Canlyniadau 241–260 o 500 ar gyfer speaker:Heledd Fychan

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus (25 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhaid imi ddweud, Jack, fy mod yn anghytuno ag un peth a ddywedoch chi. Nid yw hyn yn ddiflas i mi; credaf fod hyn yn hynod ddiddorol, gan fod pensiynau’n effeithio ar bob un ohonom. Ysgrifennodd un etholwr ataf, 'Nid yw'n gwneud llawer o synnwyr i boeni am hyfywedd ariannol pensiwn y gallaf gael mynediad ato ymhen 32 mlynedd pan ddywed y rhagamcanion presennol y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (25 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi'r datganiad llesiant i gyd-fynd â'r rhaglen lywodraethu, ac wedi dweud ynddo y byddwch 'yn defnyddio ein proses gyllidebol i sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu i gyflawni’r amcanion llesiant' Roeddwn hefyd yn falch o weld y gair 'dyfodol' yn ymddangos 46 gwaith yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (25 Mai 2022)

Heledd Fychan: 8. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth benderfynu ar gyllidebau'r cyrff cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu? OQ58094

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg yn y gweithlu addysg (24 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch i’r Gweinidog am y datganiad a'r buddsoddiad hefyd. Rydym yn croesawu’n fawr fod yna gydnabyddiaeth bod angen cynllun 10 mlynedd ar gyfer datblygu gweithlu addysgu yn y Gymraeg. Ond hoffwn ategu nifer o bryderon a fynegwyd gan Samuel Kurtz hefyd, oherwydd, fel y mynegodd o, dengys y data sy’n cyd-fynd â’r cynllun fod y sefyllfa fel y mae yn bryderus tu hwnt, gyda’r targedau...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Mai 2022)

Heledd Fychan: Trefnydd, wythnos diwethaf rhyddhawyd datganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi £750,000 o fuddsoddiad i lyfrgelloedd ac amgueddfeydd. Wrth gwrs, dwi'n croesawu hyn yn fawr, ac mae'n dda gweld llyfrgelloedd ac amgueddfeydd ledled Cymru yn derbyn buddsoddiad. Hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon, cyn yr haf, yn rhoi gwybodaeth bellach o ran gweledigaeth y...

6. Dadl Plaid Cymru: Iechyd menywod (18 Mai 2022)

Heledd Fychan: Dwi’n falch ein bod ni'n cael y drafodaeth bwysig hon heddiw. Er ein bod ni wedi cael ymrwymiad gan y Gweinidog, dwi'n meddwl bod y ffaith bod cymaint o etholwyr yn parhau i gysylltu efo ni yn dangos pwysigrwydd siarad a chodi ymwybyddiaeth bob cyfle rydyn ni'n ei gael ynglŷn ag iechyd menywod a phobl gydag organau benywaidd. Dwi'n gwybod bod pethau, fel rydw i'n sôn, ar y gweill, ond mae...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Mae'n amlwg i'w groesawu eich bod chi'n ymwybodol ac yn trio ymateb i'r galw. Dwi'n meddwl mai un o'r heriau oedd yn cael ei adlewyrchu i ni ydy'r amser i fod yn edrych ar ôl eich iechyd a'ch lles, oherwydd y pwysau gwaith hwnnw. Felly, mae yn heriol ofnadwy. Un o'r pethau roedden nhw'n pwysleisio i ni hefyd oedd y ffaith eu bod nhw'n dal i ymdopi efo COVID a'r heriau...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Weinidog, ar 11 Mai, fe wnes i a Jayne Bryant gyfarfod ag aelodau NEU Cymru ar gyfer sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag effaith pwysau gwaith ar iechyd meddwl a lles staff mewn ysgolion. Canfu arolwg diweddar o’u haelodau fod 95 y cant o addysgwyr yn gweithio mwy na’r oriau yn eu cytundeb, a bod 44 y cant o addysgwyr yn ystyried o ddifrif...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (17 Mai 2022)

Heledd Fychan: A gaf i ddiolch ichi, Gweinidog, am gysondeb y papurau briffio hyn? Yn amlwg, mae'n sefyllfa sy'n symud yn gyflym, ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei adlewyrchu gyda'r ymateb a'r cysondeb hwn. Roeddwn i am gyfeirio at ddau beth yn fyr. Roedd hi'n amlwg yn wych gweld y pwyslais gyda gwersi Saesneg; beth mae hyn yn ei olygu o ran y gallu i gael gwersi trochi yn y Gymraeg hefyd? Oherwydd mae'n...

