Jack Sargeant: A diolch i Rhian Mannings a 2 Wish.
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Wrth gloi’r ddadl heddiw, hoffwn dalu teyrnged unwaith eto i Rhian Mannings, i 2 Wish, i bawb sydd yma yn ein gwylio heddiw ac i’r rheini yn y gymuned ehangach a gefnogodd y ddeiseb hon. Fel arfer, wrth gloi dadleuon y Senedd, rydych yn cynnig crynodeb o'r cyfraniadau, ac rwyf am geisio gwneud hynny'n gryno, ond ni fydd yn gwneud cyfiawnder â'r hyn y mae...
Jack Sargeant: Fodd bynnag, o'r amgylchiadau hyn, sefydlodd Rhian elusen 2 Wish Upon a Star—elusen sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth hanfodol i eraill. Mae 2 Wish yn cefnogi teuluoedd a staff drwy'r profiad o golli plentyn neu oedolyn ifanc yn annisgwyl drwy ddarparu blychau atgofion, cwnsela a nifer o wasanaethau cymorth uniongyrchol. Gall cymorth mwy hirdymor gynnwys therapi cyflenwol, therapi chwarae,...
Jack Sargeant: Aelodau, fel pwyllgor a Chadeirydd newydd—a dywedaf gyda balchder fy mod yn credu mai dyma'r Cadeirydd pwyllgor ieuengaf yn hanes ein Senedd—bûm yn myfyrio ar y cyfle y mae ein proses ddeisebau yn ei gynnig. Mae deisebu'r Senedd yn ffordd i bobl Cymru godi eu llais a dweud eu barn. Mae'n ffordd o dynnu sylw at faterion pwysig a heriol, chwilio am atebion a dod o hyd i atebion. Mae'n...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, acting Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Dyma'r ddadl gyntaf i gael ei chyflwyno gan y pwyllgor yn y chweched Senedd, a'r ddadl gyntaf i mi fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwy’n cytuno ag ef ynghylch pwysigrwydd y diwydiant dur; os ydym am symud tuag at economi werdd, mae'n rhaid i hynny gynnwys cynhyrchu dur lleol. Rwy'n siŵr, Gweinidog, eich bod chi wedi darllen yr adroddiad dros nos am fargen fasnach rhwng yr UE a'r Unol Daleithiau ar gyfer dur, ac mae'n gwbl hanfodol bod...
Jack Sargeant: Rwy'n croesawu'r datganiad hwn gan y Gweinidog, felly diolch i'r Gweinidog am hynna. Mae'n gwbl gywir bod ein meddyliau'n canolbwyntio ar y newidiadau y mae'n rhaid i bob un ohonom eu gwneud i gyrraedd sero-net, ond rwy'n credu y bydd rhaid cymryd penderfyniadau beiddgar a chaled i gyrraedd y gwir sero-net, a hoffwn i hyn gael ei adlewyrchu ym mhopeth a wnawn fel Llywodraethau a phopeth a...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd. Ddydd Mercher diwethaf, bûm yn sôn, drwy nifer o gyfryngau, am fater cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae'n teimlo fel pe bai ymddygiad ymosodol a thrais yn rhan gynyddol o wleidyddiaeth. Nid yw hyn yn iawn. Yn sicr, nid dyma'r math mwy caredig o wleidyddiaeth yr hoffwn i ei weld ac y mae llawer o rai eraill yn y Siambr hon yn dymuno ei...
Jack Sargeant: Diolch ichi, Weinidog. Rwy'n croesawu cyhoeddiad y bwrdd cyflawni, ond mae'n rhaid iddo gyflawni. Nawr, mae'n amlwg i mi fod Llywodraeth y DU yn gwneud cam â gogledd Cymru drwy beidio â thrydaneiddio'r brif reilffordd, felly byddai'n dda gennyf wybod pa drafodaethau a gawsoch, Weinidog, ynghylch gwella signalau a chroesfannau signal fel ffordd o wella'r rheilffordd honno. Hoffwn ddeall...
Jack Sargeant: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno â mi ar draws y meinciau yn y Siambr fod toriadau i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU yn golygu ei bod yn anos i bobl gyffredin gael mynediad at gyfiawnder. Rwy'n siŵr fod Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn cytuno â mi na ddylai mynediad at gyfiawnder fodoli ar gyfer y cyfoethog yn unig. Mae...
Jack Sargeant: 7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ57046
Jack Sargeant: 4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i gyflogeion y Senedd? OQ57045
Jack Sargeant: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o sut y gall dynion gymryd cyfrifoldeb yn unigol ac ar y cyd am roi terfyn ar drais gwrywaidd yn erbyn menywod?
Jack Sargeant: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac i'r Gweinidogion blaenorol am eu hymrwymiad nhw i ddwyn economi Cymru ymlaen hefyd. Fy nghymuned i, fel y gŵyr y Gweinidog, yw cadarnle gweithgynhyrchu Cymru, ac mae'n her i bob un ohonom ni sy'n llunio polisïau, a Gweinidogion ym mhob Llywodraeth yn arbennig, i sicrhau bod technoleg adnewyddadwy y dyfodol yn cael ei chynllunio a'i datblygu mewn...
Jack Sargeant: Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ddatblygu cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol?
Jack Sargeant: Diolch, Darren Millar, am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n croesawu'r ddadl hon. Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref, ond dylem gofio ei fod bob dydd mewn gwirionedd. Ac o ran lefel y cymorth a'r gwasanaethau, credaf fod yr Aelod yn iawn: mae angen inni fynd i'r afael â'r problemau hynny ac roeddwn yn falch hefyd fod y Gweinidog wedi cael y portffolio hwn, gyda'i hangerdd gwirioneddol....
Jack Sargeant: Weinidog, diolch ichi am eich ateb. Mae'n fy atgoffa o ddau fater a godwyd gan drigolion Cymru sydd eisiau cael mynediad at addysg ond na allant wneud hynny. Ceisiodd un preswylydd yn Alun a Glannau Dyfrdwy wneud cymhwyster addysg ôl-raddedig yng ngholeg Cheshire East, sefydliad lle gall dysgwyr o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig gael cyllid i'w fynychu, ond yn anffodus, nid ydym yn cydnabod...
Jack Sargeant: Diolch i fy nghyd-Aelod ar ochr arall y Siambr, Mr Rowlands, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn, ac rwy'n cytuno hefyd â fy nghyd-Aelod, Carolyn Thomas, oherwydd mae'n gwestiwn pwysig. Mae'n bwysig fod metro gogledd Cymru yn darparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a dyma'r rhwydwaith trafnidiaeth y mae gogledd Cymru yn ei haeddu, fel y cytuna'r Gweinidog. I drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy,...
Jack Sargeant: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru'n galluogi dysgwyr i ddysgu mewn lleoliadau annhraddodiadol? OQ56968
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch chi, mae hyn yn flaenoriaeth allweddol i mi, ac i chithau hefyd fel rwy'n ei ddeall. Ac rwyf i wrth fy modd fy mod i wedi cael cyfle, ddydd Gwener, i ymweld ag Ysgol Saltney Ferry i weld yn bersonol eu gwaith y maen nhw'n ei wneud ar lesiant disgyblion yn eu hysgol. A, Prif Weinidog, dyma'r ysgol gyntaf yn sir y Fflint i ennill y wobr llesiant ar...