Darren Millar: Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn fy enw i. Rhaid imi ddweud, roeddwn braidd yn siomedig ynghylch cywair araith Rhys ab Owen yno, ac mae'n teimlo ychydig fel pe baem wedi bod yma o'r blaen oherwydd, wrth gwrs, cawsom yr un ddadl yn y bôn ychydig fisoedd yn ôl, wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Ond wrth gwrs, ni ddylai fy synnu mwyach...
Darren Millar: Diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Dyma'n union y byddwn wedi disgwyl i chi ei ddweud. Un peth rwy'n pryderu amdano yw'r ffocws sydd gennym yng Nghymru ar ddiogelu plant iau sy'n mynd i mewn ac allan o safle'r ysgol yng nghyd-destun llwybrau mwy diogel i'r ysgol a'r llwybrau teithio llesol sy'n cael eu datblygu. Rwyf wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn y rheini yn y blynyddoedd...
Darren Millar: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch mewn ysgolion ac o'u hamgylch? OQ57506
Darren Millar: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog heddiw am ei datganiad y prynhawn yma. Credaf ei bod hi'n bwysig iawn bod y Senedd a chenedl Cymru yn rhoi amser i gofio a myfyrio ar erchyllterau'r Holocost a phob hil-laddiad ers hynny, ac mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein helpu i wneud hynny. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ac i Ymddiriedolaeth...
Darren Millar: Prif Weinidog, mae llawer o gyrchfannau glan môr ar draws y gogledd, fel y gwyddoch chi, yn agored i berygl llifogydd, gan gynnwys Tywyn a Bae Cinmel yn fy etholaeth i. Nawr, ceir cynlluniau i wella'r amddiffynfeydd môr yn Nhywyn a Bae Cinmel, yn rhan o'r rhaglen rheoli risg arfordirol. Ond mae'r cynigion a ddatblygwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hyd yma yn eithaf anneniadol o'u...
Darren Millar: A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar gyfnodau hunanynysu COVID-19 i gleifion ysbyty? Byddwch chi'n ymwybodol, Gweinidog, fod straeon wedi dod i'r amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf am effaith y cyfnod hunanynysu 14 diwrnod ar fenyw ifanc, Catherine Hughes, yn Ysbyty Maelor Wrecsam, sy'n glaf iechyd meddwl yn uned Heddfan. Mae hi wedi bygwth cymryd ei bywyd ei hun o ganlyniad i...
Darren Millar: Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU, Prif Weinidog, wedi darparu rhaglen frechu sy'n well nag unrhyw un arall yn y byd sydd wedi bod o fudd mawr i bobl ledled Cymru, ac mae hefyd wedi rhyddhau adnoddau sylweddol ledled y wlad i helpu busnesau ac unigolion oresgyn heriau'r pandemig. Ac er gwaethaf eich haeriad nad yw'n gallu gweithredu yn iawn, hi wnaeth gyhoeddi yr adroddiad ar yr adolygiad o...
Darren Millar: Rwy'n cynnig.
Darren Millar: Rwy'n cynnig.
Darren Millar: Wel, rwy'n ddiolchgar am eich ymddiheuriad, Weinidog. Wrth gwrs, mae un llinell yn y gyllideb i ymdrin â'r mater penodol hwn, a gofynnais mewn cyfleoedd blaenorol yn y Senedd am esboniad ynglŷn â beth fyddai'r tâl i gadeiryddion ac aelodau'r comisiwn, ac rwy'n dal i aros am y wybodaeth honno. Wrth gwrs, nid yw wedi'i gynnwys yn y gyllideb sydd wedi'i chyhoeddi. Rydych yn sôn am...
Darren Millar: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond mae arnaf ofn nad yw'n egluro pam fod angen i'r comisiwn gael cyllideb mor fawr. Pan sefydlwyd y comisiwn hwn, gofynnais ichi beth fyddai'r gyllideb, ac fe ddywedoch chi y byddech yn ysgrifennu ataf. Rwy'n dal i aros am eich llythyr—nid wyf wedi'i dderbyn. Ond yn amlwg, rwyf wedi llwyddo i gael golwg ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a drafodwyd ddoe, a...
