Gareth Davies: Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr, Lywydd. Diolch am fy ngwasgu i mewn ar y diwedd, a diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am eich datganiad y prynhawn yma. Rwyf am ganolbwyntio fy nghwestiwn ar ofal cymdeithasol a chartrefi gofal, os yw'n bosibl, oherwydd roeddwn yn darllen drwy ddata Iechyd Cyhoeddus Cymru y bore yma a oedd yn dweud bod 70 y cant o'r gweithlu wedi'u brechu, ac 86 y cant o...
Gareth Davies: Fel y dywed y comisiynydd pobl hŷn, yn gwbl gywir: 'Bydd cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus penodol i Gymru yn sicrhau bod y Cadeirydd a’r panel a fydd yn gyfrifol am yr Ymchwiliad yn deall datganoli a nodweddion diwylliannol a gwleidyddol arbennig Cymru, yn ogystal â chynrychioli amrywiaeth ein gwlad a bod yn hygyrch mewn ffordd na allai un Ymchwiliad ar gyfer pob rhan o’r DU fod.' Dyna pam...
Gareth Davies: A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o effeithiolrwydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran ysgogi gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
Gareth Davies: Iawn. Gofynnir i ni gymeradwyo'r cod heb hyd yn oed gweld y canllawiau cysylltiedig, sy'n golygu nad oes modd i ni gymeradwyo'r cod hwn heddiw, ac rwy'n annog yr Aelodau i wrthod cynnig y Llywodraeth a galw ar Weinidogion i ailddrafftio'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb gyda rhywfaint o dystiolaeth gryfach. Diolch yn fawr iawn.
Gareth Davies: Ymddiheuriadau am hynny. Ni welais i chi.
Gareth Davies: Wel, rwyf i bron â gorffen. Rwyf i fwy neu lai wedi gorffen, Dirprwy Lywydd, felly nid wyf yn siŵr a fyddai llawer o bwynt, mewn gwirionedd.
Gareth Davies: Na, rwyf i bron â gorffen, Dirprwy Lywydd.
Gareth Davies: Mae drafft y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb hwn yn welliant enfawr ar yr un a gafodd ei anfon gyda'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, fel y mae heddiw, ni allwn ei gefnogi. Mae gennym ni rai pryderon enfawr o hyd, ac rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog fynd i'r afael â nhw, a dod â chod diwygiedig yn ôl y gall pawb yn y Siambr hon ei gefnogi. Egwyddor arweiniol y cod addysg cydberthynas a...
Gareth Davies: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, yn ogystal â thrafod gyda'ch swyddogion a chaniatáu iddynt friffio aelodau'r pwyllgor iechyd yn gynharach y prynhawn yma. Gweinidog, er ei bod yn bwysig ein bod yn ymateb i'r darlun sy'n datblygu o ran omicron, mae'n hanfodol nad ydym yn gor-ymateb —byddai hyn yn creu mwy o niwed na lles. Rwyf yn croesawu'r ffaith na chyflwynwyd unrhyw...
Gareth Davies: Wel—[Chwerthin.]
Gareth Davies: Wel, rwy'n—
Gareth Davies: Rwy'n ceisio ychwanegu at y ddadl. Rwy'n ychwanegu at y ddadl, ac—
Gareth Davies: Yn amlwg gallaf weld angerdd yr Aelod a'r achosion yn ei etholaeth, ac mae gennyf yr un peth yn union yn fy etholaeth i. Y Rhyl yw un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad, yng Nghymru a'r rhan fwyaf o'r DU, felly nid wyf yn mynd i gymryd unrhyw wersi gan Aelodau o dde Cymru ar broblemau yn fy etholaeth. Felly, mae gan yr Aelod wyneb yn dweud wrthyf, 'O, wel'—a phregethu am broblemau...
Gareth Davies: Gwnaf, yn sicr. Yn sicr.
Gareth Davies: Wel, os gwnaiff yr Aelod wrando ar weddill fy nghyfraniad, fe welwch sut y daw'n ôl yn naturiol i ateb eich ymholiad. [Chwerthin.] Felly, rhaid bod yn amyneddgar, fel y maent yn ei ddweud. [Chwerthin.] Daw'r banciau bwyd heddiw ar sawl ffurf. Mewn byd delfrydol, ni fyddai gennym dlodi, ond nid ydym yn byw mewn byd delfrydol. Yn anffodus, mae teuluoedd yn wynebu caledi ariannol heb unrhyw fai...
Gareth Davies: Gwnaf, yn sicr.
Gareth Davies: Ychydig wythnosau'n ôl, cefais y fraint o gyfarfod â'r gwirfoddolwyr ym manc bwyd Kings Storehouse yn y Rhyl. Banc bwyd annibynnol yw Kings Storehouse sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr o Ganolfan Gristnogol Wellspring. Fe'i sefydlwyd yn 2012 pan welodd yr eglwys bobl yn lleol a oedd yn mynd drwy gyfnod anodd, a llawer ohonynt heb fod unrhyw fai arnynt hwy, a daeth aelodau'r eglwys i'r...
Gareth Davies: Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, gan fy mod wedi gweithio ym mwrdd Betsi Cadwaladr am 11 mlynedd, a bûm yn gweithio am bedair blynedd ym maes iechyd meddwl fel gweithiwr cymorth, felly hoffwn feddwl bod y pwnc trafod hwn yn weddol agos at fy nghalon. Er bod adroddiad Holden yn canolbwyntio ar fethiannau uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, mae ganddo oblygiadau i gleifion...
Gareth Davies: Weinidog, mae fy etholaeth yn gartref i un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac efallai yn y DU gyfan hyd yn oed. Yn anffodus, mae tlodi mor aml yn gysylltiedig â chyflawniad addysgol gwael, a gall fod yn gylch dieflig, gyda phlant rhieni sydd heb gael addysg dda yn llai tebygol o gael addysg dda. Fel y mae adroddiad Estyn yn ei nodi, bydd hyn wedi'i waethygu gan y pandemig, gan...
Gareth Davies: Hoffwn ddechrau drwy ddatgan buddiant, gan fy mod yn gynghorydd yn sir Ddinbych tan fis Mai 2022. Mae arnaf ofn y byddaf yn parhau i rygnu ymlaen am hyn ac yn swnio fel record wedi torri gan fy mod wedi crybwyll y cwestiwn hwn unwaith neu ddwy yn barod. Mae cymunedau Trefnant a Thremeirchion yn dal i ymdrin â chanlyniadau'r llifogydd ofnadwy yn sgil storm Christoph ar ddechrau'r flwyddyn....