Adam Price: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae aelodau pob un o bedwar undeb mwyaf y GIG bellach wedi pleidleisio i wrthod cynnig cyflog eich Llywodraeth o 3 y cant; a gwnaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru hynny o ganran enfawr o 94 y cant. A wnewch chi gytuno nawr i'w cais am drafodaethau cyflog ffurfiol?
Adam Price: A wnaiff y Gweinidog ddarparu amserlen ar gyfer datrys y prinder poteli gwaed sy'n effeithio ar wasanaethau mewn practisau meddygon teulu ledled Cymru ar hyn o bryd?
Adam Price: Fel y buasech chi yn ei ddisgwyl, rwy'n credu efallai roeddech chi'n ordeg ac yn orhael yn eich darlunio o'r sefyllfa mor bell ag y mae agwedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol atom ni. Mae'n wir amdanoch chi, fel amdanom ni i gyd, dwi'n credu, bod eich cryfder pennaf, sef eich ffordd resymol, bwyllog, yn ceisio dwyn perswâd ar bobl, weithiau'n gallu troi yn wendid pan ŷch chi'n wynebu, hynny...
Adam Price: Mae SAGE wedi dod i'r casgliad, hyd yn oed gyda chynllunio gofalus, efallai na fydd unrhyw fudd net i ardystiad imiwnedd COVID, ac yn wir mae papur gan un o'i is-bwyllgorau wedi dadlau bod gan dystysgrif ddomestig—sef yr hyn yr ydym ni'n sôn amdani, yn hytrach na thystysgrif deithio—y potensial i achosi niwed. Mae'r gell cyngor technegol, yn ei chrynodeb, yn cyfeirio at ddwy astudiaeth...
Adam Price: Symud i ddethol ar hap.
Adam Price: Rhai cwestiynau ymarferol, os caf i, am y pàs COVID arfaethedig. Rydym ni'n gwybod bod profion llif ochrol yn llai dibynadwy na phrofion PCR, a phrofion hunan-weinyddu yw'r rhai mwyaf annibynadwy o'r cwbl ar hyn o bryd oherwydd y gellir eu ffugio. Mae'r dechnoleg yn bodoli i lanlwytho profion llif ochrol cartref yn uniongyrchol mewn ffordd na ellir eu ffugio. A ydych chi'n bwriadu...
Adam Price: Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ysgrifennu yr wythnos diwethaf at arweinwyr pleidiau'r Senedd yn rhannu'r gwaith modelu diweddaraf gan Brifysgol Abertawe a oedd yn dangos pwysau'r pandemig ar y GIG yn cyrraedd uchafbwynt ddechrau mis Tachwedd. Fe wnaethoch chi esbonio bod y modelu hwn wedi dylanwadu ar benderfyniad y Blaid Lafur i ganslo ei chynhadledd yng Nghymru a'r angen i bob un ohonom ni...
Adam Price: Mae esgeulustod cyfresol San Steffan o rwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi gadael Cymru gyda'r trac hynaf ac yn y cyflwr gwaethaf yn y DU a'r trenau mwyaf araf a budr. Yr ateb amlwg yw i ni gymryd rheolaeth dros ein seilwaith ein hunain, ond, er bod San Steffan yn parhau i wrthsefyll, a allwn ni fforddio sefyll yn ein hunfan? Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi awgrymu yn ddiweddar y dylid creu...
Adam Price: Amddiffynnodd y Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig, David T.C. Davies, unwaith eto yr wythnos diwethaf y penderfyniad y ganslo trydaneiddio prif reilffordd de Cymru i Abertawe, gan ddadlau na fyddai wedi arwain at unrhyw fanteision i deithwyr. Nawr, byddai datgarboneiddio, ar wahân i'w effaith amgylcheddol gadarnhaol, wedi cael y fantais eithaf sylweddol i deithwyr o beidio â'u...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Datgelodd Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf fod lefelau llygredd o nitrogen deuocsid yn nhrenau dau-fodd newydd Great Western Railway, ar gyfartaledd, bum gwaith yn uwch, ac, ar lefelau brig, 20 gwaith yn uwch na'r rhai a gofnodwyd ar stryd fwyaf llygredig Cymru, Ffordd Hafodyrynys ger Crymlyn—yr ystyriwyd ei bod hi mor wael ei bod yn cael ei dymchwel yr wythnos hon. Dim...
Adam Price: I lawer ohonom ni, mae 'ni fydd yr atebion i broblemau Cymru byth yn dod o San Steffan' yn wirionedd sylfaenol o ddemocratiaeth Cymru. Mae hynny'n wir am y problemau sy'n unigryw i Gymru, ond hefyd am y problemau byd-eang nad yw Cymru yn ddiogel rhagddyn nhw, ond y gallwn ni, o bosibl, wneud ein cyfraniad unigryw ein hunain at eu datrys. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'n ysbrydoliaeth gweld y...
