Hefin David: Eich plaid, mae'n ddrwg gennyf.
Hefin David: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw? Pam ei fod wedi cael gwared ar ei amser yn y Llywodraeth o'r hanes yn ei gynnig?
Hefin David: Hoffwn dalu teyrnged i'r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt fwyaf yn fy etholaeth i, sef Machen, Bedwas, Llanbradach, Ystrad Mynach, Tredomen, Nelson a Phenpedairheol; y rhai â busnesau masnachol a busnesau preswyl. Effeithiwyd yn fawr ar Glwb Rygbi Bedwas ar Gae'r Bont ac mae wedi elwa ar gyllido torfol. Mae'n cael trafferth goroesi, mae'n rhaid dweud, ar hyn o bryd, ac rwy'n gwneud...
Hefin David: Rwyf i wedi ysgrifennu at Weinidog yr amgylchedd yn gofyn am gyfarfod gydag aelodau ffermio NFU Cymru i drafod y rheoliadau hyn, ac rwy'n aros am ymateb. Rwy'n credu bod y cwestiynau heddiw yn dangos bod angen craffu ar y rheoliadau hyn. Rwyf i wedi cynnal cyfarfodydd gydag aelodau NFU Caerffili a chydag Undeb Amaethwyr Cymru i drafod eu pryderon. Ar ffermydd llai, fel y rhai ym Medwas a...
Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoliadau llygredd amaethyddol yng Nghymru?
Hefin David: Roedd hwnnw'n seiliedig ar ronynnau unigol, a'r amcangyfrif o ronynnau unigol. Yr hyn a wna dadansoddiad y Pwyllgor ar Effeithiau Meddygol Llygryddion Aer yw cyfuno'r gronynnau hynny yn amcangyfrif mwy realistig o'r math o ronynnau a fydd yn bodoli yn yr aer ar unrhyw un adeg, sy'n rhoi'r ffigurau rhwng 1,000 a 1,400.
Hefin David: Ie, nid oes dadl—nid oes dadl ynglŷn â hynny.
Hefin David: Mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws, ond un o'r pethau—mae'n gwneud y pwynt am gerbydau’n segura—un o'r pwyntiau a glywais hefyd gan swyddogion iechyd cyhoeddus yw nad cerbydau’n segura yn unig yw’r broblem; gallai’r weithred o ddiffodd eich cerbyd tra’n aros y tu allan i ysgol fod yr un mor llygrol pan fyddwch yn ei ailgychwyn eto. Felly, mewn llawer o achosion, waeth i chi ei...
Hefin David: Nid yw hynny'n—. Fel y dywedais yn fy nghyfraniad, nid hwnnw oedd y ffigur a roddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i mi. Dywedasant fod y 1,000 i 1,400 o ystod gyfanredol yn seiliedig ar ddisgwyliad oes. Felly, nid yw'r 2,000 o farwolaethau ar hyn o bryd—nid yw'n ffigur pendant; y cyngor iechyd cyhoeddus yw'r un a nodais i.
Hefin David: Mae iechyd cyhoeddus yn rhedeg drwy'r ddogfen ymgynghori 'Cynllun Aer Glân i Gymru'. Nid siarad yn unig am leihau allyriadau carbon a wna, nid sôn yn unig am effaith ar safonau amgylcheddol a wna; mae hefyd yn sôn am ansawdd bywyd, ac mae'n sôn am atal salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, a marwolaeth. Felly, yn sicr ceir edefyn yn y cynllun hwnnw sy'n cyd-fynd â'r cynnig, ac mae'r cynnig ei...
Hefin David: Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, darllenais y ddogfen ymgynghori 'Cynllun Aer Glân i Gymru', a chefais gyfarfod hefyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i drafod rhai o'r pethau sydd yn y cynnig. Ac wedi gwneud hynny, gan ystyried Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arbenigwyr annibynnol, nid wyf yn rhannu pesimistiaeth Plaid Cymru, ond rwy'n croesawu rhai o'r geiriau sydd yn y cynnig. Felly, rwy'n cefnogi...
Hefin David: Gallaf weld bod Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Siambr, ac felly hefyd aelodau o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Byddwn yn lansio ac yn cyhoeddi ein hadroddiad ar gaffael yn yr economi sylfaenol yn ddiweddarach yr wythnos hon, felly nid wyf am ddatgelu ei gynnwys, ond hoffwn ofyn cwestiwn am gaffael sy'n gysylltiedig â hynny. Roedd yn amlwg o'r sesiynau...
Hefin David: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gaffael arloesol yng Nghymru? OAQ55059
Hefin David: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i henebion cofrestredig sydd o bwysigrwydd cenedlaethol?
Hefin David: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Hefin David: Ond rwy'n meddwl mai'r broblem gyda'u cynnig ar hyn o bryd yw nad oes ffordd arall i bobl fynd i mewn i'r ddinas. Mae'r trenau'n llawn, mae'r bysiau'n rhedeg yn llawer rhy hwyr ar gyfer y gwaith. Cefais broblemau enfawr y bore yma. Bydd y bobl yn dal i deithio yn yr un niferoedd yn union, byddant yn talu'r tâl, dyna i gyd. Mae'n dreth, fel y mae'r cynigion wedi'u gosod ar hyn o bryd, hyd nes...
Hefin David: Cefais gyfarfod gyda phrif weithredwr cyngor Caerffili, ac rydych chi'n hollol gywir, y rheswm pam yr aethant am brif gynllun Caerffili oedd oherwydd yr hybiau strategol. Y broblem yw bod Senghennydd wedi'i hepgor ynddo. Felly cafodd hynny yr union effaith honno.
Hefin David: Mae hefyd, fel y dywedais, yn ymgais i ategu polisi'r Llywodraeth ar yr economi sylfaenol. Ac ar dudalen 8, mae'n siarad mewn gwirionedd am y gallu i fyw'n sylfaenol, ac mae'n dweud, Mae llwyddiant yn ymwneud â pha un a yw lleoedd yn gweithio mewn ffordd y gellir byw ynddynt i lawer o fathau o aelwydydd. Nid a ydynt yn ddiffygiol yn ôl mesur gwerth ychwanegol gros neu a ydynt yn brin o...
Hefin David: Dywedodd ei fod am aros cyhyd ag y byddaf yn ei gwneud yn ddiddorol, felly os yw'n mynd, rydym yn gwybod beth fydd yn ei feddwl. A'r diffiniad yn yr adroddiad—maent yn disgrifio trefi angor fel canolfannau is-ranbarthol ar gyfer cyflogaeth, addysg a gwasanaethau allweddol, gyda chysylltiadau trafnidiaeth cryf, ac maent yn cefnogi busnesau newydd a rhai sy'n tyfu ac sy'n darparu sylfaen...
Hefin David: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ffordd rwy'n mynd ati i wneud y ddadl fer hon yn un rwyf wedi'i thrafod gyda'r Gweinidog. Nid wyf wedi ysgrifennu araith mewn gwirionedd. Mae gennyf nodiadau, ond nid wyf wedi ysgrifennu araith, felly nid wyf yn gwybod beth rwy'n mynd i'w ddweud yn yr araith hon. Ond rwyf hefyd wedi cytuno gyda'r Gweinidog nad yw yntau wedi ysgrifennu fawr o araith chwaith, ac...