Sam Rowlands: Mae gennych chi'r Sam anghywir, mae'n ddrwg gennyf.
Sam Rowlands: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo diogelwch cymunedol yng Ngogledd Cymru?
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw ar y gyllideb ddrafft. Dyma bwynt byr i'ch atgoffa yma fy mod i'n dal i fod yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fel y mae fy nghofrestr o fuddiannau yn ei dangos. Fel llawer o Aelodau, ychydig cyn y Nadolig, wrth i mi wneud fy ngorau i sicrhau bod Siôn Corn yn gallu cyrraedd yn ddiogel ac yn iach, roeddwn i hefyd yn disgwyl yn eiddgar...
Sam Rowlands: Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y bydd pob Aelod dros Zoom yn cytuno, rwy'n siŵr, mae hon yn adeg ardderchog o'r flwyddyn i fod yn hyrwyddo ac yn blasu bwyd a diod gwych o bob cwr o Gymru, a daw'r goreuon, wrth gwrs, o fy rhanbarth i yn y gogledd. Ac rwy'n siŵr eich bod yn gwybod, Weinidog, fod gennym hyb bwyd a diod byd-enwog yng ngogledd Cymru, boed yn selsig arobryn gan Edwards o...
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog, a gwrandewais yn ofalus hefyd ar eich ymatebion i gwestiynau Peter Fox mewn perthynas â gofal cymdeithasol eiliad yn ôl, ac fel y dywedoch chi ar y pryd, gan nodi peth o'r cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn rydych eisoes wedi'i ddarparu i gynghorau yng Nghymru. Ond hoffwn wthio hyn ychydig ymhellach y prynhawn yma, os caf. Fel rydym wedi'i nodi, un o'r...
Sam Rowlands: 3. Pa gymorth ariannol y bydd y Gweinidog yn ei roi i awdurdodau lleol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau dros fisoedd y gaeaf? OQ57372
Sam Rowlands: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo bwyd a diod o Ogledd Cymru? OQ57373
Sam Rowlands: Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i hefyd wedi fy siomi mai dim ond 30 munud sydd wedi ei drefnu ar gyfer yr eitem bwysig iawn hon heno yn awr, a hefyd yn siomedig mai dim ond yn hwyr neithiwr y cafodd y canllawiau drafft hynny eu cyhoeddi. Mae yn ei gwneud yn anodd craffu'n briodol ar faes gwaith pwysig iawn. Gan roi hynny o'r neilltu, er efallai fod llawer o fwriad y cod a gyflwynir heddiw yn...
Sam Rowlands: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r heriau presennol o ran recriwtio i'r GIG yng Ngogledd Cymru?
Sam Rowlands: Diolch i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon yma heddiw. Fel yr amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, wrth agor y ddadl heddiw, mae canfyddiadau adroddiad Holden yn peri pryder mawr. Yn wir, maent yn gwbl frawychus ac yn anodd iawn i'r trigolion rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru eu darllen. Fel yr amlinellodd Mr Isherwood, datgelodd yr adroddiad...
Sam Rowlands: Diolch ichi, Weinidog. Mae'n braf clywed yr ymgysylltiad rydych yn ei gael gydag ysgolion a chyda'r cyfarwyddwyr addysg mewn awdurdodau lleol hefyd oherwydd, wrth gwrs, mae disgyblion yng Nghymru, yn anffodus, wedi cael llai o amser wyneb yn wyneb mewn ysgolion na chymheiriaid ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig. Ac rwy'n siŵr y byddech yn cydnabod bod dysgu ar-lein—er bod ganddo...
Sam Rowlands: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r amser ysgol a gaiff ei golli yn ystod pandemig COVID-19 yng Ngogledd Cymru? OQ57329
Sam Rowlands: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw ar ddiwygio'r dreth gyngor yma yng Nghymru. Rwyf yn siŵr bod Aelodau ar draws y Siambr yn croesawu cyhoeddiad y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf ar hyn, ac fel rydych chi’n ei ddisgrifio fel pecyn uchelgeisiol o ddiwygiadau i'r dreth gyngor, byddai gen i, Gweinidog, ddiddordeb mewn clywed mwy am...
Sam Rowlands: Diolch, Rhianon Passmore, am ganiatáu imi siarad yn eich dadl fer heddiw. Rwy'n ymddiheuro os af ychydig dros funud, ond fe wnaf fy ngorau, oherwydd mae cerddoriaeth i mi yn wirioneddol bwysig. Rwy'n cofio mai'r offeryn cyntaf y dysgais ei chwarae oedd y recorder, o bob peth, gyda fy mam yn fy nysgu sut i chwarae'r recorder. Yna, symudais ymlaen at y clarinét wrth i mi ddod yn fwy medrus...
Sam Rowlands: Diolch i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno'r ddadl wirioneddol bwysig hon. Fel yr amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, Peter Fox, a agorodd ein dadl heddiw, mae clefyd niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym ac yn anffodus, nid oes modd ei wella. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod am rywun y mae'r clefyd ofnadwy hwn wedi effeithio arnynt. Ddirprwy...
Sam Rowlands: Fel y nodwyd, mae gweithgareddau hamdden egnïol, wrth gwrs, yn hanfodol i iechyd a ffyniant llawer o bobl ar draws gogledd Cymru. Nid yn unig fod gweithgareddau hamdden egnïol o fudd i bobl yn gorfforol, maent hefyd yn darparu buddion aruthrol i iechyd meddwl. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae gogledd Cymru'n ardal ardderchog ar gyfer gweithgareddau hamdden egnïol, gyda natur a golygfeydd...
Sam Rowlands: Rwy'n falch iawn heddiw o siarad fel llefarydd y Ceidwadwyr dros lywodraeth leol, a diolch ichi, Gweinidog, am eich cyflwyniad i'r rheoliadau a amlinellir yma heddiw. Yn gyntaf, hoffwn siarad am eitem 9, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021. Fel y gŵyr cyd-Aelodau, mae'r rheoliadau hyn yn gysylltiedig â sefydlu'r cyd-bwyllgorau corfforaethol yng...
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am ddod â'r datganiad heddiw i'r fan hon yn y Siambr heddiw. Yn sicr, rwyf i'n sicr yn croesawu'r cymhellion y tu ôl i'r cynllun gweithredu—mae'r awydd i fynd i'r afael â digartrefedd cyn gynted â phosibl yn sicr yn rhywbeth yr wyf i'n siŵr y byddem ni i gyd yn awyddus i'w gefnogi. Yn benodol, roeddwn i'n falch o glywed sôn o fewn y camau a nodwyd yn y datganiad am...
Sam Rowlands: Rwyf i'n datgan buddiant fel aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid caledi COVID ar gyfer cynghorau lleol yng Nghymru. Fel y soniwyd sawl gwaith ar draws y Siambr, mae'r gwaith da y mae awdurdodau lleol wedi ei wneud drwy gydol pandemig COVID-19, gan gadw pobl yn ddiogel, a darparu...
Sam Rowlands: Weinidog, mae bob amser yn braf clywed Gweinidogion yn sôn am bwysigrwydd cymryd rhan mewn etholiadau, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi fod hyder ac ymddiriedaeth mewn unrhyw lywodraeth yn dechrau gyda'r bleidlais, a'r bleidlais yw sylfaen democratiaeth wrth gwrs. Ac er mai yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai y gwelwyd y nifer uchaf erioed o bleidleiswyr ar gyfer Senedd Cymru, dim ond...