Canlyniadau 261–280 o 400 ar gyfer speaker:Peredur Owen Griffiths

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Cyllid Hosbisau (25 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma. Gadewch imi ddechrau drwy ddweud ei bod hi ddim yn unig yn ddiwrnod gwych i'r Urdd ar gyfer dathlu ei chanmlwyddiant heddiw, a hefyd y ffaith ein bod ni'n dathlu Diwrnod Santes Dwynwen hefyd, ond yn berthnasol i'r datganiad yma, dwi hefyd yn dymuno pen-blwydd hapus i Tŷ Hafan, sydd heddiw'n dathlu pen-blwydd yn 23 mlwydd oed. Ac mae'r...

7. Dadl Plaid Cymru: Costau byw (19 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: I waethygu pethau, mae gennym Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan sydd y tu hwnt i barodi. Tra bod miliynau o bobl yn poeni sut y gallant fforddio eu biliau cyfleustodau dros y 12 mis nesaf, mae diffyg ateb cydlynol gan Lywodraeth y DU ynghylch yr argyfwng costau byw sydd ar y gorwel yn annerbyniol. Pe baent yn rhoi cymaint o amser ac ymdrech ar fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ag y...

7. Dadl Plaid Cymru: Costau byw (19 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Ydw, dwi'n cytuno'n llwyr efo Rhun yn fanna. Mae gorfodi pobl i ddewis rhwng gwresogi'r tŷ neu fwyd cynnes yn ofnadwy, ac mae'r niwed i bobl sydd yn methu â chael bwyd cyson yn frawychus ac yn anfaddeuol.

7. Dadl Plaid Cymru: Costau byw (19 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Rydym yn wynebu storm berffaith: mae anghydraddoldeb a thlodi, a oedd ar lefelau digynsail cyn y coronafeirws, wedi'u chwyddo yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae bywyd eisoes yn frwydr i gynifer o bobl, ac eto mae pethau'n mynd i fod yn waeth—yn llawer gwaeth. Mae disgwyl i'r cap ar brisiau ynni godi ym mis Ebrill. Fel pe na bai hynny'n ddigon drwg, mae prisiau cyfleustodau'n mynd i godi...

7. Dadl Plaid Cymru: Anghydraddoldebau iechyd (12 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Diolch am gael cymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma. 

7. Dadl Plaid Cymru: Anghydraddoldebau iechyd (12 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Mae anghydraddoldebau enfawr yn bodoli o ran cyfoeth ac iechyd yn ein cymdeithas. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon honni fel arall, ond byddwn yn falch iawn o fynd â hwy o amgylch rhai o'r cymunedau yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru os oes angen eu hargyhoeddi ymhellach. Mae'r pandemig dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cynyddu'r gwahaniaethau a oedd...

3. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2022-23 (11 Ion 2022)

Peredur Owen Griffiths: Diolch, Gweinidog, am yr wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb y prynhawn yma. Rwy'n siarad y prynhawn yma gan fy mod i'n un o Aelodau rhanbarthol dwyrain de Cymru. Rwy'n croesawu'r eglurder ychwanegol sy'n dod yn sgil eich datganiad, gan ei fod yn caniatáu i'r Senedd wneud y gwaith craffu trwyadl a manwl sy'n ofynnol ar gyfer pob un o gyllidebau Llywodraeth Cymru. Byddwn i'n falch o gael...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (15 Rha 2021)

Peredur Owen Griffiths: Pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ystod y pandemig?

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi bwyd ( 8 Rha 2021)

Peredur Owen Griffiths: I ddychwelyd at fanciau bwyd, un o'r agweddau mwyaf gofidus ar y gwaith hwn yw'r parseli bwyd sy'n barod i'w bwyta ar unwaith. Pam, gallech ofyn, y mae hyn yn peri gofid neu hyd yn oed yn angenrheidiol? Y rheswm amdano yw nad oes gan rai pobl fynediad at gyfleusterau coginio, neu ni allant fforddio cynnau'r trydan neu'r nwy i goginio'r bwyd. Faint o bensiynwyr fydd yn wynebu'r broblem hon y...

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi bwyd ( 8 Rha 2021)

Peredur Owen Griffiths: Nid yw'n syndod, felly, fod derbyniadau i ysbytai gyda diagnosis o ddiffyg maeth wedi mwy na dyblu yn y saith mlynedd i 2017, gyda chyfraddau uchel mewn pobl hŷn rhwng 60 a 69 mlwydd oed. Ers cyhoeddi’r ffigurau hynny, rydym wedi cael pedair blynedd arall o Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Mae eu diwygiadau yn y wladwriaeth les wedi arwain at doriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus,...