Darren Millar: Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch chi egluro inni pam y mae gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyllideb o £3.3 miliwn, os gwelwch yn dda?
Darren Millar: Diolch, Trefnydd, am y datganiad yna. A gaf i alw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran mynediad at basys COVID y GIG yng Nghymru ar gyfer y rhai a gafodd eu brechiadau dramor? Rwy'n deall bod camau eisoes wedi'u cymryd yn Lloegr ac yn wir yn yr Alban er mwyn sicrhau y gall pobl sydd wedi derbyn eu brechlynnau dramor gael y rheini wedi'u dilysu er mwyn...
Darren Millar: Nid wyf wedi awgrymu o gwbl am eiliad na ddylem allu craffu ar ddeddfwriaeth. Yn wir, pe baech yn gwrando'n fwy gofalus ar yr hyn a ddywedais, dywedais fod yna bethau roedd angen eu gwneud i wella'r prosesau presennol a'r cyfleoedd ar gyfer craffu ar y polisi a'r memoranda a gynhyrchir. Felly, nid yw hynny'n wir o gwbl. Yr hyn roeddwn yn ei ddweud oedd bod gorchmynion cymhwysedd...
Darren Millar: Rwyf am gadw fy sylwadau'n fyr yn y ddadl hon, ond nid oes angen dweud y byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig ar y papur trefn heddiw. Ac nid oherwydd nad wyf yn credu y dylai datganoli fodoli; ymgyrchais yn frwd dros y pwerau pellach i'r Senedd yn y refferendwm yn ôl yn 2011. Ond ar ôl byw drwy brofiad lle roedd gennym system y gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol ofnadwy, o gwmpas fy...
Darren Millar: Byddaf yn pleidleisio yn erbyn cod addysg cydberthynas a rhywioldeb Llywodraeth Cymru heddiw. Fel y bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o ddadleuon a gafodd eu cynnal yn y Senedd flaenorol, rwyf i o'r farn mai rhieni yw prif addysgwyr eu plant, nid y wladwriaeth, ac rwyf i'n credu bod camau Llywodraeth Cymru i ddileu hawl rhieni i dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg rhyw enfawr tuag yn ôl o...
Darren Millar: Trefnydd, mae aelod o'r gymuned Iddewig yng Nghymru wedi cysylltu â mi ynghylch mynediad i wefan Cadw. Mae'n ymddangos bod pobl sy'n ceisio cael mynediad i'r wefan yn Israel yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny. Nawr, gan ddefnyddio rhwydwaith preifat rhithwir, ceisiais edrych ar hyn fy hun, ac roedd yn ymddangos i mi fod gwefan Cadw yn gwbl hygyrch yn Ffrainc, yr Unol Daleithiau, Sbaen a...
Darren Millar: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwyf i wrth fy modd bod arian yn cael ei ddyfarnu i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd. Un o'r ardaloedd hynny sydd i lawr i'w gwella yn fuan iawn yw'r llain arfordirol rhwng Tywyn a Bae Cinmel, sydd, wrth gwrs, yn eithriadol o bwysig o ran y tymor ymwelwyr, a lle mae'r amddiffynfeydd môr arfordirol hynny yn diogelu miloedd lawer o...
Darren Millar: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OQ57361
Darren Millar: Mae arnaf ofn, Jenny Rathbone, ein bod wedi croesawu'r ffaith bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi'i roi mewn mesurau arbennig yn ôl ym mis Mehefin 2015. Gallwch wirio'r cofnod. Fi oedd Gweinidog iechyd yr wrthblaid ar y pryd ac roeddwn yn canmol Mark Drakeford am wneud y penderfyniad dewr hwnnw, oherwydd roeddwn yn credu'n ddiffuant y byddai'n gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad fel roedd...