Canlyniadau 261–280 o 6000 ar gyfer speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (21 Med 2021)

Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar am yr eglurder hwnnw, Prif Weinidog. Felly, rwy'n cymryd na fydd cynllun penodol o ran parodrwydd ar gyfer y gaeaf, fel y mae'r Llywodraeth wedi ei gyflwyno gerbron y Senedd yn hanesyddol. Fel y dywedais i, roedd un ar 15 Medi y llynedd a gafodd ei gyflwyno i ni bori drosto a gallu edrych a chraffu ar ei gadernid. Heddiw, rydym ni eisoes wedi gweld uwch feddyg ymgynghorol yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (21 Med 2021)

Andrew RT Davies: Rwy'n falch eich bod chi'n gallu egluro hynny, oherwydd rwy'n clywed aelodau eich meinciau cefn yn grwgnach yn y fan yna. Nid oedd eich Gweinidog iechyd ar Radio Wales yn gallu ei egluro brynhawn Gwener, a dywedodd y byddai'r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach, yn ei hymateb, rwy'n credu. Felly, er eglurder—ac rwyf i wedi cael llawer o berchnogion yn fy ardal i, sy'n cynnwys...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (21 Med 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, penderfynodd eich Llywodraeth gyflwyno pasiau COVID. Rydych chi a fi wedi trafod rhinweddau neu ddiffyg rhinweddau, yn ôl fel y digwydd, basbortau COVID, ar draws y Siambr hon. Yn amlwg, mae hwnna yn newid eithaf sylweddol o'r hyn y gwnaethoch chi, fel Prif Weinidog, ei ddweud wrthyf i yn ôl ym mis Gorffennaf am eich safbwynt personol. A...

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad at ddiffibrilwyr (15 Med 2021)

Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog wrth ei chlywed yn dweud y byddai'n falch o weld mwy o ddiffibrilwyr yng Nghymru. Chi yw'r Gweinidog. A wnewch chi osod targed ar gyfer nifer y diffibrilwyr a allai fod ar gael ledled Cymru erbyn diwedd tymor pum mlynedd y Cynulliad hwn? O leiaf, wedyn, os oes gennym darged, mae gennym rywbeth i anelu ato, yn hytrach na'r geiriau cynnes—a geiriau diffuant,...

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad at ddiffibrilwyr (15 Med 2021)

Andrew RT Davies: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw. Nid oes llawer o ddyddiau pan fyddaf yn cerdded i mewn heb fod yn meddwl am y pwnc hwn, oherwydd rwy'n gweld fy nghyd-Aelod o Flaenau Gwent yma, sydd wedi siarad yn huawdl am ei brofiad personol—profiad trawmatig, ddywedwn i—ac mae pwysigrwydd rhoi gwybodaeth i bobl am ddiffibrilwyr yn golygu ei fod yma gyda ni. Ar rai dyddiau pan fydd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Med 2021)

Andrew RT Davies: Rwyf i'n sicr yn gwybod beth rwyf i'n ei feddwl, a gofynnais eilwaith i weld a oeddwn i'n gwybod beth rydych chi'n ei feddwl, ac nid wyf i'n gwybod bellach beth ddiawl yr ydych chi'n ei feddwl, Prif Weinidog. Roedd yn gwestiwn digon syml. Mae'r ddau gwestiwn yr wyf i wedi eu gofyn am basbortau COVID yn dangos yn eglur bod penderfyniadau wedi eu gwneud yma yng Nghymru sy'n wahanol i rannau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Med 2021)

Andrew RT Davies: Yn amlwg, ar y meinciau hyn, rydym ni wedi bod yn gyson, Prif Weinidog. Rydym ni wedi dweud erioed na ddylid cyflwyno pasbortau brechlyn yng Nghymru. Rydym ni wedi dal y safbwynt hwnnw, ac rydym ni'n parhau i ddal y safbwynt hwnnw. Rwy'n sylwi, yn y bron i ddau funud a hanner y gwnaethoch chi ei dreulio yn ymateb i'r cwestiwn—ac rwy'n ddiolchgar am y manylion y gwnaethoch chi eu rhoi—na...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (14 Med 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, penderfynwyd bod pasbortau brechlyn yn angenrheidiol yn yr Alban. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fyddan nhw'n rhoi pasbortau brechlyn ar waith yn Lloegr. Mae pobl Cymru yn aros i weld pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd yn ddiweddarach yr wythnos hon. Ar 13 Gorffennaf, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n gwrthwynebu yn ei hanfod gyflwyno pasbortau...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cynllun Rheoli’r Coronafeirws (14 Gor 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, ac yn wir, am y sesiwn friffio a gynigiodd y Gweinidog iechyd i arweinwyr y gwrthbleidiau y bore yma hefyd, sydd, yn amlwg, wedi llywio ein barn mewn perthynas â'r datganiad hwn. Chi yw'r Prif Weinidog, a fi yw arweinydd yr wrthblaid fwyaf, fe siaradodd pobl Cymru, ac a bod yn deg, fe wnaethant gymeradwyo'r dull o weithredu y mae...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Tân (14 Gor 2021)

Andrew RT Davies: Clywaf yr hyn a ddywedwch, Weinidog. Yn amlwg, ni chafodd y swp cyntaf o gyllid canlyniadol ei wario, ac mae hawl gan Lywodraeth Cymru i'w wario fel y mynnant, ond ni chafodd ei wario yn yr un ffordd ag y cafodd ei wario gan Lywodraeth y DU yn Lloegr ar waith adfer. Cyhoeddwyd y datganiad gennych am 1.30 p.m. wrth inni ddod i'r Siambr hon ar gyfer y sesiwn gwestiynau. Nid wyf wedi cael y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (13 Gor 2021)