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi bwyd ( 8 Rha 2021)

Peredur Owen Griffiths: Wrth i ni nesáu at y Nadolig, mae’r ddadl hon yn un amserol, ac rydym ni wedi clywed y geiriau yna lot heno. Ond mae’n ein hatgoffa ni o'r rhai fydd yn mynd heb ddim dros gyfnod yr ŵyl. I’r bobl yma, fydd dim anrhegion, fydd dim gwledda—fydd dim hyd yn oed partïon cudd iddyn nhw gael eu gwadu. Y gorau y gall llawer obeithio amdano ydy to uwch eu pennau, digon o wres i’w cadw...

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi bwyd ( 8 Rha 2021)

Peredur Owen Griffiths: Mae'r cynnydd diflas a meteorig yn nifer y banciau bwyd yn atgoffa dyn o nofelau Dickens. Mae'n fy mhoeni bod cymaint o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac nad yw cynifer ohonynt yn gallu gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Mae hyn yn wir am bobl hŷn sydd ar incwm sefydlog a heb gyfle i'w gynyddu. Mae banciau bwyd wedi bod yn rhwyd ddiogelwch bwysig i bobl ar y llinell dlodi neu oddi tani,...

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ( 8 Rha 2021)

Peredur Owen Griffiths: Pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i gyflwyno mecanweithiau rheoli i reoleiddio'r tir yng Nghymru y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwrthbwyso carbon?

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Rha 2021)

Peredur Owen Griffiths: Trefnydd, ddechrau'r mis hwn, cafodd gohebiaeth ei gyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gynllunydd Persimmon Homes dwyrain Cymru. Roedd y llythyr yn ymwneud â chynllun dadleuol i adeiladu 300 o gartrefi ar gaeau o amgylch Heol y Cefn, Cefn Fforest, Bedwellte—yn ddadleuol gan fod y man gwyrdd hwn yn cael ei werthfawrogi'n fawr yn lleol a bod safleoedd tir llwyd yn agos y mae...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Trais yn Erbyn Menywod ( 7 Rha 2021)

Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr. Yr wythnos diwethaf, cafodd ffigurau annymunol eu cyhoeddi ar gyfer ardal Gwent o ran trais domestig. Dywedodd y South Wales Argus fod troseddau cam-drin domestig wedi mwy na dyblu yng Ngwent yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Er gwaethaf deddfwriaeth fel Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ac ymgyrchoedd uchel eu proffil fel ymgyrch...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Trais yn Erbyn Menywod ( 7 Rha 2021)

Peredur Owen Griffiths: 6. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddileu trais yn erbyn menywod? OQ57336

10. Dadl Fer: Creu Cymru gerddorol ar gyfer yr 21ain ganrif: Mynediad, llesiant a chyfle ( 1 Rha 2021)

Peredur Owen Griffiths: Hoffwn ddiolch i Rhianon am roi munud o'i hamser i mi yn y ddadl bwysig hon heno. Cefais fy atgoffa o rym cerddoriaeth yn ystod cyngerdd a swper i ddathlu 50 mlynedd ers ffurfio band tref Abertyleri ychydig wythnosau yn ôl. Roedd y cyngerdd yn wych ac roedd llawer o bobl yn eu dagrau. Yn y cinio wedyn clywyd llawer yn tystio'n bwerus i'r modd roedd y band wedi dod â cherddoriaeth i fywydau...

8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd ( 1 Rha 2021)

Peredur Owen Griffiths: Er bod y pandemig wedi bod yn anodd i sawl rhan o'r gymdeithas, mae pobl hŷn wedi dioddef mwy na'r rhan fwyaf. Mae bygythiad cynyddol y coronafeirws i'w hiechyd wedi cynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd, gan effeithio'n drwm ar iechyd meddwl a chorfforol pobl hŷn. Mae'r cwymp economaidd hefyd wedi cael effaith fawr ar bobl hŷn. Ers dechrau'r pandemig, mae 24 y cant o weithwyr rhwng 60 a 64...

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio (30 Tach 2021)

Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fras y datganiad gan y Llywodraeth heddiw. Yn gyffredinol, mae pobl yng Nghymru yn byw'n hirach; amcangyfrifir y gallai chwarter y boblogaeth fod dros 65 oed mewn 20 mlynedd. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae cyhoeddi strategaeth sy'n gwneud bywyd yn haws i bobl hŷn yn rhywbeth y dylai unrhyw lywodraeth gyfrifol fod yn ei wneud, o ochr ymarferol...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 Tach 2021)

Peredur Owen Griffiths: Trefnydd, hoffwn i godi mater gwasanaethau dibyniaeth ar gyffuriau yng Nghymru. Yn dilyn y ddadl fer yr wythnos diwethaf gan Jayne Bryant a'r ddadl fer a gynhaliais i ar gamddefnyddio sylweddau yn gynharach y tymor hwn, ymrwymodd y Llywodraeth hon i greu dull tosturiol o ymdrin â dibyniaeth. Roedd yn galonogol clywed y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles yn dweud, 'Yng Nghymru, lleihau...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.