Canlyniadau 241–260 o 400 ar gyfer speaker:Gareth Davies

8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU (26 Ion 2022)

Gareth Davies: Na, ddim ar hyn o bryd. Rwyf newydd ddechrau, felly rwyf am fwrw ymlaen.

8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU (26 Ion 2022)

Gareth Davies: Rwy'n credu fy mod, fel fy nghyd-Aelod, Darren Millar, yn profi déjà vu, oherwydd cawsom yr union ddadl hon ychydig wythnosau cyn toriad y Nadolig. Gwn fod gan Blaid Cymru gytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru, ond nid oeddwn yn gwybod ei fod yn golygu ailadrodd dadleuon anfynych y Llywodraeth. Yn amlwg, nid oes gan Blaid Cymru na'u pypedfeistri unrhyw syniadau newydd. Mae ein...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Effaith COVID ar addysg (26 Ion 2022)

Gareth Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A allai Jenny Rathbone brofi’r honiad fod omicron rywsut yn rhemp yn Lloegr o gymharu â Chymru? A oes gennych unrhyw wyddoniaeth neu ystadegau i gefnogi eich honiad?

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Effaith COVID ar addysg (26 Ion 2022)

Gareth Davies: Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Fel rhiant, rwy'n gwbl ymwybodol o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar genedlaethau iau, ond diolch byth, mae fy mab yn ddigon ifanc i beidio â bod wedi dioddef unrhyw niwed mawr i'w addysg. Ond nid yw plant hŷn a phobl ifanc mor ffodus â hynny. Fel rhieni, rydym bob amser yn poeni am ddyfodol ein plant, ond mae'r...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Storm Christoph (26 Ion 2022)

Gareth Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog. Er fy mod yn deall bod prosesau i’w dilyn, y gwir amdani, flwyddyn ar ôl y dinistr, yw bod fy etholwyr yn dal i fod heb gysylltiad ffordd hanfodol rhwng Trefnant a Thremeirchion, ac mae dwy gymuned leol yn parhau i fod wedi'u hynysu oddi wrth ei gilydd i bob pwrpas ac nid oes unrhyw arwydd y daw hynny i ben cyn bo hir, sy'n hynod o rwystredig. Weinidog, a...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Storm Christoph (26 Ion 2022)

Gareth Davies: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynghylch atgyweirio seilwaith a ddifrodwyd gan storm Christoph? OQ57516

QNR: Cwestiynau i Gweinidog y Gymraeg ac Addysg (26 Ion 2022)

Gareth Davies: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar ddarpariaeth addysg oherwydd COVID-19 yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol?

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Cyllid Hosbisau (25 Ion 2022)

Gareth Davies: Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Mae'r mudiad hosbisau yn ychwanegiad gwirioneddol anhygoel at ofal iechyd yn y DU, gan ei fod yn llenwi'r bwlch sydd wedi'i adael gan wasanaethau statudol. Un o wirioneddau trist bywyd, yn anffodus, a'r un peth sy'n cael ei warantu mewn bywyd, yw ein bod ni i gyd yn marw yn y pen draw, ac mae hosbisau yno i helpu i sicrhau y gall y rhai sydd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: 10 Mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru (25 Ion 2022)

Gareth Davies: Mae'n gwbl briodol ein bod ni'n nodi dengmlwyddiant llwybr yr arfordir. Nid yn aml yr wyf i'n dweud fy mod i'n cytuno yn llwyr ac yn croesawu geiriau John Griffiths a'r Prif Weinidog o ran llwybr yr arfordir, oherwydd mae'n helpu i gysylltu ein cymunedau arfordirol â'i gilydd ac yn helpu i hyrwyddo teithio llesol, a dylem ni fod yn falch o'r ffaith bod y llwybr y cyntaf o'i fath yn y byd...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfyngiadau COVID (19 Ion 2022)

Gareth Davies: Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Ac yna, Ddirprwy Weinidog, roeddwn yn siomedig iawn o weld Llywodraeth Cymru yn gwleidyddoli’r holl fater ac yn creu rhaniadau ar hyd y ffin, gan ddweud mai bai Llywodraeth y DU yw’r cyfan. Chi yw Llywodraeth Cymru, mae gennych y pwerau datganoledig. Ers y cychwyn cyntaf, rydych wedi bod eisiau i hwn fod yn fater datganoledig i Gymru, ac eto rydych yn...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfyngiadau COVID (19 Ion 2022)

Gareth Davies: Gwnaf, yn sicr.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfyngiadau COVID (19 Ion 2022)

