Canlyniadau 261–280 o 3000 ar gyfer speaker:Ken Skates

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel (17 Tach 2020)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? Ac mae hi'n llygad ei lle: mae pobl a gyflogir gan Tata ymhlith y rhai mwyaf medrus yn Ewrop o ran y sector dur, ac rydym ni, Llywodraeth Cymru, wedi bod yn falch o allu buddsoddi £11.7 miliwn o ran cyllid hyfforddiant sgiliau ers 2016. Bu gan brentisiaethau ran allweddol yn holl safleoedd Tata, a deallwn fod Tata yn parhau i fod yn gwbl...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel (17 Tach 2020)

Ken Skates: —mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth y DU ac, yn amlwg, weinyddiaethau datganoledig eraill, wedi datblygu cynllun masnachu allyriadau'r DU; bydd yn gweithredu fel cynllun annibynnol, neu bydd yn gysylltiedig â chynllun masnachu allyriadau yr UE, ac mae'r ddeddfwriaeth bellach ar waith i'r cynllun hwnnw fod yn weithredol ar 1 Ionawr 2021. Mae hynny'n hanfodol bwysig. Yna, yn...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel (17 Tach 2020)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau a dweud ei fod ef yn ddadleuwr grymus ac angerddol dros Bort Talbot a'r sector dur yn ei gyfanrwydd yng Nghymru? Rwy'n croesawu ei gyfraniad heddiw yn fawr, ac rwy'n cytuno ag ef y ceir cyfle enfawr i Lywodraeth y DU ddangos ymrwymiad, ymrwymiad gwirioneddol, i lefelu am i fyny, ond i ddiogelu'r hyn sydd yn fuddiant strategol cenedlaethol i'r...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel (17 Tach 2020)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau a'i gyfraniad ef, ac rwyf i'n cytuno ag ef fod trafodaeth ynghylch modelau perchnogaeth mewn gwirionedd yn tynnu sylw oddi wrth yr hyn y mae'n rhaid ei wneud nawr? Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni ganolbwyntio ar gefnogi Tata nawr i wireddu'r trawsnewid a amlinellais i sy'n angenrheidiol i'w wneud yn fwy cystadleuol a sicrhau dyfodol hirdymor...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel (17 Tach 2020)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiynau hi? Fe fyddwn i'n cytuno'n llwyr y bydd y cyhoeddiad yn peri pryder mawr i weithwyr, ond mae'n rhaid inni gysuro'r gweithwyr hynny ein bod ni i gyd—ein bod ni i gyd—yn benderfynol o ddiogelu eu swyddi, a rhoi'r cymorth sydd ei angen ar gyfer gweld gweithfeydd Tata yn y DU yn mynd yn fwy cystadleuol yn y farchnad fyd-eang, gan gyflenwi mwy...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel (17 Tach 2020)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau ef? Ac mae yn llygad ei le mai dur yw'r rheswm pam mae Glynebwy, fel llawer o gymunedau eraill yng Nghymru, yn bodoli. Rydym ni'n aml yn ordeimladwy wrth edrych i'r gorffennol, o ran swyddogaeth dur wrth lunio ein cymunedau ni, ein diwylliant ni, ein treftadaeth ni yng Nghymru. Ond rwy'n credu y dylem fod yr un mor angerddol o ran dyfodol y...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel (17 Tach 2020)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau hi? Wrth gwrs, mae Helen Mary Jones yn iawn i dynnu sylw at y ffaith nad am Bort Talbot yn unig yr ydym ni'n sôn yma, na'r miloedd o weithwyr ym Mhort Talbot, ond am y gweithrediadau eraill sydd gan Tata Steel ledled Cymru hefyd, sy'n cyflogi niferoedd enfawr o bobl sy'n cael eu talu'n dda iawn. Yn wir, mae'r sector dur yn y Deyrnas Unedig...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel (17 Tach 2020)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ef? Rwy'n cytuno â'i ddatganiad cychwynnol, er y bydd hyn, yn amlwg, yn peri pryder—mae cyhoeddiad fel hyn bob amser yn arwain at ansicrwydd ac, felly, ansicrwydd—yn ystod y sgyrsiau a gawsom gyda Tata, mae'n gwbl glir i ni fod Tata yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'r DU, ac yn gwbl benderfynol o drawsnewid eu hasedau nhw fel y bo'r...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel (17 Tach 2020)

Ken Skates: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar ddydd Gwener 13 Tachwedd, fe gyhoeddodd Tata Steel ei fod wedi cychwyn trafodaethau gyda SSAB Sweden ynghylch caffael gweithfeydd Tata Steel yn yr Iseldiroedd gan gynnwys, wrth gwrs, waith dur IJmuiden. Hefyd, mae'r cwmni wedi cychwyn proses i wahanu busnes Tata Steel yn yr Iseldiroedd a busnes yn y DU yn y dyfodol. Yn hollbwysig, fe eglurodd Tata Steel hefyd ei fod...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Busnesau yng Nghaerffili (11 Tach 2020)

