Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol.
Rhys ab Owen: Y ffaith na fydd Llywodraeth San Steffan hyd yn oed yn caniatáu cais rhesymol y bydd Llywodraeth Cymru yn cydsynio i unrhyw newidiadau y byddan nhw'n eu gwneud, neu unrhyw is-ddeddfwriaeth y byddan nhw'n ei wneud, o fewn meysydd datganoledig—. Onid yw hynny'n dangos y diffyg parch llwyr sydd ganddyn nhw tuag atom ni fel Senedd?
Rhys ab Owen: gallwn ni chwarae'r diawl gymaint ag y mae'r Gweinidog iechyd ei eisiau—
Rhys ab Owen: a wnawn nhw ddim gwrando arnom ni. Pryd wnawn ni, gyfeillion, ddweud mai digon yw digon? Wnawn ni ddim pasio mwy o rymoedd yn ôl, neu gallaf ddweud wrthych chi, erbyn yr etholiad nesaf, bydd yna Senedd hollol wahanol fan hyn. Edrychwch ar y ffigurau. Ym mlwyddyn gyntaf y pumed Senedd, roedd yna 10 Bil wedi dod o flaen gydag LCM, a hynny gydag 80 o clauses. Yn barod yn y Senedd yma, sydd ddim...
Rhys ab Owen: Dŷn ni'n methu â dal unrhyw despatch box promise mewn gwirionedd i gyfrif. Mi allen nhw ei anwybyddu e'n llwyr, a gallem ni gicio ffys—
Rhys ab Owen: Dyna'r Bil rwy'n ei drafod ar hyn o bryd. Bydd y Bil hwn yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU wneud is-ddeddfwriaeth o fewn meysydd datganoledig. Dydyn ni ddim yn cytuno â hynny, ni fyddwn yn rhoi cydsyniad y tro hwn, ond unwaith eto, rydym ni'n fwy na pharod i roi caniatâd i'r ddeddfwriaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Ni all Llywodraeth Cymru gael y geiniog a'r deisen. Naill ai rydym ni'n...
Rhys ab Owen: 'bydden ni'n chwarae'r diawl â nhw.'
Rhys ab Owen: Wel, nid soapbox yw'r Senedd yma ond deddfwrfa, deddfwrfa mae pobl ein gwlad wedi pleidleisio ar ei chyfer. Yn 2011, pan wnaeth pobl Cymru bleidleisio gyda mwyafrif enfawr o blaid cyfreithiau cynradd yn y Senedd yma, doedd dim syniad gyda nhw y byddem ni yn rhoi hawl i Lywodraeth erchyll y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd i dynnu'r grymoedd yna i ffwrdd. Dyna beth sy'n mynd i allu digwydd gyda'r...
Rhys ab Owen: I fi, mae'r prynhawn yma yn crisialu'r problemau sydd gennym ni fel Senedd gyda'r mesurau cydsyniad deddfwriaethol. Fe wnaiff fy nghyfaill Sioned Williams siarad ar ran Plaid Cymru ynglŷn â'r Bil cenedligrwydd yn nes ymlaen, Bil erchyll a fydd yn arwain at farwolaethau nifer o bobl, rhan o becyn o Filiau sy'n cael eu pasio gan Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd. Yna, mae gyda ni'r Bil...
