Canlyniadau 261–280 o 500 ar gyfer speaker:Heledd Fychan

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Heledd Fychan: Gwnaf, wrth gwrs.

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Heledd Fychan: Rwy’n cytuno’n llwyr â Huw Irranca-Davies fod hawliau dynol yn rhai gyffredinol. Ni allwn ni dewis pwy yr ydym ni'n credu sydd â hawliau a phwy sydd ddim. Rwy'n credu mai dyna sydd i'w ofni mewn llawer o'r ddeialog hon: y syniad hwn bod rhai pobl yn haeddu hawliau ac eraill ddim, ac y gallwn ni ddewis a dethol beth yw hawliau dynol. Fel y soniwyd, nid oes sail resymegol na rhesymu...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Presenoldeb Ysgol ( 3 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n hyfryd gweld cymaint o blant ifanc yn ein gwylio ni y prynhawn yma yn y Siambr—croeso i chi. Gwyddom oll pa mor bwysig yw presenoldeb ysgol o ran cyrhaeddiad a lles plant a phobl ifanc, fel y gwnaethoch ei nodi yn y datganiad. A fel rhywun a fu yn y gorffennol yn lywodraethwraig ysgol gyda chyfrifoldeb am bresenoldeb, gwn hefyd pa mor heriol y gall fod i...

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin ( 3 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel rydym yn anffodus yn gwybod, yn aml mae trais a chamfanteisio rhywiol yn rhywbeth sydd yn digwydd fel rhan o ryfel. Mae nifer o adroddiadau am fenywod yn cael eu treisio gan filwyr o Rwsia yn Wcráin. Yn wir, ar 11 Ebrill fe ddarlledodd y BBC dystiolaeth ddirdynnol o Wcráin ynglŷn â hyn. Mae'n anodd dirnad pa mor echrydus mae'r menywod yma wedi cael eu trin,...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 3 Mai 2022)

Heledd Fychan: Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ein diweddaru ar y gwaith ar fetro de Cymru. Gyda'r gwaith yn mynd rhagddo mewn nifer o ardaloedd ledled y rhanbarth rwyf yn ei gynrychioli, rhaid cyfaddef bod trigolion wedi cael sioc o ran faint o effaith mae'r gwaith yn ei gael arnynt. Mae nifer wedi sôn wrthyf ac wedi ysgrifennu ataf yn cwyno bod y sŵn yn eu cadw'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwella Bywydau Pobl ( 3 Mai 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Jest rhag ofn bod neb yn sylweddoli bod yna etholiad, hoffwn ddatgan fy mod, tan yr etholiad, yn gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf. Prif Weinidog, y gwir amdani yw mai gwaethygu mae sefyllfa nifer o drigolion Rhondda Cynon Taf yn hytrach na gwella. Mae mwy o bobl yn gorfod troi at fanciau bwyd am gefnogaeth, mwy o blant yn byw mewn tlodi a'r marwolaethau o COVID wedi bod...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Lles Anifeiliaid (27 Ebr 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, fe wnes i ymweld â banc bwyd yn fy rhanbarth sydd yn gynyddol yn derbyn ceisiadau gan unigolion a theuluoedd y maen nhw'n eu cefnogi am fwyd i'w hanifeiliaid anwes. Fe wnaeth y rheolwr rannu gyda mi fod nifer yn meddwl cael gwared o'u hanifeiliaid anwes oherwydd eu bod yn pryderu na fedrant fforddio bwyd iddynt oherwydd yr argyfwng costau byw, na chwaith dalu...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Lles Anifeiliaid (27 Ebr 2022)

Heledd Fychan: 4. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith anallu pobl ar incwm isel i dalu costau milfeddyg a bwyd i'w hanifeiliaid anwes ar les anifeiliaid? OQ57920

14. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21 (26 Ebr 2022)

Heledd Fychan: Rydym yn gwybod am athrawon yn ceisio cadw cydbwysedd wrth geisio addysgu eu plant o'u cartrefi, ac yn gorfod ynysu, a'r holl heriau yna hefyd. Ac eto, nid oedd eu hymdrechion heb eu canlyniadau. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir bod staff wedi teimlo lefelau uwch o bryder, gydag arweinwyr a staff fel ei gilydd yn teimlo'n ynysig ac wedi blino. Roedd darparwyr addysg yn gydnerth ac yn...

14. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21 (26 Ebr 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant yn ffurfiol.

14. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21 (26 Ebr 2022)

Heledd Fychan: Fel y gwyddom i gyd, ac fel y mae'r adroddiad yn amlwg yn ei grybwyll ac wedi ei amlinellu gan y Gweinidog, efallai mai blwyddyn academaidd 2020-21 oedd yr un fwyaf heriol i ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru a ledled y byd. Mae'r pandemig wedi amharu'n aruthrol ar y system ac mae'n parhau i wneud hynny, gan effeithio ar holl staff yr ysgol, disgyblion a'u teuluoedd. Er, fel y...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio (26 Ebr 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fel y gwnaethom ni drafod yn y Siambr hon yn ystod mis endometriosis, mae'r clefyd yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr. Mae un o fy etholwyr wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod wedi cael gwybod gan ei meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddoe nad yw'r GIG yn gwneud unrhyw lawdriniaethau o gwbl i fenywod ag endometriosis—felly, dim...

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (26 Ebr 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, yn yr un modd, wrth rannu profiadau fy etholwyr i, o ran methu â chael fisâu i aelodau olaf y teulu, a dyna pam bu oedi cyn dod yma, a derbyn galwadau hefyd o bob rhan o'r rhanbarth am anawsterau o ran sicrhau lleoedd mewn ysgolion i rai sy'n dod i Gymru, ac nid yw pob awdurdod lleol yn gyson o ran sicrhau eu bod nhw'n ymateb i ymholiadau am dderbyniadau i...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Yr Ymwchiliad i COVID-19 yng Nghymru (26 Ebr 2022)

Heledd Fychan: Mi oeddech chi'n glir pan ddaeth y newydd bod Boris Johnson wedi derbyn dirwy am dorri'r rheolau y dylai ymddiswyddo fel Prif Weinidog, a minnau yn cytuno 100 y cant â chi. Ac yntau wedi gwrthod gwneud hynny a chymaint o bobl eraill hefyd wedi eu dirwyo yn Stryd Downing am dorri'r rheolau, onid ydy hi'n amser i ailfeddwl, gan mai nhw sydd wedi comisiynu’r ymchwiliad annibynnol yma sydd yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Yr Ymwchiliad i COVID-19 yng Nghymru (26 Ebr 2022)

Heledd Fychan: 8. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o allu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i arwain ar yr ymwchiliad i COVID-19 yng Nghymru? OQ57921

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Heledd Fychan: Mae’n werth meddwl hefyd am werth safleoedd y tomenni o ran treftadaeth, ac, fel rhan o ymgynghoriad y comisiwn, pwysleisiodd Cadw ac ALGAO bod gan rai tomenni werth treftadaeth ac y byddai angen i waith adennill ystyried hyn. Mae'r tomenni glo o fewn tirwedd ddiwydiannol Blaenafon, er enghraifft, wedi'u dynodi gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO yn safle treftadaeth y byd. Mae nifer o...

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Heledd Fychan: Ond ar ôl degawdau o dawelwch ar rai o'r tomenni glo hyn, mae'r sioc a'r arswyd a deimlwyd gan lawer o bobl yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd yn Tylorstown o ganlyniad i storm Dennis o'r diwedd wedi ysgogi trafodaeth a gweithredu pellach. Roedd yn ein hatgoffa'n glir o'r peryglon sy'n parhau o ganlyniad i'n hanes diwydiannol, a sut y mae Llywodraeth y DU wedi cefnu ar y cymunedau hyn yn dilyn...

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Heledd Fychan: Nid pobl o'r Rhondda ac ardaloedd eraill y maes glo a elwodd ac eto maent yn parhau i gael eu heffeithio'n negyddol heddiw. Un enghraifft yn unig yw tomenni glo o'r chwerwedd a adawyd ar ôl gan y diwydiant glo a sut na all ein cymunedau ddianc rhag hyn tra'u bod yn parhau i fyw yn eu cysgod. Ni allaf ddeall, fel llawer o rai eraill rwy'n siŵr, fod hwn yn fater sy'n parhau gyda ni heddiw, yn...

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Heledd Fychan: Fel y mynegwyd mor huawdl gan Delyth Jewell, mae cymaint o’n hanes modern fel cenedl wedi ei lywio gan y chwyldro diwydiannol, pan ddaeth glo yn danwydd pwysig dros ben. Serch hynny, mae hanes cloddio am lo yn mynd nôl ganrifoedd cyn hynny, gyda’r Rhufeiniaid yn cloddio am lo ym Mhrydain. Yn wir, mae tystiolaeth o gloddio ym Mlaenafon yn mynd nôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac, yn...

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Heledd Fychan: Mae ein cymunedau'n haeddu cyfiawnder, ac mae a wnelo hyn ag atebolrwydd a chywiro anghyfiawnder hanesyddol. A chredaf mai'r cwestiwn i sylwadau Janet Finch-Saunders yw: pwy a ddaeth yn gyfoethog drwy lo? A dyna graidd y mater a pham ein bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i unioni'r anghyfiawnder hanesyddol. Mae'r dadleuon y sonioch chi amdanynt ynglŷn â fy nghyd-Aelodau'n cyflwyno'r pethau yr...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.