Mark Drakeford: Diolch yn fawr i Siân Gwenllian, Llywydd. Dwi'n cytuno, mae yn dda i weld popeth rydym ni'n ei wneud gyda'n gilydd i sefydlu ysgol feddygol ym Mangor yn mynd ymlaen mewn ffordd lwyddiannus, ac, wrth gwrs, fel Aelod lleol, mae uchelgais gyda Siân Gwenllian i ddefnyddio'r llwyddiant yng nghyd-destun yr ysgol feddygol i wneud mwy yn y dyfodol. Dwi wedi gweld yr ymatebion mae Eluned Morgan wedi...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr i Siân Gwenllian, Llywydd. Mae’r niferoedd derbyn wedi cael eu cytuno, ac mae’r cyllid wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer 140 o fyfyrwyr bob blwyddyn, pan fydd yr ysgol yn cyrraedd y capasiti uchaf. Cafodd llythyr o sicrwydd ei anfon at gydweithwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol ym mis Tachwedd i ganiatáu i Brifysgol Bangor barhau i fynd ymlaen drwy'r broses achredu.
Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Mike Hedges. Roedd yn braf iawn bod yn Abertawe gydag ef ddechrau'r mis hwn, a chyfle i roi ar gof a chadw unwaith eto: llongyfarchiadau i Matt Warren, a sefydlodd Veeqo lai na 10 mlynedd yn ôl, ac sydd wedi ei wneud yn llwyddiant mor eithriadol. Yn ei gyfraniad yn y seremoni honno, canolbwyntiodd ar y manteision ansawdd bywyd a ddaw o fyw yn ardal Abertawe, ansawdd y...
Mark Drakeford: Buddsoddi mewn seilwaith, sgiliau a busnesau newydd yw'r cynhwysion hanfodol yng nghamau'r Llywodraeth i ddatblygu ein heconomi. Mae rhaglen ardal ddigidol bargen ddinesig bae Abertawe, wedi'i hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn enghraifft o sut rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i gefnogi datblygiad economaidd a thwf.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â Jack Sargeant. Mae'n rhaid mai un o waddolion llwyddiant Cymru i gyrraedd rownd derfynol cwpan y byd yw ysbrydoli'r genhedlaeth newydd honno o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon o bob math, ac os ydyn nhw'n mynd i wneud hynny, yna mae angen buddsoddi mewn cyfleusterau. Rydym ni'n gweithio ochr yn ochr â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda buddsoddiad...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach yna. Gadewch i mi roi dwy enghraifft iddo o ffyrdd y byddwn ni eisiau dilyn ein presenoldeb yng nghwpan y byd yn y meysydd y mae'n eu crybwyll. Felly, dywedais yn fy ateb gwreiddiol y byddai camau diwylliannol dilynol i'r ymweliad. Llwyddais i ymweld â'r Amgueddfa Celf Islamaidd tra roeddwn i yn Qatar. Mae'n amgueddfa ardderchog iawn, ac...
Mark Drakeford: Llywydd, fe wnaeth presenoldeb Llywodraeth Cymru yn Qatar ganiatáu i ni gynyddu ymwybyddiaeth o Gymru ar draws y byd a lleisio'r gwerthoedd sy'n bwysig i ni. Bydd manteision diwylliannol ac economaidd ymhlith sgil-gynhyrchion yr ymgysylltu hwnnw.
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Fel y bydd llawer o Aelodau o'r Senedd yn gwybod, fe wnaethom ni greu pwyllgor Cabinet newydd yn ôl ym mis Medi, sydd wedi cyfarfod bob wythnos yn ystod yr hydref hwn, i edrych ar fesurau costau byw. Ddoe, ymunodd Gweinidog y DU dros symudedd cymdeithasol â ni, ac roedd cyfle yno i drafod yr angen i wella'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn am...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn mae'r Aelod yn ei ddweud am y cyfnod caled iawn y mae cynifer o gymunedau yma yng Nghymru yn ei wynebu, yn enwedig dros y gaeaf hwn. Nid yw'r cefndir cyffredinol mor llwm ag y byddai'n ei bortreadu. Atebais gwestiwn yn gynharach y prynhawn yma am y cyfrifiad, ac, os edrychwch chi ar rai o'r ffigurau yn y cyhoeddiadau diweddaraf o'r cyfrifiad, mae'n dangos...
Mark Drakeford: Llywydd, mae dinasyddion yng Nghymru, gan gynnwys Dwyrain De Cymru, wedi elwa yn sgil mentrau fel y taliad costau byw o £150, y cynllun cymorth tanwydd a'n cronfa cymorth dewisol Cymru yn unig. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo'r aelwydydd mwyaf agored i niwed drwy'r cyfnod anodd hwn.
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Fe wnaeth presenoldeb Llywodraeth Cymru yn Qatar ganiatáu i ni gynyddu ymwybyddiaeth o Gymru ar draws y byd a lleisio'r gwerthoedd sy'n bwysig i ni. Bydd manteision diwylliannol—[Torri ar draws.]