Rhys ab Owen: Mae Caerdydd wedi cael ei disgrifio, Trefnydd, fel prifddinas tlodi tanwydd y DU, gyda chwarter ein trigolion yma yn y brifddinas yn dioddef tlodi tanwydd—yn uwch nag unrhyw ddinas neu dref arall yn y Deyrnas Unedig. Dyna 91,000 o bobl yn dioddef. A gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth ar dlodi tanwydd a'r argyfwng costau byw? Mae Plaid Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw am gefnogaeth...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â’r pwerau eang pan fo Gweinidogion yn teimlo bod hynny'n briodol, ond rwy’n siŵr eich bod hefyd yn cofio, yn ôl yn eich dyddiau fel myfyriwr, Gwnsler Cyffredinol, cael eich dysgu mai dim ond yn rhagweithredol, at ei gilydd, y dylid defnyddio cyfreithiau, yn hytrach nag yn ôl-weithredol. Ac rwy'n siŵr hefyd, mewn...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Nawr, rydym wedi cael yr adroddiad hirddisgwyliedig ar gysylltiadau rhynglywodraethol, sy'n mynd i adeiladu gwell perthynas rhwng Llywodraethau'r DU, yn seiliedig ar egwyddorion parch cydradd a meithrin a chynnal ymddiriedaeth. Ond y gwir amdani, Gwnsler Cyffredinol, yw bod cryn dipyn o ddrwgdybiaeth rhwng y Llywodraethau, rhagolygon sylfaenol wahanol...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ddiwedd mis Ionawr, gofynnodd fy nghyfaill ym Mhlaid Genedlaethol yr Alban, Kirsty Blackman, gwestiwn am adolygiadau ôl-ddeddfwriaethol yn Swyddfa Cymru. Mewn ymateb i’r cwestiwn hwnnw, atebodd Simon Hart, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ôl y Gweinidog cyfleoedd Brexit, fod gwaith ar y gweill i asesu Deddf Cymru 2017. Fel y gwyddoch, Gwnsler Cyffredinol,...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr iawn i chi, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, mae'n debyg eich bod yn ymwybodol o dystiolaeth Philip Rycroft y bore yma i bwyllgor dethol Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin. Disgrifiodd Brexit fel sioc i'r system, a bod un o'r cynseiliau yr adeiladwyd datganoli arni—confensiwn Sewel—wedi methu oherwydd Brexit. Efallai nad yw'r rheini'n eiriau arferol gan was sifil, ond ei eiriau ef...
Rhys ab Owen: 2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill y DU ynghylch yr effaith ar Gymru y caiff cynigion Llywodraeth y DU i newid statws cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir? OQ57622
Rhys ab Owen: 5. Pa gyngor a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i'r Gweinidog cyllid ar oblygiadau cyfansoddiadol cyflwyno'r Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)? OQ57621
Rhys ab Owen: Rwy'n gofyn am ddadl yn ystod amser y Llywodraeth i drafod goblygiadau'r papur 'Codi'r gwastad' i Gymru gan Lywodraeth y DU. Rwy'n siŵr bod y Trefnydd yn cytuno â mi ein bod ni wedi gweld Llywodraethau olynol San Steffan sydd wedi bod yn gostwng gwastad Llywodraethau—gan dynnu arian oddi wrth Gymru. Er mwyn datrys problem datblygiad anwastad o fewn rhanbarthau Lloegr, mae'r Llywodraeth yn...
Rhys ab Owen: Weinidog, nid wyf yn credu bod angen ichi wrando ar unrhyw bregethau gan y blaid Dorïaidd ynghylch gwastraffu arian; maent yn arbenigwyr ar wneud hynny. Ond Weinidog, fel deddfwrfa ifanc, gyda thua 50 o Ddeddfau ar y llyfr statud, mae'r Senedd mewn sefyllfa wych i sicrhau bod ei holl Ddeddfau yn effeithlon, yn addas i'r diben, ac yn cyflawni'r diben a fwriadwyd. A all y Gweinidog ddarparu...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Braf yw clywed y gwaith sy'n digwydd gyda'r Cymry ar wasgar. Mae'n ffordd arbennig i gynyddu proffil Cymru ledled y byd. Ond siom, er nid syndod, oedd darllen unwaith eto fod Llywodraeth San Steffan yn gwrthod creu gŵyl y banc ar ŵyl ein nawddsant, ond, wrth gwrs, nid dim ond y Torïaid sydd wedi ei wrthod; gwnaeth Llywodraeth Lafur ei wrthod nôl yn 2002,...
Rhys ab Owen: 7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi? OQ57549