Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ydy, mae omicron yn taflu cysgod mawr dros Gymru'r Nadolig yma onid yw, ac, er na allwn ni ragweld efallai yn union beth fydd goblygiadau'r amrywiolyn i iechyd y cyhoedd ac i'r NHS, rydym ni eisoes yn gweld ei effaith e, onid ydym, er enghraifft, ar y sector lletygarwch, fel gwnaethoch chi gydnabod yn gynharach. So, i ddilyn i fyny ar eich ateb blaenorol chi, a...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Jest i bigo i fyny ar rai o'r sylwadau blaenorol yn benodol ynglŷn â'r Bil cyllid neu Fil cyllideb blynyddol, dwi'n dal i deimlo fel roeddwn i pan oeddwn i'n cadeirio'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd diwethaf fod hynny'n rhywbeth yn sicr y byddwn i'n dymuno i ni fel Senedd symud tuag ato fe. Dwi'n derbyn beth mae'r...
Llyr Gruffydd: Diolch ichi am eich ateb, Prif Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae pryderon difrifol yn cael eu mynegi wrthyf nad yw'r gwasanaeth yn gallu ymdopi â maint y galw. Yr ymdeimlad ymhlith gweithwyr nyrsio proffesiynol yw bod y gwasanaeth yn cael ei orlethu, gyda chleifion yn gorfod aros oriau am ymateb sylfaenol. Dywedwyd wrthyf, er enghraifft, fod galwadau, yn ystod yr wythnosau diwethaf heb...
Llyr Gruffydd: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaeth ffôn 111 yn y gogledd? OQ57392
Llyr Gruffydd: Arweiniodd y diwylliant o wrthwynebiad i graffu, i newid a her, wrth gwrs, at hierarchaeth bwrdd Betsi Cadwaladr yn gwrthod rhyddhau'r adroddiad hwn, er gwaethaf ceisiadau'r comisiynydd gwybodaeth, hyd yn oed. Bu'n rhaid i berthnasau mewn galar aros yn ddiangen oherwydd biwrocratiaeth nad oedd yn rhoi pobl yn gyntaf—rhoi ei fuddiannau ei hun a'i enw da ei hun yn gyntaf a wnaeth, ac wrth...
Llyr Gruffydd: Diolch am y cyfle unwaith eto i gael trafod y mater yma. Rŷn ni wedi cael sawl cyfle dros yr wythnosau a'r misoedd, yn wir y blynyddoedd, diwethaf i drafod sgandal yr uned Hergest a'r sgandal, wrth gwrs, o beidio â chyhoeddi adroddiad Holden yn llawn. A bob tro dwi'n codi i drafod y mater yma, dwi'n dal i fethu â chredu bod y bwrdd wedi trio osgoi atebolrwydd yn y modd y gwnaethon...
Llyr Gruffydd: Diolch ichi am eich ateb. Dwi’n ddefnyddiwr pybyr iawn o wasanaethau trên. Yn fy 10 mlynedd i fan hyn yn y Senedd, dwi wedi gyrru i lawr efallai rhyw ddwywaith y flwyddyn. Dwi’n defnyddio’r trên bron yn ddieithriad os medra i, a dwi wedi defnyddio’r trên dair gwaith yn y tair wythnos diwethaf. Tair wythnos yn ôl, mi oeddwn i ddwy awr yn hwyr yn cyrraedd yn ôl i’r gogledd....
Llyr Gruffydd: 5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ansawdd gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru? OQ57338
Llyr Gruffydd: Er mwyn asesu gwir oblygiadau treth gwerth tir, mae angen, wrth gwrs, mwy o ddata arnom ni. Mae hynny wedi dod yn glir ym mheth o'r gwaith mae adroddiad Prifysgol Bangor wedi'i wneud. Yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad, wrth gwrs, oedd mynd ati i ddechrau casglu’r data angenrheidiol mewn modd mwy bwriadol, efallai. Felly, gaf i ofyn pa waith mae'r Llywodraeth wedi ei wneud neu yn...
