Canlyniadau 261–280 o 4000 ar gyfer speaker:Vaughan Gething

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Polisi Masnach (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Yn hytrach nag ystyried polisi masnach mewn termau economaidd yn unig, mae ein dull o weithredu yn dibynnu ar ddefnyddio lens llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ystyried yr effaith lawn y gallai polisi masnach ei chael ar Gymru. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ein dull o weithredu'n cyd-fynd â'n nod llesiant cenedlaethol o fod yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Banc Cymunedol i Gymru (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Mae'r weledigaeth ar gyfer y banc cymunedol yn un sydd wedi cael cefnogaeth o bob ochr i'r Siambr, ac mae hynny ynddo'i hun yn gymharol anarferol. Yn ogystal â chael y weledigaeth serch hynny, mae'r her, rwy'n credu, yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaethau bancio go iawn y bydd pobl eu heisiau ac yn eu defnyddio, a hefyd ein bod yn gallu cael rhaglen o agor y canghennau...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Banc Cymunedol i Gymru (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Diolch. Y weledigaeth ar gyfer y banc cymunedol, sydd bellach yn cael ei ddatblygu gan ein partneriaid, Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, yw y bydd yn fanc gwasanaeth llawn sydd â'i bencadlys yng Nghymru ac y bydd yn darparu cynnyrch a gwasanaethau bancio dwyieithog drwy amrywiaeth o sianeli, gan gynnwys dros y ffôn, yn ddigidol ac mewn safleoedd ffisegol. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Economi Caergybi (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Credaf mai'r ateb bras i'r cwestiwn yw 'ydy'. Mae'r Llywodraeth eisiau gallu chwarae rhan. Yn aml, os yw Llywodraeth Cymru yn cynnull sgyrsiau, mae'n golygu bod pawb yn dod at y bwrdd, a gall hynny fod o gymorth. Rydym eisiau sicrhau bod rhanddeiliaid mor gydgysylltiedig â phosibl mewn perthynas â'r cyfleoedd sy'n bodoli. Os yw'r Aelod eisiau ysgrifennu ataf, byddai hynny'n ddefnyddiol....