Ken Skates: Diolch i Hefin David am ei gwestiynau. Byddaf mor gryno ag y gallaf. Bydd y busnesau sydd wedi cofrestru i dalu ardrethi busnes yn derbyn grantiau yn awtomatig. Y cyfan sydd angen iddynt ei wneud yw diweddaru eu manylion. Os hoffent dderbyn ychwanegiad disgresiynol, bydd angen iddynt wneud cais byr iawn, ond mae'r dyfarniadau hynny'n awtomatig pan fydd busnes wedi diweddaru eu manylion, ar...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Busnesau yng Nghaerffili (11 Tach 2020)

Ken Skates: Diolch. Fel rwyf wedi’i ddweud wrth Aelodau eraill, mae ein pecyn presennol o £200 miliwn o grantiau i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn agored i geisiadau, ac mae £40 miliwn eisoes wedi'i dalu i fwy na 14,000 o fusnesau ledled Cymru ers dechrau'r cyfnod atal byr.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Busnesau Lletygarwch (11 Tach 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn? Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi fod y pwysau ar ddarparwyr llety o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud yn Lloegr yn anffodus, yn amlwg, ond mae'n angenrheidiol. Mae’n angenrheidiol dod â'r feirws dan reolaeth yn Lloegr, fel y buom yn ei ddwyn dan reolaeth yng Nghymru, er mwyn diogelu gweddill tymor 2020 i fusnesau ac er mwyn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Busnesau Lletygarwch (11 Tach 2020)

Ken Skates: Gwnaf, wrth gwrs. Mae ein pecyn presennol o £200 miliwn o grantiau i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn agored i geisiadau. Yn y cyfamser, rydym yn asesu ceisiadau a wnaed i’n cronfa gwerth £100 miliwn ar gyfer grantiau datblygu busnes, a oedd yn cynnwys £20 miliwn o gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch. Bwriad y gronfa honno yw cefnogi busnesau i ddatblygu...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Economi Gogledd Cymru (11 Tach 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Gallai’r problemau a nodwyd fod wedi’u hosgoi pe bai Prif Weinidog y DU wedi cytuno i gael cyfnod atal byr ar yr un pryd â ni, yn union fel roedd yr arbenigwyr gwyddonol yn ei argymell. Yn fy marn i, mae cyfnod atal byr 17 diwrnod yn llawer mwy dymunol i fusnesau na chyfnod atal pedair wythnos, fel sydd bellach ar waith yn Lloegr. Mae’n drueni...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Economi Gogledd Cymru (11 Tach 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Mandy Jones am ei chwestiwn a dweud fy mod yn cytuno’n llwyr fod dewrder ac arloesedd a chyfrifoldeb busnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch wedi bod yn anhygoel yn ystod y pandemig hwn? Rydym yn dymuno cefnogi busnesau ym mhob ffordd y gallwn i barhau i fod yn hyfyw, i oroesi’r pandemig hwn. Wrth gwrs, mae'r risg o drosglwyddiad mewn gofod wedi'i reoli bellach...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Economi Gogledd Cymru (11 Tach 2020)

Ken Skates: Fel y nodais mewn ymateb i gwestiwn 1, mae’r pandemig, ac wrth gwrs, diwedd cyfnod pontio’r UE sydd ar y gorwel, yn peri cryn ansicrwydd a chyfnod pryderus i fusnesau ledled gogledd Cymru, a dyna pam ein bod yn parhau i gynnig y pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Busnesau yng Ngorllewin De Cymru (11 Tach 2020)

Ken Skates: Wel, a gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn a chydnabod gwerth yr economi ymwelwyr i'w etholaeth? Mae'n sylweddol iawn yn wir. Ledled Cymru, mae nifer y swyddi sy'n cael eu diogelu yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch yn hynod bwysig ac yn darparu cyfleoedd i gymunedau ffynnu. Felly, yn ystod y cyfnod atal byr, roeddem yn pryderu ynglŷn â hyfywedd busnesau, a dyna pam y gwnaethom...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Busnesau yng Ngorllewin De Cymru (11 Tach 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiwn a'r cyfle y mae’n ei roi i mi ddarparu sicrwydd i bob busnes, ledled Cymru, y bydd yr holl geisiadau am gyllid grant datblygu yn cael eu hasesu ar sail ansoddol, yn ôl teilyngdod, ac na fyddwn yn dyfarnu arian ar sail y cyntaf i'r felin, ond yn ôl safon y ceisiadau? Dyna pam ein bod eisoes wedi gwrthod nifer o geisiadau, gan nad oeddent o...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Busnesau yng Ngorllewin De Cymru (11 Tach 2020)

Ken Skates: Wel, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru i ymdrin â'r effaith uniongyrchol yn ogystal â chynllunio ar gyfer yr adferiad. Mae ein timau rhanbarthol yn barod i gynnig cymorth i fusnesau ac mae ein gwasanaeth Busnes Cymru hefyd yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor i'r rheini sydd ei angen.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.