Llyr Gruffydd: Diolch, Dirprwy Lywydd. Edrychwch, mae o fewn yn ein grym yn y Siambr hon i ddiwygio'n sylweddol yr hyn sy'n un o'r trethi mwyaf atchweliadol sydd gennym, mewn gwirionedd. Mae'n etifeddiaeth o gyfnod Thatcher. Mae'n annheg iawn, oherwydd mae'n codi bron bedair gwaith cymaint â chyfran o gyfoeth ar y tlotaf ag y mae ar y cyfoethocaf. Nawr, nid yw hynny'n rhywbeth y dylem ei oddef, ac mae...
Llyr Gruffydd: Gwnes i ofyn a oedd y Prif Weinidog yn cytuno â fi.
Llyr Gruffydd: Doeddwn i ddim yn deall bod yna gyfyngiad amser.
Llyr Gruffydd: Mae'n amlwg bod y Torïaid yn pryderu cryn dipyn am y cytundeb cydweithredu, a beth, tybed, yw asesiad y Prif Weinidog o'r rheswm am hynny. Gan ein bod ni i gyd yn cofio, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato, y rhodd o £1 biliwn gan y Torïaid—ai oherwydd ein bod ni wedi dangos y ffordd briodol o negodi cytundeb seneddol gyda thryloywder llawn o ran gweithrediad y cytundeb hwn yr ydych chi'n...
Llyr Gruffydd: Diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Dwi'n croesawu cyhoeddi'r rhaglen yma sydd wedi'i hehangu ac wedi'i diwygio i adlewyrchu y meysydd yna lle mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gallu canfod y tir cyffredin yna i gydweithio arno fe. Ac, wrth gwrs, rŷn ni wedi cadw ffocws digyfaddawd yn y trafodaethau hynny ar sicrhau lles pobl Cymru, newid bywydau pobl Cymru er gwell, fel...
Llyr Gruffydd: Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n amlwg bod Plaid Cymru wedi cyrraedd, oherwydd mae'r Ceidwadwyr yn treulio mwy o amser yn trafod maniffesto a pholisïau Plaid Cymru nag y maen nhw eu polisïau eu hunain, ac unwaith eto mae hynny'n tanseilio, dwi'n meddwl, pa mor gynyddol amherthnasol y mae'r Ceidwadwyr yn dod yn y lle yma. Dwi'n falch bod Sam wedi darllen maniffesto Plaid Cymru. Jest...
Llyr Gruffydd: Wel, mi edrychwn ni ymlaen yn fawr iawn i weld beth yw'r dyddiad yna. Wrth gwrs, y trasiedi yw ein bod ni wedi colli blynyddoedd i bob pwrpas. Rŷn ni wedi bod yn sôn am gynllun dychwelyd ernes i Gymru ers bron i ddegawd, ac, wrth gwrs, rŷn ni dal yn sôn am gynllun dychwelyd ernes i Gymru. Nawr, mi benderfynoch chi, wrth gwrs, redeg proses ymgynghorol ar y cyd gyda Llywodraeth y Deyrnas...
Llyr Gruffydd: 1. Pryd mae'r Prif Weinidog yn disgwyl i Gymru gael cynllun dychwelyd ernes gweithredol? OQ57293
Llyr Gruffydd: Diolch am yr ateb. Rydych chi’n dweud mai mater i’r bwrdd oedd hynny. Wel, mi wnaeth eich Gweinidog iechyd chi, a oedd yn Ddirprwy Weinidog iechyd meddwl ar y pryd, gadarnhau i mi flwyddyn yn ôl ei bod hi wedi darllen adroddiad Holden. Nawr, blwyddyn yn ôl oedd hynny, cofiwch, pan oedd y bwrdd dal mewn mesurau arbennig, ac felly’n dal o dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth chi....
Llyr Gruffydd: 8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn cyhoeddi adroddiad Holden? OQ57257
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Mae fy ffrind Abdul Khan yn dipyn o eicon. Ers 17 mlynedd, mae wedi bod yn gynghorydd sir yn nhref Bae Colwyn yn rhanbarth Gogledd Cymru, ac eleni, ef yw’r Bangladeshiad cyntaf erioed yng Nghymru i gadeirio cyngor sir, pan gafodd ei benodi’n gadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae hefyd yn ddyn busnes llwyddiannus, yn berchennog bwyty hirsefydlog yn y dref, ac yn...