Bethan Sayed: Wel, mae honno bob amser yn broblem pan mae monopolïau yn y system, ac mae angen inni geisio mynd i'r afael â hynny a sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ein clywed yn uchel ac yn glir yma yng Nghymru. Hoffwn orffen drwy godi'r mater o niwtraliaeth net. Bu tua blwyddyn ers diddymu rheolau niwtraliaeth net yn yr Unol Daleithiau, o bosibl yn caniatáu i ddarparwyr roi cyflymderau ffafriol ar...
Bethan Sayed: Iawn, diolch. Fe wnaf yn siŵr fy mod bod yn cael copi o hwnnw. Gan symud ymlaen, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar dechnoleg yn gyffredinol, gan nad yw band eang fel opsiwn unigol yn aml yn ddigon i lawer o bobl, hyd yn oed gyda'r cynnydd mewn capasiti. A allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu gwella cysylltedd 4G? Y llynedd, dangosodd adroddiad gan Which? mai Cymru oedd...
Bethan Sayed: Rydym wedi cael nifer o gwestiynau ar fand eang cyflym iawn eisoes heddiw, ond yn amlwg rydym yn gwybod ein bod wedi cael datganiad gan Cyflymu Cymru yn amlinellu amrywiaeth o lwyddiannau yn y rhaglen gyflymu, ac mae'n werth nodi y bu cynnydd mawr yn nifer yr eiddo sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn hyd at 34 Mbps. Felly rydych wedi gwneud cynnydd yn y maes. Mae technoleg, fel erioed,...
Bethan Sayed: Yr wythnos hon yw Wythnos Dysgu Gydol Oes y Sylfaen Dysgu Gydol Oes. Dyma'r gymdeithas sifil ban-Ewropeaidd ar gyfer addysg, sy'n defnyddio'r wythnos hon i ddod â phartneriaid o bob cwr o Ewrop at ei gilydd i annog ac i siarad am syniadau ar gyfer meithrin dysgu gydol oes. O gofio bod ein dyfodol o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn ansicr ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y gall Cymru barhau i...
Bethan Sayed: Dengys ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid fod prentisiaid yn gwario 20 y cant o'u cyflog ar drafnidiaeth, sy'n sylweddol, o gofio mai £3.70 yr awr yn unig y bydd rhai prentisiaid yn ei gael. Roeddwn yn meddwl tybed pa gynlluniau—neu a oes gennych unrhyw gynlluniau, o bosibl, i annog cludiant am ddim i brentisiaid fel eu bod yn gallu cyrraedd eu man gwaith yn brydlon ac mewn...
Bethan Sayed: O ran symud at y Gymraeg, nododd y pwyllgor nad yw’r cyllid cyffredinol ar gyfer y Gymraeg yn y prif grŵp gwariant addysg wedi newid, gyda £38.3 miliwn wedi ei ddyrannu yn y gyllideb ddrafft. Mae’r pwyllgor yn deall y cyfyngiadau presennol ar y gyllideb, fodd bynnag, rydym ni’n pryderu os bydd lefel y gyllideb yn aros yr un fath,na fydd modd gwneud digon o gynnydd tuag at darged...
Bethan Sayed: Rydw i hefyd yn siarad fel Cadeirydd pwyllgor yma heddiw—Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Bethan Sayed: Cyfanswm y cyllidebau adnoddau yn y meysydd hyn yw £120 miliwn, ac mae cyfanswm y cyllidebau cyfalaf oddeutu £19.5 miliwn. Yn fras, mae cyllidebau adnoddau wedi aros yn wastad, tra bu rhywfaint o gynnydd yn y ddarpariaeth gyfalaf, er bod cyfanswm y symiau yn gymharol fach. Yn amlwg, nid yw'r symiau hyn mor fawr â'r rhai sy'n cael eu cwmpasu gan rai o bwyllgorau'r Cynulliad. Serch hynny,...
Bethan Sayed: Fe glywais yr hyn a ddywedasoch chi wrth Andrew R.T. Davies yn gynharach, ond, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, roedd gennym y cwest i farwolaeth Carl Sergeant ac roedd hwnnw wedi cael cryn gyhoeddusrwydd am resymau dilys. Clywsom fanylion—roedd rhai ohonynt yn anodd eu clywed—ynghylch y digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth drasig Carl a ddigwyddodd yn rhy gynnar. O ystyried y...
