Canlyniadau 261–280 o 10000 ar gyfer speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwerth Coed (22 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwerth Coed (22 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Credaf fod pob un ohonom o blaid plannu llawer mwy o goed mewn egwyddor, er bod gennyf bryder gwirioneddol, mae'n rhaid dweud, ynghylch penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i brynu tir amaethyddol da i blannu coed arno. Ond nid dyna yw ffocws fy nghwestiwn heddiw; mae'n ymwneud â diogelu'r coed sydd gennym eisoes. Yng Nghaergybi, mae dicter gwirioneddol ynglŷn â'r cynlluniau sydd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwerth Coed (22 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: 2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth coed i amgylchedd iach? OQ58230

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogaeth i Ddisgyblion ar ôl COVID (22 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi disgyblion sy'n cymryd eu arholiadau eleni o ystyried effaith COVID? OQ58231

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen (15 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma y prynhawn yma, a diolch i'r Gweinidog am ei hymateb hi. Gwnaf i ddim siarad yn hir. Dwi'n meddwl bod y cyffro yno ac yn cael ei rannu ar draws y meinciau yma ynglŷn â'r sgôp sydd yna i ddatblygu sector newydd yn fan hyn ac i fod yn flaenllaw ynddo fo. Mi glywsom ni'r Gweinidog yn rhestru'r holl elfennau hynny o...

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen (15 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Rydym yn sôn am bontio yma o economi tanwydd ffosil i economi carbon isel, a hydrogen yw'r allwedd mewn gwirionedd. Gall gefnogi pob maes blaenoriaeth, os edrychwch arno, o fewn rhaglenni Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig mewn technoleg werdd, arloesi, twf glân, adferiad gwyrdd a'r seilwaith sydd ei angen yn yr ymdrech tuag at sero net. Ac wrth gwrs, ceir elfennau sydd wedi'u...

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen (15 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wel, dwi yma heddiw ac mae'r cynnig yma wedi cael ei gyflwyno i'ch annog chi i gyffroi am hydrogen.

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen (15 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Rwyf am i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru fod yn fwy brwd ynglŷn â hydrogen. Gallaf ddweud wrthych yn awr beth yr hoffwn ei glywed gan y Gweinidog. Yn syml iawn, rwyf am i'r Gweinidog ddweud, 'Rwyf o ddifrif ynglŷn â bod eisiau i Gymru fod yn chwaraewr yn y sector hydrogen sy'n datblygu.' Rwy'n benderfynol, gyda strategaeth glir a buddsoddiad wedi'i dargedu'n dda, y gallwn fanteisio i'r...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru' (15 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: A fyddech yn ychwanegu gwyddonwyr y bobl sydd wedi bod yn chwarae rhan bwysig yn pwysleisio'r risgiau at y rhestr honno o bartneriaid yr ydych eisiau gweithio gyda hwy, yn enwedig ar gyfer monitro yn y dyfodol? Hoffwn i chi ymuno â mi i longyfarch Surfers Against Sewage am y gwaith y maent wedi'i wneud yn tynnu sylw at y problemau sy'n ein hwynebu yma. Mae argymhelliad 4 yn pwysleisio, onid...

3. Cwestiynau Amserol: Hediadau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn (15 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Fel y dywedodd un etholwr wrthyf,  'Mae hwn yn benderfyniad digalon sy'n dangos diffyg gweledigaeth ac uchelgais. Mae Cymru wedi dioddef mor aml oherwydd penderfyniad ffwrdd-â-hi a wnaed yn Llundain', meddai,  'sy'n anwybodus neu'n ddi-hid ynglŷn â'i effeithiau ar Gymru.' Nawr, mae'n teimlo bod hyn yr un mor anwybodus ynghylch yr angen i ddod â ni at ein gilydd fel cenedl drwy...

3. Cwestiynau Amserol: Hediadau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn (15 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, dwi'n rhyfeddu at ragrith y Ceidwadwyr yn fan hyn, yn lladd ar gysylltiadau de-gogledd, yn dweud bod gormod o fuddsoddiad yn y de, pan oedden nhw eisiau gwario biliynau o bunnoedd ar yr M4 yn y de-ddwyrain. Dwi'n synnu bod Carolyn Thomas wedi gofyn y cwestiwn yma a hithau mor ffwrdd-â-hi ar raglen Sharp End ITV Cymru neithiwr ynglŷn â chysylltiadau...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: A gall gwleidyddion yn Lloegr feirniadu Llywodraeth Lloegr am yr hyn y maent hwy'n ei wneud ynglŷn â cholli gwelyau cymunedol. Y broblem yw eich bod yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar y sector gofal, oherwydd colli'r cyfleuster cam-i-lawr hwnnw. Credaf y bydd datrys mater llif cleifion yn cyfrannu'n helaeth at y gwaith o fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y gwasanaeth iechyd—yr amseroedd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cwestiwn yn gyntaf roeddwn i wedi bwriadu ei ofyn cyn sylweddoli ein bod ni fel pwyllgor iechyd yn cyhoeddi heddiw ein hadroddiad ar lif cleifion drwy'r system iechyd a gofal. Mae'r argymhellion, dwi'n meddwl, yn rhai pwerus, maen nhw'n rhai pwysig, yn ymwneud â'r angen i gryfhau'r system gofal cymdeithasol, i ddenu a chefnogi staff. Mae'n sector, wrth gwrs,...

9. Dadl: Darlledu (14 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch am y cyfle i ddweud ychydig o eiriau.

9. Dadl: Darlledu (14 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Bûm yn ddigon ffodus i weithio yn y diwydiant darlledu am ychydig ddegawdau cyn dod yma. Rwy'n datgan buddiant fel aelod o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr o hyd. Roeddwn i'n arfer cael fy nghyflogi gan y BBC yng Nghymru a nifer o gwmnïau darlledu annibynnol. Cyfathrebu a darlledu yw sut rydym ni'n siarad â'n gilydd, am ein gilydd, yn dysgu am ein hanes, yn cyffroi gyda'n gilydd am ein...

9. Dadl: Darlledu (14 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

9. Dadl: Darlledu (14 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: Yn gyntaf, ble mae'r gefnogaeth gyfatebol i radio yng Nghymru, sydd yr un mor bwysig â theledu? Yn ail, ble mae'r gefnogaeth i raglennu Saesneg i Gymru? Roedd yn arfer bod gennym ni. Roeddem ni'n arfer bod â sianel o'r enw BBC Choice, BBC 2W, y cefais y pleser o gyfrannu ati ar adegau. Ble mae'r llwyfan darlledu Saesneg mai dim ond Senedd i Gymru a fyddai'n ei gyflawni?

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu HIV Drafft (14 Meh 2022)

Rhun ap Iorwerth: A gaf innau ddiolch i'r Gweinidog am yr adroddiad yma? Rwyf innau'n edrych ymlaen i weld pa fath o ymatebion ddaw i'r ymgynghori sy'n digwydd rŵan. Mae hwn yn bwysig iawn ac, ar yr wyneb, mae hwn yn ffrwyth gwaith partneriaeth fel y dylwn ni ei weld yn digwydd yma yng Nghymru, lle mae'r gwahanol fudiadau sydd eisiau ein gweld ni yn ennill tir yn y maes yma wedi bod yn cymryd rhan ynddo fo....


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.