Adam Price: Mae'n dweud rhywbeth am ddideimladrwydd y Llywodraeth Geidwadol hon yr ydych chi wedi cyfeirio ato eisoes y prynhawn yma eu bod nhw'n credu mai'r peth iawn i'w wneud nawr yw cael gwared ar y cynnydd i gredyd cynhwysol pan fo miliynau o deuluoedd yn wynebu caledi ofnadwy. Cyn belled â bod ein lles yng Nghymru yn gyfrifoldeb i'r gwactod moesol sy'n bodoli yn San Steffan, yna bydd teuluoedd yma...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Wrth wynebu'r dewis o ddefnyddio treth atchwel—fel yswiriant gwladol—i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, neu ddewis amgen blaengar, yna bydd Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan bob amser yn dewis y cyntaf. A ydych chi'n credu bod hyn yn cryfhau'r ddadl dros ddatganoli yswiriant gwladol i Gymru, yn enwedig o gofio bod Prif Weinidog y DU yn mynnu rhwygo'r setliad datganoli...
Adam Price: Efallai fod yr etholiad ar ben, Prif Weinidog, ond mae gwaddol chwerw tlodi dwfn ac anghydraddoldeb yn ein cymunedau, sy'n cael ei roi i ni gan y Deyrnas Unedig hynod anghyfartal hon, mae hynny'n parhau. Y 31 y cant o'n plant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi: sut gallwch chi ddadlau bod yr undeb wedi bod yn rym er lles dilyffethair iddyn nhw? Cyferbynnwch hynny â Seland Newydd: yn ystod yr...
Adam Price: [Anghlywadwy.]—enghraifft arall. Mae ymosodiad diweddaraf San Steffan ar ddemocratiaeth Cymru yn ymwneud â bonws o £500 i staff iechyd a gofal yng Nghymru. Heb fod yn fodlon ar ei drethu, mae'n ymddangos erbyn hyn fod San Steffan yn ei ddefnyddio fel esgus i dorri budd-daliadau pobl. Felly, yn hytrach na chael bonws i ddweud diolch, bydd llawer o weithwyr yn cael eu cosbi trwy ddidyniad o...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Pleidleisiodd pobl Cymru y mis hwn gan fwy na 2:1 dros bleidiau a safodd ar lwyfan i roi mwy o bwerau i'r Senedd. Ymateb San Steffan i'r mandad hwn hyd yma fu nid yn unig ei anwybyddu ond ceisio ei wrthdroi. Mae ganddyn nhw gynllun i Gymru; ond nid yw'n ein cynnwys ni. Osgoi'r Senedd o ran disodli cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd; ailfrandio Trafnidiaeth Cymru yn 'Great...
Adam Price: Mewn perthynas ag amrywiolyn India, yr amrywiolyn India sy'n peri pryder, fe ddywedoch chi fod yna nifer o feysydd lle nad oes gennym dystiolaeth bendant o hyd ynglŷn â'i effaith o ran effeithiolrwydd brechu a hefyd a yw'n achosi math mwy difrifol o'r clefyd. A allech ddweud ychydig am y meysydd lle mae gennym rywfaint o ddealltwriaeth? Felly, yn arbennig, rwyf wedi darllen casgliad yn rhai...
Adam Price: Gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, a hefyd am yr ysbryd o gydweithrediad a oedd yn plethu drwyddo, a dweud y gwir? Roeddech chi'n sôn am y traddodiad corawl Cymreig fel arwydd o'r ysbryd cydweithredol yn hynny o beth, ac wrth gwrs, mae'n rhaid cofio, rwy'n credu, mai'r term gwreiddiol ar gyfer Senedd Cymru, pan oedd Cymru Fydd wrthi, oedd creu cymanfa genedlaethol. Felly,...
Adam Price: Mae Senedd sy'n gwbl gytbwys rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid yn gwneud cydweithrediad gwleidyddol ar draws ffiniau pleidiau nid yn unig yn ddymunol ond yn angenrheidiol, ac rydym yn barod, ym Mhlaid Cymru, i ddod o hyd i dir cyffredin er budd y bobl sydd wedi ethol pob un ohonom i'r Senedd hon. Byddwn yn gweithio gyda'r Llywodraeth lle bo'n bosibl, a chyda'r gwrthbleidiau lle bo angen, mewn...
Adam Price: Diolch, Llywydd, a gaf i ddechrau trwy eich llongyfarch chi ar gael eich ethol fel Llywydd? Mae'n dda i weld aelod o Blaid Cymru yn ennill o leiaf un etholiad y prynhawn yma, ond gaf i hefyd estyn yr un llongyfarchiadau i David Rees, ac, wrth gwrs, estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Mark Drakeford ar gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog y prynhawn yma? Fel y dywedais i ar ôl canlyniad yr...