Canlyniadau 261–280 o 10000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths OR speaker:Lesley Griffiths OR speaker:Lesley Griffiths OR speaker:Lesley Griffiths

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae'r amser sy'n cael ei neilltuo i gwestiynau Comisiwn y Senedd yfory wedi ei leihau i 10 munud. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Iechyd y Diwydiant Wyau (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, a chredaf ei bod yn bwysig iawn tynnu sylw at y ffaith nad ffliw adar yn unig sy'n effeithio ar ein cynhyrchwyr wyau. Mae cyfres o broblemau wedi creu storm berffaith. Credaf y byddai angen i unrhyw uwchgynhadledd o’r fath fod ar lefel y DU, am y rhesymau a amlinellais yn fy ateb gwreiddiol. Rwyf wedi ysgrifennu at Mark Spencer, y...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Iechyd y Diwydiant Wyau (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r diwydiant wyau wedi cael ei effeithio gan chwyddiant costau'n codi drwy 2021 ac yn ddiweddar gan ffliw adar. Mae'r rhain yn ffactorau cyffredin ledled y DU, gyda chynhyrchwyr wyau a phacwyr o Gymru wedi'u hintegreiddio mewn cadwyni cyflenwi ledled y DU. Rydym yn rhagweld trafodaeth rhwng y Llywodraeth a'r diwydiant ar lefel y DU i ystyried ffordd o sicrhau sefydlogrwydd i...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Gwella Effeithlonrwydd Ynni yn Arfon (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn am y rôl y gall ein sector amaethyddiaeth a'n ffermwyr ei chwarae mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni. Cyfarfûm â Chyngor Gwlân Prydain—18 mis yn ôl bellach, mae'n debyg—ac fe wnaethom drafod y defnydd o wlân Cymreig, yn amlwg, yn enwedig o'm safbwynt i, mewn perthynas ag insiwleiddio, er enghraifft. Maent yn credu bod yna ddefnydd...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Gwella Effeithlonrwydd Ynni yn Arfon (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n ymgysylltu'n rheolaidd â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar amrywiaeth o faterion portffolio. Ar fater ffermwyr yn gwella effeithlonrwydd ynni, bydd ein cynllun ffermio cynaliadwy yn cynnig cefnogaeth yn y dyfodol i helpu ffermwyr i ddatgarboneiddio, ac ar hyn o bryd, rydym yn cynnig cymorth effeithlonrwydd ynni i ffermwyr drwy ein cynllun effeithlonrwydd grantiau bach, a agorodd...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Diogelu Rhywogaethau Bywyd Gwyllt sydd o dan Fygythiad (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn llygad eich lle, mae'r gylfinir yn aderyn tir fferm a rhostir eiconig. Rwy'n falch eich bod yn parhau i'w hyrwyddo. Roeddwn i fod i gyfarfod â Gylfinir Cymru ac yn anffodus bu'n rhaid imi ohirio'r cyfarfod. Ni allaf gofio'n iawn pam, ond fe wnaf yn siŵr fy mod yn aildrefnu'r cyfarfod hwnnw, oherwydd yn sicr mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed beth sydd ganddynt i'w...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Diogelu Rhywogaethau Bywyd Gwyllt sydd o dan Fygythiad (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Defnyddir dull tîm Cymru i ddiogelu bywyd gwyllt sydd dan fygythiad. Ar 10 Ionawr, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fesurau i gefnogi ystod eang o rywogaethau bywyd gwyllt, gan gynnwys nifer o rywogaethau dan fygythiad. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys stiwardiaeth uniongyrchol a gwelliannau i'r cynefinoedd a'r ecosystemau sy'n cynnal ein bywyd gwyllt.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Creu Diwydiant Amaethyddol Bywiog (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Bûm yn ymweld â'r Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth yn Gelli Aur ddwywaith fy hun i glywed am y gwaith anhygoel sydd ar y gweill, ac roedd yn braf gweld cymaint o gynnydd wedi'i wneud rhwng fy nau ymweliad. Rwy'n croesawu'r ymchwil sydd wedi'i wneud yno yn fawr. Gallaf weld addewid mawr i alluogi ein ffermydd i ddefnyddio'r maethynnau a geir mewn tail yn llawer mwy effeithlon. Mae...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Creu Diwydiant Amaethyddol Bywiog (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn sefydlu pedwar amcan rheoli tir cynaliadwy fel y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer polisi amaethyddol yn y dyfodol. Lluniwyd yr amcanion i fod yn gydategol, gan adlewyrchu ein dull o gefnogi cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y sector amaethyddol yng Nghymru.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Mae diogelu ffermydd teuluol yn ganolog i bopeth rwy'n ei wneud. Rydych chi'n hollol gywir, mae gennym nifer sylweddol o ffermydd teuluol. Maent yn bwysig iawn i'n cymunedau gwledig ac wrth gwrs maent yn gwarchod y Gymraeg. Mae'r sector amaethyddol yn defnyddio'r Gymraeg yn fwy nag unrhyw sector arall yma yng Nghymru. Mae'r ffocws hwnnw, os mynnwch, yn ganolog i bopeth a wnawn wrth symud...