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Economi Caergybi (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn bartner hirsefydlog, ochr yn ochr â chyngor sir Ynys Môn, awdurdod y porthladd a phartneriaid eraill, mewn cynlluniau i geisio dyfodol economaidd cynaliadwy i Gaergybi. Gyda'n gilydd, fe wnaethom gomisiynu astudiaeth eang ei chwmpas i fanteision economaidd posibl Porth Caergybi, yn ogystal â dyfarnu cyllid yn dilyn storm 2018.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Preseli Sir Benfro (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Wel, mae'r enghraifft a roesoch yn enghraifft o'r hyn y mae angen inni weld mwy ohono, gyda diwydiant yn cydweithio â'r sefydliadau a ariannwn—y coleg, er enghraifft, y cyllid y bydd yn ei gael drwy Lywodraeth Cymru—ond mae hefyd, rwy'n credu, yn tynnu sylw at y pwynt fod angen mwy o eglurder a sicrwydd i fuddsoddwyr allu gwneud y dewisiadau hynny. Pan wyf wedi bod yn sir Benfro yn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Preseli Sir Benfro (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Diolch. Ein blaenoriaethau o hyd yw cefnogi busnesau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes drwy wasanaethau Busnes Cymru a'r tîm rhanbarthol. Rydym wedi darparu cymorth helaeth drwy'r pandemig a'r byd masnachu yn dilyn Brexit. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu economi wyrddach, fwy cyfartal a ffyniannus i bob rhan o Gymru.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Effaith Economaidd Brexit (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Nid wyf yn credu y gallwn gytuno â'r ffordd y mae'r pwynt wedi'i eirio, oherwydd mae'n dod ato o safbwynt penodol. Ond rwy'n credu bod y pwynt am ba mor rheolaidd yr ydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr a'r cyhoedd yn ehangach am realiti ein sefyllfa fasnachu newydd yn un teg. Dyna pam y cyfeiriais, wrth ymateb i Rhys ab Owen ar y dechrau, at asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Effaith Economaidd Brexit (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Wel, mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio, sawl gwaith yn y Siambr hon, at y dystiolaeth ddiweddar ar yr effaith uniongyrchol y mae Brexit wedi'i chael ar gostau bwyd yn gyffredinol, yr heriau o ran mewnforio ac allforio i fusnesau bwyd a diod yn y DU yn enwedig, ac mae wedi bod yn nodwedd reolaidd yn y sgyrsiau ynghylch ffiniau a masnach a gefais yn fwyaf diweddar mewn sgwrs eithaf rhwystredig...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Effaith Economaidd Brexit (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Rydym bob amser wedi cydnabod, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, y byddai'r gallu i fasnachu yn dal i fod yno, ond y byddai rhwystrau ychwanegol i hynny. Yr her mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd yw bod mwy o rwystrau nag a fyddai wedi bod fel arall. Yr hyn yr ydym yn dal i geisio'i wneud yw annog busnesau i barhau â'r fasnach honno, i barhau i fod eisiau bod yn allforwyr. Dyna...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Effaith Economaidd Brexit (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Nid yw swydd y Prif Weinidog yn wag, ac ni fydd yn wag am y dyfodol y gellir ei ragweld. Edrychwch, o ran realiti ein safbwynt, rwyf wedi dweud y bu gostyngiad mewn masnach, ac mae gan Gymru fwy o fasnach gyda'r UE o gymharu â gwledydd eraill Prydain, felly mae'n her fwy i ni. Ac rwy'n ymwneud â rhai o'r agendâu polisi anghyson a gwrthnysig yn Llywodraeth y DU ar ffiniau a'n masnach...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Effaith Economaidd Brexit (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Mae economi Cymru yn dilyn economi'r DU yn eithaf agos ar y cyfan. Amcangyfrif cyfredol Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Llywodraeth y DU yw bod Brexit wedi lleihau cynnyrch domestig gros y DU tua 1.5 y cant hyd yma, gyda gostyngiad pellach o 2.5 y cant i ddod eto. Yr Undeb Ewropeaidd fydd partner masnachu agosaf a phwysicaf y DU o hyd, a dylem anelu i sicrhau'r fasnach agosaf a mwyaf llyfn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwpan y Byd FIFA 2022 (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Wel, mae'n ddefnyddiol fy mod wedi ymweld â'r rhanbarth ddwywaith yn awr, ac mae ein swyddfa yn Doha yn gweithio ar ystod o feysydd. Er nad oes gennym niferoedd enfawr o staff yn ein swyddfeydd, mae gan saith o'r gwledydd sydd wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol cwpan y byd y dynion swyddfeydd Llywodraeth Cymru ynddynt. Rwy’n credu ein bod yn gwneud yn well na’r disgwyl o ran lle...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwpan y Byd FIFA 2022 (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Ie, o ran y gwaith a wnawn, wrth gwrs, mae'n amserlen gymharol ddiweddar. Mae gwaith wedi'i wneud a'i ragweld ymlaen llaw, ond tan yr achlysur gwych yn Stadiwm Dinas Caerdydd pan wnaethom sicrhau ein lle yng nghwpan y byd, ni allem fod yn sicr o'n sefyllfa, ac roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn arbennig o awyddus i beidio â chael eu gweld yn ymddwyn fel pe baem wedi sicrhau ein lle cyn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwpan y Byd FIFA 2022 (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Diolch. Rydym yn gweithio’n frwd gyda nifer o bartneriaid yn y DU, Qatar a mannau eraill yn y byd i sicrhau'r cyfleoedd masnachu a buddsoddi gorau posibl i Gymru yn sgil cwpan byd dynion FIFA 2022.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Wel, credaf fod hyn yn ymwneud â gweithio ochr yn ochr â'r sector i geisio'i gynllunio yn yr un ffordd yn union ag y gwnaethom gyda'r sector manwerthu, lle mae gennym strategaeth ar waith. Efallai nad dyna y maent yn dymuno'i wneud, ond er mwyn deall yr hyn y maent yn ei ofyn a bod yn onest gyda hwy am yr hyn y gallwn ei wneud gyda hwy. Fel y dywedaf, rydym wedi bod yn hyrwyddo...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Rydym wedi cynnal ymgyrch ar y cyd gyda'r sector ar gyfer recriwtio ac edrych ar anghenion sgiliau'r dyfodol. Mae'n bwynt sydd wedi'i godi gyda mi yn rheolaidd, ac wrth gwrs, mae'r sector yn eithaf amrywiol. Gallwch fynd o leoliadau bwyta o safon uchel, er enghraifft, fel rhan o'r sector, i'r hyn a fyddai'n lleoliad traddodiadol o fewn ardal leol, ac nid ar yr un pen. Felly, rydym yn cydnabod...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Economi Casnewydd (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r cyhoeddiad ar borthladdoedd rhydd. Fi oedd Gweinidog Llywodraeth Cymru a gwnaeth y cyhoeddiad hwnnw gyda Michael Gove yn ei rôl ar y pryd. A hynny oherwydd ein bod wedi cael, o'r diwedd, ar ôl yr holl sŵn blaenorol, lle roedd yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol wedi dweud yn gyson na ellir sefydlu porthladd rhydd ac mai bai Llywodraeth Cymru oedd hynny, yn y...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Economi Casnewydd (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Credaf mai un o'r agweddau allweddol yw'r ffaith, yr ochr hon i'r etholiadau awdurdodau lleol, fod Jane Mudd a'i thîm wedi darparu sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth barhaus, ac mae hynny'n bwysig i ni—cael partneriaid sefydlog y gellir ymddiried ynddynt. Mae'n ymwneud hefyd â'u gwaith yn rhan o'r brifddinas-ranbarth ehangach. Rydym yn gweld dyfodol ar gyfer swyddi o ansawdd uchel yn y...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Economi Casnewydd (13 Gor 2022)

Vaughan Gething: Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar y cyd â phartneriaid, megis y brifddinas-ranbarth, ac yn wir, Cyngor Dinas Casnewydd, er mwyn darparu manteision economaidd i’r ardal.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.