Carolyn Thomas: A gaf i ddatgan fy mod i'n dal yn gynghorydd sir yn sir y Fflint? Diolch.
Carolyn Thomas: Diolch. Diolchaf i'r Prif Weinidog am y berthynas gadarnhaol iawn sydd wedi cael ei meithrin rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau, yn enwedig yn ystod y pandemig. Mae'r berthynas wedi sicrhau bod gwasanaethau lleol wedi parhau i gael eu darparu i gymunedau ledled Cymru gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Ond, fel cynghorydd yn sir y Fflint, rwyf i wedi gweld effaith 10 mlynedd o gyni...
Carolyn Thomas: 4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu awdurdodau lleol yng Nghymru? OQ56878
Carolyn Thomas: Rhowch arian i bobl ddosbarth gweithiol yn eu pocedi. Rhowch arian i bobl ddosbarth gweithiol yn eu pocedi a byddant yn ei wario oherwydd bod angen iddynt ei wario. Tyfu'r economi yn y ffordd honno. Rhowch arian ym mhocedi pobl. Mae pobl gyfoethog yn ei gynilo, yn ei roi yn y banciau. Mae arian i fod i gael ei wario, mae i fod yn rhan o'r economi, i gadw'r economi i fynd. Mae Llywodraeth...
Carolyn Thomas: —a sifftiau ofnadwy nad ydynt yn gweddu i fywyd teuluol. Nid credyd cynhwysol yn unig sydd i'w feio am hyn chwaith, ond effaith gyfunol polisïau cyni'r Torïaid, gan gynnwys y dreth ystafell wely a'r polisi dau blentyn hefyd. Felly, dim ond ar gyfer dau blentyn y gallwch gael arian bellach. Yn y Rhyl yn unig, effeithir ar 4,000 o bobl. Bydd effaith ganlyniadol i hyn ar gymunedau lleol ar...
Carolyn Thomas: Hoffwn ddweud nad yw credyd cynhwysol erioed wedi bod yn addas i'r diben. Mae'n costio mwy na'r budd-daliadau etifeddol blaenorol i'w ddarparu oherwydd biwrocratiaeth y peth ac mae'n helpu llai fyth o bobl. Credaf fod y toriad arfaethedig i'r cynnydd o £20 yn gic yn eu dannedd i lawer o'm hetholwyr ar draws gogledd Cymru. Mae 40 y cant o'r rhai sydd ar gredyd cynhwysol mewn swyddi cyflog...
Carolyn Thomas: Na wnaf—ac maent wedi gwneud gwaith hanfodol drwy gydol y pandemig mewn sectorau fel y GIG a gofal cymdeithasol. Yn hytrach na chael diolch am y gwaith anhygoel hwn y maent wedi'i wneud yn ystod y pandemig, maent ar fin cael eu taro â thoriad i'w credyd cynhwysol o £1,000 y flwyddyn yn ogystal â chodiad treth. Dylai tlodi mewn gwaith ac amodau gwaith gwael fod yn bethau sy'n perthyn i'r...
Carolyn Thomas: Rwy'n ymwybodol o gryn dipyn o seilwaith yng ngogledd Cymru sydd wedi cael ei effeithio gan lifogydd, gan gynnwys y ddwy enghraifft a grybwyllwyd heddiw, ac nid ydynt wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer cyllid y soniodd y Gweinidog amdanynt yn gynharach. Rwy'n ymwybodol, fel cyn-Aelod y cabinet dros drafnidiaeth fod yna danwariant bob blwyddyn sydd fel arfer yn mynd i'r asiantaeth cefnffyrdd....
Carolyn Thomas: Diolch am godi hyn, y ddwy ohonoch. Rwy'n mynd i siarad am fy mhrofiad i a hefyd fy merch, sydd wedi rhoi—. Mae hi wedi dweud y caf siarad amdano. Mae hi hefyd yn meddwl ei fod yn bwysig iawn gan fod ganddi lawer o ffrindiau sy'n dioddef hefyd. Ganwyd fy mhlentyn cyntaf yn yr ysbyty. Roedd hi'n fawr. Collais lawer o waed a bûm bron â llewygu wrth geisio ei chodi. Felly, cafodd yr ail ei...
