Canlyniadau 261–280 o 700 ar gyfer speaker:Lynne Neagle

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (10 Meh 2020)

Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Lywydd. Brif Weinidog, rwy’n rhannu eich pryderon, a fynegwyd yn eich datganiad, am effaith COVID ar blant a phobl ifanc. Ond gan mai munud yn unig sydd gennyf heddiw, roeddwn yn awyddus i ddefnyddio fy amser i ofyn am grŵp arall sy'n rhy aml yn ddi-lais. Mae ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos cynnydd syfrdanol o 83 y cant...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad annibynnol i COVID-19 ( 3 Meh 2020)

Lynne Neagle: Mae'n rhaid cael ymchwiliad cyhoeddus sy'n annibynnol. Mae'n ddyletswydd arnom oherwydd y rhai a fu farw ac i'r staff rheng flaen sydd wedi rhoi eu bywydau yn y fantol yn yr argyfwng hwn. Ond, rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod ar sail y pedair gwlad, gan gynnwys archwiliad trwyadl o'r ymdriniaeth yng Nghymru, ac oherwydd i'r holl benderfyniadau cychwynnol allweddol gael eu gwneud ar sail y...

5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddarpariaeth Addysg ( 3 Meh 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Fel llawer o bobl, mae arnaf eisiau cymryd rhywfaint o amser i ddarllen y ddogfen ynghyd a'r dogfennau cysylltiedig cyn rhoi ymateb ystyriol a phwyllog iddo, ond roeddwn eisiau dweud mai un o'r pryderon mawr i mi yn y pandemig hwn yw bod y rhan fwyaf o'n plant yn anweledig a chudd i raddau helaeth. Felly, mae'r cyfle i gael...

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) ( 3 Meh 2020)

Lynne Neagle: Prif Weinidog, roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n cadarnhau unwaith eto nad yw'r 5 milltir y cyfeiriwyd atyn nhw'n gynharach yn rheol fel y cyfryw, oherwydd nid dim ond mewn ardaloedd gwledig y mae hynny'n broblem, fel y gwyddoch; mae hefyd yn broblem mewn llawer o gymunedau yn y Cymoedd, gan gynnwys fy un i, lle, pe glynwyd at hynny'n llym, byddai'n golygu na allai rhywun fynd, er...

5. Dadl: COVID-19 — Llacio'r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a'n Heconomi: Dal i Drafod (20 Mai 2020)

Lynne Neagle: Iawn. Diolch, Lywydd, am y cyfle i wneud cyfraniad byr yn y ddadl hon. Bydd yn gymharol fyr, oherwydd mae’n rhaid i mi gyfaddef nad yw hon yn arena hollol gyffyrddus i fod yn dadlau ynddi, gyda'r holl dechnoleg, ac yn y blaen. Roeddwn am ddechrau drwy ddiolch i'r Prif Weinidog a gweddill y Llywodraeth am y gwaith aruthrol y maent yn ei wneud yn y maes hwn, yn enwedig y tîm craidd o...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) (20 Mai 2020)

Lynne Neagle: Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am gyfarfod â Nick Thomas-Symonds AS a minnau yn ddiweddar i drafod y 200 o swyddi sydd i'w colli yn Safran yng Nghwmbrân? Mae'r sefyllfa'n dal i beri pryder mawr i'r gweithlu yno. Mae Nick Thomas-Symonds AS a minnau yn ceisio cael cyfarfod arall gyda rheolwyr y cwmni, heb lwyddiant hyd yma. Tybed a fyddech yn cytuno, pan fydd cymunedau'n wynebu colli swyddi...

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (20 Mai 2020)

Lynne Neagle: Roeddwn yn falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn cyfeirio unwaith eto yn ei ddatganiad at blant a phobl ifanc. Mae effaith y pandemig hwn ar blant a phobl ifanc yn aruthrol, ac rwy'n credu y bydd para'n hir iawn. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad ddydd Llun am y £3.75 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl plant, ac yn enwedig y gydnabyddiaeth gan y Gweinidog addysg nad yw...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) (13 Mai 2020)

Lynne Neagle: Gweinidog, roeddwn i'n falch iawn o weld y pwyslais cryf ar iechyd meddwl yn eich datganiad. Byddwch chi'n ymwybodol bod sefydliadau fel Hafal, Mind ac, yn wir, cynghorydd atal hunanladdiad y Llywodraeth ei hun, yr Athro Ann John, wedi codi pryderon am effaith y pandemig ar iechyd meddwl. Rwy'n falch o weld y bydd yna offeryn monitro iechyd meddwl COVID ar gael. A gaf i ofyn ichi am ragor o...

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (13 Mai 2020)

Lynne Neagle: Prif Weinidog, mae fy etholwyr wedi croesawu'n gynnes y penderfyniad a wnaethoch yr wythnos diwethaf i ymestyn y cyfyngiadau symud ac i gadw'r neges 'Aros Gartref' yng Nghymru, ac rwyf innau hefyd yn croesawu'n gynnes y camau a gymerasoch. Mae fy nghwestiynau'n ymwneud â therfynau’r penderfyniadau hynny. Mae rhai o'm hetholwyr yn bryderus iawn am y penderfyniad i agor canolfannau garddio...

