Russell George: Yn gynharach eleni, dywedodd y Prif Weinidog, ac eto yn y Siambr y prynhawn yma hefyd, nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad na chynlluniau i gyflwyno pasbortau brechlyn ar gyfer lleoliadau yma yng Nghymru. Rydym ni bellach mewn sefyllfa gadarnhaol lle mae 70 y cant o boblogaeth gyfan Cymru bellach wedi eu brechu'n llawn. Rwyf i'n teimlo'n eithaf cryf am hyn, ond nid wyf i'n credu y...
Russell George: Mae ystod eang o oblygiadau moesegol, cydraddoldeb, preifatrwydd, cyfreithiol a gweithredol yn gysylltiedig â phasbortau COVID. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed rhai o'r Aelodau Llafur yn grwgnach yn y cefndir, ond y Prif Weinidog ei hun—a'r Gweinidog ei hun—sydd wedi dweud bod y rhain yn benderfyniadau cytbwys iawn. [Torri ar draws.] Felly, ystyriwch hynny. Nid oes ots gen i gymryd ymyriad.
Russell George: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac am y gwahoddiad i sesiynau briffio technegol hefyd? Rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod chi, cymaint â minnau, wedi eich arswydo gan y ffaith y gallai un o bob tri baban a oedd yn farw-anedig yng Nghwm Taf fod wedi goroesi oni bai am gamgymeriadau difrifol a wnaed yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles rhwng 2016 a...
Russell George: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw? Agorodd fy nghyd-Aelod, Joel James, y ddadl heddiw, gan alw ar y Llywodraeth mewn nifer o feysydd, ond yn gyntaf oll, nododd Joel effaith gadarnhaol dileu tollau croesi afon Hafren. Roeddwn yn credu'n wirioneddol y gallai hyn fod yn rhywbeth y byddai pob Aelod yn cytuno yn ei gylch, ond nid yw hynny'n wir....
Russell George: Heddiw yw Diwrnod Calon y Byd ac er mwyn codi ymwybyddiaeth, mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi bod yn cynnal sesiwn galw heibio ar risiau'r Senedd. Roedd yn dda fod cynifer o'r Aelodau'n gallu bod yn bresennol heddiw. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru hefyd yn lansio ymgyrch newydd ar effaith clefyd y galon ar fenywod. Mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol o farw o glefyd...
Russell George: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Russell George: Diolch, Luke. Gwrandewais ar y ddadl hon gyda diddordeb gwirioneddol, ond yr hyn a welais wrth ymweld â busnesau yn fy etholaeth fy hun yw bod llawer o gyflogwyr am fod yn hyblyg eu hunain, ac rwy'n gweld hyn yn enwedig o ganlyniad i'r pandemig. Pan fyddaf yn ymweld â busnesau, mae cyflogwyr yn cynnig yr hyn sy'n gweddu i'r gweithwyr am eu bod am gael y gweithwyr gorau i'w busnes. Maent...
Russell George: Mae ein dadl heddiw wedi'i gosod yn y ffordd honno. Mae'n ymwneud â chymorth i'r gwasanaeth ambiwlans a sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt gan Lywodraeth Cymru. Ond nid oes dwywaith amdani: mae'r gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng. Nid yw bron â bod mewn argyfwng. Mae mewn argyfwng yn awr, ac mae wedi bod mewn argyfwng ers rhai misoedd. Mae arnom angen i Lywodraeth...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig y prynhawn yma yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. A gaf fi, ar ddechrau'r ddadl hon, ddiolch yn gyntaf oll i barafeddygon a staff ambiwlans am eu gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig? Gwn fy mod yn siarad ar ran fy holl gyd-Aelodau Ceidwadol, ond gwn y bydd Aelodau o bob rhan o’r Siambr yn cytuno ein bod yn diolch o galon i’n staff...
Russell George: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad Banc Cambria? Trosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi.
Russell George: Diolch, Llywydd dros dro. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad ac am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau optometreg ar gyfer y dyfodol? Mae’r wythnos hon, Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid yn pwysleisio pwysigrwydd profion llygaid rheolaidd i bawb, wrth gwrs. Felly, rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd yn synnu bod gostyngiad o 180,000 yn y profion llygaid sydd wedi'u...
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraniad Llywodraeth Cymru at ddatblygu rhwydweithiau ynni yng Nghymru?
Russell George: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch effaith polisïau Llywodraeth Cymru ar iechyd meddwl ffermwyr?
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma a hefyd am eich llu o ddatganiadau yn gynharach heddiw hefyd? Roeddwn i’n gwerthfawrogi'n fawr fod y datganiadau hynny a'r wybodaeth honno wedi dod atom fel Aelodau ac Aelodau'r Senedd hon yn gyntaf, cyn unrhyw gyfryngau. Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, o ran...
Russell George: Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i Jane Dodds a'r Prif Weinidog am godi'r pwyntiau hyn, ac am ateb y Prif Weinidog. Rwy'n credu bod llawer iawn o gefnogaeth drawsbleidiol i'r ganolfan honno yng ngogledd Powys, ac rwy'n credu y bydd yn parhau yn yr un modd, felly mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Roeddwn i'n gwrando'n astud iawn ar eich ymateb, Prif Weinidog, i Jayne Bryant. Gallaf i...
Russell George: Sylwaf nad yw'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw welliannau i'r cynnig hwn heddiw; rwy'n deall hynny, oherwydd mae'r cynnig o'n blaenau yn eithaf syml, onid ydyw? Mae'n fater syml o, 'A ydych chi'n cytuno â'r datganiad ai peidio?' Mae blwyddyn wedi bod ers i'r Ceidwadwyr Cymreig alw'n gyntaf am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru, ac ers dros flwyddyn, mae...
Russell George: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Y cynnig sydd ger ein bron heddiw yw bod Senedd Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19 yng Nghymru. Ac fel y nododd y Dirprwy Lywydd, mae hwn hefyd wedi'i gyd-gyflwyno gan Blaid Cymru. Felly, rwy'n gwneud y cynnig yn enw Darren Millar.
Russell George: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna, ac, yn wir, mae bwrdd iechyd Powys, gan weithio gyda'r awdurdod lleol, wedi cyflwyno'r cynigion ar gyfer y cynllun—y cynnig yr ydych chi wedi ei amlinellu. Rwyf i wedi codi'r mater hwn gyda chi sawl gwaith o'r blaen, Prif Weinidog. Byddai'r cynllun yn arwain at gyfleuster newydd arloesol, ysbyty cymunedol newydd, â gwasanaethau ychwanegol hefyd yn...
Russell George: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd ym Mhowys? OQ56773
Russell George: Wel, nid oeddwn yn awgrymu hynny o gwbl. Bydd hynny'n wir mewn gwledydd ym mhob rhan o'r byd, ond roeddwn yn awgrymu ei fod wedi digwydd i raddau mwy yng Nghymru a bod angen dysgu gwersi o hynny'n benodol. Nawr, mewn perthynas ag ymchwiliad i Gymru'n unig, a'r ffaith nad ydych yn barod i gyflwyno hwnnw—. Roeddwn yn ofalus iawn yn fy nghwestiwn i beidio â dweud ymchwiliad ar unwaith yn awr....