Canlyniadau 261–280 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Reckless

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Trafnidiaeth Gyhoeddus (22 Ion 2020)

Mark Reckless: Oni ddylai Gweinidog yr economi fod wedi bod yn gliriach yn ei lythyr at arweinydd ei blaid yng Nghyngor Caerdydd ei bod yn gwbl annerbyniol, wrth geisio codi arian ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, i dâl gael ei strwythuro yn y fath fodd fel na chaiff ond ei dalu gan bobl o'r tu allan i ardal ei gyngor, tra bod pawb o fewn yr ardal wedi'u heithrio'n llwyr?

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

Mark Reckless: Wel, oherwydd bod y cyfreithiau hyn gennym cyn inni ymuno â'r Undeb Ewropeaidd a bod yr Undeb Ewropeaidd yno. Roedd gennym lawer mwy o amddiffyniadau i hawliau gweithwyr yn y wlad hon nag a oedd gan y rhan fwyaf o'r gwledydd Ewropeaidd hynny, a gafodd eu hennill, i raddau helaeth, gan yr undebau llafur. Eto i gyd, rydych chi'n anwybyddu hynny nawr ac yn datgan mai rhodd gan yr Undeb...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

Mark Reckless: Rwy'n diolch i'r Prif Weinidog am ei gynnig i roi cydsyniad i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael), fel y dylem ni ei wneud, yn dilyn penderfyniad pobl Cymru mewn refferendwm. Mae'n rhyfeddol bod y Prif Weinidog yn pleidleisio yn erbyn ei gynnig ef ei hun, i bob pwrpas yn cadw at wrthwynebiad Llywodraeth Cymru i Brexit. Fe ddylai'r ddadl honno fod wedi dod i ben; fe ddylai fod wedi dod...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

Mark Reckless: A wnaiff y Prif Weinidog ildio? Onid dyna'n union y gwnaethoch chi ei ddweud yn 2016 ar ôl y refferendwm? O ystyried eich camau gweithredu yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf, pam ddylai pobl eich credu chi nawr?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (21 Ion 2020)

Mark Reckless: Rwy'n falch o glywed y bydd y Llywodraeth yn edrych ar hyn yn fanwl ac yn ymateb i'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, onid yw hyn yn mynd i werthoedd? £583 yr wythnos yw'r cyflog cyfartalog yng Nghaerdydd. £458 yr wythnos ydyw ym Mlaenau Gwent. Pam ddylai pobl sy'n ennill £125 yn llai yr wythnos dalu treth newydd tra bod pobl sy'n ennill £125 yn fwy yr wythnos yn cael eu heithrio? Beth mae...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (21 Ion 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, un o elfennau allweddol bargeinion dinesig, o leiaf fel y mae Llywodraeth y DU wedi eu hyrwyddo dros yr wyth mlynedd diwethaf, yw integreiddio trafnidiaeth ar sail ranbarthol. A yw cyhoeddiad cyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf yn golygu bod gwahanol ddull yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru? Nid yn unig y mae'n ymddangos bod un ardal cyngor, Caerdydd yn cael cyfran anghymesur o...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru (15 Ion 2020)

Mark Reckless: Rydym yn cael brawddegau rhy ddeniadol braidd, ac sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd yn ôl pob golwg, gan y Prif Weinidog: dylem ddefnyddio'r cyllid rhataf yn gyntaf—sy'n swnio’n synhwyrol iawn—ac yna mae'r pwyllgor yn dweud y dylem baru ffynonellau cyllid â phrosiectau, sydd hefyd yn ymddangos yn synhwyrol iawn. Ond fel arfer, yn y sector preifat, pan fydd pobl yn siarad am baru cyllid...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru (15 Ion 2020)

Mark Reckless: Diolch am ildio. Dywedodd fod y cynllun wedi’i roi heibio oherwydd yr argyfwng newid hinsawdd, ond a yw’n cofio nad oedd yr hysbysiad ynghylch y penderfyniad a oedd yn naw neu 10 tudalen o hyd yn sôn o gwbl am newid hinsawdd? 

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Ion 2020)

Mark Reckless: Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Os caf droi at fater penodol pensiynau, credaf mai pan fu'r Gweinidog yn dirprwyo dros y Prif Weinidog mewn cwestiynau blaenorol i'r Prif Weinidog y gofynnais iddo am yr hyn a ddigwyddodd yn Lloegr i dalu'r costau ychwanegol hynny i feddygon, ac a fyddem yn gwneud yr un peth yng Nghymru. Rwy'n gweld ein bod yn gwneud hynny bellach; cafwyd cyfarwyddyd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Ion 2020)

Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Weinidog, roeddwn yn awyddus i holi am y meddylfryd sy'n sail i'r rheswm pam fod ein graddfeydd cyflog ar gyfer meddygon mewn ysbytai yn wahanol i'r rheini a geir yn Lloegr, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar recriwtio a chadw staff. Ar gyfer meddygon sylfaen y flwyddyn gyntaf, nodaf fod ein graddfeydd rhwng £1,300 a £1,500 yn uwch y flwyddyn nag yn Lloegr, ond onid yw...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Ion 2020)