Carolyn Thomas: Diolch am yr ateb, Weinidog. Rwy'n cytuno na allai'r toriadau i'r gyllideb taliadau disgresiwn at gostau tai fod wedi dod ar adeg waeth i denantiaid ledled Cymru, sydd eisoes yn wynebu'r storm berffaith o doriadau posibl mewn swyddi, toriad i'r hwb credyd cynhwysol, ôl-ddyledion rhent a diwedd ar y gwaharddiad ar droi allan. Ac mae hyn ar ben y dreth ystafell wely, y terfyn dau blentyn a...
Carolyn Thomas: 5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r toriadau a wnaed i'r gyllideb taliad disgresiwn at gostau tai gan Lywodraeth y DU? OQ56771
Carolyn Thomas: Mae angen i mi ddatgan buddiant gan fy mod i'n dal i fod yn gynghorydd yn sir y Fflint o hyd hefyd. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf o gyni, oherwydd i gyllidebau Llywodraeth Cymru gael eu torri, mae gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, wedi eu torri at yr asgwrn. Maen nhw wedi ad-drefnu ac ailstrwythuro tan eu bod nhw wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Roedd y dreth gyngor yn arfer...
Carolyn Thomas: Rwy'n croesawu'r cynigion a gyflwynwyd, a hoffwn i gynnig y rhanbarth hwnnw, os yw hynny'n bosibl. Mae'n ddrwg gennyf i, nid wyf i'n gorffen gyda chwestiwn. Diolch.
Carolyn Thomas: Diolch. Wel, gallaf i gadarnhau bod Cyngor Sir y Fflint yn adeiladu 500 o dai fforddiadwy i'w rhentu, diolch i bolisïau Llywodraeth Cymru a chyllid hefyd i helpu gyda hynny. Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn ymdrin o ddifrif â'r mater hwn o berchnogaeth ar ail gartrefi gyda'r dull gweithredu tair elfen sydd wedi'i hamlinellu. Dim ond yr wythnos hon, cysylltodd etholwr â mi. Mae...
Carolyn Thomas: Mae cwmni cludo nwyddau yn y gogledd wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r mater hwn, gan dynnu sylw at ddau ffactor allweddol. Y cyntaf, fel y soniodd Joyce, yw Brexit a'r ffaith bod angen dybryd i Lywodraeth y DU ailystyried ei safbwynt ar fisâu gweithwyr medrus. Ond yr ail, yr hoffwn ofyn amdano, yw sut y gallwn ni annog mwy o bobl i fynd i ymuno â'r maes cyflogaeth hwn, trwy ei gydnabod fel...
Carolyn Thomas: Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Ers ymuno â'r Senedd fis diwethaf, rwyf wedi bod yn falch iawn o glywed am rai o'r mesurau sydd ar waith i annog bywyd gwyllt, gan gynnwys y gwenyn ar adeilad y Pierhead. Hoffwn i'r Senedd hon arwain y ffordd gyda'r defnydd o dechnegau arloesol i annog bioamrywiaeth, ac a wnaiff y Comisiwn ymrwymo i ymchwilio i ffyrdd o annog rhywogaethau brodorol ar yr ystâd...
Carolyn Thomas: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n bryderus iawn am effaith cardiau adnabod pleidleiswyr a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar yr etholwyr yn fy rhanbarth yng Ngogledd Cymru. Mae'n debygol iawn y bydd y camau gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn atal y nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau, yn enwedig ymhlith y cymunedau mwyaf difreintiedig. Dylid osgoi codi rhwystrau diangen o'r...
Carolyn Thomas: 7. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i'w gwneud yn ofynnol cael cardiau adnabod gyda llun er mwyn pleidleisio? OQ56691
Carolyn Thomas: 7. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i gynyddu bioamrywiaeth ar ystâd y Senedd? OQ56690
Carolyn Thomas: Diolch i Jack am gyflwyno'r ddadl hon yn y Senedd, ac am bopeth y mae'n ei wneud i gefnogi gweithwyr a diwydiant yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Yn fy mhrofiad personol fel postmon, gwelais sut y mae'r ymgyrch i hybu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn ein gorfodi i dderbyn oriau gwaith afrealistig. Ymladdodd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn llwyddiannus yn erbyn masnachfreinio ein brand a...