David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am hynny. Yn amlwg, daw'r ddadl hon ar adeg pan ydym newydd orffen dadl yn sôn am bwnc tebyg iawn, ond nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Clywais y Gweinidog ac rwy'n siŵr y byddaf yn clywed rhagor o'r un atebion eto, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig inni fynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Mae canser wedi cyffwrdd â phob un ohonom mewn rhyw ffordd,...
David Rees: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y Trysorlys o fewn Llywodraeth y DU ynghylch manylion y gronfa ffyniant gyffredin?
David Rees: Rwyf i ar fin dod i ben, ond, fel y gwyddoch chi, rwy'n siŵr, Dirprwy Lywydd, mae hwn yn fater difrifol i'm hetholaeth i a'r gweithlu sydd gennyf yn y fan honno.
David Rees: Fy mhwynt olaf i, serch hynny, yw—mae llawer o sôn am lefelu ar i fyny gan Lywodraeth y DU. Roeddech chi'n sôn yn eich datganiad chi i'r wasg ddydd Gwener fod Prif Weinidog Cymru yn ceisio cael galwad ffôn gyda Phrif Weinidog y DU. A yw ef wedi galw'n ôl eto, ac a yw wedi cytuno i sicrhau bod y lefelu ar i fyny yn berthnasol i Gymru a'r sector dur yn ogystal ag yn unrhyw le arall?
David Rees: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Rwy'n cael eich safbwynt chi yn galonogol iawn yn hyn o beth. A gaf i ddiolch ichi hefyd am yr holl gefnogaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur dros y blynyddoedd? Mae gweithwyr dur yn fy etholaeth i yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth honno ac, fel yr oeddech chi'n dweud yn gwbl briodol yn gynharach yn eich...
David Rees: Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi bod y sector gwirfoddol a'r awdurdodau lleol yn cydweithio wedi bod yn gefnogol dros ben o'n cymunedau yn ystod pandemig COVID-19. A heb eu cefnogaeth nhw, byddai llawer o bobl wedi cael anawsterau mawr yn cael drwy'r cyfnod anodd hwn. Ond rydym ni'n dal i fwrw ymlaen â mwy o angen wrth i ni wynebu misoedd y...
David Rees: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae llawer o gymunedau ar draws fy etholaeth i wedi elwa ar brosiectau a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd drwy gronfeydd strwythurol—boed hynny yn seiliedig ar sgiliau—ni fydden nhw byth wedi gallu eu cael fel arall, ac mae'r cymunedau hyn bellach yn datblygu o ganlyniad i hynny. Nawr, fel y dywedwch, cawsom addewid ar y pryd na fyddai yr un geiniog...
David Rees: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyllid ar gyfer rhaglenni a ariennir ar hyn o bryd gan yr UE drwy gronfeydd strwythurol? OQ55895
David Rees: 1. Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog yn eu cael gyda sefydliadau'r trydydd sector ynghylch cyllid yn sgil effaith COVID-19 ar sut y maent yn gweithredu? OQ55896
David Rees: Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, ac fel y gwyddoch, cynhyrchodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig adroddiad ddechrau'r mis diwethaf yn mynegi eu pryder ynghylch y diffyg manylion sy'n cael eu cyhoeddi ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin. Ac ers hynny, mae'r Bil marchnad fewnol wedi'i osod ac rydym wedi gweld arwyddion clir y gallai hwnnw fod yn gyfrwng i ddefnyddio arian o'r...
David Rees: Weinidog, rydych wedi ateb llawer o gwestiynau ar letygarwch yng ngogledd Cymru ac mewn mannau eraill, ond hoffwn atgoffa pobl fod lletygarwch yn bodoli ledled Cymru, ac yn enwedig yn fy etholaeth i, sy'n gwneud cryn dipyn i wasanaethu'r economi ymwelwyr, ac yn enwedig y llwybrau beicio mynydd gwych yng nghwm Afan. Mae busnesau fel yr Afan Lodge, sy'n darparu ar gyfer yr ymwelwyr hynny, wedi...
David Rees: 7. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran nodi manylion y gronfa ffyniant gyffredin? OQ55831
David Rees: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n mawr groesawu'r gallu i gael eglurder gwirioneddol nawr, er mwyn i'n pobl ifanc ni a'n hathrawon wybod i ble y byddan nhw'n mynd a beth i'w anelu ato ar ddiwedd y flwyddyn. Mae gennyf i hefyd—. Gyda phrofiad o fod wedi dysgu mewn ysgolion cyfun, colegau addysg bellach a phrifysgolion, rwy'n gwybod fod yna lawer iawn o...
David Rees: Weinidog, rydych wedi tynnu sylw, yn gwbl gywir, at yr heriau sy’n wynebu’r bwrdd iechyd, a byddwn wrth fy modd yn gweld ysbyty COVID-ysgafn, ond ni allwn warantu y byddai unrhyw safle byth yn rhydd o COVID, gan fod hynny’n un o’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi gan ddweud eu bod wedi cael eu hatgyfeirio fel claf brys, cyn y pandemig, ac er ichi...
David Rees: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i weithwyr gofal iechyd yng Nghymru?
David Rees: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddom, mae ein nyrsys a'n staff y GIG wedi bod ar y rheng flaen yn ymdrin â'r pandemig hwn ers dechrau'r flwyddyn. Bob dydd Iau, roeddem ni'n arfer mynd allan a chlapio a dweud 'diolch' wrthyn nhw. Er bod hynny wedi dod i ben erbyn hyn, mae arnom ni ddyled enfawr o hyd i'r rhai sy'n rhoi eu hunain mewn perygl bob dydd pan fyddan nhw'n mynd...
David Rees: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gweithlu GIG Cymru? OQ55808
David Rees: Rwyf am gloi ar bwynt syml iawn—
David Rees: Credaf fod dyfodol cryf i bobl ifanc yng Nghymru. Credaf fod y cwricwlwm hwn yn rhoi cyfle iddynt, a chredaf ein bod—
David Rees: Cyn i mi symud ymlaen at y materion sy'n ymwneud â'r cynnig, a gaf fi gofnodi fy niolch i staff ein system addysg, sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy'r pandemig a'r cyfyngiadau, ac yn enwedig ein hathrawon? Roeddent yn wynebu heriau anodd bryd hynny ac fe wnaethant gamu i'r adwy a chyflawni dros ein pobl ifanc a sicrhau y gallai dysgu ddigwydd. Credaf fod hyn hefyd yn adlewyrchu'r ffaith bod...