Gareth Davies: A dweud y gwir, rwy'n ffieiddio at farn yr Aelod dros Ynys Môn a Phlaid Cymru ar y mater yn ei gyfanrwydd, gan eu bod wedi penderfynu ymatal rhag pleidleisio ar hyn. Maent yn dweud mai edrych yn ôl yw'r cyfan ac nad yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth, ond yn syth ar ôl hynny, maent yn dweud, 'O, rydym yn dal i fyw gyda COVID ac rydym yn ymdrin â phethau mor berthnasol.' Felly, credaf fod...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfyngiadau COVID (19 Ion 2022)

Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. O bosibl, yr hyn y gallai’r Dirprwy Weinidog fod wedi’i anghofio yw bod un Ceidwadwr Cymreig arall i siarad i gloi’r ddadl, felly byddaf yn ymateb i rai o’r pwyntiau a wnaeth y Dirprwy Weinidog yn ddiweddarach yn fy araith glo. Felly, yr wythnos nesaf fe fydd hi'n ddwy flynedd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lefelau Trosglwyddo COVID-19 (19 Ion 2022)

Gareth Davies: Weinidog, er bod y mesurau mwyaf llym i leihau trosglwyddiad COVID-19 ar waith yma, Cymru sydd â'r cyfraddau heintio uchaf o blith pedair gwlad y DU ac un o'r cyfraddau marwolaeth uchaf yn y byd fesul y pen o'r boblogaeth. A yw eich Llywodraeth bellach yn derbyn bod yr ymyriadau anfferyllol yn gwneud mwy o ddrwg nag o les erbyn hyn? A chyda dros 90 y cant o boblogaeth Cymru, yn ôl eich prif...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cymorth i Fusnesau (19 Ion 2022)

Gareth Davies: Ie, rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb hwnnw, Weinidog. Mae nifer fawr o fusnesau yn fy etholaeth yn dibynnu ar y marchnadoedd twristiaeth a hamdden, fel y mae llawer ar draws llain arfordirol gogledd Cymru, ac mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithaf trychinebus, fel y gwyddoch. Nid yn unig y mae angen cymorth parhaus ar y busnesau hyn gyda phethau fel ardrethi busnes er mwyn helpu gyda...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cymorth i Fusnesau (19 Ion 2022)

Gareth Davies: 7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau yn Nyffryn Clwyd i adfer o bandemig COVID-19? OQ57464

6. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: BlasCymru/TasteWales — Hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i’r byd (18 Ion 2022)

Gareth Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Mae'n wych gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynhyrchwyr bwyd a diod gwych o bob cwr o Gymru. Yn naturiol, hoffwn ganolbwyntio ar y cynhyrchwyr a'r manwerthwyr anhygoel sydd gennym ni yma yn Nyffryn Clwyd. Mae BlasCymru eisoes yn hyrwyddo un o drysorau fy etholaeth i, sef eirin Dinbych, ond mae Dyffryn...

7. Dadl Plaid Cymru: Anghydraddoldebau iechyd (12 Ion 2022)

Gareth Davies: Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac nid oes gennyf unrhyw broblem gyda chefnogi'r cynnig fel y mae y prynhawn yma.  Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, ceir digon o dystiolaeth fod ffactorau cymdeithasol fel addysg, statws cyflogaeth, lefel incwm a rhyw ac ethnigrwydd yn dylanwadu'n glir ar ba mor iach yw person. Ym mhob gwlad, boed yn rhai incwm isel, canolig neu uchel,...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 (11 Ion 2022)

Gareth Davies: Diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, ac am annerch aelodau'r pwyllgor iechyd yn gynharach heddiw, amser cinio—a blwyddyn newydd dda, wrth gwrs. Diolch byth, wrth gwrs, yn ôl llawer o arbenigwyr, rydym ni mewn cyfnod o drawsnewid o bandemig i endemig. Wrth i ni ddysgu byw gyda'r clefyd hwn, mae'n rhaid i ni ddyblu ymdrechion i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, y...

3. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2022-23 (11 Ion 2022)

Gareth Davies: Hoffwn i ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb ac iechyd da yn 2022. Er bod llawer i'w groesawu yn y gyllideb hon, yn anffodus nid yw'n gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r argyfwng enfawr sy'n wynebu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y gyllideb hon yn rhoi ar waith ateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng recriwtio sy'n wynebu'r sector gofal, sef cyflog o £9.90 yr awr. Ond yn anffodus, mae hwn...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.