Mark Reckless: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb ystyriol a meddylgar. Prif Weinidog, pan ofynnais i chi y tro cyntaf am y gostyngiad i dderbyniadau masnachol y doll stamp ar ôl cyflwyno'r dreth trafodiadau tir, dywedasoch ei bod hi'n rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau. Erbyn hyn, mae gennym ni'r data pendant yn nogfen 'Welsh taxes outlook' y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac maen nhw'n dweud bod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Ion 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, gostyngodd cynnyrch domestig gros 0.3 y cant ym mis Tachwedd, a gwn eich bod chi'n hoffi beio Brexit am unrhyw wendid yn yr economi. Fodd bynnag, onid yw'n ddadlennol ein bod ni wedi cael rhywfaint o ddata llawer cryfach ers yr etholiad? Er enghraifft, mae'r Halifax wedi dweud bod prisiau tai wedi codi gan 4 y cant ym mis Rhagfyr. Cynyddodd cydbwysedd optimistiaeth busnes...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adfywio Cymunedol ( 8 Ion 2020)

Mark Reckless: Rwy'n llongyfarch yr Aelod ar ei waith dros gyfnod hir o amser, yn cyflwyno'r achos dros drefi glan môr, ac rwy'n llongyfarch y Ceidwadwyr, sy'n cynrychioli ychydig yn fwy, ar lefel San Steffan o leiaf, nag y gwnaent o'r blaen. Ond nid yw pob tref glan môr yn ddifreintiedig. Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn clywed gan David Melding—efallai y bydd yn cyflwyno'r achos dros Benarth, ond nid wyf...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adfywio Cymunedol ( 8 Ion 2020)

Mark Reckless: Diolch iddo am y cymorth. Mae 'Co-produce' yn Dictionary.com, ond nid yw 'co-productive' yno, dim ond 'co-produce'. Mae'n dweud, cynhyrchu (ffilm, drama, ac ati) mewn cydweithrediad ag eraill. Beth bynnag, rwy'n casglu bod ganddo rywbeth i'w wneud â chynnwys y gymuned a chydgynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol ac mae hynny'n beth da, ond nid yw'r gair 'cydgynhyrchiol' ei hun yn un...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adfywio Cymunedol ( 8 Ion 2020)

Mark Reckless: Rwy'n gwrthwynebu'r cynnig am wahanol resymau'n gysylltiedig â phob un o'r pedwar pwynt. Y pwynt cyntaf, rwy'n credu ei bod yn ddigon teg gresynu at fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, ond mae llawer iawn o raglenni Llywodraeth Cymru wedi methu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ond yn gyffredinol, maent yn llusgo ymlaen heb i'r Llywodraeth gyfaddef y methiant. Yn yr achos...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Denu Digwyddiadau i Gymru ( 8 Ion 2020)

Mark Reckless: Un o fanteision y ganolfan gynadledda ryngwladol a chynnig rhagorol Jayne yw ei lleoliad ar ochr ddwyreiniol Casnewydd yn y Celtic Manor, fel nad oes angen i bobl sy'n dod i ddigwyddiadau yno o Loegr ar hyd y ffordd deithio drwy dwneli Bryn-glas. Oni fyddai adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn strategaeth ehangach ar gyfer denu digwyddiadau i Gymru, er enghraifft i Gaerdydd, gan ei gwneud yn...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

Mark Reckless: Gallaf weld bod y Gweinidog yn awyddus i ddilyn arferion gorau. Ac i'r graddau fod Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn bodoli a bod ganddo restr o wahanol brosiectau y mae'n ystyried y gallant fod yn effeithiol, gallaf weld pam ei bod yn defnyddio hynny fel man cychwyn. Ond fel Gweinidog cyllid sy'n gwneud penderfyniad ynghylch faint o'n hadnoddau gwerthfawr i'w buddsoddi mewn meysydd...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Weinidog Cyllid, siaradais â chi ar y diwrnod y cyhoeddwyd y gyllideb a gwneuthum rai o'r pwyntiau rydym wedi'u clywed gan Rhun heddiw, ac yn rhannol ddoe. Ac rwy'n falch o glywed eich bod wedi cyfarfod â Lesley Griffiths y bore yma i ystyried rhai o'r materion hyn. Fodd bynnag, yn eich datganiad ddoe, fe ddywedoch chi eich bod yn buddsoddi yn y meysydd lle gallwn gael yr...

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21 ( 7 Ion 2020)

Mark Reckless: Rwy'n llongyfarch y Gweinidog Cyllid ar ei chyllideb a'r broses a ddefnyddiwyd ganddi. Rwy'n nodi, yn union o'r hyn y mae Rhun newydd ei ddweud, fod ei sylwadau'n weddol fwyn wrth geryddu Llywodraeth y DU am y newidiadau yn amseriad ei chyllidebau a'r modd y cafodd hynny ei gyfathrebu. Mae'n gwrthgyferbynnu â'r hyn a glywsom ni'n gynharach yn Senedd yr Alban, lle mae'n ymddangos y cafwyd...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.