Canlyniadau 241–260 o 400 ar gyfer speaker:Peredur Owen Griffiths

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023 ( 8 Chw 2022)

Peredur Owen Griffiths: Soniais ar ddechrau’r cyfraniad hwn fod ymgysylltu â phobl ledled Cymru a gwrando ar farn rhanddeiliaid yn flaenoriaeth gen i fel Cadeirydd. Mae dangos effaith y gyllideb yn hollbwysig er mwyn sicrhau ymgysylltiad ystyrlon â’r sectorau a’r sefydliadau hynny yr effeithir arnynt, ac yn rhoi cyfle iddynt lywio a dylanwadu ar benderfyniadau cyllidebol. Rydym wedi argymell felly y dylid...

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023 ( 8 Chw 2022)

Peredur Owen Griffiths: Eleni, bydd aelwydydd yn teimlo pwysau sylweddol ar eu hincwm o ganlyniad i chwyddiant, costau ynni cynyddol a phrisiau nwyddau uwch, a'r aelwydydd tlotaf fydd yn cael eu taro galetaf. Bydd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am gynnydd ym mhris biliau nwy a thrydan pobl yn peri pryder arbennig i lawer. Mae'r pwyllgor yn nodi ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng,...

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023 ( 8 Chw 2022)

Peredur Owen Griffiths: Gyda’r agenda hinsawdd ac amgylcheddol yn cynyddu yn dilyn uwchgynhadledd dyngedfennol COP26, mae'r pwyllgor yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i dargedu buddsoddiadau ar gyfer yr argyfyngau o ran hinsawdd a natur. Efallai y bydd lefel y cyllid newydd a’r cyllid ychwanegol a nodir yn y gyllideb ddrafft, fodd bynnag, yn is na'r hyn sydd ei angen i ymdrin â'r dasg enfawr hon. Mae’n...

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023 ( 8 Chw 2022)

Peredur Owen Griffiths: Wrth i Gymru ddod allan o'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru, a'r Gweinidog yn benodol, yn wynebu heriau sylweddol wrth ymateb i bwysau economaidd, effeithiau newid hinsawdd, Brexit a lliniaru'r wasgfa ar incwm aelwydydd. Mae pwysau sy'n gysylltiedig â'r pandemig hefyd yn parhau i fod yn arwyddocaol ar gyfer iechyd, llywodraeth leol a busnesau. Mae ein hadroddiad yn gwneud 41 o argymhellion....

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023 ( 8 Chw 2022)

Peredur Owen Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i i wneud cyfraniad yn y ddadl bwysig yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. Hon yw cyllideb ddrafft gyntaf y Senedd hon a dwi'n falch bod Llywodraeth Cymru, am y tro cyntaf ers 2017, wedi gallu darparu cyllideb amlflwyddyn sy'n nodi cyllid ar gyfer 2022-23 a dyraniadau dangosol ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol. Mae hyn wedi cael...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 8 Chw 2022)

Peredur Owen Griffiths: Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw yn Nwyrain De Cymru?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ( 2 Chw 2022)

Peredur Owen Griffiths: Diolch am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron heddiw.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ( 2 Chw 2022)

Peredur Owen Griffiths: Deallaf fod dadleuon bob amser o blaid ac yn erbyn gosod targedau, yn enwedig mewn perthynas â rhywbeth mor gymhleth â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Yr wrthddadl yn erbyn targedau yw bod y data a gyhoeddir yn seiliedig ar lefelau adrodd, ac nad yw niferoedd uwch yn beth drwg o reidrwydd, gan y gall olygu lefelau uwch o ymwybyddiaeth a mwy o amddiffyniad i blant. Yng nghyd-destun...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rasio Milgwn ( 2 Chw 2022)

Peredur Owen Griffiths: Yn fy rhanbarth i mae’r trac rasio milgwn olaf sy'n weddill yng Nghymru. Mae'r trac hwn hefyd yn annibynnol, sy'n golygu nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw ofynion rheoleiddio na thrwyddedu. Fel ag y mae, nid oes gofyniad i filfeddyg fod yn bresennol nac i oruchwylio lles. Dywed Hope Rescue eu bod, dros y pedair blynedd ddiwethaf, wedi derbyn 200 o filgwn o’r trac hwn—ac roedd 40 o’r...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rasio Milgwn ( 2 Chw 2022)

Peredur Owen Griffiths: 4. Sut mae'r Llywodraeth yn cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar arolygiadau o'r trac rasio milgwn sy'n weddill yng Nghymru i sicrhau safonau lles anifeiliaid? OQ57572

8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU (26 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Rwy'n dychmygu bod y rhan fwyaf ohonom sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon wedi treulio cryn dipyn o amser yn cerdded strydoedd ein hardaloedd, yn curo ar ddrysau ac yn siarad gwleidyddiaeth â dieithriaid. Mae'n un agwedd ar fod yn aelod o blaid wleidyddol rwy'n ei mwynhau'n fawr. O bryd i'w gilydd, gall wneud i chi deimlo braidd yn ddiobaith pan ddowch ar draws rhywun nad oes ganddynt unrhyw...

