John Griffiths: Prif Weinidog, mae COVID-19 wedi dangos yn eglur yr annhegwch na ellir ei amddiffyn yn ein cymdeithas. Mae'r rhai sydd ar incwm is, mewn swyddi ansicr, yn byw mewn tai o ansawdd gwael ac yn dioddef anghydraddoldebau iechyd yn arbennig o agored i'r feirws, o ran eu hiechyd, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Mae ein cymunedau mwy difreintiedig, lleiafrifoedd du ac ethnig, a phobl anabl yn cael...
John Griffiths: 1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ystod pandemig COVID-19? OQ55524
John Griffiths: 4. Sut y bydd polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru fwy cyfartal yn esblygu yn dilyn y profiad COVID-19? OQ55525
John Griffiths: Prif Weinidog, mae Newport Live, yr ymddiriedolaeth gwasanaethau hamdden, yn darparu llawer iawn o fudd yng Nghasnewydd o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Yn wir, maen nhw wedi chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o helpu cleifion COVID-19 i wella ar bod yn wael. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o hyn. Diolch byth, maen nhw bellach yn dychwelyd i'w dosbarthiadau a'u gweithgareddau, ac...
John Griffiths: Iawn. Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac mae'n dda iawn gweld ein bod ni wedi cyrraedd y cam hwn gydag ymgyrch mor bwysig â 20’s Plenty, a hoffwn i ymuno â Lee Waters wrth dalu teyrnged i Rod King, sydd wedi hyrwyddo'r achos mor helaeth ac eang ers cyhyd, a hefyd, wrth gwrs, diolch i Phil Jones a'r tasglu, a diolch i Lee Waters ei hun, gan...
John Griffiths: Mae'n bwysig ein bod yn canfod rhai pethau cadarnhaol ymhlith dioddefaint ac anhawster cyffredinol COVID-19, ac rwy'n croesawu'r gwaith yr ydych yn ei wneud, Cwnsler Cyffredinol, i adeiladu'n ôl yn well. Un agwedd ar y misoedd diwethaf y mae pobl wedi'i gwerthfawrogi yw'r gostyngiad ym maint y traffig sydd ar ein ffyrdd, ond mae ofnau, wrth gwrs, oherwydd y pryderon ynghylch defnyddio...
John Griffiths: 3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i Ailgodi'n Gryfach yn ystod ac ar ôl Covid-19? OQ55460
John Griffiths: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon ynghylch cynnydd mewn teithiau traffig ar y ffyrdd wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu codi?
John Griffiths: Rwy'n credu bod y themâu cryf yn yr adroddiad sydd wedi cael eu hadleisio yn y Siambr heddiw yn bwysig iawn ac yn amserol iawn, ac yn ddefnyddiol iawn ar hyn o bryd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y pwyntiau a'r argymhellion yn cael eu gweithredu'n fuan. Yn fy mhrofiad i, Ddirprwy Lywydd, yng Nghasnewydd mae gennym Gasnewydd Fyw, sef ymddiriedolaeth hyd braich a sefydlwyd gan yr awdurdod...
John Griffiths: Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gan atgyfnerthu'r anghydraddoldebau presennol o ran dosbarth, ethnigrwydd, anabledd a rhywedd. Rydym ni bellach yn wynebu argyfwng economaidd a'r posibilrwydd o anghydraddoldeb a niwed pellach i'r rhai sy'n lleiaf abl i'w wrthsefyll. Bydd prosiectau seilwaith yn rhan...
John Griffiths: 4. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio prosiectau seilwaith i adfywio economi Cymru yn sgil COVID-19? OQ55369
John Griffiths: Pa agweddau ar gysylltiadau rhyngwladol Cymru a allai gael eu cryfhau o ganlyniad i'r profiad o Covid-19?
John Griffiths: Hoffwn gyfrannu fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Ac fel pwyllgorau eraill, ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymchwiliad i effaith COVID-19 ar ein meysydd cyfrifoldeb. Ac mae'n amlwg fod ymateb yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar y sefydliadau sy'n gweithredu yn y meysydd o fewn ein cylch gwaith, a gallu'r sefydliadau hynny i ymateb yn y ffordd fwyaf...
John Griffiths: Brif Weinidog, ceir pryder mawr ynghylch cyfleoedd bywyd ein plant, yn enwedig y rheini yn ein teuluoedd tlotaf. Nid oes digon o'r disgyblion yr ystyrir eu bod yn agored i niwed wedi dychwelyd i'r ysgol, ac mae lefelau gweithio gartref wedi bod yn amrywiol iawn. Mae'n debyg y bydd dychwelyd i'r ysgol ddiwedd y mis hwn yn digwydd am ychydig oriau unwaith yr wythnos yn unig ac efallai na fydd...
John Griffiths: 8. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg o fis Medi ymlaen o safon uchel? OQ55330
John Griffiths: Cyfarfûm ag Oscar gyntaf pan ymunodd â gwleidyddiaeth rheng flaen yng Nghasnewydd yn gynghorydd dinas Casnewydd ar gyfer ward Victoria, gryn flynyddoedd yn ôl bellach. Bryd hynny, roedd mewn gwirionedd yn braenaru'r tir fel cynghorydd Mwslimaidd, a, diolch byth, ers hynny, mae aelodau eraill o'r gymuned wedi dilyn ei esiampl. Nid oes gennyf amheuaeth nad oedd ei bresenoldeb, ei amlygrwydd...
John Griffiths: Weinidog, un peth a welsom drwy COVID-19 yw bod llawer o bobl yn dod i wneud mwy o ymarfer corff. Rwy'n meddwl ein bod ni i gyd wedi eu gweld yn cerdded ac yn loncian ac yn beicio o gwmpas lle rydym yn byw. Ond mae rhai pobl yn dod yn llai egnïol yn gorfforol, efallai oherwydd nad yw'r seilwaith arferol sy'n hwyluso eu hymarfer corff, fel campfeydd, ar gael. Mae hyn i'w weld yn adlewyrchu...
John Griffiths: Weinidog, rydym wedi gweld buddsoddiad mawr yn y diwydiant ceir trydan ar draws y byd, ac wrth inni chwilio am gyfleoedd economaidd wrth gefnu ar COVID-19, hoffwn awgrymu y dylai'r DU ddatblygu capasiti gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf ar gyfer ceir trydan a phopeth sydd ei angen mewn perthynas â hynny. Ac yng Nghasnewydd, wrth gwrs, mae gennym waith Orb, a allai weithgynhyrchu'r duroedd...
John Griffiths: A gaf i ddweud—gwnaf, Dirprwy Lywydd—fel pwyllgor, rydym ni'n gobeithio am y math hwnnw o ddull ataliol—tai yn gyntaf. Fe wnaethom ni gyfarfod â'r grŵp gweithredu, ac roeddem ni'n chwilio am y math o hawliau corfforaethol sy'n—[Anghlywadwy.]—cyflawni. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yn fawr o ran cynllunio dilynol ac osgoi llithro'n ôl, oherwydd mae pobl yng Nghasnewydd yn...
John Griffiths: Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae'r pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cymryd diddordeb arbennig mewn cysgu ar y stryd a pholisi Llywodraeth Cymru. Yn wir, rydym ni wedi llunio dau adroddiad yn y Cynulliad hwn, un ddiwedd y llynedd ar wasanaethau arbenigol o ran iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, ac un mwy cyffredinol y...