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) (29 Ebr 2020)

Lynne Neagle: Fe wnaethom ni ddechrau heddiw trwy sôn am lywodraeth leol, a hoffwn i gofnodi fy niolch diffuant iawn i gyngor Torfaen—yn gynghorwyr ac yn swyddogion—oherwydd maen nhw wedi bod yn gwbl anhygoel yn ystod y pandemig hwn ac rwyf i'n sicr yn llawn edmygedd ohonyn nhw. Roeddwn i wedi eisiau codi'r mater o adferiad y cyfeiriodd Delyth Jewell ato, yn benodol mewn cysylltiad â'r swyddogaeth...

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (29 Ebr 2020)

Lynne Neagle: A gaf i gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed hyd yma am lywodraeth leol? Prif Weinidog, roeddwn i eisiau eich holi chi am fusnesau. Mae'r cymorth i fusnesau wedi ei groesawu'n fawr, ond fel y gwyddoch, cynigir y bydd 178 o swyddi'n cael eu colli yn Safran yng Nghwmbrân, ac mae'r diwydiant awyrofod, yn fy marn i, mewn perygl unigryw oherwydd y pandemig hwn, felly hoffwn ofyn i chi am y...

3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ymateb i'r Coronafeirws (COVID-19) ( 8 Ebr 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cael llif o ymholiadau gan etholwyr sydd wedi bod yn cael trafferth wrth geisio siopa ar-lein. Mae'r rheini'n etholwyr a warchodir ac yn etholwyr sy'n agored i niwed hefyd. Bu dirnadaeth eang iawn y bu siopwyr yng Nghymru o dan anfantais o'u cymharu â'r rhai yn Lloegr. Felly, rwy'n credu mai fy nghwestiwn cyntaf yw a fyddech yn...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) ( 1 Ebr 2020)

Lynne Neagle: Mae rhai o fy nghwestiynau wedi'u hateb, ond hoffwn ddychwelyd at fater y llythyrau gwarchod, gan y credaf fod hynny'n anhygoel o bwysig. Oherwydd i lawer o bobl, bydd hynny'n datgloi'r gefnogaeth a fydd yn eu galluogi i aros gartref am dri mis. Rwyf wedi bod yn cynghori pobl i gysylltu â'u meddyg teulu os nad ydynt wedi cael llythyr ac yn credu y dylent gael eu gwarchod. Croesawaf yr hyn y...

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) ( 1 Ebr 2020)

Lynne Neagle: A gaf fi ddechrau drwy gofnodi fy niolch diffuant i staff y GIG yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a staff yr awdurdod lleol? Bydd yr Aelodau wedi gweld ein bod wedi bod ynghanol yr argyfwng yng Nghymru, ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar i bawb, ac rwy'n cynnwys pobl fel ein gweithwyr siopau, sy'n cefnogi pawb yn y gymuned. Mae gennyf ychydig o gwestiynau i'r Prif Weinidog, roedd y...

3. Cwestiynau Amserol: Cefnogaeth i Fusnes (18 Maw 2020)

Lynne Neagle: Mae'n sicr yn wir fod y rhain yn adegau sy'n peri pryder gwirioneddol i deuluoedd nad oes yr un ohonom wedi gweld ei debyg erioed yn ystod ein hoes. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed manylion y datganiad y dywedoch chi y byddwch yn ei gyhoeddi yn ddiweddarach. Roeddwn am ofyn yn benodol, fodd bynnag, am y sector modurol. Fel y gwyddoch, mae gennyf lawer o bobl wedi'u cyflogi yn y sector...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-2019) (17 Maw 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. A gaf i ddiolch ar goedd i bawb yng Nghymru sy'n ceisio cadw ein gwasanaethau cyhoeddus i fynd yn wyneb y salwch hwn? Atebwyd llawer o'm cwestiynau, ond roedd arnaf eisiau holi ynghylch y mater o awyryddion hefyd. Yn amlwg, clywais eich ateb i Siân Gwenllian. Rwy'n siŵr nad fi fydd yr unig un a oedd yn arswydo ei bod hi'n ymddangos ein bod yn crefu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hunan-niweidio ( 3 Maw 2020)

Lynne Neagle: Nododd yr adolygiad diweddar o farwolaethau plant a phobl ifanc yn sgil hunanladdiad a hunanladdiad tebygol bod gwell rheolaeth o hunan-niwed ymhlith plant a phobl ifanc yn gyfle allweddol i atal hunanladdiad. Nawr, mae canllawiau y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal eglur ar waith ar gyfer rheoli hunan-niwed, ond mae'r adolygiad yn tynnu sylw at y ffaith bod angen...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 3 Maw 2020)

Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr mewn addysg bellach yng Nghymru?

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Siarad am Hunanladdiad a Hunan-niweidio (12 Chw 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu'r canllawiau rhagorol sydd wedi’u cyhoeddi. Rwyf hefyd yn falch iawn eich bod wedi ymrwymo i gynnwys y canllawiau yn y fframwaith newydd sy'n cael ei gyhoeddi ar ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl. Ond yn y cyfamser, beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod pob ysgol a phob awdurdod lleol yn ymwybodol o'r canllawiau ac yn mynd ati...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.