Carolyn Thomas: Er mwyn i ddyfodol porthladd Caergybi ffynnu, bydd angen seilwaith cyfathrebu da yn seiliedig ar fand eang ffeibr i fodloni'r galw. Mae FibreSpeed wedi cysylltu â mi, sydd eisoes wedi gosod pwynt presenoldeb yn agos at ble bydd yr adeilad tollau tramor a chartref arfaethedig yn cael ei adeiladu. Rwyf i wedi cael gwybod y gallai eu technoleg nhw helpu i gludo nwyddau yn hwylus a datgloi...
Carolyn Thomas: Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi arwain y ffordd yn gyson wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Hi oedd y gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd ac mae wedi arwain y ffordd fel mai ein gwlad yw'r drydedd orau yn y byd am ailgylchu, ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu bioamrywiaeth, a chodi ymwybyddiaeth o'r argyfwng natur yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd. Gwelwyd yr ymroddiad hwn i wneud newid...
Carolyn Thomas: Diolch am yr ateb hwnnw. Rwyf wedi mwynhau cyfarfod ag ysgolion ar draws gogledd Cymru yn rhithwir a chlywed am y pethau sy'n bwysig iddynt. Mae rhiant plentyn yn Ysgol Bryn Coch yn yr Wyddgrug wedi cysylltu â mi, yn datgan ei siom na fydd eu plentyn yn gallu ymweld â'r Senedd ar ymweliad addysg yn y cnawd yn ystod taith ysgol i Gaerdydd. Credaf eu bod yn ei gynnwys gydag ymweliadau â...
Carolyn Thomas: Ar ôl COVID, mae angen i ni annog pobl i ddechrau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus unwaith eto. Felly, a fyddech chi, Ddirprwy Weinidog, yn sicrhau bod cyllid ar gael i awdurdodau lleol allu buddsoddi fel y gellir hysbysebu'r metro yn briodol, hysbysebu amserlenni ar gyfer bysiau a'r hyn sydd ar gael i bobl, fel y gallant gael hyder i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus eto? Diolch.
Carolyn Thomas: Iawn, dyma ni: felly, rwy'n gofyn a allwn gael arwyddion metro fel y bydd pobl yn deall y buddsoddiad a wneir mewn cyfleusterau parcio a theithio, y cysylltiadau beicio—sut y maent i gyd yn cysylltu â'i gilydd—buddsoddiad mewn gorsafoedd hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. A hefyd, ar ôl COVID—
Carolyn Thomas: Fel aelod cabinet blaenorol yn sir y Fflint, hoffwn ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiad enfawr ym metro gogledd Cymru, gan ddarparu £17 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, ac rwyf wedi gweld buddsoddiad mewn lonydd beicio, cyfleusterau parcio a theithio, bysiau trydan, ar draws rhanbarth gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi rhoi—. Gwn fod sir y...
Carolyn Thomas: Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Credaf ei bod yn hanfodol fod addysg gyfreithiol yng Nghymru mewn sefyllfa gadarn yng nghyd-destun Cymru ac yn canolbwyntio ar adeiladu ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru. Cyn cyfarfod nesaf aelodau arfaethedig y pwyllgor gwaith, a allwch chi amlinellu eich blaenoriaethau ar gyfer cylch gwaith y cyngor cyfraith?
Carolyn Thomas: 2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sector cyfreithiol i sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru? OQ57055
Carolyn Thomas: 1. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i ymgysylltu ag ysgolion yng Ngogledd Cymru? OQ57053
Carolyn Thomas: —yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth. Ond roeddwn yn bryderus o glywed y byddai dau o'r tri gwyddonydd y cyfarfûm â nhw yn gweld eu cyllid yn cael ei dorri, un ym mis Mawrth ac un ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf, oherwydd daw o gronfa amaethyddol Ewrop, sy'n dod i ben. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn dangos ymrwymiad...
Carolyn Thomas: Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad am gyllid heddiw. Ledled y DU, rydym wedi gweld gostyngiad o 44 y cant mewn 770 o rywogaethau o ganlyniad i golli cynefinoedd a heriau amgylcheddol. Mae'r gronfa rhwydweithiau natur yn dangos yn gwbl glir bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth a natur sy'n ein hwynebu. Mae angen trin yr argyfwng hinsawdd a...
Carolyn Thomas: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i greu gweithlu cryfach sy'n cael ei dalu yn well, ac yn arbennig y penderfyniad y dylid talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal ac y bydd hyn yn cael ei gyflawni yn ystod y Senedd bresennol. Mae trigolion sy'n gweithio yn y sector wedi cysylltu â mi gan ddweud eu bod yn caru eu swydd, ond yn...
Carolyn Thomas: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bargen deg i staff gofal cymdeithasol? OQ57009
Carolyn Thomas: Diolch am eich ateb, Weinidog. Gwn fod llawer o bobl yn yr ardal leol yn gyffrous ynghylch y posibilrwydd o wneud yr enwebiad hwn, a fydd yn cydnabod harddwch a threftadaeth naturiol unigryw'r parc. Bydd yn rhoi hwb i reoli twristiaeth ac yn helpu i greu swyddi cynaliadwy. Yn 2000, cyflwynodd Llywodraeth Lafur yr Alban Ddeddf Parciau Cenedlaethol (Yr Alban) a oedd ond yn 41 tudalen o hyd, i...
Carolyn Thomas: Fel cynghorydd yn sir y Fflint, a chyn-aelod o'r cabinet dros wasanaethau stryd a phriffyrdd, ac aelod hefyd o'r pwyllgor y sonioch chi amdano yn gynharach, rwy'n ymwybodol o'r cyllid sylweddol ledled y rhanbarth—cyllid ar gyfer y metro. Fodd bynnag, er mwyn codi ymwybyddiaeth a chynyddu ymgysylltiad ar draws gogledd Cymru, mae angen inni sicrhau bod gennym frand arbennig i gysylltu...
Carolyn Thomas: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddynodi Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol? OQ56955
Carolyn Thomas: Dros y 10 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweld bancio tir a chefnu ar safleoedd tir llwyd sydd â defnyddiau diwydiannol blaenorol ar gyfer tir gwyrdd haws ei ddatblygu. Mae'r safleoedd tir llwyd yn achosi problemau wedyn i'r gymuned leol. Mae gan rai adeiladau peryglus, coed anniben a ffensys wrth ymyl y priffyrdd ac eiddo preifat. Mae dŵr ffo a halogiad i ddraeniau priffyrdd yn gwneud i...
Carolyn Thomas: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddynodi Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol?
Carolyn Thomas: Rwy'n credu bod cynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd fel mesur yn mynd yn rhy bell. Mae cyfradd straen, iselder a gorbryder sy'n gysylltiedig â gwaith yn parhau i godi ledled y DU. Roedd chwarter yr holl ddiwrnodau salwch y llynedd yn ganlyniad i lwyth gwaith, gan gostio biliynau o bunnoedd i fusnesau a'r sector cyhoeddus. Rydym yn wynebu argyfwng iechyd meddwl, ac mae Aelodau ar bob ochr...
Carolyn Thomas: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar waith ar gyfer sefydliadau gwirfoddol yng Ngogledd Cymru?