Joel James: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl technoleg protein amgen o ran sicrhau sero net? OQ57224
Joel James: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau am yr holl bwyntiau dilys a phwysig y maent wedi'u codi hyd yma yn y ddadl hon, a thalu teyrnged i fy nghyd-Aelod, Joyce, am siarad am ei phrofiad personol. Mae sbeicio diodydd mewn tafarndai a chlybiau nos wedi bod yn broblem ers peth amser. Er y gallai unrhyw un gael eu heffeithio, fel y clywsom eisoes, menywod sy'n dioddef hyn yn bennaf....
Joel James: Diolch i chi am ganiatáu'r ymyriad. Roeddwn i eisiau ymyrryd yn bennaf oherwydd fe wnaethoch chi sôn yn eich dadl—fe wnaethoch chi ei eirio fel hunanoldeb, natur y peth, pam yr ydym yn gwrthwynebu hynny. Rwy'n gwrthwynebu'r cynigion hyn, ond yn y pen draw os byddan nhw'n mynd drwyddo, prin yw'r anghyfleustra i mi a phrin yw'r anghyfleustra i chi. Ond y mater yw, yn y pen draw, i'r rhai...
Joel James: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n wych gweld bod y rhaglen Cymru ac Affrica yn parhau i fod o fudd i rai o wledydd tlotaf y byd, a bod cylch arall o gyllid ar raddfa fach wedi ei lansio. Mae hyn wedi bod yn ffynhonnell hanfodol o incwm i ddarparu cymorth a chefnogaeth i lawer o elusennau bach a grwpiau cymunedol ar gyfandir Affrica. A hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch a fy...
Joel James: Diolch, Gadeirydd. Hoffwn ddechrau drwy ychwanegu fy nghefnogaeth i'r sylwadau y mae fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, wedi'u gwneud wrth agor y ddadl hon a diolch hefyd i'r holl unigolion a theuluoedd sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino dros y blynyddoedd i ddod â'r mater hwn i'r amlwg a rhoi'r sylw angenrheidiol iddo. Drwy gydol y broses o ddod â'r ddeiseb hon i ddadl, mae llawer o bobl wedi...
Joel James: Diolch ichi am yr ymyriad. Nid yw'r Blaid Geidwadol yn erbyn cwmnïau cydweithredol. Un o'r pethau sylfaenol rydym yn ei erbyn, mewn gwirionedd, gyda'r peth Marcora a gyflwynwyd yn y 1980au, oedd buddsoddiad a gefnogir gan y Llywodraeth o 3:1, a oedd yn fuddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth, y profwyd ei fod yn torri rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE mewn gwirionedd. Dyna un o'r prif...
Joel James: —ac mae cyfran fawr o'r rhain yn gwneud hynny, ni fydd gweithwyr yn gallu hawlio budd-daliadau lles i'w cefnogi eu hunain a'u teuluoedd am hyd at dair blynedd. Rwy'n amau mai ychydig iawn o bobl yma sydd wedi ystyried hyn yn iawn, gan ffafrio'r ffocws ar y manteision canfyddedig yn hytrach na'r realiti oer, anodd. Rwy'n amau bod yr Aelodau yma'n cynnig o ddifrif y bydd yn rhaid i weithwyr...
Joel James: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl hon ac am y ffordd y mae wedi cyflwyno ei ddadl. Er fy mod yn cydnabod y rhesymau pam y mae'r Aelod wedi cyflwyno'r cynigion hyn, rwy'n credu bod yr Aelod yn cyfeiliorni ynglŷn â beth fyddai'r manteision posibl o weithredu cyfraith Marcora Eidalaidd o'r 1980au yng Nghymru, ac rwyf hefyd yn pryderu bod yr Aelod yn gofyn i Lywodraeth...
Joel James: Fel y gŵyr y Gweinidog, er gwaethaf pob ymdrech i atal a rhwystro pysgota anghyfreithlon, mae rhai pobl yn dal i fod yn benderfynol o dorri'r gyfraith a gorgynaeafu ein moroedd yn anghyfreithlon er budd masnachol iddynt hwy. Mae hyn, yn anffodus, yn cael effaith ganlyniadol enfawr, gyda stociau pysgod yn lleihau, bywoliaeth pysgotwyr sy'n cadw at y gyfraith yn cael eu heffeithio, a...
