfathrebu llawer cliriach efo cymunedau lleol, fel y rhai ym Mangor, os bydd angen cyfnodau clo lleol eto i'r dyfodol. Mae...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol): Achos Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (20 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Fel rydych chi'n sôn, mae hwnnw'n un mater o bwys sy'n codi o ddyfarniad y llys gweinyddol, sef yr un ynglŷn â chyfartaledd testun Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth yng Nghymru, ond y llall, efallai, sydd o fwy o ddiddordeb eang, sef hawl pob dinesydd yng Nghymru i gael mynediad rhwydd at addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ôl y dyfarniad llys, 10 y cant yn unig o asesiad effaith iaith y penderfyniad...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol): Ail Gartrefi (20 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Ar hyn o bryd, does yna ddim mecanwaith cyfreithiol i atal tai rhag cael eu gwerthu am grocbris a'u defnyddio fel ail gartrefi. Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu yn amlinellu'r newidiadau sydd eu hangen i'r gyfraith ym maes cynllunio ac ym maes cyllid i ddod â'r sefyllfa o dan reolaeth. Efallai byddwch chi wedi clywed am sefydlu ymgyrch Hawl i Fyw Adra gan griw o bobl ifanc yn...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol): Ail Gartrefi (20 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: 3. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud ynghylch digonolrwydd y gyfraith i reoli ail gartrefi? OQ55731

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol): Achos Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (20 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: 4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ymyrryd fel parti yn ymdrechion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i herio dyfarniad y llys gweinyddol yn achos Driver yn erbyn y cyngor hwnnw? OQ55730

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (20 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Pa gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau sydd wedi eu gosod mewn ardaloedd diogelu iechyd lleol fel Bangor?

10. Dadl Plaid Cymru: Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth ( 7 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Yn Iwerddon, mae deialog cyson, cadarnhaol rhwng y sector a'r Llywodraeth a gwerthfawrogiad llawn o bwysigrwydd y celfyddydau yn y cynlluniau adfer. Yn Seland Newydd, mae'r sector yn ganolog i'w hadferiad; fe roddwyd gwaith i gannoedd o artistiaid yn ysgolion y wlad fel rhan o'u cynlluniau adferiad. Mae nifer fawr o wahanol gynlluniau a chronfeydd o gefnogaeth, a rhaglen benodol adferiad...

10. Dadl Plaid Cymru: Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth ( 7 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i am yr oedi. Mae'r celfyddydau yng Nghymru yn cyffwrdd pob un ohonom a phob cymuned. Mae Cymru yn un pair o dalent. Rydyn ni'n genedl lle mae diwylliant yn greiddiol i'n ffordd ni o fyw. Sut fyddai'r misoedd diwethaf wedi bod oni bai am y celfyddydau? Heb yr adloniant, y cyfle i adlewyrchu a'r cyfle i ddod at ein gilydd tra'n aros ar wahân. Mi ddylai...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd — 'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf' ( 7 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Mae hwn yn adroddiad cynhwysfawr, heb os, ac mae yna waith manwl wedi cael ei wneud gan Aelodau a staff y pwyllgor yma. Mae o'n siomedig, er hynny, ein bod ni erbyn hyn wedi colli'r cyfle yn y Senedd hon i weithredu ar dystiolaeth gweithgor manwl iawn arall a gafwyd tua dechrau'r bumed Senedd, sef yr un dan gadeiryddiaeth Laura McAllister. Ychwanegu at y dystiolaeth o'r angen...

5. Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Adroddiad 01-20 ( 7 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: 'anodd credu na fyddai unrhyw blaid wleidyddol sy’n cyfarfod yn ystod cyfnod etholiad yn trafod rhywfaint ar yr etholiad arfaethedig.'

5. Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Adroddiad 01-20 ( 7 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Mae'n hanfodol i rediad llyfn y Senedd ac i sicrhau democratiaeth fywiog fod gofod diogel i grwpiau gwleidyddol gael trefnu a thrafod eu gwaith mewn ffordd sy'n cydnabod y cyd-destun pleidiol. Mae hefyd yn hanfodol bod yna ffordd briodol i'r gwrthbleidiau allu, o fewn fframwaith penodol, ddefnyddio eu hadnoddau i ddatblygu rhaglen bolisi amgen. Mae'r comisiynydd o'r farn yn ei adroddiad fod...

5. Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Adroddiad 01-20 ( 7 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Dwi'n siarad yn fy rôl fel trefnydd busnes a phrif chwip Plaid Cymru. Rydym ni'n derbyn cynnwys yr adroddiad yma ac mi fyddwn ni'n pleidleisio o'i blaid. Er hynny, dwi'n credu bod yna faterion ehangach yn codi o'r achos yma, fel mae'r comisiynydd ei hun yn ei gydnabod, sy'n codi cwestiynau pwysig ynghylch aeddfedrwydd ein democratiaeth a'n gallu i gydnabod yr ymwneud cwbl briodol rhwng ein...

13. Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol ( 6 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Dwi am ganolbwyntio ar un agwedd benodol ar y cynnig sy'n ymwneud â'r is-grwp economaidd cymdeithasol a sefydlwyd gan y Prif Weinidog ar frig y pandemig i edrych ar effeithiau anghymesur y pandemig ar bobl ddu a phobl o liw. Mae hwn yn adroddiad trylwyr a chynhwysfawr ac yn cynnig y ffordd ymlaen ar gyfer gweithredu, a dyna sydd ei angen: gweithredu. Ac mae'r...

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd 2020 ( 6 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: diffyg eglurder ynghylch y fframwaith atebolrwydd a'r cymwysterau gadael ysgol, sy'n creu perygl y gallai mesurau atebolrwydd ac asesu anghymwys danseilio'r cwricwlwm.

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd 2020 ( 6 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni yn Plaid Cymru wedi bod yn tynnu sylw ato fo dros y Sul, fel mae'n digwydd. Mae rhan o'r adroddiad yn nodi bod risg mawr y bydd dysgu ac addysgu oedran 14 i 16 yn cael ei wyro at gynnwys y cymwysterau yn hytrach na helpu myfyrwyr i gyrraedd pedwar pwrpas y cwricwlwm. Ac mi ydym ni yn Plaid Cymru yn grediniol fod angen ail-lunio'n cymwysterau ni—cymhwyster...

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd 2020 ( 6 Hyd 2020)

Siân Gwenllian: Mae perygl y bydd anghydraddoldebau yn cynyddu oherwydd yr heriau y gall ysgolion difreintiedig eu gweld wrth roi'r cwricwlwm ar waith, sy'n pwysleisio'r angen i egluro'r adnoddau sydd ar gael i ysgolion.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.