Canlyniadau 261–280 o 400 ar gyfer speaker:Luke Fletcher

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (29 Med 2021)

Luke Fletcher: Ac wrth gwrs, mae Sefydliad Bevan hefyd wedi hyrwyddo manteision economi sylfaenol i weithwyr a busnesau Cymru. Cydnabu cyn-ddirprwy Weinidog yr economi, Lee Waters, broblemau gyda gwaith teg, cyflogau isel, a diffyg trefniadaeth gweithwyr yn yr economi sylfaenol yn ôl yn 2019, a nododd adroddiad gan Sefydliad Bevan ym mis Mehefin 2021 fod y problemau hyn yn dal i fod yn gyffredin yn yr...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (29 Med 2021)

Luke Fletcher: Diolch, Weinidog. Wrth edrych ymlaen, y tu hwnt i'r adferiad yn y tymor byr i'r tymor canolig ac ar y strategaeth adfer fwy hirdymor, un ffordd y gallwn sicrhau ffyniant i gymunedau lleol yng Nghymru yw drwy gefnogi cwmnïau cydweithredol cymunedol, mentrau cymdeithasol ac economi sylfaenol Cymru. Mae'r pandemig wedi cadarnhau bod economi sylfaenol gref wedi'i chefnogi'n dda yn hanfodol. Mewn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (29 Med 2021)

Luke Fletcher: Diolch, Lywydd. Ac wrth inni ddod allan yn awr ar yr ochr arall i dymor twristiaeth prysur, dylem achub ar y cyfle hwn i fyfyrio ac ystyried y ffordd orau inni hyrwyddo Cymru yn y dyfodol fel cyrchfan cynaliadwy o'r safon uchaf i dwristiaid. Rwy'n siŵr y bydd y Llywydd yn falch o glywed fy mod wedi treulio peth o fy amser yng Ngheredigion dros yr haf, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, wrth...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Codi’r Gwastad (28 Med 2021)

Luke Fletcher: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel yr eglurodd Plaid Cymru yn y ddadl ar y pwnc hwn cyn y toriad, hyd yma mae agenda codi'r gwastad San Steffan wedi golygu mwy o bwerau i San Steffan, mwy o arian ar gyfer seddi Torïaidd, a llai o ddemocratiaeth, cyllid a chynrychiolaeth i Gymru. Rydym ni’n haeddu gwell na hyn, ac yr oedd ein gwelliannau ni, wrth gwrs, yn adlewyrchu hynny. Yn ystod y ddadl honno...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (28 Med 2021)

Luke Fletcher: A gaf i ofyn am ddatganiad ar yr adolygiad o gludiant i ddysgwyr, os gwelwch yn dda, Trefnydd? Yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru ei hun, nodwyd bod yr adolygiad i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth eleni. Fodd bynnag, mae cydweithwyr mewn llywodraeth leol wedi dweud wrthyf i eu bod wedi cael gwybod bod yr adolygiad yn cael ei ohirio ac y bydd yn cael ei gyflawni ym mywyd y Llywodraeth hon. Yn...

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Luke Fletcher: Wel, diolch i Gareth am y pwynt hwnnw, ac rwy'n falch iddo ei godi mewn gwirionedd oherwydd mae gennym eisoes enghreifftiau o wasanaethau sy'n rhedeg saith diwrnod yr wythnos, sy'n defnyddio pethau o'r enw rotas—bwytai, er enghraifft. Roedd y bwyty roeddwn i'n gweithio ynddo, Jamie's Italian, ar agor saith diwrnod yr wythnos, ond nid oeddwn i'n gweithio saith diwrnod. Cefais fy ngosod ar...

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Luke Fletcher: Gwnaf, wrth gwrs, ewch amdani.

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Luke Fletcher: Wel, rwy'n falch o glywed bod rhai busnesau'n bwriadu dilyn y llwybr hwn, ond y gwir amdani yw nad yw pob busnes yn cynnig yr un math o fanteision. Rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd ar Lywodraeth i fandadu wythnos waith pedwar diwrnod. Mewn sawl ffordd hefyd, ac rwy'n cyfeirio at rywbeth a drafodwyd yn gynharach—ni allaf gofio pa un o fy nghyd-Aelodau Ceidwadol a'i cododd—. Clywais y...

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Luke Fletcher: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau, ac wrth gwrs, i'r Dirprwy Weinidog am eu cyfraniadau heddiw. Rhaid imi ddweud fy mod yn poeni y gallem golli cyfle yma. Nodaf fod gwelliant y Llywodraeth yn cael gwared ar yr alwad am gynllun peilot yma yng Nghymru, ac rwy'n deall yr hyn y mae'r Dirprwy Weinidog newydd ei ddweud ynglŷn â chefnogi dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Wel, byddwn yn...

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Luke Fletcher: Diolch ichi am hynny, Joel. Roeddwn yn meddwl tybed a fyddai Joel yn cytuno â mi, ar yr adeg pan oeddent yn ceisio gweithredu penwythnos a gwyliau â thâl, mae'n debygol fod pobl debyg yn dweud yn union yr un peth â chi—ei fod yn afrealistig ac yn amhosibl ei gyflawni.