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (26 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Mae’r pwyllgor yn credu’n gryf fod gwrandawiad cyn enwebu yn sicrhau craffu agored a thryloyw ar yr ymgeisydd a nodir fel yr un mwyaf addas o’r broses recriwtio. Mae hefyd yn rhoi hyder ychwanegol i’r pwyllgor, ac yn y pen draw, i'r Senedd, fod yr ymgeisydd a ffefrir yn addas i’w enwebu i’w penodi gan Ei Mawrhydi. Yn ystod y gwrandawiad cyn enwebu, roedd aelodau’r pwyllgor yn...

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (26 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Fel yr amlinellwyd yn adroddiad y pwyllgor, mae’n hanfodol bod proses ddethol y pwyllgor yn bodloni disgwyliadau pobl Cymru o ran cadernid a thryloywder. Mae hefyd yn hanfodol bod y broses yn cael ei chynnal mewn ffordd sy’n ei datgysylltu oddi ar unrhyw awgrym o ymyrraeth wleidyddol. O’r herwydd, gwnaethom sicrhau bod dau grŵp plaid yn cael eu cynrychioli ar y panel penodi. Yn ymuno...

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (26 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Rwy’n falch o ddweud bod y broses recriwtio wedi denu llawer o ymgeiswyr rhagorol ac mae’n bleser mawr gennyf wneud y cynnig hwn heddiw, ar ran y Pwyllgor Cyllid, i enwebu’r ymgeisydd a ffefrir, Michelle Morris, i’w phenodi i swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus nesaf Cymru gan Ei Mawrhydi. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i’r ombwdsmon presennol, Nick Bennett....

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (26 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn benodiad y Goron a wneir ar enwebiad y Senedd o dan Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Mae’r Pwyllgor Cyllid, fel y pwyllgor sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig am oruchwylio trefniadau sy’n ymwneud â’r ombwdsmon, wedi chwarae rhan lawn drwy gydol y broses o...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Prydau Ysgol am Ddim (26 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Diolch, Weinidog. Un o brif rannau’r cytundeb cydweithredu oedd y polisi prydau ysgol am ddim, a fydd o fudd i gymaint o deuluoedd. Rwy’n falch fod Plaid Cymru wedi helpu i wireddu hyn o fis Medi eleni ymlaen. Mae gan y polisi hwn oblygiadau mawr a chadarnhaol i gadwyni cyflenwi lleol a'r frwydr yn erbyn tlodi plant. Bydd hefyd yn golygu cost cyfalaf i sicrhau bod pob ysgol gynradd yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Prydau Ysgol am Ddim (26 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: 3. A wnaiff y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol gynradd? OQ57510

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-22 (25 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu y datganiad a gyhoeddwyd y prynhawn yma a diolch i chi am fy nghrybwyll yn y datganiad ac am sôn am y grŵp trawsbleidiol yr wyf wedi helpu i'w sefydlu gyda chymorth y staff gwych yn yr elusen gyffuriau Kaleidoscope. Mae hefyd yn braf cael fy atgoffa o'r gostyngiad yn nifer y marwolaethau yn sgil cyffuriau yng Nghymru, er yr hoffwn weld y nifer yn...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Cyllid Hosbisau (25 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Mae'r ddwy hosbis plant yng Nghymru wedi bod ar waelod y rhestr yn y DU o ran cefnogaeth y wladwriaeth. Cyn y cyhoeddiad hwn, cafodd ein hosbisau lai na 10 y cant o'u cyllideb o ffynonellau'r wladwriaeth. Er mwyn cymharu, mae hosbisau plant yn yr Alban yn cael 50 y cant o'u cyllideb o ffynonellau'r wladwriaeth. Nid ydym ni'n sôn heddiw am fod yn gydradd â chenhedloedd eraill, ond mae'n gam...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Cyllid Hosbisau (25 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Mae'n ddrwg gen i. Pan fyddwch chi'n rhoi'r cyhoeddiad hwn heddiw mewn cyd-destun o ran y sicrwydd ariannol sydd ei angen arnom ni ar gyfer hosbisau plant, rwy'n siŵr y bydd cytundeb ledled ein Senedd heddiw, ac nid yn unig y mae'n hen bryd ei gael, ond mae'n rhywbeth i'w groesawu'n fawr iawn. Diolch.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.