Andrew RT Davies: Rwy'n falch o glywed hynna, Prif Weinidog, a byddaf innau hefyd yn ymuno â chi i gefnogi'r achos hwnnw, oherwydd, fel y dywedais, rwy'n credu y byddai'n creu rhaniadau diangen yn ein cymdeithas. Ac rwy'n sylweddoli ein bod ni'n mynd i gael y datganiad yfory, ac nid yw'n edrych fel pe byddai—. Yn amlwg, bydd gwahaniaethau ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Nawr, mae Senedd yr Alban, er...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (13 Gor 2021)

Andrew RT Davies: Deallais o'ch sylwadau, Prif Weinidog, y bydd gennym ni ddull llawer mwy pwyllog gennych chi yfory ac na fydd gennym y symud oddi wrth cyfyngiadau a welwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae hwnnw yn benderfyniad i'r Llywodraethau ei wneud. Ond mae un o'r sgyrsiau sy'n cael ei chynnal ledled y DU yn ymwneud â phasbortau brechu a'r defnydd o basbortau brechu. Mae'n rhaid i mi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (13 Gor 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r pwynt a wnaethoch chi ynglŷn â siarad ag is-ganghellor y brifysgol yn Namibia yn un da—sef, oni bai ein bod ni i gyd yn cael ein brechu, ni fydd yr un ohonom ni yn ddiogel ar ddiwedd hyn, ac mae'n broblem fyd-eang y mae angen i ni i gyd ganolbwyntio arni. Ond rydym ni'n symud i sefyllfa well; rydym ni'n symud i sefyllfa nawr lle gellir dad-wneud rhai...

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol ( 6 Gor 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am eich datganiad y prynhawn yma, yn absenoldeb y Prif Weinidog. Fel rhywun sy'n gallu dwyn hynny i gof, pan ddeuthum i mewn i'r Siambr hon am y tro cyntaf yn 2007, pan fyddai pobl yn sôn am ddeddfwriaeth, roeddem ni'n sôn am gynigion cydsyniad deddfwriaethol a Gorchmynion cydsynio, ac nid oedd yna sicrwydd beth yn union a allai ddigwydd—hyd nawr, deddfwrfa...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Gor 2021)

Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, roeddwn i'n gwrando ar eich ymateb i'm cyd-Aelod o Ganol De Cymru ar feinciau Plaid Cymru ynglŷn â sgandal y cladin. Ac mae hwn yn fater a godais i droeon gyda chi ac yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog hefyd, ac rwy'n ddiolchgar am ryngweithio'r Gweinidog am gryn amser erbyn hyn. Ond mae yna ddau beth yr hoffwn i geisio sicrwydd yn eu cylch, neu wybodaeth, yn sicr, yn eu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 6 Gor 2021)

Andrew RT Davies: Mae'n rhaid i mi ddweud mai dyna'r penderfyniad anghywir, Gweinidog. Dro ar ôl tro—a byddwn ni'n ei glywed yn y datganiad deddfwriaethol y prynhawn yma—mae'r Llywodraeth eisiau i benderfyniadau gael eu gwneud yma yng Nghaerdydd, cael eu lleoli yma yn y Senedd hon, ac ym Mharc Cathays, lle mae'r Llywodraeth wedi'i lleoli. Yn y fan yma, lle mae penderfyniadau allweddol wedi arwain, yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 6 Gor 2021)

Andrew RT Davies: Roeddwn i'n ofalus iawn gyda fy ngeiriau i ddweud bod y feirws, mewn gwirionedd, wedi cael ei ddal mewn lleoliad ysbyty. Rwy'n derbyn y pwynt y ceir croesi llwybrau mewn ysbytai, ond dywedwyd wrthym ni dro ar ôl tro bod mesurau yn cael eu cymryd. Yn wir, dywedodd y Gweinidog iechyd wrthyf fy mod i'n codi bwganod pan ddywedais ei fod allan o reolaeth mewn rhai ysbytai. Mewn rhai byrddau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 6 Gor 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, fe wnaeth bron i chwarter y bobl sydd wedi dal COVID-19 yn ystod y 12, 15 mis diwethaf ddal y feirws COVID hwnnw mewn ysbyty. Fe wnaeth 21 y cant hefyd ddal COVID mewn cartref gofal. Dywedwyd wrthym ni dro ar ôl tro fod ysbytai yn fannau diogel. Beth sydd wedi mynd o'i le?

4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwygio ein Hundeb (29 Meh 2021)

Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, diolch am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae'n eironig, braidd, pan ddihunais i y bore yma ac edrych ar y penawdau ar WalesOnline a gwefan y BBC, a gweld bod Llywodraeth Cymru yn cyhuddo Llywodraeth y DU o anwybyddu Senedd Cymru mewn dull ymosodol, ac wrth imi edrych heddiw ar drefn y cyfarfod a gweld nad oes datganiad addysg yma, er...

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (29 Meh 2021)

Andrew RT Davies: Wel, mae'n flin gennyf na allwch chi ymddiheuro ar y cofnod, Prif Weinidog, ond rwy'n ddiolchgar am eich esboniad manylach ynghylch yr hyn a oedd y tu ôl i'ch sylwadau ryw bythefnos yn ôl. Pe gallwn i fynd i'r afael, yn fy nhrydydd cwestiwn i chi, â'r newid polisi o fewn 72 awr o ran ffordd osgoi Llandeilo, a oedd, rwy'n gwerthfawrogi, yn bolisi y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru mewn...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.