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Luke Fletcher: Gwnaf, wrth gwrs, Tom.

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Luke Fletcher: Wel, wrth gwrs, roeddwn ar fin symud ymlaen at fodel Gwlad yr Iâ. Ond wrth gwrs, mae ffyrdd eraill o'i wneud, ac mae'n gywir i gyfeirio at rai o'r anfanteision gyda model Sbaen. Ond os edrychwn ar dreial Gwlad yr Iâ, gwelwn fod gweithwyr yno'n cael yr un swm am oriau byrrach, a hefyd yn gweld cynhyrchiant yn aros yr un fath neu'n gwella yn y rhan fwyaf o weithleoedd. Erbyn hyn mae 86 y cant...

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r hen ffyrdd o weithio ar ben—neu o leiaf, dyna rwy'n gobeithio y gallwn ei ddweud erbyn diwedd y ddadl hon. Mae canlyniadau pandemig COVID-19 i weithgarwch economaidd, cyflogaeth a'n ffordd o weithio wedi bod yn bellgyrhaeddol. Gyda gweithio gartref yn norm i lawer, gwelodd gweithwyr ledled Cymru a'r byd newid cadarnhaol, amlwg o ran creu gwell cydbwysedd rhwng...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Ystâd sy'n Ystyriol o Bobl â Dementia (22 Med 2021)

Luke Fletcher: Diolch am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd. Rwy'n ddiolchgar fod gwaith yn cael ei wneud gan y Comisiwn i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda dementia yn gallu cael mynediad i ystâd y Senedd. Wedi'r cyfan, dylai pobl sy'n byw gyda dementia allu cael mynediad cydradd â phawb arall i'r ystâd. Rwy'n siŵr bod y Comisiynydd yn ymwybodol fod canfyddiad pobl sy'n byw gyda dementia yn aml wedi newid, a...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Ystâd sy'n Ystyriol o Bobl â Dementia (22 Med 2021)

Luke Fletcher: 4. Pa waith y mae'r Comisiwn yn ei wneud i sicrhau bod ystâd y Senedd yn ystyriol o bobl â dementia? OQ56844

6. Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol (15 Med 2021)

Luke Fletcher: —ohonoch chi'ch hunain. Cywilydd mawr ohonoch chi'ch hunain. [Torri ar draws.] Cywilydd mawr ohonoch chi'ch hunain. Nid oes gennych unrhyw hygrededd yn y ddadl hon o gwbl. Felly, beth sydd angen digwydd? Wel, rydym wedi amlinellu'n glir yn ein cynnig, ac rydym wedi ymhelaethu'n fanwl iawn ar yr hyn y mae angen i Lywodraeth Cymru ei wneud. Byddai Llywodraeth sosialaidd yn mynd ar drywydd...

6. Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol (15 Med 2021)

Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau a'r Gweinidog, wrth gwrs, am ateb a'r cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Efallai nad oeddwn yn cytuno â phob un, ond diolch serch hynny. Ddirprwy Lywydd, ni allai'r ddadl hon fod yn fwy amserol. Y bore yma, ar y bws i mewn, roedd pennawd newyddion y BBC yn dweud bod prisiau wedi codi'n uwch nag erioed o'r blaen wrth i gostau bwyd gynyddu ym...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bridio Cŵn (15 Med 2021)

Luke Fletcher: Mae'n galonogol gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo i ddod â'r arfer ffiaidd o docio clustiau cŵn i ben. Mae cysylltiad rhwng tocio clustiau â bridwyr didrwydded, yn enwedig gyda chŵn fel y bwli Americanaidd, ac mae canolfannau achub lleol, fel Hope Rescue yn Llanharan, yn derbyn llu o adroddiadau am docio clustiau cŵn ac mae ganddynt bryderon ynghylch adnoddau cyfredol i ymchwilio i...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Med 2021)

Luke Fletcher: Hoffwn i ofyn i'r Trefnydd am ddatganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Gymdeithas Twnnel y Rhondda a phrosiectau tebyg eraill. Fel llawer o'r Aelodau yma, cefais i gyfle i blymio i ddyfnderoedd y twnnel ar gyfer ymweliad a gafodd ei drefnu gan Tony a'r grŵp, ac os nad ydych chi wedi gwneud hynny'n barod, Trefnydd, rwy'n ei argymell...

10. Dadl Plaid Cymru: Prydau ysgol am ddim (14 Gor 2021)

Luke Fletcher: Mae'n dorcalonnus ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, ac nid Llywodraeth Cymru yn unig sydd â llawer i ateb drosto, mae gan Lywodraeth y DU lawer i ateb drosto hefyd. Mae'r syniad o blant llwglyd yng Nghymru a theuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd yn fethiant. Mae'n fethiant ar ran y Llywodraeth ac mae'n fethiant ar ran systemau cymdeithasol ac economaidd. Flynyddoedd...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.