Joel James: Yn gyntaf, hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i'r comisiynydd plant am ei holl waith caled a'i hymroddiad drwy gydol ei chyfnod yn y swydd. Hoffwn i ddiolch iddi hi a'i staff hefyd am baratoi'r adroddiad hwn. Yn anffodus, fel llawer o rannau eraill o gymdeithas, mae plant, yn enwedig plant sy'n agored i niwed y mae eu hamodau wedi eu gwaethygu o bosibl oherwydd y newidiadau sylweddol y maen nhw...
Joel James: Fel y gŵyr y Gweinidog yn dda, nodwyd bod gan ecosystemau carbon glas botensial enfawr i storio carbon, ac arddangos cyfraddau claddu carbon hyd at 30 gwaith yn uwch na choedwigoedd, sydd, gyda llaw, yn cael cryn sylw anghymesur am eu gallu i storio carbon. Fel y gwyddom ni, mae gan Gymru arfordir hir iawn; mae ganddi fwy na 3 miliwn hectar o gynefin carbon glas, fel morfeydd heli arfordirol...
Joel James: Prif Weinidog, roedd hi'n Wythnos Genedlaethol y Ceffylau Rasio ledled y DU yn ystod yr wythnos a ddechreuodd ar 13 Medi, sydd â'r bwriad o arddangos llawer o'r agweddau hynod ddiddorol ar rasio ceffylau, ac agor drysau llawer o'r hyfforddwyr ceffylau i ddangos y safonau uchel o gariad, gofal a sylw y mae ceffylau rasio yn eu derbyn. Yn yr Alban a Lloegr, mae sefydliadau penodol wedi eu...
Joel James: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwydiant rasio ceffylau yng Nghymru? OQ56993
Joel James: Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, daeth y rhaglen Cysylltu Cymunedau i ben yn gynharach na'r disgwyl am nad oedd dull Llywodraeth Cymru o wahodd a dethol y prosiect yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau Ewropeaidd. Mae'r rhaglen Cysylltu Cymunedau wedi bod yn achubiaeth i bobl fregus allu defnyddio gwasanaethau hanfodol, ac i gynnal lefel o ryddid na fyddent fel arall yn gallu ei mwynhau....
Joel James: Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag allyriadau CO2 o geir?
Joel James: Rwy'n dychmygu y cafodd y Gweinidog brofiad amhleserus wrth ddarllen adroddiad 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol' o gofio'r nifer llethol o feirniadaethau a osodwyd wrth ei drws a pha mor wael y cafodd y ddeddfwriaeth hon ei gweithredu. Mae'r comisiynydd ei hun wedi mynegi pryder mawr fod ei swyddfa'n cael ei thanariannu'n aruthrol i weithredu polisi cenedlaethau'r dyfodol blaenllaw...
Joel James: Fodd bynnag, heb amheuaeth, rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y bydd arolygu pobl ynglŷn â thollffyrdd a bod yn benodol iawn am yr M4 a'r A470 fel lleoliadau posibl yn rhoi'r syniad ym meddyliau pobl fod hwn yn gam gweithredu y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried. Gobeithio y gall y Llywodraeth gydnabod y pryder sylweddol ymhlith modurwyr a busnesau y byddai hyn wedi'i achosi. Felly, pwynt y...
Joel James: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae dileu tollau pont Hafren wedi bod o fudd enfawr i bobl Cymru. Wrth i Lywodraeth y DU lacio gafael y tollau yn 2017, cafodd busnesau a chymudwyr eu rhyddhau o feichiau ariannol enfawr, gyda rhai modurwyr yn arbed cymaint â £1,400 y flwyddyn. Heb os, bydd cael gwared ar dollffordd pont Hafren wedi agor de Cymru i lawer o fusnesau a fyddai wedi gweld tollffordd fel...
Joel James: Diolch. Fel y gŵyr y Gweinidog, nododd adolygiad Kalifa fod prifddinas-ranbarth Caerdydd yn lleoliad ar gyfer clystyrau o gwmnïau technoleg ariannol sy'n dod i'r amlwg. Mae Llywodraeth y DU, drwy Drysorlys Ei Mawrhydi, wedi penodi llysgennad technoleg ariannol i Gymru sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn helpu i ddechrau FinTech Cymru, sefydliad, fel y sonioch chi, sy'n helpu busnesau...
Joel James: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gweithredu adolygiad Kalifa o sector technoleg ariannol y DU? OQ56914