Mark Drakeford: Nid yw'r gwahaniaeth rhyngom ni yn athronyddol o gwbl, Llywydd; yn syml, mae'n ymarferol. Mae ef eisiau cymryd £120 miliwn allan o weithgarwch y mae'r GIG yng Nghymru wedi ymrwymo i'w gyflawni, a byddai'n defnyddio'r arian hwnnw i dalu pobl. Dewis ymarferol yw hwnnw; bu'n rhaid i'n dewis ni fod yn wahanol gan ein bod ni'n gweld y pwysau enfawr y mae'r GIG yn eu hwynebu bob dydd. Nawr, fe...
Mark Drakeford: Wel, mae gen i ofn bod hwnna'n gwestiwn dryslyd tu hwnt, Llywydd. Llywodraeth yr Alban ei hun wnaeth gyhoeddi ffigurau a oedd yn dangos ei bod wedi cymryd £400 miliwn allan o gynlluniau yr oedd ganddi fel arall i'w gwario ar wasanaethau GIG a throsglwyddo hynny i gyflogau. Nawr, mae hwnnw'n benderfyniad cwbl ddilys iddyn nhw ei wneud. Ond ni wnaethon nhw ddod o hyd i £400 miliwn o arian...
Mark Drakeford: Wel, gadewch i mi wneud dau bwynt yn unig: rydym ni'n gwybod sut mae Llywodraeth yr Alban wedi gallu gwneud y cynnig hwnnw, ac mae'n benderfyniad i Lywodraeth yr Alban ei wneud. Maen nhw wedi ei wneud trwy gymryd £400 miliwn allan o'r GIG a throsglwyddo'r arian hwnnw i gyflogau. Nid yw hwnnw'n benderfyniad yr ydym ni wedi teimlo y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru. Ac o ran y cytundeb a...
Mark Drakeford: Wel, mae gen i ofn, Llywydd, nad yw gweiddi arnaf i'n celu am eiliad gwacter y pwyntiau y mae arweinydd yr wrthblaid wedi eu gwneud y prynhawn yma. Mae'n fy annog ar y naill law i ddefnyddio'r arian yr ydym ni wedi ei gael gan Lywodraeth y DU i dalu staff yn y GIG, heb gydnabod am eiliad, pe baem ni'n gwneud hynny, mae dim ond gwaethygu fyddai'r pwysau gwasanaeth a arweiniodd at y mathau o...
Mark Drakeford: Mae arweinydd yr wrthblaid, Llywydd, yn hollol ddigywilydd—yn hollol ddigywilydd. Mae'n dod i lawr y Senedd yma pan wnaeth ei Lywodraeth ef yn San Steffan derfynu cyfarfod gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ymhlith drwgdeimlad dim ond neithiwr, gan eu bod nhw wedi gwrthod, fel y dywedodd arweinydd y Coleg Nyrsio Brenhinol, rhoi'r un geiniog ar y bwrdd i gynyddu cyflogau nyrsys yn Lloegr, a...
Mark Drakeford: Does dim arian yng nghyllideb Llywodraeth Cymru gan ei Lywodraeth ef yn Llundain i ganiatáu i ni wneud gwell cynnig nag ariannu'n llawn, fel yr ydym ni wedi ei wneud, y dyfarniad cyflog a gynigiwyd gan y corff dyfarnu cyflogau annibynnol.
Mark Drakeford: Wrth gwrs, dwi'n cytuno gyda beth ddywedodd Raymond Williams, a dyna pam, ar ôl gweld y ffigurau yn y cyfrifiad, rydym ni'n dal i fod yn hyderus am ddyfodol yr iaith yma yng Nghymru, a dyna'r peth pwysig. Dwi'n cydnabod beth ddywedodd Delyth Jewell am bobl yn colli hyder pan wnaethon nhw weld y ffigurau i ddechrau. Ond, ar ôl cael cyfle i ystyried beth sydd yn y sensws ac i weld y...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae'r cwestiwn hunaniaeth yn y cyfrifiad yn un diddorol iawn, ac mae'r canlyniadau y mae'n eu dangos, yn fy marn i, yn sicr yn werth eu harchwilio'n briodol. Nawr, pam rydym ni'n gweld rhai o'r newidiadau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw? Wel, rydym ni'n gwybod bod nifer y marwolaethau dros y degawd diwethaf yn fwy na nifer y genedigaethau a gafwyd yng Nghymru. Felly, mae'r twf ym...
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am hynna. Llywydd, mae canlyniadau o gyfrifiad 2021 wedi dechrau cael eu cyhoeddi, ond nid yw gwybodaeth allweddol, fel gwybodaeth am ddaliadaeth tai, wedi'i chyhoeddi eto. Bydd y darlun llawn yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft, i gryfhau'r adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol' nesaf, sy'n un o brif ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.