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cathbysgod (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Fel y dywedodd CNC wrthych, pe baem yn cael gwared ar yr holl gathbysgod yn y pwll hwnnw, ni fyddech yn gallu gwneud hynny heb gael gwared ar yr holl bysgod eraill. Felly, rwy'n deall yr wybodaeth a roddwyd i chi gan CNC yn iawn. Fy nealltwriaeth i yw bod pwll Brickfield yn rhan o hen chwarel ac yn grynofa ddŵr annibynnol. Nid yw'n gysylltiedig ag unrhyw ffynonellau eraill o ddŵr croyw,...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae nifer o'r darpariaethau monitro ac adrodd sydd wedi'u cynnwys yn y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) wedi'u cynllunio i fesur llwyddiant. Ochr yn ochr ag adroddiad cyllid blynyddol, bydd gofyn i Weinidogion Cymru adrodd ar effaith y cymorth a ddarperir yn erbyn yr amcanion rheoli tir cynaliadwy.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cathbysgod (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Rwy'n ymwybodol o'r boblogaeth gathbysgod ym mhwll Brickfield yn y Rhyl. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda chlwb genweirio Brickfield, sydd wedi bod wrthi'n cael gwared ar gathbysgod. Maent yn ymwybodol ei bod yn drosedd rhoi unrhyw gathbysgod sy'n cael eu dal yn ôl yn y dŵr neu eu symud i unrhyw grynofa ddŵr arall.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Seilwaith Gwyrdd Trefol (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Mae'n bwysig sicrhau bod integreiddio'n digwydd yng nghanol y dref neu mewn ardal benodol gyda buddsoddiadau eraill yng nghanol y dref benodol honno neu'r ardal benodol honno. Rwy'n credu mai dyna'r unig ffordd o sicrhau canlyniadau gwell. Rydym yn darparu llawer iawn o gefnogaeth i ddatblygiadau sy'n rhan o gynlluniau creu lleoedd ehangach a phrosiectau...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Seilwaith Gwyrdd Trefol (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr yng nghwestiynau'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, clywsom lawer o gwestiynau ynghylch gwahanol swyddogaethau a gwasanaethau anstatudol rydym yn eu gwerthfawrogi'n fawr, ac rwy'n credu eich bod newydd roi esiampl dda iawn yno. Soniais fod gennym sawl cynllun. Mae gennym y cynllun creu lleoedd Trawsnewid Trefi, mae gennym ein...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Seilwaith Gwyrdd Trefol (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Drwy ein rhaglen adfywio Trawsnewid Trefi, anogir awdurdodau lleol i gynnig atebion seilwaith gwyrdd integredig, fel rhan o gynlluniau creu lleoedd ar gyfer ein trefi. Mae prosiectau seilwaith gwyrdd ledled Gwent yn gwella bioamrywiaeth canol ein trefi a gwella llesiant trigolion ac ymwelwyr.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Tir Comin (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Wel, rwy'n ymwybodol o fferm wynt arfaethedig Pen March ar dir comin Merthyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn datgan, nawr, fod y cais yn dal i fod yn y camau cychwynnol, ac yn amlwg bydd angen ei asesu'n llawn cyn penderfynu ar ei effaith bosibl. 

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Defnyddio Addasu Genetig Planhigion ar gyfer Atafaelu Carbon (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch addasu genetig. Mae technoleg yn ddull pwysig y byddwn yn ei ddefnyddio i gyrraedd sero net. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ariannu amrywiaeth o ymchwil. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gweld rôl bwysig i GMO ar gyfer atafaelu carbon. 

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Tir Comin (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae'n debyg fy mod yn ymwybodol iawn o'r achos rydych yn cyfeirio ato; mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn amlwg iawn. Mae Hefin David a minnau wedi cyfarfod ychydig o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf i drafod materion mewn perthynas â thir comin. Fel y nodwyd gennych, mae tir comin yn cael ei reoli gan amrywiaeth o sefydliadau drwy ddull cydweithredol. Fe sonioch chi am awdurdodau...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Tir Comin (18 Ion 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydym wedi darparu cyllid i wella'r gwaith o reoli tir comin drwy ein cynlluniau cymorth, ac rydym yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i sicrhau bod tiroedd comin yn rhan annatod o gymorth yn y dyfodol. Yn rhanbarth Dwyrain De Cymru, mae ein cynllun rheoli cynaliadwy wedi ariannu tri phrosiect ar dir comin â chyfanswm o dros £1 miliwn.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.