Vikki Howells: Prif Weinidog, rwy'n ffyddiog y byddwch chi'n cytuno â mi pan ddywedaf y gall defnydd arloesol o gymwyseddau treth gael effaith gadarnhaol ar ein cyllid cyhoeddus, yn ogystal â dod â manteision cymdeithasol cadarnhaol eraill. Fel y gwyddoch, rwy'n gefnogwr brwd o'r dreth ar dir gwag, a allai nid yn unig roi hwb i gyllid cyhoeddus ond, yn bwysicach, gweddnewid ein cymunedau hefyd. Felly,...
Vikki Howells: Gweinidog, mae ardaloedd gwella busnes yn cefnogi busnesau yng nghanol ein trefi mewn 16 o leoliadau gwahanol ledled Cymru, gan gynnwys yn Aberdâr yn fy etholaeth i, lle y sefydlwyd ardal gwella busnes yn gynnar eleni. Rwy'n dwyn i gof y datganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru ar 6 Mai y bydd yn cefnogi ardaloedd gwella busnes yng Nghymru gyda'u costau rhedeg am hyd at dri mis. Yn Aberdâr,...
Vikki Howells: Brif Weinidog, rwyf wedi bod yn trafod gyda llawer iawn o fusnesau yng Nghwm Cynon sy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol a gawsant gan Lywodraeth Cymru o dan y gronfa cadernid economaidd. Er mwyn cael mynediad at y gronfa honno, nodaf fod angen iddynt ymrwymo i gontract economaidd Llywodraeth Cymru. A allwch roi asesiad inni o sut rydych yn meddwl y bydd ymrwymo i’r contract...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Weinidog, rwyf wedi gwrando gyda diddordeb ar y cwestiynau a'r atebion gan bobl eraill ar y pwnc hwn, a'r rheswm yr oeddwn i eisiau ymuno oedd i ddweud bod nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi a oedd yn ddig iawn eu bod wedi clywed y negeseuon anghywir ar y rhaglen This Morning ar deledu'r DU ac roeddent yn awyddus iawn i ffonio neu anfon neges destun i'w cywiro ynglŷn â...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae wedi bod yn gadarnhaol iawn gweld arddangosiadau heddychlon o undod â Black Lives Matter, a chefais fy mhlesio'n fawr iawn gan nifer y bobl iau yn arbennig sy'n cysylltu â mi ynglŷn â'r mater hwn. Mae un cwestiwn y maent i gyd yn ei ofyn yn ymwneud â rôl addysg yn trechu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo gyda Race Council...
Vikki Howells: 4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ar gyfer creu Cymru fwy cyfartal? OQ55334
Vikki Howells: Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y grŵp Llafur, ac wrth wneud hynny rwy'n siarad ar ran yr holl Aelodau Llafur, llawer ohonyn nhw wedi gwasanaethu gydag Oscar am y 13 blynedd diwethaf. Gweithiodd llawer yn agos gydag ef mewn amrywiaeth o leoliadau dros y cyfnod hwnnw. Fel y mae pawb wedi cyfeirio ato, roedd Oscar bob amser yn hwyliog, ac er ei fod yn ddadleuwr cadarn yn...
Vikki Howells: Weinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Mae gennyf rai cwestiynau sy'n ymwneud ag elfen iaith Gymraeg eich portffolio. Yn gyntaf, ar addysg Gymraeg, tybed pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog addysg ynghylch ailagor mwy o ddarpariaeth i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, a hefyd yr ymdrechion i fynd i'r afael ag allgáu digidol yno. Mae'n amlwg, rwy'n credu, fod yna...
Vikki Howells: Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Mae gen i rai cwestiynau ynghylch manylion yr hyn yr ydych chi'n gallu ei dynnu o'r data sydd gennych chi. Er enghraifft, a ydych chi'n gweld unrhyw dueddiadau neu gysylltiadau annisgwyl o ran nodweddion sydd wedi'u gwarchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, o ran y rhai sy'n ddigartref yng Nghymru ar hyn o bryd? A oes unrhyw amrywiadau rhanbarthol...
