Steffan Lewis: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganllawiau diogelwch ar gyfer teithiau addysg dramor? (OAQ(5)0020(EDU)
Steffan Lewis: Bu Llywodraeth Cymru yn uchel ei chloch wrth alw am ddiwedd ar symudiad rhydd o ran pobl a gwaith rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, un o'n partneriaid masnachu pwysicaf, ac un o'r gwledydd lle ceir y symud mwyaf rhwng Cymru a gwlad arall, yw Iwerddon. A gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog cyn gynted ag y bo modd ar ba un a yw Llywodraeth Cymru yn dymuno rhoi terfyn ar...
Steffan Lewis: Diolch i’r Aelod dros Lanelli am ildio. A all gadarnhau, yn seiliedig ar yr hyn y mae newydd ei ddweud, sy’n arwyddocaol iawn yn fy marn i, mai polisi Llafur Cymru bellach yw cefnogi system bwyntiau fel Awstralia yn bolisi mewnfudo yn y Deyrnas Unedig? [Torri ar draws.] Dyna pam rwy’n gofyn am eglurhad.
Steffan Lewis: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Gan fod hwn yn banel cynghori a grëwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun, rwy’n cymryd y bydd y panel, yn ei gyfarfod cyntaf, yn cael papurau sefyllfa gan Lywodraeth Cymru ar elfennau o’r ymadawiad â’r UE a barn Llywodraeth Cymru ar nifer o’r materion sy’n gysylltiedig â’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd. A yw’n gallu cadarnhau bod...
Steffan Lewis: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y panel cynghori allanol i adael yr UE? OAQ(5)0031(FLG)
Steffan Lewis: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei asesiad o ddyfodol cronfeydd strwythurol yr UE?
Steffan Lewis: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei weledigaeth ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru?
Steffan Lewis: Diolch i’r Prif Weinidog am ildio. Mae safbwynt Llywodraeth yr Alban yn glir iawn. Pleidleisiodd yr Alban dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd a safbwynt Llywodraeth yr Alban yw bod yr Alban yn parhau i fod yn yr Undeb Ewropeaidd. Os yw’n cael ei llusgo allan o’r Undeb Ewropeaidd yn erbyn ei hewyllys, yna, mae hwnnw’n fater cwbl wahanol wrth gwrs. Felly, nid wyf yn meddwl y gallwch...
Steffan Lewis: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Steffan Lewis: A yw’n derbyn ein bod, wrth gwrs, yn dal i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ac y gallem ddisgwyl amrywiadau gwleidyddol ac economaidd a helbul i ddigwydd ar ôl dechrau proses erthygl 50, ac yn ystod y trafodaethau a’r blynyddoedd o ansicrwydd a fydd yn dilyn erthygl 50, a bod cymryd yn ganiataol fod pethau yn mynd i redeg yn llyfn ychydig yn naïf o bosibl?
Steffan Lewis: Diolch, Lywydd. Cynigiaf y gwelliant yn enw Simon Thomas. Rwy’n ofni na fydd fy nghyfraniad mor llawn o newydd da o lawenydd mawr â chyfraniad y siaradwyr blaenorol. Efallai ar ryw bwynt y caf egluro wrth Neil Hamilton y gwahaniaeth rhwng cenedlaetholdeb Cymreig ac ymynysiaeth Brydeinig, ond nid oes digon o amser i fynd drwy hynny heddiw. Yn ystod y 48 awr ddiwethaf taflwyd goleuni...
Steffan Lewis: A wnaiff yr Aelod ildio?
Steffan Lewis: Diolch i’r Aelod am ildio. A yw’n cydnabod na fydd y Deyrnas Unedig yn trafod gyda’r Almaen yn y trafodaethau masnach? Bydd yn trafod gyda’r Undeb Ewropeaidd cyfan, ac felly efallai ei fod yn cymryd llawer gormod yn ganiataol yn ei agwedd tuag at yr Almaenwyr yn gyffredinol.
Steffan Lewis: Wrth gwrs, un o’r ffyrdd y gallwn liniaru effeithiau diwygio lles y DU ar gymunedau Cymru yw dechrau datblygu system Gymreig unigryw yn ei le. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb cadarnhaol, cyn toriad yr haf, i’r awgrym o ddatblygu ‘Nawdd Cymdeithasol Cymru’ fel cysyniad yn seiliedig ar wneud y gorau o’r cyfleoedd sydd gennym gyda’r pwerau presennol,...
Steffan Lewis: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar ei blaenoriaethau polisi yn ymwneud â phlant a phobl ifanc pe bai'n ennill pwerau ychwanegol dros blismona a chyfiawnder troseddol?
Steffan Lewis: Cyn toriad yr haf, wfftiodd y Prif Weinidog at awgrymiadau y dylid rhoi statws neilltuol i ddinas Casnewydd a chanolfannau eraill y tu allan i Gaerdydd ei hun yn y cynllun economaidd ar gyfer y brifddinas-ranbarth a'r metro arfaethedig. A wnaiff y Prif Weinidog felly gadarnhau nad yw ei gynlluniau ar gyfer y briffddinas-ranbarth yn ddim mwy na gwneud cymudo i Gaerdydd yn haws, yn hytrach na...
Steffan Lewis: Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw i ni gael cyfle i ddadlau a thrafod y mater pwysig hwn. Pan fyddwn yn nodi canmlwyddiant brwydrau’r Somme, Coed Mametz a Jutland, cofiwn sut y collodd miloedd o ddynion eu bywydau. Mae’n hawdd anghofio, o ystyried y niferoedd enfawr, fod pob rhif yn y cyfrif o’r meirw yn unigolyn a adawodd ei deulu a’i gymuned ar ôl i fynd i...
Steffan Lewis: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw, er ei bod yn siom y bydd rhagor o oedi ar y prosiect hwn—ergyd, o bosibl, i obeithion cymuned sydd wedi cael ei siomi cynifer o weithiau ers i’w hardal gael ei dad-ddiwydiannu rai degawdau yn ôl. Fel y crybwyllodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus eisoes wedi cael ei ddarparu ar gyfer datblygu...
Steffan Lewis: Yr allwedd i sicrhau llwyddiant yn y brifddinas-ranbarth yw dilyn dull aml-ganolfan ar gyfer seilwaith a datblygu economaidd. Er mai nod y cytundeb dinas a'r model dinas-ranbarth yw adeiladu ar frand rhyngwladol Caerdydd, mae’n rhaid i ni gydnabod swyddogaeth y canolfannau poblogaeth eraill hefyd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, wrth symud ymlaen, y dylid cadarnhau statws amlwg...
Steffan Lewis: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddiogelwch ar y ffyrdd?