Joyce Watson: Diolch i chi am eich diweddariad blynyddol, Gweinidog. Fel mae'r prif swyddog milfeddygol yn ei nodi yn y rhagair i'r ddogfen ymgynghori, roedd y rhaglen ddileu bob amser yn golygu taith bell ac mae'r tueddiadau hirdymor yn parhau i fod yn gadarnhaol. Rydym ni wedi caniatáu i'r wyddoniaeth lywio a'n rhanddeiliaid allweddol ni—ffermwyr, milfeddygon a chyrff cynrychioliadol—wrth fwrw...
Joyce Watson: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n Ddiwrnod Cynamseroldeb y Byd yfory, pan fyddwn ni'n troi ein meddyliau a'n canolbwynt at enedigaeth gynamserol, sydd, yn anffodus, weithiau yn cael effaith aruthrol ar deuluoedd. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae eich Llywodraeth wedi rhoi sylw arbennig iddo drwy'r rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf, a chyda buddsoddiad cyson mewn gwasanaethau iechyd...
Joyce Watson: 8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi rhieni newyddenedigol? OQ57209
Joyce Watson: Nid yw sbeicio diodydd yn beth newydd. Cafodd fy niod i ei sbeicio ym 1982. Roedd hynny 39 mlynedd yn ôl ac mae'n brofiad brawychus iawn, ac yn un sy'n aros gyda chi am byth. Yn achos fy niod i, roeddwn yn nhafarn ffrind i mi. Roeddwn yn drwyddedai fy hun. Camais allan drwy'r drws a cherdded tua 800 llath, mae'n debyg, o fy nghartref fy hun. Roeddwn yn byw mewn pentref bychan yng Nghymru....
Joyce Watson: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi cynaliadwyedd ar y blaen mewn polisïau addysg a'u hymrwymiad i gynnwys disgyblion wrth gynllunio eu hamgylchedd dysgu. Cefais y fraint o weld yn uniongyrchol pa mor frwd yw disgyblion wrth gymryd rhan mewn prosiectau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu hamgylchedd dysgu pan ymwelais ag Ysgol Gynradd...
Joyce Watson: 2. Sut mae polisïau addysg y Gweinidog yn cyfrannu at darged sero-net Llywodraeth Cymru? OQ57157
Joyce Watson: Nid ymyriad oedd hwnna, roedd yn ymgais i gymryd fy amser i.
Joyce Watson: Y pwynt yw hwn, iawn? Mae'n ymddangos i mi fod gennych chi broblem—sef nad ydych yn ymddiried mewn pobl i gymryd prawf llif unffordd a rhoi eu canlyniad eu hunain. Mae'n ymddangos i mi na allwch ymddiried mewn pobl. Wel, rydym yn barod i ymddiried mewn pobl yma i wneud y peth iawn. Ond gadewch i ni fynd yn ôl i le yr ydym ni. O ran tegwch, maen nhw'n deg am eu bod yn rhoi mwy o hyder i...
Joyce Watson: Na, fe dderbyniaf yr un yma draw fan hyn. [Chwerthin.]
Joyce Watson: Rwyf i wedi clywed llawer am y ffaith nad yw absenoldeb tystiolaeth yn dystiolaeth ynddo'i hun, ond lle ceir tystiolaeth o absenoldeb, mae hynny yn dystiolaeth ynddo'i hun. Felly, os oes gennych brawf llif unffordd, mae'n brawf o absenoldeb COVID. Felly, rwyf i am droi hynny ar ei ben ac efallai caniatáu i rai ar y meinciau ar yr ochr honno fyfyrio arno. Mae'n ffaith, a cheir tystiolaeth,...
Joyce Watson: Rwy'n diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn draddodiadol, mae Cymru wedi darparu cymorth anghymesur i'n lluoedd arfog, ac mae angen anrhydeddu'r ymrwymiad a'r aberth hwnnw, yn enwedig yn ystod yr Wythnos y Cofio nesaf. Dyna pam mae cyllid cynyddol eich Llywodraeth ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n darparu cymorth iechyd meddwl i gyn-bersonél y lluoedd arfog, ac ar gyfer swydd...
Joyce Watson: 7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi personél sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr? OQ57159
Joyce Watson: Diolch i bawb, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Joyce Watson: Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl, Lynne Neagle.
Joyce Watson: Galwaf yn awr ar Jack Sargeant.
Joyce Watson: Galwaf yn awr ar Peredur Owen Griffiths.
Joyce Watson: Galwaf ar Mabon ap Gwynfor.
Joyce Watson: Galwaf yn awr ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Joyce Watson: Da iawn chi ar eich amseru. [Chwerthin.] Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Joyce Watson: Galwaf yn awr ar Luke Fletcher.