Vikki Howells: Gweinidog, hoffwn groesawu natur ymarferol eich penderfyniad heddiw. Mae hwn yn feirws a allai fod gyda ni am flwyddyn neu ddwy neu hyd yn oed fwy, ac ni allwn ni amddifadu ein pobl ifanc o addysg wyneb yn wyneb am gyfnod mor hir â hynny. Ond mae hwn yn ddull o ddychwelyd fesul grŵp, ac mae angen ei wneud yn ddiogel, felly hoffwn ofyn i chi am ychydig mwy o fanylion ynghylch sut yr ydych yn...
Vikki Howells: Weinidog, mae gennyf ddiddordeb ym mheirianwaith ymarferol Llywodraeth yma, a sut y mae'n mynd i gyflawni. Felly, a allech ddweud ychydig rhagor wrthym ynglŷn â sut y bydd y cyngor a ddarperir gan yr unigolion hyn y tu allan i'r Llywodraeth yn mynd i mewn i waith y Llywodraeth, ac yn cyrraedd yno'n gyflym? Ac yn ail, rwy'n gwybod bod llawer o siaradwyr wedi crybwyll y materion amgylcheddol,...
Vikki Howells: Weinidog, hoffwn eich holi ynglŷn â beth fydd yn digwydd wrth inni symud ymlaen, yn enwedig mewn perthynas â'r agenda sgiliau. Nawr, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod rhannau o Gymoedd de Cymru nid yn unig â chyfraddau uchel o'r coronafeirws, ond hefyd wedi'u nodi fel mannau â mwy o risg economaidd o ran canlyniadau yn sgil yr argyfwng. Felly, hoffwn ofyn i chi pa gynlluniau sydd gan...
Vikki Howells: O blaid.
Vikki Howells: Gweinidog, rwy'n siŵr na fyddwch chi'n synnu o glywed fy mod i wedi cael llawer o adborth cadarnhaol gan fusnesau Cwm Cynon am gyflymder ac effeithlonrwydd defnydd Rhondda Cynon Taf o'r elfen rhyddhad ardrethi o gymorth busnes Llywodraeth Cymru. Ond wedi dweud hynny, rwy'n poeni bod rhai busnesau yn cael—[Anhyglyw.]—cael gafael ar y cymorth hwnnw. Pa ddeialog sydd wedi digwydd gyda...
Vikki Howells: Prif Weinidog, rwyf wedi cael llawer iawn o adborth cadarnhaol gan fusnesau yng Nghwm Cynon ynghylch y gronfa cadernid economaidd a sut mae'n cau'r bylchau yn y ddarpariaeth gan Lywodraeth y DU. Ond mae sawl busnes wedi cysylltu â mi hefyd sy'n methu â chael yr arian ar hyn o bryd gan eu bod o dan y trothwy TAW o £85,000. A gaf i ofyn pa waith sy'n cael ei wneud ynglŷn â'r bwlch hwn fel...
Vikki Howells: Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Hoffwn, yn gyntaf oll, ofyn i chi a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am nifer y meddygon a'r nyrsys a oedd wedi ymddeol yn flaenorol ac sydd wedi dychwelyd i'r GIG ac efallai unrhyw fyfyrwyr nyrsio a sut y gallant lenwi'r bylchau hynny. Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â'r cyhoeddiad ynghylch ymgynghoriadau fideo ar-lein gan feddygon teulu. A...
Vikki Howells: Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n credu'n gryf fod gennym un o'r sectorau treftadaeth gorau yn y byd yma yng Nghymru, o ran ei arwyddocâd diwylliannol a'i fanteision i economi Cymru hefyd. Felly, a allech amlinellu ychydig ymhellach imi, os gwelwch yn dda, y math o arweiniad rydych chi wedi bod yn ei roi i'r sector hwnnw i'w tywys drwy'r argyfwng coronafeirws?
Vikki Howells: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n eich canmol am wneud hynny'n rhan orfodol o'r cwricwlwm. Yn ddiweddar, cefais y pleser o gyfarfod â Hafan Cymru i drafod prosiect Sbectrwm a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Gwnaeth argraff fawr arnaf, gyda’r cynnwys sy’n briodol i oedran ar berthnasoedd iach a cham-drin domestig y maent yn ei gynnig i ysgolion Cymru, ac yn hollbwysig, yn rhad ac am...
Vikki Howells: 8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r ffordd y caiff disgyblion o oedran ysgol gorfodol yng Nghwm Cynon eu haddysgu ynghylch pwysigrwydd perthnasau iach? OAQ55240
Vikki Howells: 10. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i ddiogelu a hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru? OAQ55241