Luke Fletcher: Wrth gwrs. Ewch amdani, Janet.
Luke Fletcher: Wel, fe daflaf hyn yn ôl atoch, Janet—a diolch am yr ymyriad hefyd—a ydych chi erioed wedi edrych ar faint o weithwyr sydd wedi dioddef amodau gwaith gwael er mwyn gwneud eu biliynau i'r biliwnyddion hynny? Dyna'r realiti yma. Mae llawer o dalu'n ôl i'w wneud, rwy'n meddwl. Ac ar ba bwynt, pan fyddwn yn wynebu trychineb sy'n bygwth dileu'r ddynoliaeth, pan welwn gymaint o dlodi, pan...
Luke Fletcher: Diolch, Llywydd dros dro, a diolch, wrth gwrs, i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw.
Luke Fletcher: Mae'n debyg fy mod am ddechrau fy nghyfraniad drwy wyntyllu fy rhwystredigaethau fy hun ynglŷn â'r ffordd rydym yn sôn am yr argyfwng hinsawdd a'r economi werdd. Rhaid imi ddweud, rydym wedi cael dadleuon dirifedi ar yr amgylchedd a'r economi werdd yn nhymor y Senedd hon yn unig, ac nid wyf hyd yn oed yn meddwl—Duw a ŵyr faint o ddadleuon a gafwyd yn fyd-eang ar yr amgylchedd, ac rwy'n...
Luke Fletcher: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Os gallaf i ddweud, fel boi Pen-coed, dwi'n edrych ymlaen at weld beth fydd y bartneriaeth rhwng Thermify a Phrifysgol Abertawe yn ei gynhyrchu. Mae'n hollbwysig ein bod yn trafod beth all Llywodraeth Cymru ei wneud, yn enwedig yn ystod COP26, ac fel rhan o beth all y Llywodraeth ei wneud, mae'r economi yn hanfodol.
Luke Fletcher: Mae pryder mawr mai siop siarad arall fydd COP26, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n un o'r rhai sy'n pryderu, ac rwy'n siŵr nad yw hynny'n syndod i'r Aelodau yr wyf i wedi gweithio gyda nhw ers cael fy ethol. Mae fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian yn dweud wrthyf yn rheolaidd fy mod i'n llawer rhy sinigaidd am fy oedran, ond mae'n ymddangos bod amharodrwydd i gymryd camau heriol yn erbyn...
Luke Fletcher: Wrth gwrs, ie.
Luke Fletcher: Wrth gwrs; cytuno'n llwyr. Mae yna bwynt pwysig yn fanna o ran yr arian yn aros yn y gymuned leol.
Luke Fletcher: Ac os caf roi eiliad hefyd i ddweud bod yr Eidalwyr ar y blaen yn hyn o beth, fel y nododd Huw, gyda chyfraith Marcora. Evviva Italia. Rhwng 2007 a 2013, helpodd y gyfraith i esblygu busnesau i fod yn gwmnïau cydweithredol i weithwyr ac achub dros 13,000 o swyddi. Dychmygwch faint o swyddi y gallem fod wedi'u hachub dros y blynyddoedd pe bai gennym ddarpariaeth debyg ar gael ar gyfer...
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod; roedd yn un roeddwn yn fwy na pharod i'w gefnogi. Fel Huw a Vikki, a gefnogodd y cynnig hwn hefyd, rwy'n Aelod balch o'r grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol. Mae'n deg dweud bod cwmnïau cydweithredol a phartneriaethau cymdeithasol yn cael eu derbyn yn eang fel y ffordd...
Luke Fletcher: Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Yn ôl cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU ar y gronfa gymorth i aelwydydd, fel y nododd y Gweinidog, bydd fformiwla Barnett yn gymwys yn y ffordd arferol, sy'n golygu y bydd gweinyddiaethau datganoledig yn cael hyd at £79 miliwn o'r £500 miliwn hwnnw. Ac i Gymru, mae hynny'n golygu mai dim ond £25 miliwn a gawn, fel y dywedoch chi. Hyn, wrth gwrs, pan fo...
Luke Fletcher: 7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa gymorth a gyhoeddwyd ar gyfer aelwydydd sy'n agored i niwed dros y gaeaf? OQ57060
Luke Fletcher: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.
Luke Fletcher: Yn gyntaf, hoffwn groesawu'r datganiad. Rwyf i wedi dweud droeon yn y Siambr fod angen i ni gael gweledigaeth a strategaeth hirdymor i economi Cymru, ac rwy'n arbennig o falch o weld y pwyslais ar beidio â cholli doniau. Byddwn i'n dweud, er hynny, nad wyf i'n teimlo mai dechrau'r drafodaeth yw hyn. Mae'r drafodaeth ar golli doniau wedi bod yn digwydd am ddegawd neu fwy neu felly mae'n...
Luke Fletcher: Y Senedd hon oedd y gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd, yn ôl yn 2019, ac ychydig fisoedd yn ôl, hon oedd y Senedd gyntaf i ddatgan argyfwng natur. Gwyddom fod y dasg sydd o'n blaenau yn aruthrol, a bod angen meddwl o ddifrif amdani ac ewyllys i newid y system yr ydym yn byw ynddi. Rwyf bob amser wedi bod yn glir: mae'r system economaidd bresennol yr ydym yn byw ynddi yn anghydnaws â'r hyn...
Luke Fletcher: Hoffwn ddiolch i Peredur am gyflwyno'r ddadl fer hon, a gallaf gadarnhau y byddaf yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno â'i grŵp trawsbleidiol. Mae Peredur yn iawn; nid yw'r rhyfel yn erbyn cyffuriau'n gweithio ac nid yw erioed wedi gweithio. Rydym wedi bod ar y groesffordd hon ers dros bedwar degawd. Y gwir amdani yw bod ein hanallu i gael sgwrs aeddfed am gyffuriau wedi arwain at ddioddefaint...
Luke Fletcher: Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i ddileu tlodi bwyd?
Luke Fletcher: Fel y gwnes i gyfeirio ato yn barod, mae anghenion gofal yn amrywio'n sylweddol o gyflwr i gyflwr. Gallant fod yn gorfforol neu'n feddyliol. Felly, mae diagnosis cywir yn golygu y gall y rhai sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr ddarparu'r gofal sydd ei angen arnynt. Mae rhan bwysig o'r gofal hwn yn ymwneud ag iaith. Gall y rhai sy'n byw gyda dementia anghofio siarad ail iaith,...
Luke Fletcher: Wrth i bawb ohonom dyfu'n hŷn a byw'n hirach, bydd nifer yr achosion o ddementia'n cynyddu, felly mae hwn yn fater y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae gennym ffordd bell i fynd cyn i wasanaethau dementia gyrraedd lle mae angen iddynt fod, ond rwy'n gobeithio y gall fy nghynnig fynd beth o'r ffordd i helpu'r Llywodraeth gyrraedd yno. Rwy'n annog pob...
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Busnes yn ogystal â chyd-Aelodau ar draws y Senedd am eu cefnogaeth i hwyluso'r ddadl hon. Heddiw, edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl, sy'n amlwg iawn yn fater trawsbleidiol. Cyflwynais y cynnig hwn yn y Senedd gan gofio am ddwy fenyw yn fy nheulu a oedd yn byw gyda dementia tuag at ddiwedd eu hoes: Dorothy...