Neil McEvoy: Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn mewn mosg ar Stryd Alice yn Butetown, yn siarad ar ôl gweddïau dydd Gwener. Mae canolfan Yemenïaidd yno a chymuned Yemenïaidd sefydledig sy'n mynd yn ôl ganrifoedd. Dywedodd pobl wrthyf pa mor falch ydynt fod ganddynt rywun â chefndir Yemeni Arabaidd wedi ei ethol i'r Cynulliad hwn am y tro cyntaf. Roedd hi'n fwy na siomedig canfod, ar ben arall y wlad, ar...
Neil McEvoy: Nodir rhai bylchau data yn yr adroddiad. Rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth ateb yr alwad am 'Siarad â fi', a datblygu gwelliannau i leihau achosion o hunanladdiad, yn enwedig ymhlith dynion, oherwydd yr hyn sy'n lladd y mwyaf o ddynion o dan 45 oed yng Nghymru yw hunanladdiad mewn gwirionedd. Ceir bylchau enfawr hefyd yn y data a'r ymchwil ar gyfer y ddarpariaeth iechyd meddwl ymhlith...
Neil McEvoy: A wnaiff yr Aelod ildio?
Neil McEvoy: Wnewch chi ildio, Gareth?
Neil McEvoy: Mae llawer o bobl yng Nghymru, yn fy rhanbarth i yn enwedig, yn poeni'n arw, yn bryderus iawn ac, mewn rhai achosion, mewn cryn ofid oherwydd yr hyn sy'n digwydd i aelodau o'u teuluoedd yn Yemen oherwydd y gwrthdaro, ac mae aelodau o'u teuluoedd yn cael eu bomio allan o fodolaeth yn llythrennol. Yr hyn a hoffwn heddiw fyddai datganiad gan y Llywodraeth am yr hyn y gellid ei wneud i...
Neil McEvoy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae fy ngwelliant yn syml iawn, sef bod Cynulliad Cymru: 'Yn gwrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.' Cyflwynais y gwelliant oherwydd fy mod eisiau rhoi pleidlais i bob Aelod o'r Cynulliad hwn dros neu yn erbyn pŵer niwclear. Hefyd, rwyf am i'r cyhoedd allu dwyn pob un ohonom i gyfrif ar fater pŵer niwclear. Rwyf bob...
Neil McEvoy: Am ymhell dros ganrif, mae pobl o Yemen wedi bod yn dod i'n gwlad i wneud Cymru'n gartref iddynt. Un ffaith nad yw'n hysbys iawn yw mai ar Stryd Glynrhondda yng Nghaerdydd yr adeiladwyd y mosg cyntaf ym Mhrydain. Daeth yr Yemeniaid yma fel morwyr i weithio ar gychod glo a hwyliai i borthladd Aden cyn dychwelyd i Gaerdydd a Chasnewydd. Roedd fy nhaid yn un o'r morwyr Yemenïaidd a wnaeth...
Neil McEvoy: A'r Athro?
Neil McEvoy: Arweinydd y Siambr, yr wythnos diwethaf, aeth Geraint Davies AS i Dŷ'r Cyffredin i ddadlau gerbron y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol yn San Steffan nad oedd y mwd a garthwyd o'r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley yng Ngwlad yr Haf, a gafodd ei waredu wedyn ychydig y tu allan i Gaerdydd, wedi cael ei brofi'n ddigonol a'i fod yn peryglu iechyd cyhoeddus. Dyna'r un mwd yn union y...
Neil McEvoy: Beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r methiannau cyfathrebu rhwng meddygfeydd teulu a gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd Cymru? Mae'r methiant hwn o ran cyfathrebu wedi golygu na all y gymuned pobl fyddar gael mynediad at ofal iechyd hanfodol oherwydd problemau gweinyddol yn y GIG yng Nghymru. Mae'n broblem ddifrifol iawn.
Neil McEvoy: Nid lle mae nant y Rhath. Nid yw wedi gorlifo ers degawdau.
Neil McEvoy: Rydym ni wedi gweld storm Callum a'r dinistr ofnadwy, llifogydd ym mhobman, a thrasiedi, fel y soniwyd yn gynharach. Cafwyd llifogydd yn y bae. Eto, mae'r ardal sy'n destun anghydfod o amgylch Nant y Rhath yn hollol iawn ac ni fu llifogydd yno o gwbl, felly fy nghwestiwn i chi fyddai: a ydych chi'n credu y gallwch chi wario'r £0.5 miliwn a glustnodwyd ar gyfer ardal Nant y Rhath yn well mewn...
Neil McEvoy: Weinidog, a wnewch chi ildio?
Neil McEvoy: A wnewch chi ildio?
Neil McEvoy: Rwy'n synnu clywed yr Aelod yn sôn am dystiolaeth wyddonol. Rwyf newydd roi tystiolaeth i chi. Ysgrifennodd yr Athro Barnham at y Gweinidog ar 20 Mehefin yn datgelu'r damweiniau gyda phlwtoniwm o safon cynhyrchu arfau. Rwyf am ei ailadrodd oherwydd mae'n werth ei ailadrodd—dim ond un math o brawf a wnaed. Os ydych yn gwneud y prawf hwnnw, ni fydd modd i chi nodi pob math o plwtoniwm....
Neil McEvoy: Mae'n rhaid achub môr Hafren. Diolch.
Neil McEvoy: Diolch, Lywydd. Pe bai rhywun yn dweud wrthyf am lunio stori, nid wyf yn meddwl y gallwn lunio rhywbeth mor anhygoel â hyn. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Tsieina yn taro bargen gyda degau o biliynau o bunnoedd, ac fel rhan o'r fargen maent yn bwriadu dympio 320,000 o dunelli o fwd o'r tu allan i orsaf bŵer niwclear oddi ar arfordir Cymru heb gynnal profion priodol arno. Ymgyrchodd...
Neil McEvoy: Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, sefydlwyd bellach drwy gamau cyfreithiol na chafwyd unrhyw asesiad o'r effaith amgylcheddol ar gyfer dympio mwd o adweithydd niwclear Hinkley Point C ar safle Cardiff Grounds. Ni chafwyd unrhyw ystyriaeth o'r effaith ar yr amgylchedd morol neu iechyd y cyhoedd. Sefydlwyd hefyd drwy ein camau cyfreithiol mai chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n gyfrifol yn y...
Neil McEvoy: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithdrefnau trwyddedu morol Llywodraeth Cymru? OAQ52684
Neil McEvoy: Hoffwn ddatganiad ynglŷn â phryd oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ddamweiniau ym mhyllau oeri Hinkley Point A, a oedd yn ymwneud â phlwtoniwm gradd arfau, yn y 1960au. Ers pryd y mae'r Llywodraeth yn ymwybodol o hyn?