Bethan Sayed: Diolch i Dai Lloyd, sydd wedi dweud yn blwmp ac yn blaen pa mor bwysig yw’r sector yma i ni, ac wedi mynd i goleg Gŵyr yn fy ardal i hefyd, ac yn ardal Caroline Jones, sydd wedi dweud am y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud gyda phobl gydag awtistiaeth yn yr ardal yma. Beth sydd yn bwysig yw caniatáu i’r colegau allu arloesi ac i allu helpu sectorau gwahanol o gymdeithas i allu...
Bethan Sayed: Oscar, fe gyfeirioch chi at amrywiaeth ac rwy'n meddwl bod hynny'n wirioneddol bwysig. Rhaid inni sicrhau ein bod yn annog pobl o bob cefndir i allu gwella'u sgiliau a chymryd rhan yn ein strwythurau addysg bellach. Roeddem yng nghampws Trefforest yr wythnos diwethaf, lle y cyfarfuom ag entrepreneuriaid ifanc o wahanol gefndiroedd, ac weithiau, os ydych yn tyfu fyny mewn rhai cymunedau yng...
Bethan Sayed: Diolch. Diolch i chi, bawb sydd wedi cymryd rhan. O'r hyn y gallaf ei gasglu, mae gennym gonsensws yn y ffaith bod pawb ohonom yn cefnogi addysg bellach ac rydym oll am ei gweld yn cael ei blaenoriaethu. Rwy'n tybio mai lle rydym yn anghytuno yw yn ein gwleidyddiaeth ac yn ein dadansoddiad o'r flaenoriaeth sydd iddi i Lywodraeth Cymru. Fe wneuthum gydnabod y buddsoddiad a wnaed yn y materion...
Bethan Sayed: Mae'n nodedig fod pob ardal yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU o ran cynhyrchiant, ond mae cyfartaledd y DU ei hun yn is na chyfartaledd llawer o economïau datblygedig eraill. Ond sut y bydd y galw ar y sector o ganlyniad i'r cynllun cyflogadwyedd yn cael ei ateb pan nad yw'r adnoddau ar gael i wneud hynny? Nodaf heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £8 miliwn i sicrhau rhywfaint o...
Bethan Sayed: Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol hyn, mae'r cynnydd yn y galw am addysg bellach a chyfleoedd dysgu gydol oes wedi bod yn amlwg, fel y dylai fod. Mae'n rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i uwchsgilio ein heconomi, ac i wneud hynny, dywedant wrthym, er mwyn rhoi'r sgiliau y byddant eu hangen i'n dinasyddion allu llwyddo mewn economi fodern. Fodd bynnag, y gwir amdani yw nad yw'r cyllid a'r...
Bethan Sayed: Diolch. Cyflwynais y ddadl hon heddiw, dadl a gyd-lofnodwyd gan rai o fy nghyd-Aelodau yma—a diolch ichi am wneud hynny—am fod addysg bellach yng Nghymru wedi bod o dan bwysau ac nid yw wedi cael y gydnabyddiaeth a'r pwysigrwydd canolog y mae'n eu haeddu. Credwn fod addysg bellach ac addysg gydol oes yn allweddol i ddatgloi'r potensial yn economi Cymru. Am ormod o amser, cafodd addysg...
Bethan Sayed: Rydym ni wedi clywed o adroddiad Graeme Reid bod yna, efallai, orddibyniaeth ar y ffynonellau Ewropeaidd. Yn amlwg, mae hynny wedi bod yn rhywbeth naturiol oherwydd bod yr arian hwnnw wedi bod ar gael, ond bod yna ffynonellau arloesedd ac yn y blaen ar gael o lefydd eraill o fewn Prydain y gellir bod prifysgolion a cholegau addysg bellach yn ceisio bidio amdanynt fel eu bod nhw'n gallu...
Bethan Sayed: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer chweched dosbarth ysgolion uwchradd?
Bethan Sayed: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau safonau mewn cartrefi gofal a reolir yn breifat?
Bethan Sayed: Mae digartrefedd yn ddewis gwleidyddol; mae'n ganlyniad i amryw o bolisïau a gellir ei ddatrys drwy bolisïau. Yn wir, roedd niferoedd y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd yn llawer llai ddegawd yn ôl, diolch i bolisïau ar waith oedd yn ceisio cefnogi pobl a rhwyd ddiogelwch cymdeithasol a oedd, mewn gwirionedd, yn well nag y mae heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi'r datganiad yr ydych wedi'i roi...
Bethan Sayed: Y ddarpariaeth ran-amser—