6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Lleihau’r risg o fod yn agored i lifogydd a’r adolygiad annibynnol o lifogydd 2020-21 (17 Mai 2022)

Heledd Fychan: Gweinidog, rwy'n croesawu hyn yn fawr a'r hyn sydd wedi'i gyflawni drwy'r cytundeb cydweithio. Rwy'n sicr yn croesawu penodiad yr Athro Evans hefyd, ac edrychaf ymlaen fel Aelod etholedig at gyfrannu at hynny. Fe'm calonogwyd gan eich ymrwymiad—oherwydd, yn amlwg, nid ydym wedi gweld y cylch gorchwyl fel Aelodau eto—y bydd lleisiau a phrofiadau'r dioddefwyr hynny'n gallu cyfrannu at y...

3. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol: Cyflawni’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddoriaeth (17 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'n fawr y cyhoeddiad heddiw a nodi'n benodol pa mor falch oeddwn i o glywed un gair yn benodol yn cael ei ailadrodd gan y Gweinidog, sef 'llawenydd'. Mae'r pwyslais, felly, ar bwysigrwydd cerddoriaeth o ran iechyd a lles pawb ohonom yn rhywbeth y dylem ni i gyd ei groesawu, ac yn arbennig, felly, yng nghyd-destun argyfwng costau byw dybryd a hefyd...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Mentrau Cymdeithasol a'r Economi Gymdeithasol (11 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi bod yn anrhydedd cyfarfod â chynifer o fentrau cymdeithasol ledled y rhanbarth a gweld y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud o ran adfywio ein cymunedau, cefnogi pobl o bob oed a datblygu'r economi leol. Gaf i ofyn pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion eraill i sicrhau bod mentrau cymdeithasol a'r economi...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch yn fawr, Weinidog. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed mwy o gyhoeddiadau dros y flwyddyn nesaf. Ond mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain ar hyn o bryd, pan fyddwn yn cymharu â'r portffolios eraill. Yn amlwg, fel y byddech yn ei ddisgwyl, rydym wedi gweld 301 o gyhoeddiadau ar y coronafeirws, ond 51 ar gymunedau ac adfywio. Mae diwylliant a chwaraeon a'r celfyddydau yn haeddu...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Lywydd. Flwyddyn yn ôl, yn fuan ar ôl imi gael fy ethol i'r Senedd, a'ch penodi i'ch rôl, gofynnais sut y byddech yn sicrhau rôl fwy canolog i'r celfyddydau a diwylliant yn Llywodraeth y chweched Senedd, o'i gymharu â'r bedwaredd a'r bumed Senedd, a sut y bwriadech fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi a welwyd ers dros ddegawd. Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio fy mod yn meddwl, ac yn...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Presgripsiynu Cymdeithasol (11 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog, a dwi'n falch o'ch clywed yn cyfeirio at y fframwaith, sydd wrth gwrs yn rhan o'r rhaglen lywodraethu. Dwi'n siŵr gall nifer ohonom ni gyfeirio at brosiectau rydyn ni'n ymwybodol ohonyn nhw yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau sydd yn dangos gwerth presgripsiynu cymdeithasol o ran iechyd a lles pobl rydym yn eu cynrychioli, ac nid dim ond y rhai sy'n...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Presgripsiynu Cymdeithasol (11 Mai 2022)

Heledd Fychan: 6. Pa gefnogaeth sy'n cael ei roddi gan y Llywodraeth i fyrddau iechyd i'w galluogi i roddi presgripsiynu cymdeithasol ar waith? OQ58008

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Mentrau Cymdeithasol a'r Economi Gymdeithasol (11 Mai 2022)

Heledd Fychan: 11. Pa gymorth sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu mentrau cymdeithasol a'r economi gymdeithasol yng Nghanol De Cymru? OQ58007

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Arferion Diswyddo ac Ailgyflogi ( 4 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch yn fawr iawn ichi. Mae hynny'n galonogol iawn i'w glywed. Mi ydym ni, finnau a Mike Hedges, drwy ein rôl efo'r grŵp trawsbleidiol PCS, wedi clywed gan PCS bod rhai sefydliadau a ariennir gan drethdalwyr Cymru yn defnyddio diswyddo ac ailgyflogi, wedyn mae o'n beth da i weld bod y Comisiwn felly yn cael dylanwad o ran hyn o beth. Fyddech chi yn cytuno efo fi, o ran contractwyr, ei bod...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Arferion Diswyddo ac Ailgyflogi ( 4 Mai 2022)

Heledd Fychan: 1. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud i ganfod a yw unrhyw rai o'i gontractwyr yn defnyddio arferion diswyddo ac ailgyflogi? OQ57963

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Heledd Fychan: Yn sicr, ac rwy'n credu mai dyna pam yr ydym ni’n pryderu. Rwy'n gwybod bod Darren Millar yn dweud, 'Arhoswch i weld', ond rydym ni'n iawn—. Rydym ni wedi gweld hanes Llywodraeth y DU ar hyn, a dylem fod yn bryderus iawn. Mae'r holl Filiau hyn yn mynd yn groes i bopeth yr ydym ni'n sefyll drosto yma yng Nghymru, yn enwedig trin mewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae'n anghydnaws...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.